Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

32.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

33.

Cofnodion pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 23 Medi 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi 2022 ac fe gawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Kevin Rush.

 

Ar gofnod rhif 25, penderfyniad (b), dywedodd y Cadeirydd fod y llythyr i Lywodraeth Cymru i gael ei anfon yr wythnos ganlynol.

 

Ar gofnod rhif 26, cyfeiriodd y Cynghorydd Bernie Attridge at ei gwestiwn ar y gorwariant anrhagweledig ar gyfer gofal preswyl mewnol a oedd “oherwydd costau staff a chynnal”. Cytunodd y Rheolwr Cyllid Strategol ddarparu ymateb gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa mis 5.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

34.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y wybodaeth ddiweddaraf ar gamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Bernie Attridge a'i eilio gan y Cynghorydd Rob Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.

35.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y rhaglen gwaith i’r dyfodol gyfredol i’w hystyried.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am farn ar amseriad yr adroddiad ar Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, Adran 13A (Is-adran 1C).  Fel cynigydd yr eitem honno yn y cyfarfod blaenorol, nododd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ei fod yn fodlon â’r amserlen ar gyfer mis Mawrth 2023 ac awgrymodd y dylid rhoi’r cyfle i gyrff perthnasol megis Shelter Cymru a Chyngor ar Bopeth Sir y Fflint gyfrannu.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i ddwy o'r eitemau a awgrymodd o'r cyfarfod blaenorol – y wybodaeth ddiweddaraf ar y thema Tlodi ac allanoli/rhannu rhai o wasanaethau'r Cyngor i nodi unrhyw fanteision ariannol - gael eu hamserlennu ar gyfer mis Tachwedd neu fis Rhagfyr i helpu i hysbysu ystyriaethau cyllidebol.

 

Ar y sail honno, cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Ron Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd; a

 

(b)       Bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

36.

Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r Aelodau ar y sefyllfa bresennol o ran dyled hirdymor gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers yr adroddiad diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) y wybodaeth ddiweddaraf ar ddyled hirdymor cyfredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) mewn perthynas â phecynnau gofal a ariennir ar y cyd a chymorth i unigolion ag anghenion gofal cymhleth.

 

Cyfeiriodd yr adroddiad hwn at y fframwaith statudol sydd wedi’i roi ar waith gan Lywodraeth Cymru, sy’n nodi trefniadau i’r Byrddau Iechyd ddarparu Gofal Iechyd Parhaus y GIG (GIP) yng Nghymru, mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol a sefydliadau eraill. Manylodd yr Uwch Reolwr ar nifer o heriau allweddol megis y gwahanol gymorth sydd ei angen ar oedolion a phlant, a'r nifer uchel o becynnau Gofal Iechyd Parhaus a ddarperir yn Sir y Fflint a Wrecsam. Mae perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda chydweithwyr yn y sector iechyd wedi helpu i ddatrys rhai materion sy’n bod ers amser maith yn y broses Gofal Iechyd Parhaus. Mae penodi Swyddog Cynllunio a Datblygu Gofal Iechyd Parhaus o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol wedi galluogi’r tîm i wella prosesau mewnol ac ymgysylltu â BIPBC.

 

Mewn perthynas â lefelau dyled a adroddwyd ar 5 Medi 2022, roedd
ad-daliad o £46,333 wedi’i wneud ers hynny gan BIPBC ar gyfer anfonebau heb eu talu o dair blynedd a throsodd, gyda gwaith yn parhau i glirio’r anfonebau hanesyddol sy’n weddill. Dros y chwe mis diwethaf, roedd gwaith gan y tîm i ganolbwyntio ar ddatrys anfonebau newydd yn brydlon wedi helpu i leihau lefelau dyled tymor byr yn sylweddol. Ers mis Medi 2022, roedd anfonebau gwerth cyfanswm o £260,248 ar fin cael eu prosesu, sy’n ymwneud yn bennaf ag un achos penodol yn ymwneud â phlentyn.

 

Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor o gefndir yr adroddiad cychwynnol a rannwyd ym mis Rhagfyr 2021. Roedd ei bryderon yn ymwneud nid yn unig â cholli incwm disgwyliedig ond hefyd am yr amser a gymerwyd i ddatrys anfonebau dadleuol a oedd yn fater llif arian i'r Cyngor.

