Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

76.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

77.

Cofnodion pdf icon PDF 76 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 16 Ionawr 2020.

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 16 Ionawr 2020, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Cunningham a Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

78.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar gynnydd o gamau gweithredu a ddeilliodd o gyfarfodydd blaenorol a rhoddodd wybod bod disgwyl cael y seminar ar gyllido cyfalaf yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn. Ers cyhoeddi’r adroddiad, mae’r cam gweithredu ar gostau tâl dros ben yswiriant wedi’i gwblhau.

 

Ar y ddau gam gweithredu sy’n weddill, awgrymwyd bod y Prif Weithredwr ac Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a benodwyd yn ddiweddar, yn cael eu gwahodd i gyfarfod yn y dyfodol.  Ar Fargen Dwf Gogledd Cymru, byddai’r Cyfarwyddwr Rhaglen newydd yn cael ei wahodd i gyfarfod ym Mawrth/Ebrill.

 

Tynnodd y Cynghorydd Heesom sylw at y pwysigrwydd o gynnwys Cadeiryddion Trosolwg a Chraffu wrth drafod y dull o graffu ar benderfyniadau’r Fargen Dwf. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai trefniadau llywodraethu ac ymgysylltiad â’r chwe chyngor yn cael eu hystyried mewn gweithdy rhanbarthol cyn yr ail Gytundeb Llywodraethu, i’w gyflwyno’n hwyrach.  Byddai’r awgrym i Gyfarwyddwr y Rhaglen fynd i gyfarfod y dyfodol yn rhoi cyfle i Aelodau rannu eu disgwyliadau ar y pwnc hwn.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Heesom ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Cunningham.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.

79.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 79 KB

Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, yn dilyn ymgynghoriad gydag Arweinwyr Gr?p, y byddai diweddariadau ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chynllun y Cyngor yn cael eu trefnu, gyda’r ddau o bosibl yn cael gweithdai Aelodau cyn iddynt ddigwydd.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Johnson ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Cunningham.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

80.

Pensiynau – perthynas ariannol Cyngor Sir y Fflint fel cyflogwr a Chronfa Bensiynau Clwyd pdf icon PDF 103 KB

I egluro 1) y berthynas, 2) mathau o gyfraniadau a 3) canlyniad y prisiad actiwaraidd tair blynedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i egluro’r berthynas rhwng Cronfa Bensiynau Clwyd a Chyngor Sir y Fflint fel cyflogwr yn y Gronfa, ynghyd â’r mathau o gyfraniadau ariannol a wnaed.  Rhoddodd yr adroddiad fanylion ynghylch canlyniad y prisiad actiwaraidd teirblwydd a effeithiodd yn gadarnhaol ar gyllideb 2020/21 y Cyngor.

 

Rhoddodd Rheolwr Cronfa Bensiynau Clwyd, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ac Actiwari’r Gronfa o Mercer (Paul Middleman), gyflwyniad ar y cyd yn trafod y canlynol:

 

·         Sut mae’r Gronfa Bensiynau’n gweithio

·         Trosolwg o Adolygiad Actiwaraidd 2019

·         Mathau o gyfraniadau

·         Effaith Prisiad Actiwaraidd 2019

 

Yn ystod y cyflwyniad, dangosodd siart lif sut roedd y Gronfa’n gweithio gyda chyfnodau o reolaeth wedi’u dangos gyda statws gwyrdd, oren neu goch. Drwy gydbwyso risg yn erbyn elw’n ofalus, roedd enillion buddsoddi wedi cynyddu’n sylweddol uwchlaw’r lefel darged a oedd  wedi cyfrannu’n sylweddol at sefyllfa o ddiffyg y Gronfa.

 

Disgrifiodd Actiwari’r Gronfa’r broses adolygu actiwaraidd fel craffu ar lefel y buddsoddiadau er mwyn talu buddion, yn gytbwys â risg. Ar wahân i gydymffurfio â gofynion rheoliadol, un o’r cydrannau allweddol oedd sicrhau ansawdd y data a allai effeithio ar atebolrwydd. Fe wnaeth canlyniadau allweddol o’r prisiad ddangos bod perfformiad gwell o’r Gronfa wedi arwain at lefelau cyllido cyfartalog cynyddol, o 76% yn 2016 i 91% yn 2019, gyda’r diffyg ad-dalu wedi mwy na haneru o £437 miliwn yn 2016 i £177 miliwn yn 2019.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod canlyniad y prisiad wedi arwain at ostyngiad net o 4% mewn cyfraniadau cyflogwyr, a oedd yn cyfateb i arbediad a oedd yn gyfanswm o £2.646 miliwn i gyllideb y Cyngor yn 2020/21.

