Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

76.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

77.

Cofnodion pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Ionawr 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 13 Ionawr 2022, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Kevin Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

78.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y wybodaeth ddiweddaraf ar gamau gweithredu’n codi o gyfarfodydd blaenorol oedd wedi eu cwblhau i gyd neu ar y trywydd iawn. Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi cael copi o’r llythyr i’r Bwrdd Iechyd yn amlinellu pryderon y Pwyllgor am y lefelau dyledion a byddai’r ymateb yn cael ei rannu pan fydd wedi’i dderbyn.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Arnold Woolley a'i eilio gan y Cynghorydd Andy Williams.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.

79.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r rhaglen gwaith i’r dyfodol i’w hystyried, dywedodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu fod y diweddariad chwarterol Cyflogaeth a Gweithlu wedi cael ei drefnu ar gyfer cyfarfod mis Mehefin.

 

Cynigodd y Cynghorydd Arnold Woolley yr argymhellion, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Haydn Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Bod yr Hwyluswyr Trosolwg a Chraffu, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn cael awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

80.

Rhaglen Gwerth Cymdeithasol pdf icon PDF 121 KB

Pwrpas:        Ystyried risgiau, heriau a chyfleoedd ar gyfer Rhaglen Gwerth Cymdeithasol y Cyngor, a chytuno ar gamau gweithredu a chamau nesaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel Aelod Cabinet Cyllid, Gwerth Cymdeithasol a Chaffael, cyflwynodd Paul Johnson adroddiad ar raglen gwerth cymdeithasol y Cyngor a gynlluniwyd i gyflawni canlyniadau gwerth ychwanegol cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol drwy weithgareddau caffael. Canmolodd y canlyniadau positif yn ystod 2021 oedd wedi arwain at gyfraniadau sylweddol i economi a chymunedau lleol Sir y Fflint a siaradodd am y nod o wneud gwerth cymdeithasol yn rhan annatod o’r sefydliad drwy waith y tîm gwerth cymdeithasol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod hanes blaenorol y Cyngor o ddarparu gwerth cymdeithasol yn cael ei gydnabod yn eang.   Cyflwynodd Olivia Hughes, y Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol a roddodd gyflwyniad ar y risgiau, heriau a chyfleoedd o fewn y rhaglen gwerth cymdeithasol, yn cynnwys:

 

·         Diffiniad o werth cymdeithasol

·         Dangosyddion perfformiad allweddol

·         Astudiaethau achos

·         Heriau allweddol

·         Goresgyn heriau

·         Argymhellion i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu

 

Amlygodd y cyflwyniad ystod y canlyniadau hyd yma i gymunedau lleol, prentisiaethau a thwf economaidd drwy weithgareddau caffael yn gysylltiedig â gwerth cymdeithasol. Ymhlith yr heriau allweddol, roedd angen cynyddu adnoddau i fodloni’r galw i’r dyfodol a chefnogi cynaliadwyedd hirdymor y rhaglen.

 

Wrth ddiolch i’r swyddog am ei chyflwyniad, canmolodd y Cynghorydd Paul Shotton y cyflawniadau ar werth cymdeithasol a chafodd fwy o wybodaeth am ymgysylltu â gwirfoddolwyr.

 

Er ei fod yn croesawu’r adroddiad, roedd y Cynghorydd Richard Jones yn cwestiynu’r pwyslais parhaus ar gefnogi contractau pan aethpwyd y tu hwnt i’r targed corfforaethol ar draul meysydd eraill y rhaglen.

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod y dull uchelgeisiol cychwynnol o wneud gwerth cymdeithasol yn rhan annatod o weithgareddau’r Cyngor wedi cael ei adolygu i flaenoriaethu gwaith a gwneud y mwyaf o adnoddau yn y tîm bychan i gyflawni’r canlyniadau cywir ar draws y rhaglen.

 

Siaradodd y Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol am effaith yr adnoddau ychwanegol dros dro a ddyrannwyd yn ystod 2021, oedd yn dangos beth ellid ei gyflawni gyda mwy o gapasiti.  Wrth ymateb i fwy o gwestiynau, rhoddodd eglurhad ar sefydlu’r gofynion craidd penodol ym mhob contract a sgorio contractau yn seiliedig ar y gwerth gorau a chyfleoedd gwerth cymdeithasol.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y posibilrwydd o wella canlyniadau ymhellach drwy adolygu lefel yr adnoddau ac archwilio cyfleoedd gwerth cymdeithasol mewn contractau lefel is.

 

Cafodd yr argymhellion, a newidiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Richard Lloyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad y rhaglen gwerth cymdeithasol hyd yma; a

 

(b)          Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnig ynghylch adrodd ar berfformiad i gyflawni rhaglen waith gwerth cymdeithasol cyraeddadwy ar gyfer 2022/23, gyda’r adnoddau sydd ar gael, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

Item 6 - Social Value Presentation pdf icon PDF 736 KB

Dogfennau ychwanegol:

81.

Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2020-21 a chwynion yn erbyn Cyngor Sir y Fflint yn ystod hanner cyntaf 2021-22 pdf icon PDF 152 KB

Pwrpas:        Rhannu Llythyr Blynyddol 2020-21 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chwynion a wnaed yn erbyn Gwasanaethau Cyngor Sir y Fflint yn hanner cyntaf 2021-22 (Ebrill-Medi 2021).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad i rannu Llythyr Blynyddol Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru oedd yn crynhoi perfformiad y Cyngor ar y cwynion a ymchwiliwyd iddynt yn 2019-20.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys trosolwg o gwynion yn erbyn gwasanaethau’r Cyngor rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2021.  Er bod gostyngiad wedi bod yn nifer y cwynion a wnaed yn erbyn y Cyngor yn 2020/21, roedd yn uwch na chyfartaledd Cymru.  Fodd bynnag, roedd hyn oherwydd bod y mwyafrif yn gynamserol (gan nad oedd wedi mynd drwy’r weithdrefn gwynion yn llawn), y tu allan i awdurdodaeth neu wedi cau ar ôl cael ei ystyried i ddechrau gan Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Yn dilyn dadansoddiad manwl, nododd Rheolwr y Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid bod gan Sir y Fflint nifer uchaf y cwynion cynamserol yng Nghymru, a heblaw am y rhain, byddai Sir y Fflint yn gyffredinol yn unol â chynghorau eraill Gogledd Cymru. Er ei bod yn galonogol bod dros hanner y cwynion wedi cael eu gwrthod ar ddechrau’r broses, nododd y darganfyddiadau bod angen i’r Cyngor adolygu ei ddull o hyrwyddo’r weithdrefn gwynion a chadw mewn cysylltiad ag achwynwyr ynghylch cynnydd eu cwynion. Dangosodd ystadegau am gwynion lleol ar gyfer hanner cyntaf 2021-22 yr ymdriniwyd ag 80% cyn pen 20 diwrnod gwaith a bod adrodd rheolaidd i dîm y Prif Swyddog yn helpu i wella prydlondeb ymatebion i gwynion.

 

Wrth groesawu’r eglurhad y tu ôl i’r data, roedd y Cynghorydd Richard Jones yn dal yn bryderus am nifer y cwynion a wnaed i Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am broses ymdrin â chwynion y Cyngor, a allai fod wedi dylanwadu ar nifer y cwynion cynamserol. Er ei fod yn croesawu’r camau gweithredu oedd yn cael eu cymryd, cyfeiriodd at y tabl oedd yn dangos bod Sir y Fflint angen mwy o ymyrraeth gan Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru na rhan fwyaf y cynghorau eraill yng Nghymru.  Dywedodd hefyd fod gwasanaethau’n methu ag ymateb i negeseuon ac y dylai fod yna ddisgwyliad i gydnabod gohebiaeth i ddechrau o leiaf.

 

Wrth ymateb, cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid at y data dadansoddi ac eglurodd y gallai’r dull o ddosbarthu cwynion sy’n cael eu dyblygu ogwyddo’r ffigurau. Soniodd am ymgysylltu positif gyda’r Awdurdod Safonau Cwynion i helpu i ddehongli’r data, nodi gwelliannau a rhannu arfer da.  Atgoffwyd yr aelodau am y swyddogion cyswllt ym mhob portffolio ar gyfer atgyfeirio cwynion, yn ogystal â chysylltu â hi ei hun neu Joanne Pierce.

 

Diolchodd y Cynghorydd Richard Lloyd i’r swyddog am yr eglurhad manwl gan awgrymu fod llawer o breswylwyr yn atgyfeirio cwynion at y Cyngor drwy eu Haelodau lleol.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan ar hyn o bryd am y weithdrefn gwynion yn cael ei hadolygu a bod unrhyw fewnbwn gan Aelodau’n cael ei groesawu. Yn dilyn cwestiwn gan y Cadeirydd, dywedodd y gellir cael copïau papur o’r ffurflen gwyno gan Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.

 

Cydnabu’r Prif Weithredwr y camau gweithredu a nodwyd i wella  ...  view the full Cofnodion text for item 81.

82.

Crynodeb Archwilio Blynyddol Sir y Fflint 2020/21 pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Derbyn y Crynodeb Archwilio Blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr y Crynodeb Archwilio Blynyddol ar gyfer 2020/21, oedd yn crynhoi darganfyddiadau’r gwaith archwilio a rheoleiddio a wnaed yn y Cyngor gan Archwilio Cymru. Roedd yr adroddiad wedi dod i gasgliad cadarnhaol fod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol oedd yn weddill ar gyfer cynllunio gwelliannau ac adrodd yn ystod y cyfnod. Ni wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol ac roedd gwaith ar y gweill ar y ddau gynnig ar gyfer gwelliant yn codi o un o’r adolygiadau.

