Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet_kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

29.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o gysylltiad.

 

30.

Ystyried mater a atgyfeiriwyd at y Pwyllgor yn unol â'r Trefniadau Galw i Mewn pdf icon PDF 158 KB

Mae penderfyniad y cyfarfod Cabinet ar 16 Gorffennaf yn ymwneud â Ffioedd a Thaliadau wedi cael ei alw i mewn.  Atodir copi o’r weithdrefn ar gyfer delio a phenderfyniad sydd wedi’i galw i mewn.

 

Cofnodion:

            Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd pam bod yr alwad yn cael ei hystyried gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn hytrach nag un yr Amgylchedd. Nid oedd yr alwad yn ymwneud ag egwyddor casglu gwastraff gwyrdd na chodi tâl amdano. Roedd yr alwad yn herio effeithiolrwydd a chyfiawnhad y cynnydd awgrymedig i’r tâl blynyddol am gasglu gwastraff gwyrdd.  Roedd hon yn un elfen o’r polisi ffioedd a thaliadau corfforaethol a oedd newydd ei fabwysiadu – mater ariannol yn hytrach nag un am ddarparu gwasanaeth.

 

            Rhoddodd y swyddog wedyn drosolwg o’r drefn ar gyfer galw Penderfyniad Cabinet i mewn fel y manylwyd yn y ddogfen ategol. Roedd y Cabinet wedi ystyried adroddiad ar yr adroddiad Ffioedd a Thaliadau yn ei gyfarfod ar 16 Gorffennaf 2019. Roedd y penderfyniad (Cofnod o Benderfyniad 3673) wedi’i alw i mewn gan y Cynghorwyr Mike Peers, Patrick Heesom, Chris Dolphin, Helen Brown, George Hardcastle, Veronica Gay a Richard Jones. Roedd copïau o adroddiad y Cabinet, y Cofnod o Benderfyniad a’r Hysbysiad Galw i Mewn, a oedd yn nodi pum rheswm dros alw i mewn, wedi eu cynnwys gyda phapurau’r rhaglen ar gyfer y cyfarfod. 

 

            Dywedodd y Cadeirydd na fyddai’n derbyn cynigion ar gyfer unrhyw un o’r pedwar dewis nes byddai’r Aelodau wedi clywed yr achosion a gyflwynwyd gan y symbylwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a bod yr Aelodau wedi cael cyfle i ofyn cwestiynau i’r ddwy ochr.

 

31.

Ffioedd a Thaliadau pdf icon PDF 260 KB

Atodir y dogfennau canlynol i gynorthwyo Aelodau:-

 

·         Copi o adroddiad y  Prif Swyddog  (Gwasanaethau Stryd a Chudliant) –Ffioedd a Thaliadau

  • Atodiad A i ' r adroddiad ffioedd a thaliadau
  • Atodiad B i ' r adroddiad ffioedd a thaliadau
  • Copi o’r Cofnod o Benderfyniad
  • Copi o’r Hysbysiad Galw i Mewn

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Fel symbylwyr yr alwad, gwahoddwyd y Cynghorwyr Mike Peers, Patrick Heesom, Chris Dolphin a Helen Brown i gyflwyno i’r Pwyllgor yn gyntaf.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Mike Peers i’r Cadeirydd a’r Pwyllgor ac amlinellodd y rhesymau am yr alwad i mewn, gan gyfeirio at yr alwad flaenorol ar gasglu gwastraff gwyrdd a gynhaliwyd fis Ionawr 2018.

 

            Eglurodd y pryderon bod y nifer oedd yn cofrestru i gael trwyddedau casglu gwastraff gwyrdd wedi gostwng 23% ar ôl cynyddu Treth y Cyngor.  Pan gynhaliwyd yr adolygiad ar flwyddyn gyntaf y gwasanaeth, roedd yr adroddiad yn cynnwys ffigyrau anghywir: nid oedd y ffigwr o 33,871 o drwyddedau wedi’u gwerthu yn gywir. Wrth rannu hwn yn 29,021 am un bin, 5,292 am yr ail a 558 am y trydydd, cyfanswm y trwyddedau oedd 39,279. Gan fod pob trwydded yn costio £30, roedd arian dros ben yn y flwyddyn gyntaf, a oedd yn golygu nad oedd angen codi tâl.  Gyda’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor, roedd yn annheg rhoi mwy o gostau i drigolion Sir y Fflint.

 

            Cododd y Cynghorydd Chris Dolphin nifer o faterion: - ble roedd yr arian dros ben wedi cael ei wario; bod hon yn fargen wael i gwsmeriaid; bod biniau 140 litr yn rhy fach o gymharu â’r rhai a ddarperid gan awdurdodau eraill ac nad oedd y cynnydd o 6.6% neu 16% os oedd cwsmeriaid yn talu £35 yn rhesymol.  Dywedodd eto fod angen i’r tâl fod yn deg.  Cyfeiriodd at 1.10 yn adroddiad y Cabinet, a oedd yn dweud y gallai pobl ystyried y cynnydd yn annheg ac y gallai effeithio ar y nifer oedd yn cofrestru i’w derbyn.  Roedd hyn, ynghyd â’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor, wedi’i brofi gan ostyngiad o 23% yn y niferoedd a oedd am dderbyn y gwasanaeth.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom bod yr Aelodau’n deall rôl y Cyngor i greu incwm ond nad oedd y ffordd hon yn briodol.  Roedd angen iddi fod yn deg a derbyniol a dywedodd bod y ffigyrau yn adroddiadau’r Cabinet yn dangos bod arian dros ben. Gallai hyn ymddangos i fod yn bolisi trethu dwbl a dylid ailystyried y Polisi Creu Incwm. Er bod Aelodau eraill yn deall bod y Cyngor wedi’i danariannu a bod angen edrych ar ffyrdd eraill o greu incwm, nid hon oedd y ffordd gywir. Roedd yn rhaid bod yn deg â phawb.

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Helen Brown at 1.07 yn adroddiad cyfarfod y Cabinet fis Ionawr ar adolygu Taliadau Gwastraff Gwyrdd yn Sir y Fflint pan adolygwyd y flwyddyn gyntaf.  Cyflwynwyd 33,871 o drwyddedau ac nid oedd unrhyw bryderon o ran costau cynyddol ond 7 mis yn ddiweddarach yn adroddiad Gorffennaf, roedd cynigion i gynyddu taliadau.  Roedd yn anodd deall y ffigyrau a gyflwynwyd.  Hefyd yn yr adroddiad, roedd yn dweud bod gostyngiad yn nifer y trwyddedau a gyflwynwyd o gymharu â’r flwyddyn gyntaf.  Gofynnodd ble roedd gwybodaeth ynghylch yr arian dros ben i’w chael a dywedodd nad oedd unrhyw gyfiawnhad dros y cynnydd.

 

Ymatebion gan y penderfynwyr

            Croesawai’r Prif Weithredwr yr  ...  view the full Cofnodion text for item 31.

32.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

          Roedd un aelod o’r cyhoedd ac un aelod o’r wasg yn bresennol.

 (Dechreuodd y cyfarfod am 11.30 am a daeth i ben am 1.42 pm.)

 

……………………………………………

Y Cadeirydd