Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

18.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

 

 

19.

Cofnodion pdf icon PDF 156 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Mehefin 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

 

20.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad cynnydd ar gamau’n codi o gyfarfodydd blaenorol. Eglurodd y bydd camau sydd eto i’w penderfynu’n parhau ar yr adroddiad olrhain gweithred nes bod penderfyniad wedi’i wneud a’i adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf.

 

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at wahoddiad i gynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) fynychu cyfarfod gydag Aelodau a dywedodd y byddai’n cael ei gynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn hytrach na chyn y toriad ym mis Awst.  

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y camau ar yr arfarniadau wedi’u dilyn ac y byddai’r camau ar Gynllun y Cyngor yn cael eu cwblhau erbyn diwedd Gorffennaf. Eglurodd y bydd Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2018/19 yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Cabinet ar 16 Gorffennaf, a’i gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor a gynhelir ym Medi. Hefyd dywedodd fod gwaith ar y gweill i adolygu a gwella lle y bo’n bosibl yr wybodaeth a ddarparwyd am adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma.

 

21.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r

  Dyfodol gyfredol i’w hystyried. Atgoffodd Aelodau, cyn dechrau’r cyfarfod nesaf, y byddai sesiwn briffio’n cael ei chynnal am 9.30am ar ffurf newydd adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw. 

 

Yn ogystal â’r eitemau a fyddai’n cael eu hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 19 Medi, cytunwyd y bydd diweddariad ar yr arfarniadau’n cael eu cynnwys yn adroddiad Chwarterol y Gweithlu a Chyflogaeth. Hefyd cytunwyd y byddai adroddiad ar Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2018/19 yn cael ei ychwanegu at y Rhaglen ar gyfer y cyfarfod nesaf ac yn ddiweddarach yr Adolygiad Actiwaraidd o Gronfa Bensiwn Clwyd.

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Richard Jones ar ffurf newydd adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw, dywedodd swyddogion bod rhai addasiadau wedi’u gwneud i wella’r ffurf i helpu i ddeall yr wybodaeth yn yr adroddiad. Dywedodd y Cynghorydd Jones fod angen dangos yr amrywiannau. Dywedwyd wrth Aelodau y byddai manylion am ragolygon y prif orwariant ar Ofal Cymdeithasol a Strydoedd yn cael eu cynnwys yn adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw Misol 2019/20 i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf. Byddai’r swyddogion perthnasol hefyd yn bresennol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at yr adroddiad ar y Cylch Cynllunio Cyllid a Busnes a gyflwynwyd i gyfarfod o’r Pwyllgor ar 17 Ionawr 2019 a dywedodd fod angen atodi cyllidebau iddo. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a

(b)       Bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn cael eu hawdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

 

22.

Cynllun y Cyngor 2019/20 Rhan 2 pdf icon PDF 164 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Rhan 2 o Gynllun y Cyngor - ar gerrig milltir perfformiad a mesurau ar gyfer y flwyddyn - a gwahodd adborth ar gyfer y Cabinet a fydd yn cymeradwyo'r ddogfen yn ddiweddarach yn y mis.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i gyflwyno Rhan 2 o Gynllun y Cyngor. Pwrpas hyn oedd rhannu cerrig milltir perfformiad a mesurau ar gyfer y flwyddyn a gwahodd adborth i’r Cabinet a fyddai’n ystyried y ddogfen yr wythnos ganlynol. Darparodd wybodaeth gefndir a chyd-destun. Roedd Rhan 1 o Gynllun y Cyngor wedi amlinellu bwriad y Cyngor, ac mae Rhan 2 yn cynnwys y mesurau perfformiad, y targedau a’r cerrig milltir ar gyfer mesur a gwerthuso’r hyn a gyflawnir.

