Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

10.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

11.

Cofnodion pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 9 Mai 2019.

Cofnodion:

            Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mai 2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

12.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 67 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd  yr adroddiad cynnydd ar gamau’n deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r dadansoddiad o’r Cyllid Canolog a Chorfforaethol yn rhan o ddiweddariad ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) yng nghyfarfod Gorffennaf.

 

O ran adroddiadau monitro’r gyllideb refeniw, dywedodd y Cynghorydd Heesom er bod amrywiadau misol i’w gweld, roedd yn bwysig bod Aelodau’n gallu monitro lefelau gwariant gwirioneddol ym mhob maes portffolio Trosolwg a Chraffu. Mewn ymateb dywedodd y Prif Weithredwr fod y gyllideb a gymeradwywyd wedi’i chyhoeddi. Gan y byddai adroddiad interim yn cael ei lunio ar gyfer Gorffennaf, cytunodd i adolygu fformat yr adroddiad ar gyfer Medi.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones fod yr adroddiadau monitro eisoes yn darparu’r wybodaeth hon a bod angen mwy o fanylder am achosion y prif amrywiadau. Cytunodd y Prif Weithredwr y byddai’r fformat yn cael ei adolygu.

 

Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Jones ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed.

13.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried. Yn sgil cael ei friffio ar Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, byddai’r Pwyllgor yn cael diweddariad ar yr Adolygiad Actiwaraidd yng Ngorffennaf neu Fedi.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Johnson ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a

 

(b)       Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

14.

Cyfraddau Casglu Treth y Cyngor pdf icon PDF 125 KB

Pwrpas:        Darparu Aelodau â gwybodaeth ystadegol ar y cyfraddau casglu Treth y Cyngor diweddaraf, lefelau ôl-ddyledion a chymariaethau ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw ddiweddariad ar y cyfraddau casglu Treth y Cyngordiwedd-blwyddyn diweddaraf, lefelau ôl-ddyledion a chymariaethau ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn dangos bod  sefyllfa casglu Treth y Cyngor yn gwella fesul blwyddyn yn Sir y Fflint oedd yn cymharu’n ffafriol â chyfraddau casglu cyfartalog drwy Gymru, Lloegr a’r Alban.

 

Mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfraddau casglu drwy Gymru ar gyfer 2018/19 yn dangos bod Sir y Fflint wedi cofnodi’r gyfradd gasglu uchaf o fewn un flwyddyn, sef 98.2%; roedd hyn yn uwch na chyfartaledd Cymru sef 97.3% (swm ychwanegol o £700K o ran llif ariannol). Er gwaethaf y cynnydd o 6.71% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2018/19, roedd Sir y Fflint wedi cynnal lefelau casglu cadarn trwy ei ddull o ymgysylltu â thrigolion, cyfeirio eu sylw at ostyngiadau a thargedu cymorth i’r rhai  oedd yn cael trafferth talu. Ers cyhoeddi’r adroddiad, mae balansau ôl-ddyledion Treth y Cyngor ar gyfer 2018/19 wedi gostwng ymhellach i £1.2m.  Roedd nodyn ystadegol ar ‘Berfformiad Cymru Gyfan’ yn dangos a chymharu cyfraddau casglu Treth y Cyngor a Chyfraddau Busnes.

 

Wrth ganmol perfformiad Sir y Fflint, talodd y Cynghorydd Roberts deyrnged i’r Rheolwr Refeniw a’i dîm, a hefyd i drigolion Sir y Fflint am weithio gyda’r Cyngor i dalu eu Treth y Cyngor a chyfrannu at wasanaethau lleol. Hefyd manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i’r holl staff oedd ar ddyletswydd yn ystod y cyfnod diweddar o dywydd mawr.

 

Yn ystod yr eitem hon, diolchodd y Cynghorydd Mullin a’r Cynghorydd Banks i’r Rheolwr a’i dîm am sicrhau’r canlyniadau, fel y gwnaeth nifer o Aelodau.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at benderfyniad LlC i gael gwared ar ddefnyddio ‘traddodiad’ fel dull adennill ar gyfer y rhai oedd yn amharod i dalu Treth y Cyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor wedi gwneud sylwadau yn erbyn y penderfyniad hwn ar sail ei fod yn llwybr priodol i adennill taliad gan leiafrif o bobl oedd yn fwriadol yn osgoi talu Treth y Cyngor ac yn gwrthod cydweithredu. Tynnwyd sylw at effaith penderfyniad LlC ynghylch cyfraddau casglu yn y dyfodol gan nodi ei fod yn risg. Eglurodd y Rheolwr Refeniw fod y broses gwrandawiad traddodi’n wrandawiad teg i ystyried gallu rhywun i dalu.

