Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

16.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

17.

Ystyried mater a atgyfeiriwyd at a Pwyllgor yn unol a'r Trefniadau galw i mewn pdf icon PDF 98 KB

Mae penderfyniad y cyfarfod Cabinet ar 12 Gorffennaf 2022 yn ymwneud âAdolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau 2022’ wedi cael ei alw i mewn.  Atodir copi o’r weithdrefn ar gyfer delio ag eitem sydd wedi’I galw i mewn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y weithdrefn ar gyfer galw penderfyniad Cabinet i mewn fel y manylir yn y ddogfen ategol. Roedd y Cabinet wedi ystyried adroddiad ar ‘Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau 2022’ yn ei gyfarfod ar 12 Gorffennaf 2022.  Galwyd y penderfyniad i mewn (Cofnod Penderfyniad 3991) gan y Cynghorwyr Bernie Attridge, Helen Brown, Bill Crease, Richard Jones  Debbie Owen  Roedd copïau o adroddiad y Cabinet, y Cofnod o Benderfyniad a’r Gymeradwyaeth o Alw i Mewn a oedd yn nodi tri rheswm dros y galw i mewn wedi’u cynnwys gyda phapurau’r rhaglen.

18.

Adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau 2022 pdf icon PDF 102 KB

AdroddiadPrifWeithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol - Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant, Cymunedau Cryf gan gynnwys Gwerth Cymdeithasol a Chaffael

 

Atodir y dogfennau canlynol i gynorthwyo Aelodau:

 

·                     Copi o adroddiad Adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau 2022

·                     Copio’r Cofnod o Benderfyniad

·                     Copy o’r Hysbysiad Galw i Mewn

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Sylwadau gan lofnodwyr y galw i mewn

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Bernie Attridge at y rhesymau a roddwyd dros y galw i mewn, gan ddweud eu bod yn rhesymau eithaf eang ac amlinellodd ei gwestiynau, fel a ganlyn:

 

  1. Allai swyddogion gadarnhau’r gwahaniaethau rhwng fersiynau 2 a 3 o’r Polisi Cynhyrchu Incwm (PCI).
  2. A yw’r Aelod Cabinet yn meddwl ei bod yn dderbynion cynyddu ffioedd a thaliadau am wasanaethau mynwentydd 6% pan nad oes unrhyw newid arfaethedig i ffioedd a thaliadau gorfodaeth parcio sifil.
  3. Pam bod y ffioedd a’r taliadau cysylltiedig â dathliadau priodas wedi cynyddu’n sylweddol?
  4. O dan y Polisi Cynhyrchu Incwm mae’n rhaid ystyried effaith ffioedd a thaliadau ar gymunedau.  A yw’r Aelod Cabinet yn credu bod effaith y cynnydd  mewn ffioedd a thaliadau’n dderbyniol?
  5. Pa Aelodau sy’n eistedd ar y Bwrdd Rhaglen sy’n ystyried y newidiadau arfaethedig i’r ffioedd a’r taliadau, fel y’u hamlinellir yn y PCI; a
  6. Lle mae sylwadau’r Bwrdd Rhaglen ar y cynnydd arfaethedig mewn ffioedd a thaliadau?

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Attridge at reswm 1 dros y galw i mewn sy’n ymwneud â chynnydd o 88% mewn rhent i gr?p cymunedol y teimlwyd y byddai’n cael canlyniadau distrywiol, a phe bai hyn yn cael ei wneud ar draws sir y Fflint gallai achosi goblygiadau cymdeithasol i grwpiau cymunedol eraill.  Cododd bryderon ynghylch y cynnydd arfaethedig, yr oedd yn credu iddo gael ei gynnig oherwydd nad oedd y Cyngor wedi adolygu’r rhent ers nifer o flynyddoedd ac nid oedd yn teimlo y dylid cosbi’r gr?p cymunedol oherwydd hyn.  Dywedodd nad oedd yn teimlo bod hyn yn dderbyniol o gwbl.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Bill Crease ei fod yn teimlo bod y cynnydd arfaethedig o 88% mewn rhent i gr?p cymunedol yn enghraifft o’r hyn all fynd o’i le wrth ddefnyddio mesur safonol yn ddiwahân.  Dywedodd bod y gr?p dan sylw wedi treulio llawer iawn o amser yn gwella’ adnodd ar gyfer y gymuned yn arwyddocaol a’i fod wedi rhedeg llawer o sesiynau a fu o fudd i’r gymuned uniongyrchol ac ehangach.  Roedd yn teimlo, oherwydd methiant y Cyngor i reoli ei bolisi prydlesu’n gywir ac i adolygu rhent mewn ffordd safonol, bod y gr?p cymunedol hwn yn wynebu cynnydd o 88% am rentu adnodd nad oedd yn rhaid i’r Cyngor, y Gwasanaeth Ceidwaid na Pharc Gwepra wneud unrhyw gyfraniad ariannol tuag ato.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd, fel un o lofnodwyr y galw i mewn, at ffioedd hurio ystafelloedd o fewn y rhestr o ffioedd a thaliadau nad ydynt wedi cynyddu o gymharu â hurio ystafelloedd y gwasanaethau ieuenctid a chymunedol sydd wedi cynyddu 6%, a gofynnodd pam bod gwahaniaeth.  O ran y PCI, gwnaeth sylwadau ar y datganiad yn y polisi y dylai gwasanaethau fod yn barod i roi gwybodaeth ategol i ddangos bod adferiad costau llawn neu gymhariaeth â chyfradd y farchnad yn cael ei wireddu, lle caniateir hynny, ac awgrymodd bod y Pwyllgor, mewn cyfarfod yn y dyfodol, yn derbyn y costau llawn er mwyn cymharu â chyfraddau’r farchnad.  Cyfeiriodd hefyd at  ...  view the full Cofnodion text for item 18.

19.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.