 

Soniodd Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu am yr wybodaeth yn yr adroddiad. Roedd yr hyn oedd angen ei gyflawni yn ystod 2019/20 yn cael ei ddisgrifio’n glir yn Rhan 1 o Gynllun y Cyngor. Roedd Rhan 2 yn sicrhau y gellid monitro cynnydd ac olrhain y cyflawniadau hynny. Y ddau fath o fesurau a fyddai’n cael eu defnyddio fyddai cerrig milltir ansoddol, pan oedd cynlluniau neu strategaethau i’w cyflawni, a mesurau mheintio a rhifiadol ar gyfer y targedau i’w cyflawni. Roedd Rhan 2 o Gynllun y Cyngor yn nodi dosbarthiad yr holl fesurau rhifiadol. Roedd cerrig milltir neu fesurau wedi’u gosod i fonitro cynnydd yn erbyn bob gweithgaredd neu gynllun. Roedd y risgiau i’w rheoli a’u lliniaru ar hyd yn flwyddyn wrthi’n cael eu hystyried a byddant yn cael sylw yn yr adroddiad monitro cyntaf. Dywedodd Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu y byddai data cymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru ar gael i gymharu ein sefyllfa yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at yr arddodiad Cylch Cyllid a Chynllunio Busnes a gyflwynwyd i gyfarfod o’r Pwyllgor ar 17 Ionawr 2019, a dywedodd fod y mesurau wedi’u nodi’n dda o ran y portffolio. Dywedodd ei fod yn cefnogi’r adroddiad ond soniodd fod angen i Gynllun y Cyngor gael mwy o ffocws a chael ei flaenoriaethu. Cyfeiriodd at y Cyngor Uchelgeisiol a dwedodd fod diffygion yn y ffordd yr oedd y Cyngor yn gwneud cynnydd gyda’r rhan honno o’r Cynllun. Mynegodd bryderon ynghylch y ffordd yr oedd isadeiledd priffyrdd yn cael ei reoli.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Heesom ar y rhwydwaith cludiant, dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod yr Awdurdod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru (LlC) a Thrafnidiaeth Cymru. Gwahoddwyd y  Cynghorydd Heesom i gyfarfod i drafod ei bryderon gyda’r Prif Swyddog (Strydoedd a Chludiant) a hithau. 

 

Cydnabu’r Prif Weithredwr y pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Heesom ynghylch rôl gyfyngedig y Cyngor mewn datblygiad economaidd ond pwysleisiodd mai dim ond y gwasanaethau hynny oedd yn swyddogaeth i’r Cyngor y gallai’r Cyngor eu cynnwys. Aeth ymlaen i ddweud bod popeth oedd yn y Cynllun yn cael blaenoriaeth gyfartal ac mai ein cydgyfrifoldeb oedd sicrhau’r cerrig milltir a’r mesurau. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at Gynllun y Cyngor (Rhan 2) 2019/20, oedd wedi’i atodi i’r adroddiad, a gofynnodd beth oedd nodau ac amcanion y fframwaith gwerth cymdeithasol. Dywedodd y gallai’r fframwaith gwerth cymdeithasol olygu nifer o bethau i wahanol bobl. Dywedodd ei fod yn rhan bwysig o Gynllun y Cyngor a gwnaeth gais i’r  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Ffioedd a thaliadau pdf icon PDF 257 KB