 

Eglurodd yr Uwch Reolwr bod y gwelliannau diweddar a roddwyd ar waith wedi arwain at ddealltwriaeth glir o’r prosesau ar y ddwy ochr.


Rhoddodd Paul Carter sicrwydd bod BIPBC yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr y Cyngor i brosesu anfonebau cyfredol mewn modd amserol a bod ymgysylltu rheolaidd â swyddogion ar bob lefel i egluro’r rhesymau dros dalu anfonebau hanesyddol nad oedd wedi bod yn destun yr un broses drylwyr yn rhannol neu beidio â’u talu. Er ei fod yn obeithiol y byddai tua £250,000 o anfonebau oedd fod i gael eu hystyried gan banel BIPBC yn cael eu cymeradwyo i leihau’r ddyled hanesyddol ymhellach, roedd trafodaethau’n mynd rhagddynt i ganfod gwybodaeth ategol ar dri achos sy’n weddill gwerth cyfanswm o £350,000 a thros £400,000 o anfonebau yn ymwneud â phlant er mwyn i BIPBC allu cymeradwyo’r taliadau hynny. Yn benodol, ni chanfuwyd gwybodaeth ar ddau achos cost uchel hyd yma.

 

Codwyd pryderon gan y Cynghorydd Bernie Attridge ynghylch goblygiadau ariannol y ddyled sydd heb ei thalu, o ystyried y diffyg amserlen a rhagolwg cyllideb y Cyngor ar gyfer 2023/24. Dywedodd y dylai gweithdrefnau sydd i'w trafod mewn gweithdy wedi'u hwyluso eisoes  ...  view the full Cofnodion text for item 36.

37.

Cynllun y Cyngor 2023-28 pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        Cytuno ar y Blaenoriaethau arfaethedig, Is Flaenoriaethau a’r Amcanion Lles ar gyfer Cynllun y Cyngor 2023-28.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y blaenoriaethau sydd wedi’u hadnewyddu, is-flaenoriaethau ac amcanion lles yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28, a oedd yn adlewyrchu agwedd hirdymor adferiad, prosiectau ac uchelgeisiau dros y cyfnod.

 

Cwestiynodd y Cadeirydd effaith swyddi gwag ar gyflawni is-flaenoriaethau ychwanegol o dan y flaenoriaeth ‘Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd.’  Cwestiynodd hefyd yr angen am is-flaenoriaethau o dan ‘Cyngor a Reolir yn Dda’ a oedd yn ei farn ef naill ai’n ofynion statudol, yn rhan o gynllunio dyddiol neu fusnes fel arfer, gan gynnwys Digidol a adlewyrchwyd mewn rhan arall o Gynllun y Cyngor.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y newidiadau’n briodol ac yn dangos gwelededd ar gyflawni’r ffrydiau gwaith hynny. Atgoffwyd yr aelodau mai dogfen gryno lefel uchel oedd hon gyda manylion pellach i’w hadrodd yn Rhan 2 o Gynllun y Cyngor.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Cadeirydd, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod is-flaenoriaethau’r thema Cymdeithas Werdd yn ymgorffori dyletswyddau statudol newydd ar gyfer y Cyngor. Rhoddodd hefyd eglurhad ar wahanol ffrydiau gwaith digidol yn ymwneud â’r gweithlu, trigolion ac ysgolion ar draws y blaenoriaethau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson mai’r nod ar hyn o bryd yw cytuno ar benawdau ar gyfer y blaenoriaethau ac is-flaenoriaethau cyn i fwy o wybodaeth gael ei rhannu. Siaradodd am bwysigrwydd nodi dyheadau’r Cyngor, gan gynnwys gweithgareddau bob dydd.

 

O ran yr is-flaenoriaeth Cymorth Tai ac Atal Digartrefedd, holodd y Cadeirydd a ddylid disodli’r gair ‘osgoi’ â ‘sicrhau’. O ran Tai Cymdeithasol, awgrymodd y dylid dileu’r geiriau ‘a thai cymdeithasol’ o’r diffiniad er mwyn osgoi ailadrodd gyda’r pennawd. O ran Carbon Niwtral, cwestiynodd a ddylid cynnwys cyfeiriad at adferiad Covid-19.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y geiriad ar gyfer Atal Digartrefedd wedi’i adolygu i adlewyrchu newidiadau mewn gwasanaeth a pholisi Llywodraeth Cymru. Dywedodd y byddai’r sylwadau a godwyd yn cael eu hadolygu.

