Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

9.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

10.

Cofnodion pdf icon PDF 74 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 18 Mai 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mai 2023, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Bill Crease a Jason Shallcross.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

11.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad ar y camau gweithredu wnaeth godi o gyfarfodydd blaenorol a chytunwyd i gynnwys y gweithdy ar gyfer yr holl aelodau ar waith Swyddfa’r Crwner ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Sam Swash a’i heilio gan y Cynghorydd Jason Shallcross.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.

12.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol presennol, fe gynghorodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod sesiwn hyfforddiant ar sgiliau cadeirio a chwestiynu yn cael ei drefnu ar gyfer Aelodau Trosolwg a Chraffu ym mis Medi.

 

Byddai’r cais gan y Cynghorydd Sam Swash yngl?n â chaffael tir ar gyfer mynwentydd Sir y Fflint yn cael ei basio ymlaen i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd a’r Economi ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bill Crease ac Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

13.

Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd - Adroddiad Diweddaru pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        I rannu diweddariad ar y sefyllfa bresennol o ran dyled hirdymor gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers yr adroddiad diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) adroddiad ar y wybodaeth ddiweddaraf am y ddyled hirdymor gyfredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), mewn perthynas â darparu pecynnau Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn Sir y Fflint.

 

Ers yr adroddiad diwethaf ym mis Chwefror mae’r nifer o anfonebau dyledus wedi gostwng o 36 i 23, a dim un ohonynt yn llai na blwyddyn o ran bodolaeth, gan ddangos fod yr anfonebau presennol yn cael eu prosesu mewn modd amserol ar ôl cyflwyno trefniadau mwy cadarn.   Roedd y penderfyniad yngl?n ag anfonebau hirdymor yn parhau i dderbyn sylw trwy gyfarfodydd rheolaidd ac roedd y broses gymrodeddu annibynnol wedi adennill £0.098m pellach o ddyled hirdymor.   Ers ei drafod am y tro cyntaf ym Mhwyllgor mis Hydref 2022, roedd gostyngiad o 63.3% wedi bod mewn anfonebau dyledus oedd yn dod i gyfanswm o £0.813m.   Ar ddechrau mis Gorffennaf roedd anfonebau yn dod i £0.273m (yn berthnasol i bum unigolyn) yn cael eu symud trwy’r broses gymrodeddu.

 

Cwestiynodd y Cadeirydd y ffigurau o’r £0.327m a adroddwyd ym mis Chwefror fel rhai oedd yn mynd trwy’r broses gymrodeddu.   Yn ogystal fe awgrymodd ychydig o atebion yngl?n â pham bod y lefel dyled gweithredol yn ymddangos fel ei fod wedi cynyddu o’r hyn a adroddwyd arno ym mis Chwefror.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bill Crease y byddai dull safonol o gyflwyno data yn helpu’r Pwyllgor i graffu a chysoni’r ffigurau.

 

Roedd y Cadeirydd yn cydnabod bod y cyfanswm dyledus yn lleihau a oedd yn dangos bod y prosesau’n gweithio.   Fe awgrymodd bod yr Uwch Reolwr yn cyfathrebu gydag ef i adolygu’r ffigyrau fel bod diweddariad yn cael ei drefnu ar gyfer mis Medi.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Jason Shallcross.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r Pwyllgor yn nodi’r gwaith rheoli cyllideb ragweithiol barhaus o ran yr anfonebau heb eu talu a godwyd gan y Cyngor i’w talu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

14.

Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (alldro) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (alldro) pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn darparu sefyllfa alldro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, a sefyllfa alldro’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Strategol adroddiadau ar ganlyniad terfynol 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn i’r Cabinet eu hystyried.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

Gyda Chronfa’r Cyngor roedd symudiad ffafriol o £0.907m o fis 11 wedi golygu sefyllfa derfynol o arian dros ben o £3.013m.   Fodd bynnag nodwyd fod amryw o eitemau unwaith ac am byth o ran gwariant wedi dod i £5.876m wedi cael eu cymeradwyo am gyllid o’r Gronfa Arian wrth Gefn a bod cymryd y cyfansymiau hyn o’r gyllideb refeniw yn ystod y flwyddyn wedi golygu gorwariant net cyffredinol o £2.863m ar gyfer 2022/23.  Balans y gronfa arian wrth gefn ar 31 Mawrth 2023 oedd £9.508m ar ôl cymryd y dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol i ystyriaeth.  Mae taliadau sy’n dod i £5.419m wedi cael eu hawlio o Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru, er ni fu cadarnhad y byddai’r cyllid yn parhau ar gyfer 2023/24.

