Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

52.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

53.

Cofnodion pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 17 Tachwedd 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2022, fel y’i cynigiwyd a’u heilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Linda Thomas, yn amodol ar ail-eirio sylwadau’r Cadeirydd ar yr eitem ar ofal a ariennir ar y cyd (cofnod 45)

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiad, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

54.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y wybodaeth ddiweddaraf ar y camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol gan ddweud bod ymateb i’r ymholiad ar y pecynnau gofal a ariennir ar y cyd wedi’i ddosbarthu yn union cyn y cyfarfod.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Linda Thomas a'i eilio gan y Cynghorydd Kevin Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.

55.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y rhaglen gwaith i'r dyfodol i’w hystyried a dywedodd y byddai’r adroddiad perfformiad canol blwyddyn yn dod gerbron y cyfarfod nesaf hefyd. Cytunodd i adolygu fformat y ddogfen o ran dyddiadau cyflwyno.

 

Yn dilyn cyngor gan y Prif Swyddog  (Llywodraethu) ar gais y Cadeirydd am adroddiad ar y fenter Well Fed, cytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn cysylltu â’r swyddogion a Chadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai i benderfynu ble fyddai’r lle gorau i’w ddyrannu.

 

Ar y sail honno, cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Kevin Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

56.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr argymhelliad i wahardd y wasg a’r cyhoedd ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Vicky Perfect.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, eglurodd y Prif Swyddog  (Llywodraethu) y byddai angen trafod yr eitem gyfan mewn sesiwn gaeedig oherwydd natur y wybodaeth yn yr adroddiad a’r atodiad, a’r posibilrwydd o drafodaethau ehangach ar unrhyw gynigion pellach. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan fod yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried yn wybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 15 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

57.

Cyllideb 2023/24 - Cam 2

Pwrpas:        Bod y Pwyllgor yn adolygu a rhoi sylw ar bwysau cost a’r strategaeth gyffredinol ar gyfer y gyllideb, a chynghori ar unrhyw feysydd o effeithlonrwydd cost yr hoffent edrych arnynt ymhellach.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa ddiweddaraf Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2023/24 yn dilyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a’r broses ffurfiol o osod cyllideb.

 

Roedd Cam 1 y broses gyllideb wedi sefydlu gwaelodlin gadarn o bwysau costau ar draws y portffolios, a rannwyd mewn sesiynau briffio i Aelodau. Fel rhan o Gam 2, roedd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu r?an yn cael eu gwahodd i adolygu pwysau costau yn fanwl, oedd yn cyfrannu at y gofynion ychwanegol yng nghyllidebau eu portffolios ynghyd ag opsiynau ar gyfer lleihau costau portffolios.   Atgoffwyd Aelodau bod y sefyllfa ddiweddaraf a adroddwyd i’r Cabinet ym mis Tachwedd yn cynghori y gallai risgiau sy’n weddill gynyddu’r gofyniad cyllideb ychwanegol i tua £32 miliwn. Oherwydd maint y bwlch posibl yn y gyllideb, gofynnwyd i bob gwasanaeth ddynodi opsiynau i reoli eu gwasanaethau ar gyllideb lai. Yn ogystal â chael trosolwg o opsiynau lleihau’r gyllideb i bob portffolio, gwahoddwyd y Pwyllgor i adolygu datrysiadau mewn Gwasanaethau Corfforaethol ac Asedau a nodi unrhyw feysydd effeithlonrwydd cost pellach y gellid eu harchwilio. 

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y setliad dangosol i Sir y Fflint yn gynnydd o tua £19.5 miliwn (8.4%), ac er ei fod yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, ni fydd yn debygol o fodloni ond tua 50% o bwysau costau’r Cyngor.     Roedd y goblygiadau a’r meysydd risg sy’n weddill yn cael eu hadolygu i roi diweddariad ar lafar i’r Cabinet ar 20 Rhagfyr cyn adrodd yn ffurfiol ym mis Ionawr. Bydd y sefyllfa ddiweddaraf yn cael ei hadrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 12 Ionawr ynghyd ag adborth o bob sesiwn Trosolwg a Chraffu a byddai ar agor i bob Aelod. Byddai cynigion cyllideb terfynol, yn cynnwys gosod treth y cyngor, yn dilyn ym mis Chwefror.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr, y Prif Swyddog  (Llywodraethu), y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) a’r Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) gyflwyniad manwl yn trafod pwysau costau mewn Gwasanaethau Corfforaethol ac Asedau, fel a ganlyn:

 