 

Ar y sail honno, cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Rob Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y sylwadau, bod y Pwyllgor yn cefnogi Blaenoriaethau, Is-Flaenoriaethau ac Amcanion Lles arfaethedig Cynllun y Cyngor 2023-28, fel y nodir yn Atodiad 1.

38.

Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 5) pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 5) ac amrywedd sylweddol i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ym mis 5 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa a ragwelwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd diffyg gweithredol o £0.680miliwn (gan eithrio effaith y dyfarniad tâl y byddai angen ei dalu o arian wrth gefn, a amcangyfrifir ar hyn o bryd yn £5.268miliwn).   Yn dilyn yr hawliad terfynol am Gyllid Caledi Llywodraeth Cymru (LlC) y mis hwn, byddai unrhyw gostau pellach yn ymwneud â Covid-19 yn amodol ar y broses gadarn cyn cael eu talu o’r gronfa frys wedi’i chlustnodi. Rhoddwyd trosolwg o’r amrywiadau sylweddol o fis 4 ar draws portffolios a’u heffaith ar yr alldro rhagamcanol. Roedd diweddariad ar risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg yn adrodd ar y sefyllfa bresennol mewn perthynas ag incwm Treth y Cyngor, effaith dyfarniadau tâl ynghyd â galw uchel parhaus am y gwasanaeth Budd-daliadau a Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir sy’n parhau i gael eu monitro'n agos.  Disgwyliwyd i bob un o’r arbedion effeithlonrwydd sydd ar y gweill yn ystod y flwyddyn gael eu cyflawni yn 2022/23. Arweiniodd adolygiad o'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd at ryddhau £1.208miliwn i'r Gronfa Wrth Gefn i gynyddu'r balans rhagamcanol i £7.724miliwn (ac eithrio effaith dyfarniadau tâl).

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gwariant a ragwelir yn ystod y flwyddyn o £3.308miliwn yn uwch na'r gyllideb yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.166miliwn, a oedd yn uwch na'r canllawiau gwariant a argymhellir.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd ar y Cyfrif Refeniw Tai, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y cyfraniad yn ystod y flwyddyn ar gyfer gwaith cyfalaf ychwanegol yn ymwneud â chynllun presennol yng
Nghoed-llai. Cytunodd y byddai ymateb ar wahân yn cael ei ddarparu ar y rhesymau y tu ôl i golli incwm oherwydd y tai gwag a ddangosir yn Atodiad 5.

 

Ar yr un testunau, dywedodd y Prif Weithredwr bod cyfeiriad at gynllun Coed Llai wedi’i gynnwys yn adroddiad y Cabinet ym mis Gorffennaf. Rhoddodd sicrwydd bod gwaith helaeth yn cael ei wneud ar hyn o bryd i leihau nifer y tai gwag, fel yr adroddwyd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau, Tai ac Asedau ym mis Medi.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am y rhesymau dros yr amrywiad o £0.077miliwn mewn Gwasanaethau Adnoddau a Gwasanaethau wedi’u Rheoleiddio ac a oedd hyn yn gysylltiedig â newidiadau yn y trefniadau ar gyfer arlwyo/glanhau cartrefi gofal. Cytunodd y Rheolwr Cyllid Strategol i ymgorffori ymateb yn y papur briffio a ddarperir ar y gorwariant ar ofal preswyl mewnol. Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol eglurhad ar y gwarged Treth y Cyngor a ragwelir yn gyffredinol a'r dull o ragamcanu incwm ar becynnau gofal.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Sam Swash ar y Cynllun Datblygu Lleol, eglurodd swyddogion y defnydd o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ble roedd gwariant wedi bod yn fwy na chronfeydd wrth gefn y prosiect.

 

Pan  ...  view the full Cofnodion text for item 38.

39.

Cyd-bwyllgor Corfforedig - adroddiad diweddaru pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran y Cyd-bwyllgor Corfforedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y cynnydd a wnaed hyd yma gyda’r Cydbwyllgor Corfforaethol ar gyfer Gogledd Cymru, gan gynnwys cynlluniau i drosglwyddo’r swyddog arweiniol o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) i’r Cydbwyllgor Corfforaethol dros dro er mwyn symud trefniadau  trawsnewidiol ymlaen hyd nes gellir penodi swyddog parhaol.