 

Dangoswyd amrywiadau rhwng mis 11 ac roedd y canlyniad terfynol wedi’i gynnwys yn yr adroddiad gan gynnwys manylion o symudiadau sylweddol ar hyd portffolios.  Mae trosolwg o risgiau yn ystod y flwyddyn yn cynnwys cyfansymiau ychwanegol yng nghyllideb 2023/24 i adlewyrchu’r galw uchel am Leoliadau Allan o’r Sir, Digartrefedd a gwasanaethau Cludiant Ysgol tra bod symudiad cadarnhaol ar gasglu Treth y Cyngor yn cael ei groesawu.   Adroddwyd hefyd bod yr holl effeithiolrwydd wedi’i gynllunio wedi cael ei gyflawni yn ystod y flwyddyn a bod balans o £3.743m o Gronfeydd wrth Gefn Brys Covid-19 yn cael eu cario ymlaen.  Derbyniwyd trosolwg o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ynghyd â dadansoddiad o’r sefyllfa derfynol a’r lefel cronfa arian wrth gefn dros y pum mlynedd diwethaf.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai’r sefyllfa derfynol yn dangos gwariant o £2,688m yn fwy na’r gyllideb a oedd yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.786m, a oedd yn llawer uwch na’r canllawiau a argymhellwyd.

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, cafwyd eglurhad ar y cynnydd mewn incwm o eiddo o dan Wasanaethau Cymdeithasol a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd wedi’u cario ymlaen i gwrdd â’r ymrwymiadau yn weddill gyda’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Ar Wasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth fe ofynnodd y Cynghorydd Sam Swash am y tebygolrwydd o dâl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff yn cael ei gyflwyno ar y Cyngor.   Ymatebodd y swyddog fod hyn yn dal i gael ei drafod gan Lywodraeth Cymru ac y byddai ceisio derbyn y newyddion diweddaraf gan y portffolio.

 

Rhoddwyd eglurhad hefyd i’r Cynghorydd Allan Marshall ar gyflwyno data yn y tabl o gronfeydd arian wrth gefn a oedd yn dangos lefelau ar ddiwedd y flwyddyn yn symud ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf.

 

Talodd y Cynghorydd Paul Johnson deyrnged i’r gwaith sydd wedi cael ei wneud i gyrraedd sefyllfa weithredu lle mae arian dros ben ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Dyma’r Cadeirydd yn diolch i’r Rheolwr Refeniw a Chaffael a’i dîm am y sefyllfa derfynol gadarnhaol wrth gasglu Treth y Cyngor.   Yn ôl y cais fe ddarparodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ar  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Monitro Cyllideb Refeniw (Interim) 2023/24 pdf icon PDF 77 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r risgiau allweddol a’r problemau sy’n hysbys o ran sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer 2023/24 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar y sefyllfa monitro cyllideb interim yn ystod y flwyddyn ar gyfer 2023/24 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.  Dyma adroddiad eithrio ar amrywiadau arwyddocaol posib a allai effeithio ar y sefyllfa ariannol yn 2023/24.  Dim ond amlygu’r risgiau ariannol a wnaed ar y cam hwn gydag adroddiad monitro manwl wedi’i gynllunio ar gyfer mis Medi.

 

Fel yr adroddwyd yn flaenorol, roedd y lefel terfynol o Gronfa arian wrth gefn y Cyngor yn 2023/24 yn £9.508m (yn amodol ar archwiliad) ynghyd â £3.743m o’r Cronfeydd wrth Gefn Brys Covid-19.  Yn seiliedig ar ragdybiaethau lefel uchel mae’r adroddiad yn trafod ystod o amrywiaeth posib i’r gyllideb wedi’i adnabod gan bortffolios ar y cyfnod cynnar hwn.   Ar gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd mae’r adroddiad yn tynnu sylw at effaith y diffyg dyfarniad cyflog presennol a amcangyfrifir ar gyfer y gronfa wrth gefn, ynghyd â’r cyfraniad a argymhellir ar gyfer sefyllfa gychwynnol cronfa wrth gefn Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd fel y gwelir ym mharagraff 1.13.  Ar y Cyfrif Refeniw Tai, mae risg i’r sefyllfa derfynol a ragwelir ar incwm rhent o eiddo CRT gwag yn cael ei fonitro’n agos.