 

Cydnabu’r adroddiad effaith y pandemig ar y wybodaeth gymharol am berfformiad, pwyslais y Cyngor ar wella gwytnwch ariannol a threfniadau adferiad gwasanaethau, dan oruchwyliaeth y Pwyllgor Adferiad. Tynnwyd sylw at y gwaith a gynlluniwyd ar gyfer 2021-22 yn cynnwys y materion allweddol oedd yn wynebu bob Cyngor yn dilyn y pandemig.

 

Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol, yn unol â’r protocol adrodd, y byddai’r Cabinet yn cytuno ar ymateb y Cyngor cyn i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ei ystyried, pan fyddai’r adroddiad rheoleiddio allanol blynyddol hefyd yn cael ei rannu, yn cynnwys manylion ar y camau gweithredu o’r cynigion ar gyfer gwella.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Andy Williams a'i eilio gan y Cynghorydd Haydn Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau gan gynnwys ac arsylwadau Adroddiad Archwilio Cryno Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2020/21.

83.

Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21(Mis 9) a Rhaglen Gyfalaf (Mis 9) pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 9) ac Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Mis 9) ac amrywedd sylweddol i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Corfforaethol adroddiadau ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ym Mis 9, a sefyllfa’r Rhaglen Gyfalaf 2021/22 cyn i’r Cabinet eu hystyried.

 

Monitro’r Gyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa ddisgwyliedig ar ddiwedd y flwyddyn yn golygu fod yna £1.537m dros ben (ac eithrio effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n dod o’r cronfeydd wrth gefn), oedd yn adlewyrchu symudiad ffafriol o £0.821m o fis 8.  Byddai hyn yn gadael balans wrth gefn at raid ar ddiwedd blwyddyn o £7.407m.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion yr amrywiant o fis 8 yn cynnwys symudiadau sylweddol yn y portffolios Tai ac Asedau a Chynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi. Roedd y wybodaeth ddiweddaraf am y risgiau yn y flwyddyn yn cynnwys cadarnhad o gais ôl-weithredol a gymeradwywyd i Lywodraeth Cymru am gostau yn dilyn Storm Christoph. O ran risgiau eraill a nodwyd, adroddwyd ar y sefyllfa ddiweddaraf ar gyllid argyfwng a chynnydd â cheisiadau grant Colli Incwm. Roedd yr adolygiad o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd wedi golygu fod £0.585m wedi cael ei ryddhau yn ôl i’r cronfeydd arian at raid a byddent yn parhau i gael eu monitro.

 

Yn y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant arfaethedig o £0.437m yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £4.035m, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones nad oedd yr amrywiant sylweddol yn yr adroddiad yn adlewyrchu’r newidiadau a gymeradwywyd i’r gyllideb.  Eglurodd swyddogion nad oedd trosglwyddiadau cyllidebol rhwng portffolios yn effeithio ar yr amrywiadau ac y gellid darparu dadansoddiad o symudiadau rhwng portffolios ar gyfer cyllidebau cymeradwy, gydag eglurhad.

 

Holodd y Cynghorydd Haydn Bateman am y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ar gyfer Statws Sengl/Cyflog Cyfartal a chafodd wybod, yn dilyn ei weithredu, bod cronfeydd wrth gefn  wedi cael eu clustnodi i ddelio ag unrhyw gostau gwaddol neu gostau cyffredinol y gweithlu. 

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Roedd y sefyllfa gryno ym mis 9 yn dangos cyllideb ddiwygiedig o £81.588m gan ystyried y symiau dwyn ymlaen cytunedig, newidiadau yn ystod y cyfnod ac arbedion a drosglwyddwyd yn ôl i mewn. Roedd y prif newidiadau wedi codi o gynnydd mewn cyllid grant fel y dangoswyd yn yr adroddiad.  Roedd gwariant cyfalaf o gymharu â'r gyllideb yn dangos tanwariant rhagamcanol o £1.206m ar Gronfa'r Cyngor a bydd argymhelliad bod hwn yn cael ei ddwyn ymlaen ar gyfer cwblhau cynlluniau yn 2022/23.  Ni nodwyd dyraniadau ychwanegol ac adroddwyd ar arbediad o £0.386m ar Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl. Roedd y sefyllfa gyllido gyffredinol ym mis 9 yn dangos gwarged rhagamcanol diwygiedig yn y Rhaglen Gyfalaf o £4.904m a oedd yn gynnydd o £0.757k o’r chwarter diwethaf. Roedd ffigurau dangosol dros dro Setliad Llywodraeth Leol yn adlewyrchu cynnydd a amcangyfrifir mewn cyllid o £0.786m dros y cyfnod tair blynedd cymeradwy o’i gymharu â’r Rhaglen Gyfalaf a gymeradwywyd ym mis Rhagfyr, gan arwain at ddiffyg o £0.081m yn Rhaglen y flwyddyn nesaf. Cadarnhawyd hefyd y byddai Sir y Fflint yn cael cyllid grant  ...  view the full Cofnodion text for item 83.

84.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.