 

Soniodd Cynghorydd Jones am yr effaith gadarnhaol ar y llif ariannol o ran sicrhau cyfraddau casglu o fewn blwyddyn a’r angen i wneud sylwadau ysgrifenedig i ailgyflwyno’r broses draddodi. Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylai hyn fod yn rhan o drafodaeth ehangach ar Dreth y Cyngor fel rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, gan ystyried tegwch a chynaliadwyedd Treth y Cyngor, Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor a’r effaith ar y llif ariannol pe byddai cyfraddau casglu’n gostwng. Roedd dadansoddiad o ôl-ddyledion a ddilëwyd drwy Gymru i’w gweld yn ystadegau LlC.

 

Holodd y Cynghorydd Brown ynghylch ymestyn cytundebau talu i’r rhai oedd yn cael trafferth talu. Dywedodd y Rheolwr Refeniw fod trigolion yn cael eu hannog i dalu o fewn y flwyddyn a bod dulliau adennill yn cael eu  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu - Chwarter 4 2018/19 pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r Aelodau yngl?n á pherfformiad sefydliadol a thueddiadau 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygiad Sefydliadol yr adroddiad gwybodaeth am y gweithlu - Chwarter 4 o 2018/19 oedd yn canolbwyntio ar berfformiad a thueddiadau.

 

Roedd y cynnydd yn y ffigurau Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE) yn 2018-19 wedi cynnwys nifer o weithwyr asiantaeth a benodwyd i swyddi parhaol  a gafodd effaith gadarnhaol ar wariant ar weithwyr asiantaeth. Roedd y gostyngiad mewn ffigurau presenoldeb yn siomedig, fodd bynnag roedd hyn yn adlewyrchu sefyllfa debyg ar draws nifer o gynghorau eraill yng Nghymru. Roedd y prif reswm am absenoldeb salwch (Straen, Iselder, Pryder) hefyd yn adlewyrchu’r duedd genedlaethol ac yn Sir y Fflint, roedd dadansoddiad gan Iechyd Galwedigaethol yn dangos bod mwyafrif yr achosion hynny wedi’u sbarduno gan broblemau personol oedd yn effeithio ar waith. Roedd y tîm Iechyd Galwedigaethol yn parhau i weithio gyda gwasanaethau ac roedd wedi helpu i leihau nifer yr achosion o straen yn ymwneud a gwaith yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd dadansoddiad manwl ar ganfyddiadau’r tîm yn cael ei adrodd mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

O ran cwblhau arfarniadau oedd yn faes blaenoriaeth, rhannodd y Prif Weithredwr ei siom gyda’r ffigur terfynol o 75% oedd yn ostyngiad ers y chwarter blaenorol (91%). Ni chredid bod hwn yn ffigur cywir gan nad oedd arfarniadau a gwblhawyd wedi’u cofnodi’n ddigonol ac oherwydd diffyg trefnu arfarniadau dilynol o fewn y cyfnod. Roedd cynllun gweithredu manwl yn cynnwys adolygiad o’r model arfarnu a fyddai’n helpu i sicrhau gwell canlyniadau. Byddai cynnydd Chwarter 2 yn cael ei adrodd i’r Pwyllgor ym Medi. Hefyd, byddai eitem arbennig ar arfarniadau pan allai’r Prif Swyddogion perthnasol fod yn bresennol i egluro unrhyw feysydd lithriant.

 

Soniodd y Cynghorydd Jones am gyfraddau hunanladdiad cenedlaethol ar gyfer y gr?p oed 25-45, yn arbennig dynion oedd yn aml yn ei chael yn anodd siarad am faterion iechyd meddwl. Gofynnodd a oedd yn bosibl dadansoddi ffigurau ar gyfer y prif gategori absenoldeb (Straen , Iselder, Pryder) i roi awgrym o’r rhaniad rhwng gwrywod a benywod. Cytunodd y Prif Weithredwr a dywedodd y gellid dangos hefyd yr ystod oedran.

 

Wrth rannu rhwystredigaethau swyddogion am berfformiad cwblhau arfarniadau, dywedodd y Cynghorydd Jones fod hon yn broblem ers tro a galwodd i Brif Swyddogion fod yn bresennol yn y Pwyllgor cyn data Chwarter 2 i gynnig esboniad yngl?n â’u meysydd gwasanaeth. Dywedodd mai Prif Swyddogion oedd yn bennaf gyfrifol am sicrhau bod arfarniadau’n cael eu cwblhau ac y dylai hynny gael ei adlewyrchu fel rhan o’u harfarniad eu hunain.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod adolygiad cychwynnol wedi dangos cysondeb annigonol o ran gweithio o fewn systemau ac y byddai hyn yn cael sylw. Yn ddiweddar gwnaed cynnydd da ar arfarniadau oedd angen eu cynnwys yn y broses ar draws y sefydliad rhag bod llithriant pellach.  Fel swyddog arweiniol, byddai’n ceisio sicrwydd fod cynnydd ar y cynllun gweithredu ac os nad oedd yn fodlon â’r esboniadau a roddid, byddai angen i’r Prif Swyddogion perthnasol fynd gerbron y Pwyllgor. Tra bod Prif Swyddogion yn cael eu dwyn i gyfrif am  ...  view the full Cofnodion text for item 15.