 

Gyda chwestiynau gan y Cynghorydd Jason Shallcross, meddai’r Rheolwr Cyllid Strategol fod yna ansicrwydd o ran a ddylai Llywodraeth Cymru barhau i ariannu dyfarniadau cyflog athrawon y tu hwnt i 2022/23 a 2023/24.  Ar adnewyddu contract fflyd, fe gytunodd i ofyn am ymateb gan y gwasanaeth ar fentrau lleihau carbon.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bill Crease am y telerau o ran y cyfraniad at Theatr Clwyd ac fe eglurodd y Prif Weithredwr mai darpariaeth un tro oedd hwn wedi’i gynnwys yng nghymal y cytundeb gwasanaethau diwylliannol.

 

Nododd y Cadeirydd fod nifer o bwysau ar draws yr holl bortffolios a gofynnwyd am drefniadau i fonitro a lliniaru’r risg gydag eiddo gwag.  Cafwyd sicrwydd gan y Prif Weithredwr fod diweddariadau rheolaidd ar gynnydd yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y’i diwygiwyd, ei gynnig a’i eilio gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2023/24 (dros dro), bod y pwyllgor yn nodi’r cyfraniad wedi’i argymell ar gyfer Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd.

16.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25 pdf icon PDF 74 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer gofyniad ychwanegol cyllideb 2024/25 ac amserlen y gyllideb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar y cam cyntaf o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a gofyniad y gyllideb ar gyfer 2024/25.  Mae’r adroddiad yn nodi’r rhagolygon diwygiedig cyn i bwysau o ran cost a chynigion effeithlonrwydd gael eu hadolygu yn y cyfarfodydd Trosolwg a Chraffu.  Mae gweithdy cyllideb wedi cael ei drefnu ar gyfer 31 Gorffennaf a byddai’n darparu Aelodau gyda’r cyfle i ennill gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa ariannol ac yn cyfrannu at strategaeth gyllideb ddatblygol.

 

Ar y cyfnod hwn, mae’r rhagolygon wedi’u hadolygu yn awgrymu gofyniad cyllideb ychwanegol o £32.222m o adnoddau refeniw ar gyfer 2024/25, gan gymryd i ystyriaeth y sefyllfa genedlaethol ddiweddaraf ar dâl sector cyhoeddus, yr effaith a amcangyfrifir o newidiadau hysbys i alw mewn gwasanaeth a’r effeithiau parhaus o chwyddiant.  Mae’r rhan fwyaf o’r pwysau o ran costau yn berthnasol i’r dyfarniadau cyflog a gytunwyd arnynt yn genedlaethol ynghyd â phwysau o ran chwyddiant a’r galw ar wasanaeth gofal cymdeithasol.

 

Er bod y dyraniad dangosol gyda chynnydd o 3.1% ar gyfer 2024/25 (wedi’i ddarparu fel rhan o Setliad Llywodraeth Cymru 2023/24) wedi cael ei groesawu, roedd ar lefel llawer iawn is na’r blynyddoedd a fu, gan adlewyrchu cynnydd posib o oddeutu £7.8m.  Pe bai hynny’n parhau i aros yr un fath, byddai heriau sylweddol i’r gyllideb ar gyfer 2024/25 i gwrdd â gofynion y gwasanaeth ac effeithiau chwyddiant, a’r rhan fwyaf ohonynt y tu allan i reolaeth y Cyngor.   Roedd angen datblygu strategaeth cyllideb fanwl ar y cyd â chyfrannu at drafodaethau cenedlaethol ar y rhagolwg ariannol ar draws Cymru.   Roedd yr amserlen yn yr adroddiad yn cynnwys y broses ar gyfer ymgynghori ac adroddiadau diweddaru ar ragolygon ac atebion.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Allan Marshall a’i heilio gan y Cynghorydd Jason Shallcross.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried adroddiad Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25, bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes materion penodol i’w hadrodd yn ôl i’r Cabinet pan fydd yn ystyried yr adroddiad.

17.