 

Atgoffodd y Prif Weithredwr yr Aelodau fod rhaglenni Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd ar gael ar wefan y Cyngor. Cefnogwyd ei awgrym y dylai Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol gael adroddiadau cynnydd ddwywaith y flwyddyn ar Gronfa Bensiynau Clwyd.

 

Croesawodd y Cynghorydd Jones y canlyniadau cadarnhaol o gyllideb y Cyngor. Mewn ymateb i gwestiynau, siaradodd y Prif Weithredwr am faint o risg a oddefir a’r amcan i gyflawni asedau sy’n cyfateb i 100% o atebolrwydd o fewn cyfnod amser 13 mlynedd. Mae Actiwari’r Gronfa’n disgrifio strwythur llywodraethu’r Gronfa fel ‘arloesol’ i addasu i newidiadau a chyfeiriodd at y monitro parhaus y tu allan i gylch y prisiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Johnson, cafodd rolau a chyfrifoldebau’r Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol eu hegluro o ran y Gronfa.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, cynigiodd y Cynghorydd Jones y dylid diolch i Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, y Prif Weithredwr a’r swyddogion am eu gwaith. Cefnogodd yr Aelodau awgrym y Prif Weithredwr y dylai’r cyflwyniad ar y gweill i’r Cyngor nodi boddhad y Pwyllgor gyda graddfa’r sicrwydd dros ffigurau’r Gronfa Bensiynau.

 

Cynigodd y Cynghorydd Jones yr argymhellion diwygiedig, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn fodlon gyda graddfa’r sicrwydd a roddwyd iddynt gan swyddogion yn ystod y cyflwyniad;

 

(c)       Diolch i dîm y swyddogion am eu gwaith i wella sefyllfa Cronfa Bensiynau Clwyd yn fawr; a  ...  view the full Cofnodion text for item 80.

Item 6 - Pensions presentation slides pdf icon PDF 1 MB

81.

Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20 pdf icon PDF 134 KB

Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr grynodeb o gynnydd ar berfformiad yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer Chwarter 3 2019/20 (Hydref-Rhagfyr 2019). At ei gilydd, roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol gyda 89% o weithgareddau wedi’u hasesu fel gwneud cynnydd da ac 89% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunir. Roedd 81% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu fynd y tu hwnt i’w targed. Roedd y risgiau mawr (coch) yn ymwneud â her ariannol yn bennaf ac nid rheolaeth ariannol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones fod fformat diwygiedig Cynllun y Cyngor angen ei wella i helpu gyda chraffu a bod angen mwy o eglurhad ar gysylltu Trosolwg a Chraffu gyda meysydd risg.  Cwestiynodd yr hepgoriad o’r risg fawr gyda ffioedd a thaliadau a dywedodd y dylai meysydd risg o dan gylch gwaith pwyllgorau eraill sy’n cynnwys risgiau ariannol fod yn destun goruchwyliaeth.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r adolygiad o Gynllun y Cyngor yn ystyried pwyntiau o’r fath i gynorthwyo pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i ganolbwyntio ar feysydd penodol o fewn eu rhaglenni gwaith i’r dyfodol.  Dywedodd y byddai unrhyw risgiau gwasanaeth gyda gwerth ariannol mawr hefyd yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor hwn.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Jones statws coch y dangosydd perfformiad ar ganran gweithwyr sy’n gadael yn eu blwyddyn gyntaf, o ystyried sylwadau’r Prif Weithredwr nad oedd unrhyw risg i barhad busnes yn codi o’r tuedd hwn. Dywedodd y Cynghorydd Jones hefyd y dylai’r effaith ar y duedd genedlaethol o nifer y diwrnodau gwaith a gollir oherwydd absenoldeb salwch fod yn fwy clir yn y sylwebaeth. Cytunodd i rannu nifer o ymholiadau eraill ar ddangosyddion perfformiad gyda swyddogion ar wahân.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Jones am ehangu ar y rhesymau dros risgiau a adroddwyd i bwyllgorau eraill, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai hyn yn cael sylw drwy adolygu’r fframwaith rheoli risg.  Mewn ymateb i ragor o gwestiynau, roedd gweithdy Aelodau ar Werth Cymdeithasol yn cael ei drefnu a byddai’r eitem Bargen Dwf yn rhoi cyfle i Aelodau nodi blaenoriaethau ac is-flaenoriaethau sy’n effeithio cymunedau. Am yr angen i gynlluniau busnes nodi amcanion a gwariant cysylltiedig o fewn meysydd gwasanaeth, siaradodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) am waith parhaus i gyflawni cynnwys mwy cyson ac adborth dwyffordd gyda Chynllun y Cyngor, a fyddai’n helpu i lywio’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Wrth ddiolch i Aelodau am eu sylwadau, rhoddodd y Cynghorydd Mullin sicrwydd, tra bod cynnydd yn cael ei wneud, nid oedd hunanfoddhad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Woolley y dylai’r adroddiad ganolbwyntio’n fwy ar dueddiadau, yn hytrach na chiplun ar gyfnod. Cytunodd i rannu nifer o anghysondebau gyda swyddogion o ran data yn yr adroddiad, o’i gymharu â’r diweddariad canol blwyddyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Heesom y teimlai y gallai Cynllun y Cyngor gyflawni mwy drwy gynllunio ymlaen llaw, er enghraifft, gyda’r cam gweithredu ‘ymyriadau allweddol i gael gafael ar gyfleusterau cyflogaeth, iechyd, hamdden ac addysg’.  Dywedodd y dylai ymyriadau o’r fath, fel y rhai sydd eu hangen yn Nociau Mostyn, gael eu hadlewyrchu yng Nghynllun y Cyngor o dan y flaenoriaeth Cyngor Uchelgeisiol.

