Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor mai Gr?p Geidwadol a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Clive Carver yw Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn ddinesig hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Bu i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd atgoffa’r Pwyllgor y penderfynodd y Cyngor yn y Cyfarfod Blynyddol mai'r gr?p Ceidwadol ddylai enwebu Cadeirydd y Pwyllgor.Roedd y gr?p wedi enwebu’r Cynghorydd Clive Carver.

 

PENDERFYNWYD:

Cadarnhau’r Cynghorydd Clive Carver fel Cadeirydd y Pwyllgor am

flwyddyn y cyngor.

 

 (Ar y pwynt hwn, cadeiriodd y Cynghorydd Carver weddill y cyfarfod)

 

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer swydd yr Is-gadeirydd.Enwebwyd y Cynghorydd Geoff Collett gan y Cynghorydd Paul Shotton, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin. Ni chafwyd enwebiadau eraill.Ar ôl cynnal pleidlais, cadarnhawyd yr enwebiad.

 

PENDERFYNWYD:

Penodi'r Cynghorydd Geoff Collett yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor.

 

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

Cofnodion pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Mawrth 2020.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2020. Cynigiodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin gymeradwyaeth i'r cofnodion ac eiliwyd hyn yn briodol gan y Cynghorydd Paul Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. 

 

5.

Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar)

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar lafar ar y sefyllfa ddiweddaraf yng Nghymru a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

 

Fe eglurodd y Prif Weithredwr fod y sefyllfa bresennol yn un ansefydlog. Byddai o a’r Uwch Swyddogion yn sicrhau bod Aelodau yn cael diweddariad byr ar lafar ar ddechrau cyfarfodydd. Dywedodd hefyd y gallai fod yn angenrheidiol ailgyflwyno’r briffiadau sefyllfaol a gafodd eu rhoi i  Aelodau yn ystod chwe mis cyntaf yr argyfwng.

 

Ymatebodd Swyddogion i nifer o bryderon ac ymholiadau gan Aelodau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, pe bai angen, y byddai sesiynau briffio Aelodau yn cael eu cynnal pe bai'r sefyllfa'n dirywio ac ymrwymodd hefyd i gynnal cyfarfod Arweinwyr Gr?p. Gofynnodd am gefnogaeth yr Aelodau i annog eu cymunedau lleol i ddilyn canllawiau diweddaraf i gadw’n ddiogel rhag Covid-19.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r diweddariad a diolch i Dîm y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog am y gwaith yr oeddent yn ei wneud wrth gynllunio ar gyfer effaith y Coronafeirws (COVID-19) yn Sir y Fflint.

 

6.

Cylch Gorchwyl y Pwyllgor pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Cael cylch gorchwyl y Pwyllgor newydd fel a gytunwyd gan y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod strwythur y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu newydd wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor ar 27 Chwefror 2020. Yn y Cyfarfod Blynyddol ar 9 Medi, penodwyd Cadeiryddion i'r pum pwyllgor o fewn y strwythur newydd.

 

Nodwyd cylch gorchwyl priodol pob un o'r Pwyllgorau a'r prif gyfranwyr tuag atynt yn Atodiad 1 yr adroddiad. Tynnodd y Swyddog sylw at gylch gorchwyl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a dywedodd fod y rhain yn aros yr un fath. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Pwyllgor wedi cadw Cynllunio Brys o fewn ei swyddogaethau.Roedd hyn yn arbennig o briodol o ystyried y pandemig parhaus a'i effaith ar gyllid y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin gymeradwyo’r argymhellion ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Paul Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn derbyn ei gylch gorchwyl fel y cytunwyd gan y Cyngor ac fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

7.

Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor ac ailadeiladu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21 gyda chanolbwynt penodol ar gynllunio adferiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i ddarparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor ac ailadeiladu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21 gyda chanolbwynt penodol ar gynllunio adferiad.

 

Arweiniodd y Prif Weithredwr gyflwyniad cynhwysfawr a oedd yn ymdrin â'r meysydd allweddol canlynol ar y Strategaeth Adferiad:

 

  • pwrpas
  • argymhellion
  • amcanion y strategaeth adferiad
  • cronoleg leol
  • amcanion yr ymateb
  • rhai cyflawniadau lleol wrth ymateb
  • amcanion adferiad - trefn
  • amcanion adferiad - gwasanaeth
  • gweithgareddau adferiad
  • Cynllun a pherfformiad y Cyngor
  • Llywodraethu adferiad yn ddemocrataidd
  • amcanion adferiad

 

Mewn ymateb i bryder a godwyd gan y Cynghorydd Richard Jones ynghylch Cynllun y Cyngor a chadw at y gyllideb, rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd nad oedd unrhyw beth wedi'i adael yn y Cynllun oherwydd y Strategaeth Adferiad, a gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried meysydd a oedd fwyaf perthnasol yn y 6 i 12 mis nesaf.  

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndir gan wneud cyflwyniad ar Ddadansoddiad y Gofrestr Risg Gorfforaethol a oedd yn cwmpasu'r pwyntiau allweddol canlynol:

 

  • tueddiad risg agored a chaeedig
  • dadansoddiad o statws y risg gyfredol
  • dadansoddiad o statws tueddiad y risg

 

 

Gwahoddodd y Prif Weithredwr y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Dylunio Sefydliad, a'r Prif Swyddog (Llywodraethu) i gyflwyno'r gofrestr risg a chamau lliniaru risg ar gyfer eu portffolios gwasanaeth (Cyllid, y Gweithlu a Llywodraethu).