Pwrpas:        Cyflwyno polisi corfforaethol wedi'i ddiweddaru a'i gwblhau ar gyfer ffioedd a thaliadau - a gwahodd adborth ar gyfer y Cabinet a fydd yn cymeradwyo'r polisi yn ddiweddarach yn y mis.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i gyflwyno polisi corfforaethol cyflawn ac wedi’i ddiweddaru ar gyfer ffioedd a chostau a gwahodd adborth i’r Cabinet a fyddai’n cael ei wahodd i gymeradwyo’r polisi’n ddiweddarach yn y mis. Dywedodd fod y Polisi Cynhyrchu incwm, yn cynnwys ffioedd a chostau, a’r ffrydiau incwm newydd a nodwyd yn yr adroddiad yn rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Tynnodd sylw at ganlyniad yr adolygiad blynyddol o ffioedd a chostau oedd wedi’i atodi i’r adroddiad. Ar gyfer bob cost dangoswyd y graddau yr oedd y gost lawn yn cael ei hadennill, ond mae angen gwaith pellach ar hyn o hyd. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnig dull o fynegeio’r holl ffioedd a chostau’n flynyddol. Gwahoddodd y Prif Weithredwr y Rheolwr Cynhyrchu Incwm a Marchnata i gyflwyno manylion yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Cynhyrchu Incwm a Marchnata at y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad. Eglurodd fod cynhyrchu incwm ychwanegol o ffioedd a chostau, ynghyd â phrosiectau penodol i ystyried posibilrwydd ffrydiau incwm newydd, yn ddau ateb oedd ar gael i’r Cyngor gyfrannu at y diffyg yn y gyllideb. Nid oedd y targed o ran incwm ar gyfer 2018/19 wedi’i gyrraedd yn llawn ac roedd tua £170k o incwm ychwanegol i’w gynhyrchu i gyrraedd targed 2019/20. Dywedodd ei fod yn bwysig cadw’r ffocws ar gynhyrchu incwm a’r ffioedd a’r costau hynny y gellid eu hadolygu, neu eu cyflwyno, fel rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. O’r 605 o ffioedd/costau a restrir yn atodiad A o’r adroddiad, dywedodd fod 36% ohonynt yn statudol  a bod gan yr Awdurdod ddisgresiwn cyfyngedig, neu ddim o gwbl, o ran gosod y costau, a bod 64% yn ddewisol gyda mwy o le i ddisgresiwn lleol wrth osod y pris. Yn ogystal ag incwm o ffioedd a chostau roedd nifer o brosiectau incwm wedi’u nodi i’w hystyried ymhellach. Roedd trosolwg o’r prosiectau hyn a’r dyddiad dechrau dangosol hefyd wedi’u hatodi i’r adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Cynhyrchu Incwm a Marchnata mai’r bwriad oedd goruchwylio’r broses o adolygu ffioedd a chostau’n fewnol, a gweithredu unrhyw newidiadau o 1 Hydref bob blwyddyn, yn dilyn adroddiad i’r Cabinet ym mis Gorffennaf. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Strydoedd a Chludiant) y byddai adroddiad wedi’i ddiweddaru ar ffioedd a chostau’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor bob blwyddyn i’w adolygu.

 

Yn ystod y drafodaeth rhoddodd Swyddogion ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan Aelodau yngl?n â’r costau ar gyfer gwasanaethau o dan Rheoli Pla (gan ddyfynnu’r gwahaniaeth mewn costau ar gyfer gwenyn a gwenyn meirch er enghraifft), parcio ceir, a llogi caeau Wepre a Bwcle. Hefyd holodd Aelodau ynghylch y costau’n ymwneud â chylchfannau a gofynnwyd am eglurhad ynghylch y costau ar gyfer noddi cylchfannau. Cytunodd y Prif Swyddog i roi manylion pellach i’r Pwyllgor yngl?n â chostau’n ymwneud â chylchfannau a llogi caeau Wepre a Bwcle.

 

Yn gynharach yn yr wythnos bu pryderon nad oedd y cynnydd yng nghostau gwastraff gardd wedi eu rhoi gerbron Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd. Eglurodd y Prif Weithredwr fod yr egwyddor o  ...  view the full Cofnodion text for item 23.

24.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) a gwaith y Grwp Trawsbleidiol ar Gyllid Llywodraeth Leol

Pwrpas:        Derbyn diweddariad llafar ar sefyllfa'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, y sefyllfa genedlaethol ar gyllidebau, a chwblhau gwaith y Gr?p Trawsbleidiol ar Gyllid Llywodraeth Leol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddiweddariad llafar ar sefyllfa’r Strategaeth

Ariannol Tymor Canolig (MTFS), y sefyllfa genedlaethol ar gyllidebau, a chwblhau gwaith y Gweithgor Trawsbleidiol ar Gyllid Llywodraeth Leol. Rhoddodd gyflwyniad ar y Gweithgor Trawsbleidiol ar Gyllid Llywodraeth Leol oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:

 

·         ein cyd-destun

·         pwrpas y Gr?p

·         gwaith hyd yma

·         adnoddau ar gael

·         sefyllfa gyffredinol

·         dadlau’r achos

·         crynodeb o bwysau ariannol

·         mynegeio ar gyfer chwyddiant - ysgolion

·         mynegeio ar gyfer chwyddiant – ar wahân i ysgolion

·         proses gyllidebol

·         camau nesaf yn syth

 