16.

Cynllun y Cyngor 2019/20 pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu i gwblhau’r adolygiad o Gynllun y Cyngor 2019/20 yn barod ar gyfer argymell i’r Cyngor i’w fabwysiadu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor ynghylch y broses flynyddol i gwblhau’r adolygiad o Gynllun y Cyngor 2019/20.  Byddai Rhan 1 o Gynllun y Cyngor yn cael ei ystyried gan y Cabinet i’w argymell i’r Cyngor Sir ei fabwysiadu ar 18 Mehefin.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys y prif ganlyniadau o’r ddau weithdy ar gyfer Aelodau gan nodi newidiadau ers Cynllun y Cyngor 2018/19.  Hefyd cafodd nifer o awgrymiadau eu cynnwys i wella’r broses ar gyfer cymryd rhan yn y dyfodol gan gynnwys gwell alinio rhwng themâu Cynllun y Cyngor a rhaglenni gwaith i’r dyfodol Trosolwg a Chraffu. Byddai Rhan 2 o Gynllun y Cyngor, yn cynnwys manylion am fesurau perfformiad, yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor yng Ngorffennaf cyn cael ei ystyried gan y Cabinet.

 

Wrth siarad am y broses dywedodd y Cynghorydd Heesom fod yr amseriad yn golygu nad oedd cyfle i alw’r penderfyniad i mewn. Ailadrodd ei bryderon am yr angen i allu blaenoriaethu meysydd penodol o Gynllun y Cyngor a dywedodd nad oedd y Cynllun Cludiant Integredig yn delio â mater strategaeth coridor cludiant oedd yn hanfodol i’r thema Cyngor Uchelgeisiol. Dywedodd fod gormod o ffocws ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac nad oedd cysylltiadau synhwyrol ag ardal ehangach Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod Cynllun y Cyngor yn cael ei fabwysiadu bob blwyddyn a’i fod ond yn cynnwys camau y gallai’r Cyngor eu cyflawni, h.y. swyddogaethau’r Cyngor. Yn y Cyngor Sir, byddai cyfle i Aelodau gynnig newidiadau a ddylai fod yn benodol, ymarferol a hyfyw. Roedd yr un statws i bob un o’r themâu yng Nghynllun y Cyngor ac roeddent wedi’u cynnwys yn y gyllideb i’w darparu o fewn y flwyddyn. Os cytunwyd yn y gweithdy Aelodau, roedd adborth wedi’i gynnwys ac roedd yr arolwg dilynol wedi ennyn ymatebion gan ddim ond 17 Aelod.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Roberts sylwadau’r Cynghorydd Heesom am ymwneud Aelodau gan fod y broses ymgynghori wedi bod yn gynhwysol gyda chyfle pellach i drafod yn y Cyngor Sir. O ran cludiant, dywedodd fod angen eglurhad gan Lywodraeth Cymru yngl?n â’r cynigion ar gyfer Metro Gogledd Cymru tra nad oedd ffyrdd yn rhan o’r cylch gorchwyl i’r Pwyllgor hwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones y byddai wedi bod yn well cyflwyno’r cynllun yn ôl maes gwasanaeth. Yn y gweithdy, roedd wedi codi cwestiynau ynghylch hepgor ‘sicrhau cymaint â phosibl o incwm a chyflogadwyedd’ ynghyd â chyfeiriad penodol at NEETS (heb fod mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant) a Chyfiawnder Ieuenctid.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai bwriad y gweithdai oedd canfod meysydd gwasanaeth y dylid eu cynnwys yn y Cynllun drafft. Cytunodd i edrych ar y pwynt cyntaf a dywedodd fod NEETS a chyfiawnder Ieuenctid wedi’u cynnwys yn Rhan 2 o Gynllun y Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts y dylai’r Cyngor fod yn falch o’i berfformiad i gynnal lefelau isel o NEETS.

 

Diolchodd y Cynghorydd Mullin i Aelodau am eu cyfraniadau yn cynnwys y rhai a gymerodd ran yn y gweithdai.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

17.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.