Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

53.

SYLWADAU AGORIADOL

Cofnodion:

Yn ôl cais y Cadeirydd, safodd yr holl aelodau oedd yn bresennol i roi teyrnged dawel i’r diweddar Gynghorydd Nigel Steele-Mortimer.

 

Darllenodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd ddatganiad ar y cyfyngiadau ynghylch trafodaethau yn y cyfarfodydd yn ystod cyfnod yr Etholiad.

54.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

55.

Cofnodion pdf icon PDF 154 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 17 Hydref 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2019.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bateman fod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel gwir gofnod ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

56.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar gynnydd y camau gweithredu a gododd yn y cyfarfodydd blaenorol.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Johnson a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud.

57.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a rhoddodd wybod y byddai angen i’r eitem ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru gael ei hailamserlennu yn y Flwyddyn Newydd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau am yr eitemau sydd heb eu dyrannu ar hyn o bryd, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r adroddiad yn cael ei drefnu ar ôl i’r materion perthnasol gael eu datrys. Byddai’r gwaith o ddymchwel Camau 3 a 4 ar gampws Neuadd y Sir yn cychwyn erbyn dechrau’r Gwanwyn. Roedd disgwyl cael cadarnhad ar gyllid cyfalaf cenedlaethol ar brosiect Theatr Clwyd gyda’r Cabinet yn disgwyl adroddiad ym mis Rhagfyr ar bontio’r theatr i Ymddiriedolaeth annibynnol. Ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, byddai cynrychiolwyr ar draws y rhanbarth yn cael eu gofyn i gytuno i adroddiad templed ar drefniadau craffu i’w hystyried gan bob partner. Byddai hwn yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter ym mis Rhagfyr neu fis Ionawr.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Johnson ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, trwy ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor,  yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, wrth i’r angen godi.

58.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig: Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2020/21 pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar y sefyllfa cenedlaethol a lleol diweddaraf mewn perthynas â Chyllideb Refeniw’r Cyngor 2020/21.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad gan ddarparu’r rhagolwg diweddaraf ar gyfer Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2020/21 a’r gwaith sy’n cael ei wneud mewn ymateb i’r bwlch yn y gyllideb. Byddai pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’n derbyn adroddiad ar eu portffolios priodol er mwyn adolygu’r pwysau ar gostau a’r arbedion fel y rhannwyd yn flaenorol mewn gweithdai. Ar y cam hwn, ni chafwyd unrhyw geisiadau gan Aelodau i archwilio unrhyw feysydd arbedion newydd. Nid oedd digon o amser i wneud hynny ar gyfer proses gosod cyllideb 2020/21 cyn hwyred â hyn.

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol grynodeb o’r prif newidiadau i’r pwysau presennol ynghyd â phwysau newydd oedd wedi codi yn ystod yr haf. Roedd y rhain wedi cynyddu’r bwlch yn y gyllideb i £16.2m ar gyfer 2020/21 o flaen cyllideb Llywodraeth Cymru (LlC). Crynhodd yr adroddiad hefyd dros £8m o arbedion ac incwm a ddynodwyd yn y strategaeth pedair rhan i gyfrannu at y bwlch, gan gynnwys tybiaeth weithredol o gynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor oedd islaw’r lefel oedd yn ddisgwyliedig gan LlC. Roedd hyn hefyd yn cynnwys £2m rhagamcanol o’r adolygiad actiwaraidd bob tair blynedd o’r Gronfa Bensiynau, oedd yn agos at gael ei chwblhau, yn dilyn perfformiad cryf gan Gronfa Bensiynau Clwyd dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Roedd y Cyngor yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Llywodraeth Cymru wrth aros am godiad sylweddol yn ei Grant Cefnogi Refeniw blynyddol i fodloni gweddill y bwlch a ragwelir a chyflawni cyllideb gyfreithiol gytbwys. Y tu allan i hyn, yr unig atebion i weddill y bwlch yn y gyllideb oedd adolygiad pellach o gyfraniadau cyflogwyr Cronfa Bensiynau Clwyd, rhannu’r pwysau cost gydag ysgolion a chynnydd i’r Dreth Gyngor sydd uwchlaw’r dybiaeth weithredol.

 

O ran y sefyllfa genedlaethol, byddai’r dyraniad i Lywodraeth Cymru o adolygiad gwario’r DU yn aros. Oherwydd yr Etholiad Cyffredinol, gohiriodd Llywodraeth Cymru gyhoeddiad ei chyllideb a’r Setliadau Llywodraeth Leol Dros Dro tan 16 Rhagfyr, gyda Setliad Terfynol Llywodraeth Leol yn ddisgwyliedig ar 25 Chwefror a dadl cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar 4 Mawrth. Cyn y dyddiadau allweddol hyn, y gobaith oedd y gallai unrhyw ddeallusrwydd sydd ar gael yn cael ei rannu yn y Cyngor Sir ar 10 Rhagfyr.

 

Croesawodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad, ac yn benodol, canlyniad cadarnhaol adolygiad actiwaraidd Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i bawb oedd ynghlwm â’r gweithgor trawsbleidiol a chymeradwyodd y sylwadau am barhau gyda gwaith gyda CLlLC ac Aelodau’r Cynulliad er mwyn chwilio am ganlyniad cadarnhaol ar y Setliad.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, cynghorwyd y Cynghorydd Heesom fod y pwysau gofal cymdeithasol a adroddwyd ar gyfer 2020/21 yn ymgorffori’r cynnydd sylweddol mewn Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir. O ran Newid Sefydliadol, anelodd y rhaglenni gwaith at gyflawni arbedion dros y tymor hwy, megis y Strategaeth Ddigidol a phontio Theatr Clwyd, ac felly ni fyddai’n effeithio ar y sefyllfa ar gyfer 2020/21.