·         Pwrpas a Chefndir

·         Atgoffa am Sefyllfa Gyllideb y Cyngor

·         Pwysau costau corfforaethol / Gostyngiadau yn y gyllideb / Effeithlonrwydd yn y gorffennol:

o   Llywodraethu

o   Pobl ac Adnoddau

o   Asedau

o   Prif Weithredwr

o   Canolog a Chorfforaethol

·         Y Camau Nesaf

 

Yn dilyn y cyflwyniad, ymatebodd swyddogion ac Aelodau’r Cabinet i gwestiynau a sylwadau gan y Pwyllgor. Ar gais y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, cytunodd y Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) i roi mwy o wybodaeth i’r Pwyllgor am yr asedau amaethyddol oedd wedi cyfrannu at y pwysau costau.

 

Diolchodd y Cynghorydd Dave Hughes i Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr am eu hymdrechion o ran y setliad dangosol positif ac awgrymodd efallai y byddai’r Pwyllgor yn dymuno gwneud hynny’n ffurfiol, ynghyd â Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru. Diolchodd i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i dîm am eu gwaith gwerthfawr.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts mai ymdrechion holl swyddogion ac Aelodau’r Cyngor cyfan oedd wedi arwain at y canlyniad o ran y setliad.  ...  view the full Cofnodion text for item 57.

Fe fydd y cyfarfod yn parhau mewn sesiwn gyhoeddus ar ôl ystyried Eitem 6 ar y Rhaglen

Dogfennau ychwanegol:

58.

Gwaith Swyddfa'r Crwner pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        I dderbyn cyflwyniad gan John Gittins ar waith Swyddfa’r Crwner.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gefndir i waith Crwner Gogledd Cymru (Dwyrain a’r Canol) a'r gwaith a wnaed ar ran Cynghorau yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i John Gittins, Uwch Grwner Ei Fawrhydi i Ogledd Cymru, y Dwyrain a’r Canol, i roi ei gyflwyniad blynyddol yn cynnwys y canlynol:

 

·         Hanes y Crwner

·         Gorchymyn Gogledd Cymru (Dwyrain a’r Canol) (Rhanbarth Crwner) 2012

·         Swyddog Barnwrol Annibynnol a ariennir gan awdurdodau lleol

·         Swydd freintiedig iawn

·         Ystadegau 2021

·         Cefnogaeth

·         Y Gyfraith / Y Groesffordd / Ymchwiliad / Y Cwest

·         Pwerau’r Crwner – Atodlen 5 / Goblygiadau

·         Atal marwolaethau yn y dyfodol

·         Achosion nodedig diweddar

·         Materion parhaus

·         Y Llys

·         Swyddi a chyfrifoldebau eraill

 

Roedd y cyflwyniad yn nodi’r ystod eang o bwerau a chyfrifoldebau sydd gan y Crwner; ynghyd ag enghreifftiau o achosion sy’n amlygu fod angen cydbwyso dyngarwch â’r ddyletswydd i ymchwilio.

 

Wrth ymateb i gwestiynau, eglurodd John Gittins ystod o faterion yn cynnwys ei rôl farnwrol, effaith achosion a gyhoeddwyd ar draws y DU a darpariaeth mynwentydd.

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i rannu manylion cyswllt swyddfa’r Crwner â’r Pwyllgor.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Paul Johnson y byddai’n well cael diweddariad blynyddol am waith y Crwner mewn gweithdy anffurfiol, ble gallai pob Aelod elwa.   Croesawyd yr awgrym gan John Gittins.

 

Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i Mr. Gittins am fynychu ac am ei gyflwyniad manwl. Cynigiodd yr awgrym i gynnal gweithdy ynghyd â’r argymhelliad yn yr adroddiad, ac eiliodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn diolch i’r Crwner am ei waith ac yn cael rhagor o adroddiadau yn flynyddol; a

 

(b)       Bod y cyflwyniad blynyddol ar waith y Crwner yn cael ei gynnal mewn gweithdy i’r holl Aelodau yn y dyfodol.

59.

Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd - Adroddiad diweddaru pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        I rannu diweddariad llafar ar y sefyllfa bresennol o ran dyled hirdymor gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers yr adroddiad diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a’r Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) ddiweddariad ar y ddyled sydd heb ei thalu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) o ran darparu pecynnau Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn Sir y Fflint.