 

Yn ystod ei gyflwyniad, ymatebodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i’r cwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom.Roedd hyn yn ymwneud â fforddiadwyedd gorfod benthyca yn gynharach i ariannu'r rhaglen gyfalaf oherwydd bod y lefel o gronfeydd wrth gefn yn is.Teimlai fod hyn yn risg. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod cronfeydd wrth gefn yn gadarnhaol a bod y rhaglen gyfalaf yn gwario llai na'r swm a gyllidebwyd.Mewn ymateb i'r cwestiwn pellach a godwyd gan y Cynghorydd Heesom, cadarnhaodd y Swyddog nad oedd unrhyw ofyniad benthyca ychwanegol ar gyfer y flwyddyn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'r Gofrestr, gyda dadansoddiad cyd-destunol, yn cael ei rhoi gerbron y Pwyllgor bob mis i'w hadolygu.

 

Yn ogystal, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ymateb manwl i'r sylwadau a'r cwestiynau pellach a godwyd gan y Cynghorydd Richard Jones ynghylch y risgiau i gronfeydd wrth gefn (CF06, CF07) a'r cynnydd mewn costau gan gyflenwyr am nwyddau a gwasanaethau oherwydd cyflenwad a galw, a strategaethau adfer busnes (CF10). 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai adroddiadau penodol ar rai o'r risgiau cyllid yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor yn y dyfodol agos i'w hystyried yn fanwl. 

 

Gan gyfeirio at y risgiau a nodwyd o dan y pennawd Gweithlu, gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones a oedd y cynnig i staff addysgu ym mhob ysgol gael brechiadau ffliw wedi’i ariannu gan y Cyngor yn cael ei ddatblygu.   Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Dylunio Sefydliad fod y Cyngor wedi archebu 4,500 o frechiadau a chynghorodd fod athrawon ysgol a gweithwyr allweddol wedi'u cynnwys yn y rhaglen a bod y Tîm Iechyd Galwedigaethol yn paratoi i ddarparu'r cynllun. Aeth yn ei blaen i ddweud bod  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

Cyflwyniad - Dadansoddiad o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol pdf icon PDF 22 KB

Dogfennau ychwanegol:

8.

Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 4) pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am sefyllfa fonitro Cyllideb Refeniw 2020/21 ym Mis 4.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad a oedd yn cwmpasu’r materion allweddol canlynol:

 

  • Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21
  • Monitro Cyllideb 2020/21 – Rhagdybiaethau
  • Treth y Cyngor a Chynllun Lleihau Treth y Cyngor
  • Y diweddaraf ar hawliadau – costau ychwanegol
  • Y diweddaraf ar hawliadau – colled incwm

 

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gopi o'r adroddiad ar Fonitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 4) a gyflwynwyd i'r Cabinet ar 22 Medi 2020 ac a atodwyd i'r adroddiad.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Richard Jones yr wybodaeth a ddarparwyd o dan amrywiannau sylweddol y mis hwn a chyfeiriodd at y wybodaeth yn Nhabl 1 yr adroddiad o dan Gwasanaethau Stryd a Chludiant. Yn ei ymateb eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod dadansoddiad llawn o'r ffigurau a ddarparwyd wedi'i nodi yn atodiad 1 yr adroddiad. Awgrymodd y Cynghorydd Jones y dylid ychwanegu colofn ychwanegol at Dabl 1 i adrodd ar lefel incwm - dros/o dan (gorwariant a thanwariant mewn blwyddyn). Yn ei ymateb cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i roi ystyriaeth bellach i'r awgrym ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol.

 

Gan gyfeirio at y sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Jones, nododd y Prif Weithredwr enghraifft o sut roedd y Cyngor wrthi'n rheoli risg yn y maes Gwasanaethau Stryd a Chludiant. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru i adfer colled incwm lle bo hynny'n bosibl. Fodd bynnag, mae’n debyg na fydd pob hawliad yn gymwys.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Richard Jones a'i eilio'n briodol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried yr Adroddiad Monitor Cyllideb Refeniw 2020/21 (mis 4), cadarnhaodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw faterion penodol y mae’n dymuno adrodd i’r Cabinet.

Cyflwyniad - Monitro'r Gyllideb Refeniw pdf icon PDF 217 KB

Dogfennau ychwanegol:

9.

Monitro Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Mis 4) pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am sefyllfa fonitro Rhaglen Gyfalaf 2020/21 ym Mis 4.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gopi o'r adroddiad ar Fonitro Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Mis 4) a gyflwynwyd i'r Cabinet ar 22 Medi 2020 ac a atodwyd i'r adroddiad.   Dywedodd fod yr adroddiad yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf 2020/21 ers ei gosod ym mis Ionawr 2020 hyd at ddiwedd Mis 4 (Gorffennaf 2020), ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r canlyniadau amcanol.  Cyfeiriodd at y prif ystyriaethau fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd, dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff Safonol yn y rhaglen gyfalaf. Fodd bynnag, roedd hi'n obeithiol y byddai cymorth ariannol yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru a dywedodd fod dau gynnig wedi'u cyflwyno.   

 

Ymatebodd y Swyddog Cyllid i'r sylwadau a'r cwestiynau pellach a godwyd gan y Cynghorydd Richard Jones ynghylch benthyca darbodus a dwyn arian cyfalaf ymlaen.  Dywedodd y Cynghorydd Jones, fel rhan o'r polisi cyllid, nad oedd y Cyngor yn dwyn arian cyfalaf ymlaen nes bod cynlluniau wedi'u hymrwymo o dan gontract. Fodd bynnag, roedd yn cydnabod, o ystyried yr amgylchiadau presennol, efallai nad yw hyn yn wir am bob cais a ddygir ymlaen y flwyddyn ariannol hon. 

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Richard Jones a'i eilio gan y Cynghorydd Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried yr Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (mis 4), cadarnhaodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw faterion penodol y mae’n dymuno adrodd i’r Cabinet.

10.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.