 

Wrth gydnabod effaith y Cydbwyllgor Corfforaethol ar gynllunio strategol y Cyngor, cynigiodd y Cadeirydd argymhelliad ychwanegol bod y tri Aelod Cabinet perthnasol yn darparu diweddariad rheolaidd ar eu helfennau priodol i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

 

Codwyd pryderon gan y Cynghorydd Bernie Attridge ynghylch diffyg cyfranogiad Aelodau etholedig lleol a’r manteision dilynol i drigolion lleol.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr, er bod trefniadau pontio yn y camau cynnar o gael eu datblygu, bod lle i gynnwys Trosolwg a Chraffu a chynrychiolaeth leol ar ffrydiau gwaith yn ddiweddarach. Soniodd fod y Cydbwyllgor Corfforaethol yn hanfodol i rai o weithgareddau strategol y Cyngor a’r rheini ar lefel ranbarthol. O’r herwydd, roedd yn bwysig i’r Cyngor gael ei gynrychioli er mwyn dylanwadu ar weithgareddau ar gyfer Sir y Fflint ac ar draws y rhanbarth.

 

 

Wrth groesawu cydweithio er budd trigolion, cododd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson nifer o bryderon am fodel y Cydbwyllgor Corfforaethol. Y rhain yn bennaf oedd aliniad penderfyniadau ar draws y bartneriaeth, cyfraniad Sir y Fflint at gostau rhedeg a diffyg dylanwad lleol a chraffu ar benderfyniadau’r Cydbwyllgor Corfforaethol. Wrth gydnabod bod y Cydbwyllgor Corfforaethol eisoes yn bodoli, cynigiodd fod Argymhelliad 1 yn cael ei ddiwygio i ddisodli ‘cefnogi’ gyda ‘gwrthwynebu’ i adlewyrchu’r pryderon hyn.

 

Wrth eilio’r diwygiad, siaradodd y Cynghorydd Sam Swash o blaid sylwadau’r Cynghorydd Ibbotson a rhoddodd enghreifftiau o oblygiadau posibl.

 

Siaradodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) am drefniadau llywodraethu ar gyfer y Cydbwyllgor Corfforaethol a’i bwerau cyfyngedig sy'n cynnwys pedwar maes cyfrifoldeb a rennir. Awgrymodd fod y diwygiad yn cynnwys y geiriau ‘mewn egwyddor’ er mwyn adlewyrchu’r pwysigrwydd bod Sir y Fflint yn cadw cynrychiolaeth ar y Cydbwyllgor Corfforaethol.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau a godwyd, rhoddodd y Cynghorydd Ian Roberts enghreifftiau o wasanaethau strategol a oedd yn rhychwantu awdurdodau ar draws y rhanbarth a sicrhaodd yr Aelodau y byddai Sir y Fflint yn parhau i gael llais ar y Cydbwyllgor Corfforaethol. Wrth gymharu gyda GwE (y gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol), siaradodd am y potensial ar gyfer cysylltiadau yn y dyfodol â’r strwythur Trosolwg a Chraffu presennol.

 

Cydnabu'r Cadeirydd fwriad y diwygiad a rhannodd ei bryderon y byddai gan y Cydbwyllgorau Corfforaethol yr un pwerau â phrif awdurdodau lleol yn y ffordd y maent yn gweithredu, gan gynnwys y gallu i fenthyca ac adennill TAW.  Fodd bynnag, dywedodd ei fod yn bwysig i’r Cyngor gael ei gynnwys ac i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu gael y wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd.

 

Eglurodd y Cynghorydd Ibbotson nad bwriad ei ddiwygiad oedd dylanwadu ar gynnydd ar y Cydbwyllgor Corfforaethol yn cael ei adrodd i'r pwyllgorau priodol. Cytunodd i gynnwys y geiriau a awgrymwyd gan y Prif Swyddog a chafodd ei gefnogi gan y Cynghorydd Swash.

 

Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion, fel y’u diwygiwyd.  ...  view the full Cofnodion text for item 39.

40.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.