Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

90.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

91.

Cofnodion pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 9 Mawrth 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2023, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Bill Crease a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

92.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu sy’n codi o’r cyfarfodydd blaenorol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Allan Marshall a Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.

93.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y rhaglen gwaith i’r dyfodol gyfredol i’w hystyried a nodi’r newidiadau canlynol:

 

·         Adroddiad Alldro’r Gyllideb Refeniw a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 - yn cael ei symud o fis Mai i fis Gorffennaf

·         Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 Mis 1 yn cael ei symud o fis Mehefin i ganiatáu ar gyfer Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw Dros Dro 2023/24 ym mis Gorffennaf.

 

Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bill Crease a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

94.

Adroddiad Effaith Cronfeydd Sir y Fflint 2022 pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Rhannu Adroddiad Effaith Cronfeydd Sir y Fflint, 2022, a luniwyd gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru (CFIW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adroddiad Effaith Cronfeydd Sir y Fflint ar gyfer 2022 a oedd yn amlinellu’r cynnydd a wnaed gyda Chronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint a Chronfa’r Degwm Deiran, ac roedd y ddau wedi cael eu gweld gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

 

Cyflwynwyd y Pwyllgor i Andrea Powell o Sefydliad Cymunedol Cymru a roddodd gyflwyniad byr ar y meysydd canlynol, fel yr atodwyd i’r adroddiad:

 

·         Cyflwyniad

·         Y wybodaeth ddiweddaraf yn cynnwys dosbarthu grantiau

·         Hanes a Throsolwg o’r Gronfa

·         Perfformiad Ariannol

·         Astudiaethau Achos

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, rhoddwyd eglurhad ar aelodaeth y panel grantiau a dosbarthu dyfarniadau.   Cadarnhawyd hefyd bod polisïau buddsoddi moesegol yn addasu yn y tymor hwy i gefnogi newid hinsawdd.

 

Croesawodd y Cadeirydd y cyflwyniad a’r astudiaethau achos sy’n cyd-fynd, a oedd yn tynnu sylw at y buddion i unigolion a grwpiau.

 

Adleisiwyd ei sylwadau gan y Cynghorydd Paul Johnson a gyfeiriodd at waith ‘Emerge Community Arts’, un o’r grwpiau a oedd wedi elwa o grant.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Rob Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried cynnwys Adroddiad Effaith Cronfeydd Sir y Fflint 2022, bod y Pwyllgor yn cefnogi gwaith Sefydliad Cymunedol Cymru.

95.

Cynllun y Cyngor 2023-28 pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Rhannu cynnwys drafft Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 er mwyn ceisio adolygiad/adborth cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar flaenoriaethau, is-flaenoriaethau ac amcanion lles wedi’u hadnewyddu yng Nghynllun y Cyngor 2023-28, a oedd yn adlewyrchu golwg hirdymor ar adferiad, prosiectau ac uchelgeisiau dros y cyfnod.  Roedd Rhan 2 o Gynllun y Cyngor yn cael ei ystyried gan bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i sicrhau darpariaeth lawn o Ran 1 a’i fesurau a thargedau priodol, cyn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir.

 

O dan Amgylcheddau Dysgu, tynnodd y Cynghorydd Bill Crease sylw at ddatblygu strategaeth moderneiddio ysgolion o fewn ardal Saltney erbyn mis Mawrth 2024.  Cyfeiriodd at gynlluniau gwaith blaenorol yn Ysgol Uwchradd Dewi Sant nad oedd wedi’u datblygu oherwydd materion yngl?n â’r safle a nododd yr angen brys i ddatblygu cynigion pellach i wella’r amodau yn yr ysgol. 

 

Nododd y Prif Weithredwr bwynt penodol o ran cyflwr y to gan atgoffa’r Pwyllgor bod gan yr ysgol y dewis i ddefnyddio ei gyllidebau dirprwyedig i wneud gwaith atgyweirio cyn i fân atgyweiriadau fynd yn rhai sylweddol sydd angen ymyrraeth gan yr AALl.   Ar y mater penodol yngl?n â’r strategaeth moderneiddio ysgolion, ac yn fwy penodol Ysgol Uwchradd Dewi Sant Saltney, cytunodd y Prif Weithredwr i gyfeirio’r mater at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant.

 

O dan Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd, gofynnodd y Cynghorydd Sam Swash pam nad oedd cyfeiriad at y ddeddfwriaeth sydd ar fin dod i rym ar gynghorau yn sefydlu eu cwmnïau bysiau trefol eu hunain wedi’i gynnwys yn y camau gweithredu ar gyfer yr is-flaenoriaeth Dewisiadau Teithio Llesol a Chynaliadwy.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd unrhyw wybodaeth bellach ar y newidiadau wedi dod i law eto gan Lywodraeth Cymru.   Cytunodd y gellir cynnwys rhywfaint o gyfeiriadau ac y byddai’n cyfeirio’n ôl at y Prif Swyddog.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol gan y Cadeirydd i’w cyfeirio at y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol a’r Cabinet:

 

·         Adolygu’r rhesymeg dros symud yr is-flaenoriaethau ar Eiddo Gwag, Ynni Adnewyddadwy a Gwario Arian er Budd Sir y Fflint.

