Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

22.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

23.

Cofnodion pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 28 Medi a 15 Hydref 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi 2020, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bateman a Dunbobbin.

 

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2020, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Collett a Dunbobbin. Diolchwyd i Swyddogion am eu hymateb i’r cwestiynau a godwyd yn y cyfarfod hwn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r ddwy set o gofnodion fel cofnod cywir.

24.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod yr holl gamau gweithredu wedi eu cwblhau, gan gynnwys cais y Cynghorydd Richard Jones am wybodaeth ar effaith y sefyllfa o argyfwng ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Dunbobbin a Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.

25.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, amlinellodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ddau adroddiad oedd wedi eu gohirio nes y cyfarfod nesaf oherwydd nifer yr eitemau ar y rhaglen hon.

 

Cynigodd y Cynghorydd Dunbobbin gefnogi’r argymhellion, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

 (b)      Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

26.

Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar)

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad llafar ar y sefyllfa gyfredol gan gynnwys ystadegau lleol a rhanbarthol. Ychydig o aflonyddu a fu ar wasanaethau’r Cyngor yn ystod y cyfnod clo byr sydd bellach wedi dod i ben. Roedd yr holl wasanaethau bellach yn gwbl weithredol ac roedd adnoddau ychwanegol yn cael eu dyrannu i’r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd, rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad bras ar statws ysbytai argyfwng y rhanbarth.

 

Cynigiodd ac eiliodd y Cynghorwyr Dunbobbin a Rush fod y diweddariad yn cael ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y diweddariad ar lafar.

27.

Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – Bargen Dwf Derfynol pdf icon PDF 168 KB

Pwrpas:        Ystyried Cytundeb Llywodraethu 2 a Chytundeb Bargen Derfynol ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru cyn i’r Cabinet ei gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i ystyried y dogfennau allweddol gofynnol i gyrraedd Cytundeb Bargen Terfynol ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, cyn i’r Cabinet ei gymeradwyo. Roedd y dogfennau yn cael eu cyflwyno i’r holl bartneriaid i’w cymeradwyo i ffurfioli eu hymrwymiad cyfreithiol i Gytundeb y Fargen Derfynol.

 

Ers mabwysiadu Cytundeb Llywodraethu 1, roedd Cytundeb Llywodraethu 2 wedi ei ddatblygu i gynnwys cyd-fuddiannau a risgiau’n ogystal â threfniadau cydgyllido. Yn Sir y Fflint, roedd yr adroddiad wedi ei gefnogi gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ac Economi yn gynt yn yr wythnos yn dilyn gweithdy i’r holl Aelodau a gynhaliwyd yn flaenorol. Roedd y Cytundeb yn cynnwys darpariaethau ar swyddogaethau gweithrediaeth a swyddogaethau anweithredol, yr oedd angen cymryd penderfyniadau ar wahân arnynt gan y Cabinet a’r Cyngor Sir ar 17 Tachwedd 2020. Byddai adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael ei adrodd i’r cyfarfodydd hynny.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr eglurder ar y ddau ffurf o ymrwymiad ariannol ar gyfer y Cyngor oedd yn cynnwys cyfraniadau refeniw oedd eisoes wedi eu hadeiladu i’r gyllideb sylfaenol a goblygiadau refeniw cyfalaf benthyca i hwyluso’r llif arian negyddol ar gyfer y Fargen Dwf. Byddai angen cyfraniadau blynyddol o rhwng £100,000 ac £140,000 gan Sir y Fflint ar gyfer yr olaf, er mwyn cael mynediad at £240 miliwn o gyfalaf gan y ddwy Lywodraeth i ariannu’r Fargen Dwf dros 15 mlynedd. Roedd hyn yn cael ei ystyried yn ddull gweithredu fforddiadwy ar gyfer y Cyngor yng nghyd-destun y Strategaeth Ariannol Tymor Canol. Roedd arweinyddiaeth yr holl bartneriaid wedi ymrwymo i’r Cytundeb a phe byddai’n cael ei lofnodi erbyn 17 Rhagfyr, byddai’n golygu y gellid cael mynediad at gyfalaf yn y flwyddyn gyfredol.