Gostyngiadau Dewisol (a13a) Dileu Treth y Cyngor pdf icon PDF 143 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybodaeth am ostyngiadau dewisol Treth y Cyngor, y meini prawf polisi cyfredol a’r amgylchiadau (gyda dadansoddiad ystadegol) pan fo eisoes angen i’r Cyngor ddileu symiau Treth y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael yr adroddiad ar faen prawf ac amgylchiadau presennol polisi (gyda dadansoddiad ystadegol) lle'r oedd y Cyngor eisoes wedi cyflwyno gostyngiadau dewisol neu ddileu cyfansymiau Treth y Cyngor, yn dilyn cais gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson.  Roedd y fframwaith Polisi Adfer Dyledion Corfforaethol a fabwysiadwyd yn 2019 yn cynnwys mesurau cymesurol i gefnogi’r rheiny mewn angen a chafodd ei danategu gan brosesau rheoli incwm effeithiol a oedd yn hanfodol ar gyfer cyflawni amcanion cyffredinol y Cyngor oherwydd yr effaith o Dreth y Cyngor heb ei gasglu ar y gyllideb ehangach a chynnydd mewn Treth y Cyngor yn y dyfodol   Fel pwynt o gywirdeb o ran dadansoddi’r diddymiadau, cadarnhawyd fod dyledion wedi’u hailgyfeirio at Lys yr Ynadon yn ystod camau cyfreithiol traddodi yn 2022/23 a ddaeth i gyfanswm o £26,543 gyda £35,668 yn cynrychioli’r cyfanswm ar gyfer trefniadau gwirfoddol unigol.

 

Yn ogystal â deddfwriaeth statudol, roedd pwerau dewisol Adran 13A yn cynnig hyblygrwydd i gynghorau gyflwyno cynlluniau gostyngiadau lleol mewn achosion eithriadol.   Ar wahân i Gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor Gofalwyr Maeth Awdurdod Lleol, y polisi yn Sir y Fflint yw defnyddio ei bwerau A13A lle mae eithriadau/gostyngiadau Treth y Cyngor eraill wedi cael eu defnyddio a dim ond mewn achosion o drychinebau naturiol ac argyfyngau sifil. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ei bryderon er bod preswylwyr yn cael eu cyfeirio at y gefnogaeth briodol, bod y geiriad yn y polisi presennol ar ostyngiadau dewisol yn rhy eang a ddim yn cynnwys arweiniad eglur.  Awgrymodd bod y Pwyllgor hwn a’r Cabinet yn ystyried cyhoeddi arweiniad polisi eglur i helpu preswylwyr ac i roi syniad o’r lefelau o ostyngiad y dylid ei ddisgwyl gan rywun sydd wedi cael ei ddewis i wneud penderfyniad, er mwyn dangos tryloywder.

 

Hefyd dywedodd efallai y bydd yna nifer fechan o achosion ansolfedd gyda’r Cyngor yn brif gredydwr a bod yr unigolion hynny o bosib ymysg y preswylwyr mwyaf diamddiffyn ac yn debygol o wneud cais am Orchymyn Rhyddhad Dyledion a oedd hefyd yn golygu ffi weinyddol ychwanegol.   Fel ffordd arall i fynd o’i chwmpas hi fe awgrymodd y gellir dod i gytundeb gyda’r unigolion hynny i dalu rhan o gost y ffi i’r Cyngor gyda’r balans o’r ddyled yn cael ei dileu trwy gais A13A.  Byddai hyn yn golygu bod y Cyngor yn adennill cyfanswm bychan ychwanegol ac yn lleihau costau i’r sefydliad partner o ran symud ymlaen gyda’r Gorchymyn Rhyddhad Dyledion ac felly’n lleihau’r baich ariannol ar y trethdalwr.

 

Ar y sail hynny cynigodd bod y Cabinet yn adolygu ac yn llunio polisi cynhwysfawr ar a13A gan gymryd i ystyriaeth y sylwadau a godwyd yma ac i ymgynghori ar y polisi gyda Throsolwg a Chraffu.

 

Cefnogodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael y cynnig ar gyfer gwell eglurder ar y meini prawf polisi ar gyfer gostyngiadau dewisol.  Wrth ymateb i’r ail awgrym dywedodd fod dadansoddiad diweddar o sampl o geisiadau DRO ar gyfer Treth y Cyngor wedi nodi nad oedden nhw’n bodoli lle mai’r Cyngor oedd yr unig gredydwr.  Aeth ymlaen  ...  view the full Cofnodion text for item 17.

18.

