Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        Yn ystod y cyfarfod blynyddol penderfynodd y Cyngor y bydd y Grwp Annibynnol yn cadeirio’r cyfarfod Hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Richard Jones yw Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd cadarnhad yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Annibynnol.   Cafodd y Pwyllgor wybod fod y Cynghorydd Richard Jones wedi cael ei benodi i’r rôl ar gyfer blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penodiad y Cynghorydd Richard Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor.

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Bernie Attridge y Cynghorydd Bill Crease fel Is-gadeirydd y Pwyllgor, ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Jones.

 

Tynnwyd enwebiad y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ar gyfer y Cynghorydd Chris Dolphin yn ôl ar gais y Cynghorydd Dolphin.

 

Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill. Pan gafwyd pleidlais ar y mater cymeradwywyd yr enwebiad ar gyfer y Cynghorydd Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Bill Crease yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Bernie Attridge gysylltiad personol â chofnod rhif 7 (Diweddariad Diwedd Blwyddyn Cyflogaeth a’r Gweithlu) oherwydd aelodau teulu a gyflogir gan y Cyngor.

4.

Cofnodion pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 20 Ebrill 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2023, yn amodol ar gynnwys yr ymddiheuriad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Kevin Rush, fel y cynigiwyd ac eiliwyd gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiad, bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

5.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad ar gamau gweithredu a gododd o gyfarfodydd blaenorol a dywedodd fod y gweithdy ar Swyddfa’r Crwner wedi’i drefnu ar gyfer 13 Medi 2023.  Dywedodd hefyd fod y sylwadau a godwyd yn y cyfarfod blaenorol ar Gynllun y Cyngor wedi'u rhannu â'r Prif Swyddogion er mwyn gallu dosbarthu ymateb i'r Pwyllgor cyn i Gynllun y Cyngor gael ei gyflwyno i'r Cyngor ym mis Mehefin.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Kevin Rush a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.

6.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r rhaglen gwaith i’r dyfodol bresennol i’w hystyried, cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i holi ynghylch sylwadau’r Cynghorydd Bernie Attridge o ran cael diweddariad ar Gyd-bwyllgorau Corfforaethol.

 

Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

7.

Diweddariad Diwedd Blwyddyn am Gyflogaeth a'r Gweithlu pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        I gyflwyno ystadegau gweithlu diwedd blwyddyn a’u dadansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad diweddaru diwedd blwyddyn ar ystadegau a dadansoddiad y gweithlu ar gyfer 2022/23.

 

Rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) drosolwg o’r meysydd allweddol, gan gynnwys y cynnydd mewn trosiant staff a oedd yn bennaf oherwydd y farchnad lafur bresennol, a rhoi’r gorau i’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu lle’r oedd rhai gweithwyr wedi’u hadleoli’n llwyddiannus i swyddi eraill.

 

Cafwyd ychydig o welliant mewn presenoldeb o 2021/22, ac iechyd meddwl yw’r prif reswm o hyd dros absenoldebau, problemau cyhyrysgerbydol yn ail.  Nodwyd bod y gyfradd absenoldeb cyfwerth â llawn amser o 5.59% yn Sir y Fflint yn dilyn y duedd genedlaethol.  Nododd data diweddar a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol gyfradd absenoldeb uwch nag erioed yn y DU ers 2004, a nododd gyfraddau absenoldeb uchel ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus ym maes gofal, hamdden a gwasanaethau rheng flaen yn 2022/23.  Nododd y data hefyd fod cyflyrau iechyd hirdymor ar eu huchaf ers 2008.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor am yr ystod o ymyriadau a chefnogaeth sydd ar gael i weithwyr y Cyngor, tra'n nodi ffactorau eraill megis y nifer cynyddol o broblemau iechyd sy'n gysylltiedig ag oedran ac anghenion mwy cymhleth defnyddwyr gwasanaethau mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.  Yn ogystal, roedd ôl-groniad apwyntiadau meddygol allanol, asesiadau a thriniaethau mewn llawer o achosion yn estyn absenoldebau ac yn atal gweithwyr rhag dychwelyd i'r gwaith; problem sy’n berthnasol ledled y DU.

 

O ran gweithwyr asiantaeth, dywedwyd wrth yr Aelodau nad oedd pob un o'r 91 o leoliadau gweithredol a gofnodwyd ar 31 Mawrth 2023 yn ymgysylltu ac yn gweithio ar yr adeg honno.  Er bod gwariant cronnol ar asiantaethau wedi rhagori ar y targed, roedd y rhan fwyaf o'r tanwariant cyflog o nifer uchel o swyddi gwag yn y Gwasanaethau Stryd a Chludiant a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y cyfnod wedi'i ddefnyddio ar gyfer penodiadau asiantaeth.  Yn ogystal â chael diweddariad ar ymarferion recriwtio yn y Gwasanaethau Stryd, atgoffwyd yr Aelodau bod gweithwyr asiantaeth yn adnodd hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau'r Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Bernie Attridge, rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol enghreifftiau o fanteision defnyddio gweithwyr asiantaeth ochr yn ochr â'r broses recriwtio.  O ran presenoldeb, nid oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod gweithio gartref yn cyfrannu at absenoldebau a byddai arolwg pellach i weithwyr yn helpu i nodi unrhyw broblemau.  Eglurwyd bod mwyafrif helaeth y staff yn gweithio yn eu gweithle arferol, gan gynnwys Gwasanaethau Stryd a Chludiant a Gofal Cymdeithasol, sef y cofnod uchaf o absenoldebau.

 

Meddai’r Prif Weithredwr, er gwaethaf ymyrraeth gynnar gan y tîm Iechyd Galwedigaethol i gefnogi gweithwyr sy'n dychwelyd i'r gwaith, roedd adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn adlewyrchu effaith genedlaethol ôl-groniad apwyntiadau meddygol allanol.  Dywedodd ei bod yn bwysig deall y gofyniad sylfaenol ar gyfer gweithwyr asiantaeth mewn gwasanaethau rheng flaen fel y Gwasanaethau Stryd, a siaradodd am gynlluniau i symleiddio'r broses ymgeisio ar gyfer y gweithwyr asiantaeth hynny sydd wedi bod mewn swyddi gwag ers nifer o fisoedd.

 

Awgrymodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor ysgrifennu at Lywodraeth  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.