·         Tlodi Incwm - ystyried amserlenni’r camau gweithredu, yn enwedig pwynt bwled rhif 7 ar wneud y mwyaf o’r hawl i fudd-dal.

·         Tlodi Plant - egluro sut y gellir rheoli a mesur canlyniadau lle defnyddir cyllid grant allanol.

·         Cymorth Tai ac Atal Digartrefedd - os ellir ystyried bod y geiriad diwygiedig i sicrhau bod digartrefedd “yn brin, byr ac anghylchol” yn gostwng y targed hwnnw. 

·         Cyngor Di-garbon Net - ystyried a ddylid defnyddio’r geiriad ar gyfer camau gweithredu sy’n “ganolog i adferiad Covid-19” ar gyfer y Cynllun pum mlynedd hwn.

·         Addasu Newid Hinsawdd - ymholiad yngl?n â sut y gellir rheoli a mesur Rheoli Perygl Llifogydd os byddai’r gwasanaeth hwn yn cael ei roi i ddarparwr allanol a hefyd dim sôn am brosiectau ynni adnewyddadwy.

·         Cysylltedd Trafnidiaeth - anghytuno gyda’r ail bwynt bwled ar gefnogi’r gwaith o sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

·         Byw’n Annibynnol - eglurder o ran sut y gellir mesur bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

·         Diogelu - cwestiynu’r cyfnod hir i baratoi at weithredu’r gweithdrefnau Trefniadau Amddiffyn Rhyddid newydd.  ...  view the full Cofnodion text for item 95.

96.

Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 11) pdf icon PDF 77 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 11) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol sefyllfa  monitro cyllideb refeniw 2022/23 ym mis 11 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, cyn i’r Cabinet ei hystyried.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa ddisgwyliedig ar ddiwedd y flwyddyn yn golygu fod yna £2.106miliwn dros ben (ac eithrio effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n dod o’r cronfeydd wrth gefn).  Byddai hyn yn gadael balans cronfa wrth gefn at raid o £8.364miliwn ar ddiwedd y flwyddyn sy’n cynnwys cost ychwanegol yn ystod y flwyddyn o £3.955miliwn ar gyfer dyfarniadau cyflog 2022/23 hyd yma a £2.4miliwn o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a drosglwyddwyd o ddyraniad cynnal refeniw ychwanegol 2021/22, a gymeradwywyd ym mis Rhagfyr 2022.  Roedd y symudiadau sylweddol o fis 10 yn bennaf o ganlyniad i newidiadau i gyllid grant ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r dyraniad o’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol a gafodd effaith gadarnhaol ar y sefyllfa gyda Lleoliadau y tu Allan i’r Sir.  Roedd y symudiad cadarnhaol mewn Cyllid Canolog a Chorfforaethol oherwydd incwm annisgwyl unwaith yn unig o arbedion Ardrethi Annomestig a lleihad pellach mewn costau benthyca byrdymor o Fenthyciadau Canolog a’r Cyfrif Buddsoddiadau, yn ychwanegol at gynyddu incwm o fuddsoddiad dros dro o ganlyniad i gyfraddau llog banciau yn codi.   Roedd nifer o geisiadau i gario cyllid drosodd i 2023/24, a oedd yn dod i gyfanswm o £1.4miliwn ar draws portffolios, fel y nodir yn Atodiad 6.

 

Roedd crynodeb o risgiau yn ystod y flwyddyn a gafodd eu holrhain yn nodi’r sefyllfa bresennol o ran lefelau casglu Treth y Cyngor a’r dyfarniadau cyflog, ynghyd â risgiau eraill fel tâl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff, lle arhoswyd am benderfyniad gan Lywodraeth Cymru.

 

Roedd diweddariad ar gronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi yn nodi bod y balans presennol ar yr Arian Wrth Gefn Brys Covid-19 yn £3.610miliwn, i’w ddefnyddio i fodloni’r costau sy’n gysylltiedig â Covid a galwadau ehangach.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £2.839miliwn yn uwch na’r gyllideb, a fyddai’n gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.635miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellwyd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Sam Swash a’r Cadeirydd ar y tâl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff, eglurwyd bod gorchymyn wedi’i roi i’r Cyngor a bod trafodaethau yn parhau er mwyn sefydlu’r gosb a roddir.   Byddai’r risg yn cael ei asesu fel rhan o ymrwymiadau diwedd y flwyddyn yn nhermau dyrannu arian at raid yn y cyfrifon gan ddibynnu ar ganlyniad y trafodaethau hynny.

 

Fel y gofynnwyd yn flaenorol, gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd i adroddiadau yn y dyfodol gynnwys eglurhad ar y symudiadau (waeth pa mor fach) mewn cyllidebau cymeradwy i ychwanegu eglurder.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y diwygiwyd i adlewyrchu’r ddadl, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Rob Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (mis 11), bod y Pwyllgor yn dymuno bod y risg o ran y tâl posibl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff  ...  view the full Cofnodion text for item 96.