 

Eglurodd  ...  view the full Cofnodion text for item 81.

82.

Diweddariad chwarterol Cyflogaeth a’r Gweithlu pdf icon PDF 106 KB

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys diweddariadau strategol yn ogystal ag ystadegau chwarterol y gweithlu a dadansoddiad ohonynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad gwybodaeth gweithlu ar Chwarter 3 2019/20 a oedd yn canolbwyntio ar berfformiad a thueddiadau sefydliadol. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys adran ar drosglwyddiad llwyddiannus y Llyfr Coch (Crefftau) i fodel talu newydd y Cyngor.

 

Wrth gynghori nad oedd unrhyw risg i barhad busnes o duedd trosiant gweithwyr, awgrymodd y Prif Weithredwr y dylai adroddiadau’r dyfodol ganolbwyntio yn hytrach ar unrhyw dueddiadau o fewn gwasanaethau a allai fod o bryder. Byddai cyflwyniad ar waith a wneir gydag Iechyd Galwedigaethol ar ddadansoddi tuedd absenoldeb salwch yn cael ei drefnu ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cododd y Cynghorwyr Jones a Woolley bryderon am gynnydd o ran cwblhau arfarniadau. Dywedodd y Prif Weithredwr fod yna sefyllfa well yn ddisgwyliedig ar ddiwedd y flwyddyn ac y byddai unrhyw amrywiadau mawr o fewn portffolios yn arwain at y Prif Swyddog perthnasol yn dod gerbron y Pwyllgor i roi eglurhad.  Byddai ymholiad y Cynghorydd Jones ar ddiwrnodau a gollwyd fesul cyfwerth ag amser llawn yn cael ei drosglwyddo i’r Uwch Reolwr am eglurhad.

 

Mewn ymateb i gais y Cadeirydd, byddai adroddiadau’r dyfodol yn cynnwys data cymharu ar gyfer y chwarter blaenorol a’r chwarter cyfwerth ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Byddai cynnydd Chwarter 4 ar arfarniadau yn cael ei adrodd ochr yn ochr â chyflwyniad ar y model cyflog newydd ym Mai.

 

Cafodd yr argymhellion, a newidiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig gan y Cynghorydd Woolley a’u heilio gan y Cynghorydd Cunningham.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r Adroddiad Gwybodaeth am Gyflogaeth a’r Gweithlu ar gyfer Chwarter 3 2019/20 (Hydref tan 31 Rhagfyr 2019); a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn ailadrodd y cais blaenorol i ddeiliaid portffolio – lle mae perfformiad arfarnu gwael – fynd i gyfarfod o’r Pwyllgor ac i gael eu dwyn i gyfrif am hyn.

