Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

74.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

75.

Cofnodion pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Ionawr 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2023, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Linda Thomas a Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD: 

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

76.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu a oedd yn codi o’r cyfarfodydd blaenorol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Kevin Rush a Jason Shallcross.

 

PENDERFYNWYD: 

 

Y byddai’r Pwyllgor yn nodi'r cynnydd a wnaed.

77.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried, gan gynnwys eitemau i’w dyrannu ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol.

 

Yn dilyn awgrymiadau gan y Cadeirydd, bydd adroddiad ar yr adolygiad o’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn cael ei drefnu ar gyfer mis Medi 2023.  Bydd adroddiad i egluro gofynion statudol ac anstatudol fel rhan o’r broses o osod y gyllideb hefyd yn cael ei drefnu.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Chris Dolphin.

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

78.

Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd - Adroddiad Diweddaru pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        I rannu diweddariad ar y sefyllfa bresennol o ran dyled hirdymor gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers yr adroddiad diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) adroddiad ar y wybodaeth ddiweddaraf am y ddyled hirdymor gyfredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), mewn perthynas â darparu pecynnau Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn Sir y Fflint ers yr adroddiad diwethaf ym mis Rhagfyr 2022.

 

Dangosodd dadansoddiad o’r sefyllfa ddiwedd Ionawr 2023 anfonebau heb eu talu a oedd yn dod i gyfanswm o £0.666 miliwn, gan gynnwys £0.127 miliwn yn ddyledus i’w ad-dalu o fewn yr wythnosau nesaf.  Ers mis Rhagfyr 2022, llwyddodd y broses gymrodeddu annibynnol rhwng y Cyngor a BIPBC i adennill £0.114 miliwn o hen ddyled, gan adael £0.327 miliwn i’w drafod drwy drefniadau cymrodeddu a fydd yn ailgychwyn cyn bo hir yn dilyn oedi dros dro yn sgil absenoldebau.  Roedd lefel y ddyled weithredol oedd yn weddill, sef £0.211 miliwn, yn welliant o 15.65% ar yr hyn yr adroddwyd arno ym mis Rhagfyr.

 

Wrth groesawu’r cynnydd, diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion a’r Pwyllgor am eu rhan yn y gwaith o gyrraedd y sefyllfa hon.  Fodd bynnag, pwysleisiodd bod y £0.327 miliwn yn risg bosib pe bai’r broses gymrodeddu’n methu â datrys yr anfonebau hyn.

 

Adleisiwyd ei sylwadau gan y Cynghorydd Bill Crease.

 

Bu i’r Cynghorydd Paul Johnson gydnabod rôl y Pwyllgor o ran codi ymwybyddiaeth o’r mater, a thalodd deyrnged i’r swyddogion a BIPBC am eu cyfraniad.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Jason Shallcross a Kevin Rush.

 

PENDERFYNWYD: 

 

Y byddai’r Pwyllgor yn nodi’r gwaith rheoli cyllideb rhagweithiol parhaus o ran yr anfonebau heb eu talu a godwyd gan y Cyngor i’w talu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

79.

Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 9) a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Mis 9) pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 9), Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Mis 9) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) sefyllfa  monitro cyllideb refeniw 2022/23 ym mis 9 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn i’r Cabinet ei hystyried.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau ac/neu wella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau - oedd diffyg gweithredol o £0.117 miliwn.  Byddai hyn yn gadael balans cronfa wrth gefn at raid o £6.464 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn (ar ôl effaith y dyfarniadau cyflog terfynol) ac yn cynnwys £2.432 miliwn wedi’i drosglwyddo o’r dyraniad Cynnal Refeniw ychwanegol a dderbyniwyd ar ddiwedd 2021/22, fel yr adroddwyd ym mis 8.

 

Cafwyd crynodeb o symudiadau sylweddol ar draws portffolios o fis 8, ynghyd â cheisiadau i ddwyn arian ymlaen ar gyfer offer gweinydd newydd i ysgolion, a chais am gyllid o’r Gronfa wrth Gefn at Raid i dalu costau achos cyfreithiol arwyddocaol o fewn y Gwasanaethau Plant.   Er i’r gwaith olrhain risgiau o fewn y flwyddyn adrodd am y sefyllfa bresennol gyda lefelau casglu Treth y Cyngor a dyfarniadau cyflog, roedd effaith y galw uwch am Leoliadau y Tu Allan i’r Sir a chludiant ysgol yn cael ei fonitro’n agos i ganfod yr effaith yn y tymor canolig.  Tynnwyd sylw at bwysau a oedd yn dod i’r amlwg, fel costau cynnal a chadw’r gaeaf a’r Tâl am Dorri Rheolau Ailgylchu Gwastraff, ynghyd â balansau diwedd blwyddyn a ragwelwyd ar gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant a ragwelir o £3.208 miliwn yn fwy na’r gyllideb yn ystod y flwyddyn, yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.266 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellwyd.

 

Mewn ymateb i bryderon gan y Cynghorydd Bill Crease am y gostyngiad a ragwelir ym malansau’r ysgolion ar ddiwedd y flwyddyn, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y rhain wedi’u seilio ar wybodaeth leol swyddogion sy’n gweithio gyda’r ysgolion, ac y gallai grantiau hwyr gael effaith arnynt, ond ni fyddai’r symiau penodol yn hysbys nes cau’r cyfrifon.

 

Bu i’r Cadeirydd gydnabod y symudiadau amrywiol sy’n cyfrannu at y symudiad cadarnhaol o £0.235 miliwn o fis 8.  Mewn ymateb i gwestiynau, cytunodd y swyddogion i ymateb ar wahân ar symudiad costau gofal tymor byr o’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol ac ar gydbwyso’r mân amrywiadau a ddangosir yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn y Cadeirydd am reoli’r risg o amgylch Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, eglurodd y Prif Weithredwr a’r Cynghorydd Christine Jones fod buddsoddiad yng Nghanolfan Asesu Plant T? Nyth a Pharc Bromfield yn llunio rhan o strategaeth ehangach i ddatblygu darpariaeth fewnol a fyddai’n cyfrannu at leihau’r pwysau hynny.

 

Y Rhaglen Gyfalaf

 

Y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2022/23 oedd £71.565 miliwn, gan ystyried yr holl symiau a ddygwyd ymlaen ac arbedion a drosglwyddwyd yn ôl i’r rhaglen.  Roedd newidiadau yn ystod y cyfnod wedi digwydd yn bennaf oherwydd cyflwyno ffrydiau ariannu grant ar draws  ...  view the full Cofnodion text for item 79.

80.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.