 

Cymharodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ddarpariaethau y Cytundeb gyda rhai partneriaethau rhanbarthol cyfredol eraill. Rhoddodd drosolwg o’r model llywodraethu gan gynnwys darpariaeth i bob partner gadw rheolaeth dros y lefel o adnoddau roedd yn ei gyfrannu.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ei fod yn fodlon gyda’r ystyriaethau ariannol y mae’n eu hystyried yn ddarbodus ar brosiect o’r maint hwn i gyflawni rhaglenni yn y blynyddoedd cynnar.  Gan ategu sylwadau’r Prif Weithredwr ar yr ymrwymiadau ariannol, dywedodd y byddai angen adeiladu’r cyfraniadau blynyddol ychwanegol i gyllideb 2021/22.

 

Talodd y Cynghorydd Dunbobbin deyrnged i’r Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor a’i ragflaenydd, y Cynghorydd Aaron Shotton, am eu holl waith ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.  Gan ganmol yr adroddiad, dywedodd y byddai mwy o eglurder yn y geiriad o gymorth i godi ymwybyddiaeth o’r manteision. Gan siarad am gymhlethdod y Cytundeb, dywedodd y Prif Weithredwr bod amrywiaeth o wybodaeth ar gael ar wefan y Bwrdd Uchelgais Economaidd ac y byddai cyflwyniad fydd yn cael ei roi i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd ac Economi yn cael ei gylchredeg. Ymatebodd i gwestiynau eraill yn amlygu ymrwymiad yw holl bartneriaid a’r broses o greu prosiectau newydd o fewn y Fargen Dwf. O ran cysylltedd digidol, cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i gylchredeg gwybodaeth ar  ...  view the full Cofnodion text for item 27.

28.

Diweddariad Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor ar gofrestr risg portffolios corfforaethol a dulliau lliniaru fel rhan o’r broses cynllunio adferiad.

 

Ni fu unrhyw newidiadau sylweddol ers y mis diwethaf gan fod nifer o’r risgiau yn rai hir dymor. Fel yr awgrymodd y Cynghorydd Richard Jones yn y cyfarfod blaenorol, roedd y dull o gyflwyno patrymau risg wedi ei newid er eglurder.

 

O safbwynt yr amcanion adfer lefel uchel, canmolodd y Cynghorydd Banks y gweithlu am waith a wnaed yn ystod cyfnod yr argyfwng.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Dunbobbin a Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cofrestr risg a ddiweddarwyd a'r camau lliniaru risgiau o fewn y portffolios corfforaethol.

29.

Dangosyddion Perfformiad Hanner Blwyddyn ar gyfer Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus, Portffolio ac Adfer pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i adolygu perfformiad canol blwyddyn ar gyfer blaenoriaethau oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor gan ganolbwyntio ar fesurau perfformio ar draws y portffolios oedd fwyaf pwysig o safbwynt adfer.

 

Doedd dim materion o bryder sylweddol ac ni ellid defnyddio rhai dangosyddion yn yr un ffordd oherwydd y sefyllfa o argyfwng. Adroddwyd am sefyllfa sefydlog ym meysydd Gweithlu, Cyllid a Llywodraethu.

 

Manteisiodd y Cynghorydd Dunbobbin ar y cyfle i ddiolch i’r gweithlu am eu hymrwymiad yn ystod y cyfnod o argyfwng.

 

Talodd y Cynghorydd Mullin hefyd deyrnged i’r gweithlu a chyfeiriodd at y cynnydd da o fewn ei feysydd portffolio. Cafodd ei sylwadau eu cymeradwyo gan y Prif weithredwr a wnaeth hefyd gydnabod cefnogaeth werthfawr cydweithwyr Undebau Llafur yn ystod y cyfnod.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Peers ar lefelau casgliadau’r flwyddyn o ran Treth y Cyngor, soniodd y Prif Weithredwr am y dull gorfodi ‘meddal’ oedd wedi ei fabwysiadu yn ystod yr argyfwng cenedlaethol.  Tra’r oedd lefelau casglu yn risg parhaol, byddai effaith o’r cam cyntaf o gamau gweithredu a gymerwyd ym mis Hydref.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod trefniadau talu hyblyg wedi eu rhoi mewn lle ble bo’n bosib ac y byddai unigolion sy’n methu talu neu ymgysylltu efo’r Cyngor yn gorfod mynd drwy achos llys.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai diweddariad ar y gwaith hwn yn cael ei gynnwys mewn adroddiad i’r Pwyllgor a’r Cabinet ym mis Rhagfyr, yn manylu ar y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

Cefnogwyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn derbyn y Dangosyddion Perfformiad Canol Blwyddyn ar gyfer Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus, Portffolio ac Adfer, i fonitro meysydd o danberfformiad; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor wedi cael ei sicrhau gan yr eglurhad a roddwyd ar gyfer tanberfformio, sy’n cael eu hegluro’n bennaf gan yr aflonyddwch a achosodd y pandemig.