97.

Darparu gwasanaethau cyhoeddus yn yr 21ain ganrif - trosolwg pdf icon PDF 125 KB

Pwrpas:        I edrych ar fanteision a chyfyngiadau contractau allanol a/neu greu gwasanaethau a rannir fel modd o ddarparu gwasanaethau’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i archwilio manteision a chyfyngiadau contractau allanol a/neu greu gwasanaethau a rannir fel modd o ddarparu gwasanaethau’r Cyngor, fel y gofynnwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor.

 

Cyflwynwyd y Pwyllgor i Kelly Oldham-Jones, Swyddog Gweithredol Strategol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau), a roddodd trosolwg o’r prif feysydd yn yr adroddiad.   Eglurodd, yn ychwanegol at grynhoi detholiad ehangach o fodelau cyflawni amgen, roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at egwyddorion craidd ehangach a gofynion deddfwriaethol y dylid eu hystyried.   Wrth osod dull y Cyngor, cyfeiriwyd at y meini prawf allweddol - yn cynnwys canllawiau Llywodraeth Cymru - a’r angen i ddatblygu bob model i fodloni anghenion penodol a gyda’r adnoddau priodol i’w gweithredu, fel y dangoswyd yn yr enghreifftiau a rennir.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod rheoli gwasanaethau’r swyddfa gefn o leoliad canolog i gyflawni arbedion cost yn gweithio’n dda yn y sector preifat, gan gydnabod yr effaith ar staff, ac awgrymodd adroddiad pellach i ystyried dewisiadau ar gyfer y Cyngor ac effeithiau posibl.

 

Wrth dynnu sylw at yr Uned Caffael ar y Cyd fel gwasanaeth a rennir gyda Chyngor Sir Ddinbych, dywedodd y Prif Weithredwr y dylid cydnabod bod lefel sylweddol o waith wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf i drawsnewid gwasanaethau, yn cynnwys diogelu gwasanaethau ar gyfer cymunedau trwy Fodelau Cyflawni Amgen a Throsglwyddiadau Asedau Cymunedol.   Felly, dylai dealltwriaeth o’r manteision i’r Cyngor a’i bartneriaid fod yn ystyriaeth allweddol ar gyfer y dewisiadau ar gyfer gwasanaethau a rennir.

 

Bu i’r Cadeirydd gydnabod y cymhlethdodau sydd ynghlwm ac awgrymodd bod y Pwyllgor yn nodi un dewis er mwyn gallu rhannu adroddiad manwl i ystyried y goblygiadau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson ei fod yn bwysig bod unrhyw newid yn gwella’r gwasanaeth hwnnw.

 

Wrth sôn am y rhestr gynhwysfawr o ddewisiadau a rennir yn yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Bill Crease y dylai craffu ar gynigion a dadansoddiad cost i ddeall y buddion ddod yn ddiwylliant sy’n cael ei fewnosod ar draws y sefydliad. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y dylai unrhyw ystyriaethau roi sylw dyledus i feini prawf allweddol fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a hawliau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth.[1]  Mewn ymateb i’r sylwadau a godwyd, rhoddodd sicrwydd i Aelodau bod ystyriaeth yn cael ei roi i hyfywedd modelau priodol.

 

Cynigodd y Cadeirydd ddiwygiad i’r argymhellion i adlewyrchu’r ddadl.   Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r modelau gwahanol y gellir eu defnyddio fel modelau amgen i ddarparu gwasanaethau;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cydnabod y ffactorau ehangach, fel paramedrau deddfwriaethol ac egwyddorion craidd, sydd angen cael eu harsylwi wrth ystyried darparu gwasanaethau trwy fodelau cyflawni amgen;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd bod y Cyngor yn ystyried yr holl fodelau cyflawni amgen priodol, a manteision a chyfyngiadau’r rhain, fel rhan o werthuso dewisiadau ehangach wrth adolygu gwasanaethau; a

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad yn y dyfodol ar wasanaethau a rennir yn y dyfodol.



[1]Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth)

98.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd ac eiliwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd gan y Cynghorwyr Allan Marshall a Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

99.

Cynllun Busnes NEWydd 2023/24

Pwrpas:        Cyflwyno Cynllun Busnes Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf 2023/24 i’w gymeradwyo.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr y Cynllun Busnes blynyddol 2023/24 ar gyfer Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf i’w ystyried cyn ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth ffurfiol.

 

Rhoddodd Steve W Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf, grynodeb o elfennau allweddol y Cynllun Busnes ynghyd â phwysau ariannol a nodwyd ar gyfer 2023/24 gyda chamau lliniaru cysylltiedig. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, rhoddodd y Rheolwr Gyfarwyddwr a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Masnachol a Thai) eglurhad ar y cyfrifoldebau a’r trefniadau ariannol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Rob Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r risgiau strategol sy’n wynebu’r busnes a’r Cynllun Busnes 2023/24, sy’n cynnwys lliniaru’r risgiau a nodwyd, ac yn canmol y Cynllun Busnes i’r Cabinet.

100.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.