Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas: Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r gr?p Geidwadol enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd.

Penderfyniad:

Cadarnhau’r Cynghorydd Clive Carver fel Cadeirydd y Pwyllgor am flwyddyn y cyngor.

Cofnodion:

Bu i'r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd atgoffa’r Pwyllgor y penderfynodd y Cyngor yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol mai'r gr?p Ceidwadol ddylai enwebu Cadeirydd y Pwyllgor.  Roedd y gr?p wedi enwebu’r Cynghorydd Clive Carver. Ar ôl cynnal pleidlais, cadarnhawyd yr enwebiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cadarnhau’r Cynghorydd Clive Carver fel Cadeirydd y Pwyllgor am flwyddyn y cyngor.

 

(Ar y pwynt hwn, cadeiriodd y Cynghorydd Carver weddill y cyfarfod)

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Penderfyniad:

Penodi'r Cynghorydd Paul Johnson yn Is-gadeirydd y Pwyllgor am flwyddyn y cyngor.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer swydd yr Is-gadeirydd.  Enwebwyd y Cynghorydd Paul Johnson gan y Cynghorydd Paul Shotton, ac eiliwyd hyn yn briodol.  Ar ôl cynnal pleidlais, cadarnhawyd yr enwebiad.  Ni chafwyd enwebiadau pellach.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi'r Cynghorydd Paul Johnson yn Is-gadeirydd y Pwyllgor am flwyddyn y cyngor.

 

Yn dilyn y bleidlais, gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor ymuno ag ef mewn munud o dawelwch mewn teyrnged i’r digwyddiadau ym Manceinion a Llundain.

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Penderfyniad:

Cofnodion:

4.

Cofnodion pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod arMawrth 2017.

Penderfyniad:

Cofnodion:

Roedd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2017 wedi eu dosbarthu gyda’r rhaglen.

 

Materion yn Codi

 

Cofnod rhif 90: Strategaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid – cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at ei gais i gopïo Aelodau i mewn i ymatebion i ymholiadau yr oeddent wedi’u gwneud ar ran trigolion.  Cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i edrych a oedd hyn yn digwydd ac i rannu'r wybodaeth â'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

5.

Question from a Member

6.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.