 

Roedd gwaith yn parhau drwy’r camau y cytunwyd arnynt, uwchgyfeirio a chyfarfodydd i ddatrys unrhyw oedi wrth brosesu anfonebau sydd heb eu talu a godwyd gan y Cyngor i’w talu gan BIPBC.  Ar 6 Rhagfyr 2022, roedd gwerth £0.835 miliwn o anfonebau heb eu talu, a dylai rhai ohonynt gael eu talu yn yr wythnosau nesaf. Roedd y £0.441 miliwn sy’n weddill yn anfonebau sydd heb eu datrys, fyddai’n cael eu cyflwyno i’w datrys drwy gymrodeddu annibynnol yn dilyn awgrym Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid BIPBC. Ers cyhoeddi’r adroddiad, roedd cynnydd pellach wedi helpu i leihau’r ddyled hirdymor i £0.251 miliwn.

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, eglurodd swyddogion delerau’r broses cymrodeddu annibynnol a siaradodd y Cynghorydd Christine Jones am ei rhan hi yn y mecanwaith adrodd.

 

Roedd y Cynghorydd Paul Johnson yn croesawu’r diweddariad a diolchodd i swyddogion y Cyngor a chydweithwyr o BIPBC am eu hymdrechion ar y cyd i gyrraedd y sefyllfa hon.

 

O ran diweddariadau yn y dyfodol, awgrymodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y dylai’r adroddiad nesaf ddod ym mis Chwefror 2023 i roi amser i’r broses gymrodeddu. Cytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn gweithio gyda’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i drefnu’n briodol.

 

Roedd y Cadeirydd yn croesawu’r cynnydd a wnaed ers i’r eitem gael ei chodi i ddechrau. Gofynnodd a fyddai’n bosibl i’r diweddariad nesaf ddangos a oedd yr anfonebau sydd heb eu talu yn rhai newydd neu hanesyddol a bod y rhestr a rannwyd yn y cyfarfod blaenorol yn cael ei diweddaru a’i dosbarthu i ddangos y sefyllfa ddiweddaraf.

 

Rhoddodd yr Uwch Reolwr ddadansoddiad o’r dyddiadau bras a gwerth yr anfonebau sydd heb eu talu ar hyn o bryd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bill Crease yr argymhelliad, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Sam Swash.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar reoli cyllideb ragweithiol o anfonebau heb eu talu a godwyd gan y Cyngor ar gyfer eu talu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

60.

Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 7) pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 7) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw fel yr oedd ym Mis 7 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn – heb unrhyw gamau gweithredu newydd i leihau pwysau costau a/neu wella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd a rheoli cost – oedd diffyg gweithredol o £0.094 miliwn (heb gynnwys effaith dyfarniad tâl i gael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), gan adael balans cronfa wrth gefn o £4.055 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn ar ôl ystyried effaith dyfarniad tâl.

 

Rhoddwyd diweddariad ar gymhwyster ar gyfer ceisiadau Cyllid Caledi Llywodraeth Cymru a lefel bresennol Cronfeydd Covid-19 Brys Wrth Gefn  (fel mesur i ddiogelu yn erbyn effeithiau parhaus y pandemig). Cafodd symudiadau sylweddol ar draws portffolios o fis 6 eu crynhoi yn cynnwys ceisiadau am ddwyn arian ymlaen mewn Tai a Chymunedau. Adroddodd y gwaith olrhain risgiau o fewn y flwyddyn ar effaith y dyfarniad tâl yn dilyn cadarnhau dyfarniad cyflog athrawon ar 5%.

 

Yn y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant arfaethedig o £3.321 miliwn yn fwy na’r gyllideb yn ystod y flwyddyn yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.153 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellir.

 

Ar y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor, gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am wybodaeth am faint y gordaliadau oedd yn ddyledus, ynghyd â’r cyfraddau adfer disgwyliedig a gwirioneddol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 7), bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oedd yna faterion oedd angen eu codi gyda’r Cabinet y tro hwn.

61.

Llythyr Blynyddol 2021-22 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chwynion a wnaed yn erbyn Gwasanaethau Cyngor Sir y Fflint yn hanner cyntaf 2022-23 (Ebrill-Medi 2022) pdf icon PDF 189 KB