83.

Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 9) a Rhaglen Gyfalaf (Mis 9) pdf icon PDF 78 KB

Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 9 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Darparu gwybodaeth ar Fis 9 y Rhaglen Gyfalaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a Phen Gyfrifydd adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, a diweddariad ar Raglen Gyfalaf 2019/20 ym Mis 9 cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i ostwng pwysau costau a gwella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd - yn ddiffyg gweithredol o £1.666 miliwn.  Roedd y symudiad ffafriol hwn o £0.226 miliwn o Fis 8 yn bennaf oherwydd gostyngiad pellach mewn cyfraniadau pensiwn (a drafodwyd yn gynharach yn y cyfarfod) a ffawdelw TAW o £0.130 miliwn. Roedd gwaith yn parhau i leihau’r sefyllfa gorwario gyffredinol a ragwelwyd erbyn diwedd y flwyddyn, yn cynnwys rhai meysydd penodol a amlygwyd yn yr adroddiad. Gallai’r posibilrwydd o ddyfarniadau grant hwyr hefyd gyfrannu’n gadarnhaol at y sefyllfa diwedd y flwyddyn. Arhoswyd am eglurhad am y cyfraniad o’r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen y gaeaf hwn.

 

Disgwyliwyd i’r gyfradd gyflawni ar arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn aros yn 91%.

 

Fe wnaeth crynodeb o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd adrodd balans clo a ragwelwyd o £9.6 miliwn. Roedd y balans a ragwelwyd ar Gronfa Hapddigwyddiad ar ddiwedd y flwyddyn yn £3.203 miliwn, gan ystyried y gorwariant cyfredol a ragwelwyd yn ystod y cyfnod hwn.

 

O ran safle’r Cyfrif Refeniw Tai a ragwelwyd, roedd gorwariant o £0.103 miliwn gan adael balans heb ei glustnodi o £1.220m ar ddiwedd y flwyddyn, a oedd yn uwch na’r lefel isaf a argymhellwyd.

 

Mynegodd y Cynghorydd Heesom bryderon am y pwysau ar gyllidebau ysgol, yn enwedig ar lefel uwchradd. Dywedodd y Prif Weithredwr fod sefyllfa diffyg dirywiol rhai o’r ysgolion wedi’i adlewyrchu fel risg agored yn adroddiad y gyllideb sydd angen ei ystyried gan y Cyngor, a dangoswyd yr annigonolrwydd o fodel y fformiwla ariannu yn Sir y Fflint.  Siaradodd am y Protocol Diffyg Trwyddedig diwygiedig yn cynnwys cyfres o gamau cadarn a’r effaith ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod yna nifer o ffactorau sy’n cyfrannu, gan arwain at ddiffyg yn sefyllfa’r gyllideb, yn cynnwys yr effaith o ddata amddifadedd disgyblion. Dywedodd fod y mater yn peri gofid mawr a rhoddodd sicrwydd bod y Cyngor yn blaenoriaethu’r rhai hynny sydd angen cefnogaeth.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Roedd newidiadau i’r rhaglen ddiwygiedig o ganlyniad i gyflwyno ffrydiau ariannu grant amrywiol, ail-broffilio benthyca darbodus ar y Rhaglen SHARP ac ail-broffilio’r gyllideb ar y grant Cyfalaf Cynnig Gofal Plant.  Roedd crynodeb o’r sefyllfa am wariant cyfalaf ym Mis 9 yn dangos tanwariant a ragwelir o £4.372 miliwn ar Gronfa'r Cyngor a sefyllfa o fantoli'r gyllideb ar y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Ceisir cymeradwyaeth Cabinet ar gyfer symiau i’w dwyn ymlaen, gan ddod i gyfanswm o £4.034 miliwn ar gyfer y cyfnod 2020/21. Manylwyd ynghylch defnyddio’r grant Ysgogiad Economaidd ar gyfer y cynlluniau a nodwyd a oedd yn yr adroddiad.

 

Dangosodd gyllid o gynlluniau a gymeradwywyd  ...  view the full Cofnodion text for item 83.

84.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.