Darparu gwasanaethau cyhoeddus yn yr 21ain ganrif: Gwasanaethau a Rennir pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        Ym mis Ebrill 2023, cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor ar ddulliau darparu amgen: “Darparu gwasanaethau cyhoeddus yn yr 21ain ganriftrosolwg”.  Yn y cyfarfod, gofynnwyd am adroddiad dilynol ar un dull darparu amgen arbennig (gwasanaethau arbennig)   Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o wasanaethau a rannir gydag enghreifftiau lleol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) adroddiad ar wasanaethau a rennir yn dilyn trafodaeth ym mis Ebrill a oedd yn archwilio’r buddion a’r cyfyngiadau o anfon gwaith allan ac/neu greu gwasanaethau a rennir fel ffordd o ddarparu gwasanaethau’r Cyngor.  Mae’r adroddiad wedi darparu rhagolwg cryno o wasanaethau a rennir ynghyd ag enghreifftiau lleol gan gynnwys astudiaeth achos ar Wasanaethau Caffael ar y cyd gyda Chyngor Sir Ddinbych.

 

Cafwyd cyflwyniad gan y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a’r Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar y Gwasanaeth Cynllunio Mwynau a Gwastraff a Rennir yng Ngogledd Cymru.  Yn ogystal â chynnwys manylion ar y profiadau o sefydlu gwasanaeth a rennir, fe amlygodd y cyflwyniad y buddion, heriau a’r hyn sydd wedi cael ei ddysgu.  O fod wedi rhannu â’r Royal Town Planning Institute and Minerals Planning Association for the UK yn ddiweddar cafodd ei gydnabod fel arfer dda ar gyfer gwasanaethau gydag adnoddau cyfyngedig.

 

Wrth groesawu’r cyflwyniad dyma’r Cadeirydd yn atgoffa’r Pwyllgor  o gefndir y cais ar gyfer yr eitem hon, yn arbennig i edrych ar rannu gwasanaethau swyddfa gefn fel yr ochr gyfreithiol, TGCh ac ati a oedd wedi gweithio’n dda yn y sector breifat.   Siaradodd am y buddion a’r heriau wrth ystyried rhannu adnoddau.

 

Cafodd ei sylwadau eu hailadrodd gan y Cynghorydd Bill Crease a gyfeiriodd at y posibilrwydd o ddatblygu ceisiadau TGCh safonol ar draws y sefydliad i gyflawni arbedion tymor byr.  Wrth gydnabod yr heriau o gytuno ar ddull unedig gydag awdurdodau eraill, fe roddodd enghreifftiau o le mae’n bosib gwneud arbedion ar y cyd.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i’r sylwadau a siaradwyd am yr amcan allweddol ar gyfer trefniadau ar y cyd i gyflawni gwell gwasanaethau gyda buddion ariannol.   Aeth ymlaen i ddweud bod y mwyafrif o’r costau gwasanaeth yn berthnasol i staff ac felly roedd lleihau nifer y staff yn un o’r prif ffyrdd o arbed costau drwy greu gwasanaethau a rennir.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at y cymhlethdodau ac awgrymwyd edrych ar enghreifftiau ar draws y DU.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Crease am ddull cyson ar draws portffolios i adnabod cyfleoedd y byddai’r Pwyllgor yn gallu eu goruchwylio’n rheolaidd.

 

Siaradodd y Cadeirydd am rôl y Pwyllgor a gofynnodd a byddai Aelodau’n dymuno derbyn gwybodaeth ar fentrau ar y cyd gan gynnwys enghreifftiau o awdurdodau yn cydweithio ar draws y rhanbarth.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at fodel gweithredu syml y Cyngor a’i sefyllfa ariannol bresennol ac ar gyfer y dyfodol, gan dynnu sylw at yr amser a’r adnoddau sydd ei angen i ddeall y goblygiadau a’r risgiau.    Dywedodd y byddai cyfleoedd yn parhau i gael eu harchwilio ac awgrymodd y byddai’n cyfathrebu gyda swyddogion i drefnu ar gyfer cyflwyniadau ar amrywiol themâu ar gyfer gwasanaethau/contractau i gael eu rhannu â’r Pwyllgor, ar y cyd â swyddogion perthnasol.

 

Cytunodd y Cadeirydd a gofynnodd fod swyddogion yn ymgysylltu ag ef ar hyn.   Cynigodd yr argymhelliad a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr  ...  view the full Cofnodion text for item 18.

19.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.