30.

Cyllideb 2021/22 - Cam 1 (Llafar)

Pwrpas:        I rannu diweddariad yn dilyn ystyried rhagolwg pob pwyllgor trosolwg a chraffu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar lafar ar ôl cyflwyno trosolwg o bwysau cost a strategaeth gyllideb gyffredinol ar gyfer 2021/22 ym mhob un o gyfarfodydd diwedd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

 

Roedd pob un o’r pump pwyllgor wedi derbyn:

 

·         Yr holl bwysau cost o fewn y rhagolygon ar gyfer eu portffolios, heb unrhyw gais i archwilio arbedion effeithlonrwydd costau ymhellach mewn cydnabyddiaeth nad oedd unrhyw beth o raddfa ar ôl;

·         Y nod o rhwng £1miliwn a £2 filiwn o arbedion effeithlonrwydd ‘gwirioneddol’ ar draws y Cyngor, yn cynnwys ffyrdd mabwysiedig o weithio;

·         Y safle cyfredol y dylid ceisio cadw’r cynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor yn is na 5% fel yr uchafswm ;a 

·         Fod angen isafswm o 6% o gynnydd yn y Grant Cynnal Refeniw i Sir y Fflint er mwyn clirio gofynion cyllideb a chadw Treth y Cyngor o dan 5%.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr grynodeb o amserlen y gyllideb a dywedodd fod sesiwn briffio i bob Aelod wedi ei drefnu ar gyfer 23 Rhagfyr er mwyn ystyried goblygiadau’r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro oedd i’w gyhoeddi y diwrnod cynt. Mae ymgysylltiad yr holl gynghorau â Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ei wneud yn glir mai’r disgwyliad yw isafswm o 5% o gynnydd cenedlaethol.

 

Ategodd y Cynghorydd Banks yr angen am gynnydd o 6% yn y Grant Cynnal Refeniw i Sir y Fflint. Cyfeiriodd at y berthynas bositif gyda Llywodraeth Cymru a diolchodd i’r ddwy Lywodraeth am y cymorth ariannol a dderbyniwyd yn ystod y pandemig.

 

Cafodd yr argymhellion - a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth - eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Williams a Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad ar lafar gan y Prif Weithredwr yn dilyn cyfarfodydd y pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, fel a ganlyn:

 

-          Mae’r holl bwysau cost a restrir wedi eu cymeradwyo;

-          Ni wnaed unrhyw gynigion i adolygu meysydd penodol effeithlonrwydd costau / modelau gwasanaeth;

-          Nodwyd a derbyniwyd targed effeithlonrwydd corfforaethol y gyllideb o £1-2 miliwn.

-          Atgyfnerthwyd sefyllfa’r Cyngor o ran Treth y Cyngor – fel y nodwyd ym mhroses gosod cyllideb y llynedd –gan y pum pwyllgor; a

-          Cefnogwyd yn llawn ddisgwyliadau’r Llywodraeth am isafswm o 6% o gynnydd yn y Grant Cynnal Refeniw, a sefydlogrwydd a mynegeio mewn grantiau penodol.

31.

Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 6) a Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Mis 6) pdf icon PDF 77 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 6), Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Mis 6) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ym Mis 6, a sefyllfa’r Rhaglen Gyfalaf 2020/21 ym Mis 6 cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol petai popeth yn aros fel yr oedd, ac roedd yn ystyried sefyllfa ddiweddaraf cyhoeddiadau Grantiau Argyfwng Llywodraeth Cymru.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i ostwng pwysau costau a gwella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd - yn ddiffyg gweithredol o £0.569 miliwn.  Roedd yr amcanestyniad hwn yn cynnwys arbedion wedi eu cyflawni drwy adolygiad parhaus gwariant dianghenraid, ond doedd ddim yn cynnwys effaith risgiau agored sylweddol ar incwm Treth y Cyngor a Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, na’r dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu gan arian wrth gefn. Nodwyd y rhesymau dros y symudiad ffafriol o £0.352 miliwn o Fis 5 yn yr adroddiad, gan gynnwys amrywiant sylweddol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg a Ieuenctid a Rhaglenni Strategol.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol fanylion llawn y risgiau ariannol allweddol a risgiau newydd, yn ogystal â’r sefyllfa ar gyllid argyfwng, cyflawniad arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn, arian wrth gefn a balansau fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Yn y Cyfrif Refeniw Tai, roedd tanwariant arfaethedig o £0.478m yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo o £2.487m, a oedd yn uwch na’r canllawiau a argymhellwyd ar wariant.

 

Wrth ddiolch i’r tîm Cyllid am eu gwaith, croesawodd y Cynghorydd Banks y £0.200 miliwn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i ariannu rhan o ddyfarniad cyflog i athrawon.

 

Amlygodd y Cynghorydd Thomas gostau cludiant cynyddol fel maes o bryder.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, er yr argyfwng cenedlaethol, fod y Cyngor mewn sefyllfa gref ar hyn o bryd ac y gwnaethpwyd y mwyaf o hawliadau cyllid grant. Roedd nifer o risgiau sylweddol eto i’w datrys gyda Llywodraeth Cymru a byddai’r sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn yn effeithio ar y pwynt cychwyn ar gyfer cyllideb 2021/22.

 

O safbwynt Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, yn dilyn cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y chwarter cyntaf, y disgwylid cyhoeddiad cadarnhaol ar arian i’w ddyrannu ar gyfer yr ail chwarter.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Dunbobbin a Williams.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Roedd newidiadau i’r rhaglen ddiwygiedig yn ystod y cyfnod yn bennaf oherwydd cyflwyno ffrydiau cyllido grant ar gyfer Cynnal Priffyrdd, Cynnig Gofal Plant a Dechrau'n Deg, heb unrhyw effaith ar gyllid craidd y Cyngor. Roedd crynodeb o’r sefyllfa ar wariant cyfalaf ym Mis 6 yn dangos tanwariant arfaethedig o £1.369 miliwn ar Gronfa’r Cyngor i’w gario ymlaen i 2021/22. Nodwyd arbediad unigol o £0.027 miliwn am waith wedi ei wneud ar y Cae Pob Tywydd yn Ysgol Uwchradd Elfed, oedd yn is nag a ragwelwyd.

 

Yn dilyn cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf 2020/21 - 2022/23 yn gynharach yn y flwyddyn gyda diffyg mewn cyllid o £2.264 miliwn,  ...  view the full Cofnodion text for item 31.

32.

Rhaglen Gyfalaf 2021/22 - 2023/24 pdf icon PDF 578 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf 2020/21 - 2022/23 ar gyfer ei adolygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2021/22 - 2023/24 a oedd yn nodi buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer y tymor hir i alluogi darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel gyda gwerth am arian, wedi ei rannu rhwng y tair adran: Statudol / Rheoleiddio, Asedau Wrth Gefn a Buddsoddiad. Fel yr adroddiad yn yr eitem flaenorol, roedd amcangyfrif o £0.403 miliwn o arian dros ben, gyda £0.617 miliwn o arian dros ben ar gyfer 2020/21.

 

Cafwyd cyflwyniad manwl yn ymwneud â'r meysydd canlynol:

 

·         Strwythur - Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor

·         Rhaglen Gyfredol 2020/21-2022/23

·         Cyllid a Ragwelir 2021/22 - 2023/24

·         Dyraniadau Arfaethedig – Statudol/ Rheoleiddiol, Asedau wrth Gefn a Buddsoddiad

·         Crynodeb Rhaglen wedi ei hariannu’n gyffredinol

·         Cynlluniau sy’n cael eu hariannu’n benodol

·         Crynodeb Rhaglen Gyfalaf

·         Cynlluniau posib ar gyfer y dyfodol

·         Y camau nesaf

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cytunodd y Prif Swyddog i ddarparu gwybodaeth ar wahân ar ddatblygiad datrysiad ar gyfer mynwentydd Penarlâg.