Yn ystod y cyflwyniad cyfeiriodd y Prif Weithredwr at adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ‘Wedi cyrraedd y pwynt tyngedfennol’ gan awgrymu y byddai o ddiddordeb i Aelodau. Cytunwyd i gylchredeg yr adroddiad hwn i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Aaron Shotton at waith y Gweithgor Trawsbleidiol o ran y fformwla ariannu a gofynnodd a oedd cyfle i edrych ar ddyrannu cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol ar draws awdurdodau lleol yn seiliedig ar bwysoliad ac amddifadedd. Cydnabu’r Prif Weithredwr y pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Shotton a chyfeiriodd at yr angen i ystyried y gyllideb yn gyffredinol. Dywedodd bod cyfeiriad wedi bod yn y Gweithgor Trawsbleidiol at fwy o resymeg yngl?n â chostau sylfaenol ar gyfer ysgolion. Dywedodd Carolyn Thomas fod rhai o’r ysgolion yn Sir y Fflint ar y lefelau ariannu isaf yng Nghymru ac ailadroddodd ei bod yn bwysig i ysgolion gael llinell sylfaenol ariannol wrth symud ymlaen. Dywedodd y byddai’n dadlau’r achos dros gyllid i Addysg yng nghyfarfod Pwyllgor Gwaith CLlLC yr wythnos nesaf.

 

Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom, yn ei farn ef fod angen persbectif gwahanol a dull o bwysoli neu flaenoriaethu pwysau penodol nad oedd yn cael eu cyflawni ar hyn o bryd. Dywedodd fod ganddo bryderon nad oedd dadgyfuno yn yr Awdurdod o bosibl yn seiliedig ar newid ac nad oedd y ffordd yr oedd rhai gwasanaethau wedi dadgyfuno o gymorth. Hefyd dywedodd bod angen mwy o ymwybyddiaeth o’r gwariant mewn portffolios. Croesawodd waith y Gweithgor Trawsbleidiol ond dywedodd fod yn rhaid i’r Awdurdod  fod yn fwy democrataidd a gweithio o’r canol wrth ddadgyfuno gwasanaethau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r diweddariad ar waith y Gweithgor Trawsbleidiol ar Gyllid Llywodraeth Leol a’r cyflwyniad.   

25.

Cyllidebau Canolog a Chyllid Corfforaethol pdf icon PDF 183 KB

Pwrpas:        Rhoi manylion i’r Aelodau am y gyllideb ganolog a chorfforaethol yn ôl y gofyniad yn y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad yn darparu gwybodaeth ac eglurhad am y penawdau cyllideb penodol oedd yn y cyllidebau canolog a chorfforaethol, yn unol â’r cais yn y cyfarfod blaenorol. Roedd y Gyllideb Ganolog a Chorfforaethol ar gyfer 2019/20 yn £23.498m ac yn 9% o gyllideb gyffredinol Cronfa’r Cyngor o £264m.  Yn gyffredinol roedd y Gyllideb Cyllid Canolog a Chorfforaethol yn cynnwys costau canolog y sefydliad canolog ar gyfer y Cyngor nad oedd i’w priodoli’n uniongyrchol i bortffolios a gwasanaethau unigol.   

 

Darparodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad. Dywedodd fod yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad manwl o’r maes cyllidebol hwn yn seiliedig ar gyllideb 2019/20 o £23.498m.  Hefyd roedd yr adroddiad yn rhoi cefndir pellach i’r holl Aelodau cyn dechrau monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 ac fel rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y pwyllgor yn nodi’r esboniadau a roddwyd.

 

26.

Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (alldro) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (alldro) pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn darparu sefyllfa alldro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, a sefyllfa alldro’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid, Strategaeth Ariannol ac Yswiriant adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2018/19 (Ffigurau terfynol) i Aelodau a chyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Adroddiad Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Ffigurau terfynol). Byddai’r ddau adroddiad yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet ar 16 Gorffennaf, ac roeddent wedi’u hatodi i’r adroddiad. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at Adroddiad Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Ffigurau terfynol) a chyfeiriodd at gostau parcio ceir. Dywedodd fod angen nodi a gwahaniaethu rhwng cyllideb a gwasanaeth craidd. Cyfeiriodd at feysydd o orwariant a dywedodd y dylai’r Cyngor edrych ymlaen ac nid yn ôl i leihau unrhyw orwariant posibl.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2018/19 (Ffigurau terfynol) a chadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol y mae’n dymuno eu codi yn y Cabinet; a

                  

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Ffigurau terfynol) a chadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol y mae’n dymuno eu codi yn y Cabinet. 

 

 

27.

2019/20 monitro cyllideb refeniw (Interim) pdf icon PDF 142 KB

Pwrpas:        Darparusefyllfa monitro cyllideb interim yn ystod y flwyddyn ar gyfer 2019/20 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid, Strategaeth Ariannol ac Yswiriant  adroddiad i ddarparu sefyllfa monitro’r gyllideb dros dro o fewn y flwyddyn ar gyfer 2019/20 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrifi Refeniw Tai. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd mai’r adroddiad dros dro oedd yr adroddiad monitro’r gyllideb refeniw cyntaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20. Roedd yr adroddiad yn adroddiad eithrio ar amrywiannau sylweddol a allai effeithio ar y sefyllfa ariannol yn 2019/20 a chynnydd o ran cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn erbyn y targedau a osodwyd ar gyfer y flwyddyn. Ar hyn o bryd rhagwelir y bydd effaith net y risgiau sy’n dod i’r amlwg a’r amrywiannau fel y manylir yn yr adroddiad, £3.101m yn uwch na’r gyllideb a gynlluniwyd. Roedd y ffigur hwn yn seiliedig ac amrywiannau sylweddol hysbys o dros £0.100m   Byddai hyn yn agored i newid yn ystod y flwyddyn.  

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid at y prif bwyntiau, fel y manylir yn yr adroddiad, a chyfeiriodd at yr arbedion effeithlonrwydd a gyflawnwyd, sefyllfa’r gyllideb o fewn y flwyddyn, a chronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi. Byddai meysydd oedd yn cael eu hystyried yn risg uchel o ran ansefydlogrwydd ariannol yn cael eu hadolygu fel rhan o’r broses fonitro fisol a’r oblygiadau’n cael eu hystyried fel rhan o’r rhagolygon yn y tymor canolig. Soniodd y Prif Weithredwr yn eithaf manwl am feysydd gorwariant a thanwariant.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill at leoliadau y tu allan i’r sir a’r wybodaeth fod y rhagamcanion o orwario ar gyfer y gwasanaeth yn cynnwys costau lleoliadau allanol ar gyfer dros 150 o blant, rhai ohonynt o fewn ffin ddaearyddol Sir y Fflint. Eglurodd y Prif Weithredwr y gellid diwallu anghenion addysgol rhai plant drwy ddarpariaeth leol, ond, mai dim ond trwy ddarpariaeth allanol y gellid diwallu anghenion addysgol a gofal cymdeithasol preswyl cymhleth nifer o blant.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at y gorwariant ar gostau parcio. Mynegodd bryderon yngl?n â chostau parcio a dywedodd y gallent gadw pobl draw a lleihau’r nifer sy’n dod i rai ardaloedd. Cyfeiriodd at werth cymdeithasol pobl sy’n siopa mewn trefi a bod rhai ardaloedd yn cynhyrchu mwy o incwm na’r gost o gynnal y meysydd parcio yn yr ardal honno. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad ac yn hysbysu’r Cabinet y bydd y Pwyllgor, yng nghyfarfod mis Medi, yn rhoi sylw arbennig i’r rhagamcanion o orwario mewn gofal cymdeithasol a strydoedd; a

 

(b)       Nodi y gofynnir i’r Cabinet gymeradwyo trosglwyddo £0.471m o’r gyllideb o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi’r cyfleusterau gofal ychwanegol newydd.

 

28.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.