Pwrpas:        Rhannu Llythyr Blynyddol 2021-22 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o’r cwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio o’r Cyngor rhwng y cyfnodEbrill – 30 Medi 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad i rannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru oedd yn crynhoi perfformiad y Cyngor ar y cwynion a ymchwiliwyd iddynt yn 2021-22.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid fod y cynnydd mewn cwynion newydd a wnaed yn erbyn y Cyngor yn 2021/22 yn adlewyrchu’r tueddiad yn genedlaethol a bod y mwyafrif wedi cael eu cau oherwydd eu bod y tu hwnt i awdurdodaeth y Cyngor, yn gynamserol neu wedi eu cau ar ôl ystyriaeth gychwynnol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Tynnodd sylw at effaith cwynion oedd yn cael eu dyblygu a dywedodd fod camau i annog defnyddio trefn gwyno’r Cyngor yn helpu i leihau nifer y cwynion cynamserol at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y rhaglen hyfforddiant gorfodol ac adolygiad o’r Polisi Rheoli Cyswllt â Chwsmeriaid.  Roedd trosolwg o’r cwynion yn erbyn gwasanaethau’r Cyngor rhwng 1 Ebrill  a 30 Medi 2022 yn dangos gwelliant cyson mewn perfformiad cwynion ar draws pob portffolio.

 

O ran y camau sy’n cael eu cymryd i wella’r ffordd o ymdrin â chwynion, roedd y Cynghorydd Bill Crease yn croesawu’r gwaith o ddatblygu pecyn gwaith i ysgolion ac Aelodau etholedig am sut i reoli ymddygiad annerbyniol ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson y dylai diweddariadau yn y dyfodol adlewyrchu cyfran y cwynion sy’n cael eu cadarnhau yn erbyn cyfartaledd Cymru ac y dylid cynnwys dadansoddiad i ddangos cwynion yn erbyn methiannau honedig gan wasanaethau a’r rhai sy’n ymwneud â mynediad at wasanaethau / oedi wrth ymateb. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid i gynnwys mwy o fanylion mewn adroddiadau blynyddol i’r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Wrth ymateb i gais i ddangos nifer y cwynion y pen i awdurdodau ar hyd a lled Cymru, cyfeiriodd y Cadeirydd at yr atodiad i lythyr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru oedd yn dangos fod Sir y Fflint yn ail uchaf o ran nifer y cwynion fesul 1000 o breswylwyr yn 2021/22.

 

Soniodd y Cadeirydd am nifer y cwynion yn erbyn y Cyngor o’i gymharu â chyfartaledd Cymru, a’r gwasanaeth oedd yn cael y nifer fwyaf o gwynion, oedd yn adlewyrchu’r tueddiad cenedlaethol. Ar berfformiad yn hanner cyntaf 2022/23, cydnabu bod Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi yn wasanaeth rheng flaen, oedd wedi’i effeithio gan broblemau staffio, ond roedd yn teimlo y dylai amseroedd ymateb i gwynion gael eu monitro er mwyn eu gwella.

 

Wrth ymateb i sylwadau, tynnodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid sylw at y gostyngiad yn nifer yr achosion yn Sir y Fflint ag ymyrraeth gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a chanran uchel y cwynion a wnaed i’r Ombwdsman oedd yn cael eu cau ar y cam asesu.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’i diwygiwyd, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad blynyddol y Cyngor mewn perthynas â chwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod 2020-21;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad hanner blwyddyn 2022-23  ...  view the full Cofnodion text for item 61.

62.

Ymgynghoriad ar Gynllun Lles drafft 2023-28 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir y Fflint a Wrecsam pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Rhannu’r Cynllun Lles Drafft gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, sy’n cynnwys amcanion a chamau gweithredu lles pum mlynedd newydd mae’r Cyngor wedi ymrwymo i’w cyflawni mewn cydweithrediad â’i sefydliadau partner BGC.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Gynllun Lles Drafft Sir y Fflint a Wrecsam ar gyfer 2023-28, sy’n nodi’r amcanion lles lleol a’r camau i’w cymryd ar y cyd â sefydliadau partner y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Roedd copïau o’r cynllun drafft yn cael eu rhannu ag ymgyngoreion statudol fel rhan o’r cyfnod ymgynghori  sy’n dod i ben ar 5 Chwefror 2023.

 

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd yr amcanion i wella canlyniadau i bawb, anogodd y Cynghorydd Paul Johnson Aelodau i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y gellid ail-eirio’r frawddeg dan y pennawd ‘Cymunedau - ffyniant a thegwch’ er eglurder. Anogodd Aelodau i’w gopïo i negeseuon os oeddent yn cyflwyno sylwadau drwy corporatebusiness@flintshire.gov.uk. Neu, gallai Aelodau ymateb drwy’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Kevin Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi Cynllun Lles drafft Sir y Fflint a Wrecsam 2023-28 a’r cyfnod ymgynghori.

63.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.