 

Canmolodd y Cynghorydd Dunbobbin yr amrywiaeth o brosiectau oedd yn gysylltiedig â blaenoriaethau’r Cyngor. Mewn ymateb i gwestiynau eraill, byddai’r Prif Swyddog hefyd yn darparu ymateb ar wahân ar a oedd addasiadau i gartrefi gofalwyr maeth hefyd yn berthnasol i ofalwyr sy'n berthnasau. O safbwynt cymorth i blant sy’n derbyn gofal, siaradodd am yr amrywiol fentrau gyda’r bwriad o geisio cadw teuluoedd gyda’i gilydd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peers a ystyriwyd pryderon am y rhwydwaith ffyrdd lleol wrth wneud y dyraniad i orsaf trosglwyddo wastraff Standard Yard. Eglurodd Swyddogion fod y gwaith rhagarweiniol yn cael ei wneud ar opsiynau i aildrefnu’r rhwydwaith ffyrdd. Rhannwyd gwybodaeth hefyd ar raglenni ar gyfer gliniaduron newydd ac adnewyddu toiledau mewn ysgolion.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Thomas ddiweddariad ar gyllid ar gyfer gorsaf trosglwyddo gwastraff Standard Yard. O safbwynt y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd, mynegodd bryderon yngl?n â diwedd y rhaglen gyllido gan Lywodraeth Cymru a byddai’n ceisio cynnydd yng nghyllideb y flwyddyn nesaf er mwyn parhau i fuddsoddi yn isadeiledd ffyrdd y Sir tra’n parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru. Aeth ymlaen i ganmol dull gweithredu’r Prif Swyddog a’i dîm o wneud y mwyaf o dderbyniadau cyfalaf a chyllid grant i gefnogi’r Rhaglen Gyfalaf.

 

Wrth ganmol yr adroddiad, canmolodd y Cynghorydd Heesom yr Aelod Cabinet a’r Prif Swyddog am eu gwaith.

 

Talodd y Cynghorydd Banks deyrnged i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith ar fynd i’r afael â digartrefedd.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Heesom a Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 (paragraff 1.09) ar gyfer rhannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau Wrth Gefn Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2021/22-2023/24;

 

 (b)      Bod y cynlluniau wedi'u cynnwys yn Nhabl 4 (paragraff 1.27) ar gyfer adran Buddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 1.27 - 2021/22-2023/24 yn cael eu cymeradwyo;

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn nodi bod y diffyg mewn cyllid i ariannu cynlluniau yn 2021/22 yn Nhabl 5 (paragraff 1.36) ar hyn o bryd yn y broses gymeradwyo yn caniatáu hyblygrwydd. Bydd opsiynau  ...  view the full Cofnodion text for item 32.

33.

Strategaeth Gyfalaf yn Cynnwys Dangosyddion Darbodus 2021/22 - 2022/23 pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2021/21 - 2022/23 ar gyfer ei adolygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Strategaeth Gyfalaf wedi ei diweddaru cyn ei chyflwyno i’r Cabinet. Dogfen drosfwaol oedd y Strategaeth oedd yn dwyn ynghyd nifer o strategaethau a pholisïau, wedi eu rhannu i nifer o adrannau, ac roedd yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2021/22 - 2023/24. Doedd dim newidiadau sylweddol ers y flwyddyn flaenorol a dim meysydd o bryder. Roedd crynodeb o’r pwyntiau allweddol yn cynnwys y tabl yn dangos y lefel o gyllid cyfalaf o’i gymharu â’r gyllideb gyffredinol lle rhagwelwyd newid ymylol dros y cyfnod o dair blynedd.

 

Nododd Swyddogion awgrym y Cynghorydd Banks am newid yn y geiriad yn y Crynodeb Gweithredol er mwyn amlygu fod y Strategaeth Gyfalaf yn ofyniad.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Williams a Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn argymell y Strategaeth Gyfalaf i’r Cabinet; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet:-

 

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2021/22 – 2023/24 fel y manylir o fewn Tablau 1, a 4 – 7 gan eu cynnwys, o’r Strategaeth Gyfalaf, ac

 

·         Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i achosi symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).

34.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.