 

Yn dilyn pryderon y Cynghorydd Heesom am wahanu gwasanaethau, anghytunodd y Prif Weithredwr a dywedodd fod strwythur y portffolio’n gweithio’n  ...  view the full Cofnodion text for item 58.

59.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig: Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2020/21 - Gwasanaethau Corfforaethol/Cyllid Corfforaethol pdf icon PDF 230 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i aelodau am y sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb ar gyfer 2020/21 ac unrhyw gynigion arbennig ar gyfer y Portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar arbedion arfaethedig i’r gyllideb a phwysau cost i’r Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid Corfforaethol yn amodol ar gwblhau gwaith parhaus ar ddewisiadau cyllid corfforaethol a datrys cyllideb Llywodraeth Cymru (LlC).

 

Wrth groesawu’r adroddiad, mynegodd y Cynghorydd Heesom bryderon am unrhyw gynnydd yn y dybiaeth weithredol ar y Dreth Gyngor. Esboniodd y Cynghorydd Roberts mai swm mynegol oedd hwn oedd yn cael ei gynnwys at ddibenion cyllidebu ac, yn absenoldeb codiad sylweddol mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru, ni fyddai awydd ar draws Siambr y Cyngor am gynnydd uwch.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol eglurhad i’r Cynghorydd Bateman am y goblygiadau refeniw a chyfalaf o’r diffyg mewn incwm rhent yn sgil gwerthu eiddo.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Johnson a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Bateman. Gofynnodd y Cynghorydd Heesom i’r cofnodion nodi ei fod yn atal ei bleidlais a’i fod yn nodi’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cynigon am arbedion i’r Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid Corfforaethol ar gyfer 2020/21; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo pwysau cost y Gwasanaethau Corfforaethol a’r Cyllid Corfforaethol a argymhellwyd i’w cynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2020/21.

60.

Rhaglen Gyfalaf 2020/21 – 2022/23 pdf icon PDF 484 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf 2020/21 - 2022/23 ar gyfer ei adolygu.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar Raglen Gyfalaf arfaethedig 2020/21 – 2022/23 a nododd fuddsoddiad mewn asedau ar gyfer y tymor hir i alluogi ar gyfer cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus ansawdd uchel a gwerth am arian wedi’u rhannu rhwng y tair adran: Statudol/Rheoleiddio, Asedau Cadwedig a Buddsoddiadau.

 

Derbyniwyd cyflwyniad yn cwmpasu’r canlynol:

 

·         Strwythur – Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor

·         Rhaglen Bresennol 2019/20 – 2021/22

·         Cyllid Rhagamcanol 2020/21 – 2022/23

·         Statudol/Rheoliadau – Dyraniadau Arfaethedig

·         Asedau Cadwedig – Dyraniadau Arfaethedig

·         Buddsoddiadau – Dyraniadau Arfaethedig

·         Crynodeb o Raglen a Ariennir yn Gyffredinol

·         Cynlluniau a Ariannwyd yn Benodol

·         Rhaglen Gyfalaf Gryno

·         Cynlluniau Potensial i’r Dyfodol

·         Y Camau Nesaf

 

Ym Mis 6, cafwyd diffyg cyllid bras o £1.502m ar gyfer 2019/20 gyda diffyg ariannu cyffredinol o £0.723m ar gyfer y cyfnod o dair blynedd. Byddai’r diffyg hwn yn cael ei ostwng yn achos ceisiadau llwyddiannus am gyllid grant oedd yn aros am gadarnhad. Roedd y dyraniadau arfaethedig dan yr adran Asedau Cadwedig yn cynnwys swm cynyddol er mwyn rhoi lle i alluogi mwy o hyblygrwydd i ymateb i amgylchiadau na ellid bod wedi’u rhagweld.

 

Wrth ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad, awgrymodd y Cynghorydd Heesom weithdy ar wahân i edrych yn fanylach ar y wybodaeth. Mynegodd bryderon am y diffyg gwybodaeth am wariant a datblygu economaidd yn ardaloedd gorllewinol y Sir, yn enwedig i fynd i’r afael â materion coridorau traffig i Ddociau Mostyn.

 

Cefnogwyd yr awgrym am weithdy gan y Cynghorydd Roberts a gyfeiriodd at waith parhaus i asesu cyflwr adeiladau ysgolion a’r cais i Lywodraeth Cymru am gynllun cyfalaf i adnewyddu ysgolion y tu allan i gwmpas y prif raglenni gwella.

 

Mewn perthynas â buddsoddi ar draws Sir y Fflint, croesawodd y Cynghorydd Johnson y gwelliannau a wnaed yn ardal Treffynnon a gofynnwyd am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y cynllun arfaethedig yn Llys Gwenffrwd.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Bateman, dywedodd y Cynghorydd Roberts fod y Cyngor yn aros am ganlyniad cais am grant i Gronfa Dreftadaeth y Loteri i ddatblygu cyfleuster archif ar y cyd newydd a adroddwyd yn ddiweddar i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid.

 

Dywedodd y Cynghorydd Banks fod yna nifer o bethau cadarnhaol yn yr adroddiad a thalodd deyrnged i waith y timau oedd yn gyfrifol am gyflwyno ceisiadau am gyllid grant.

 

Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at y cyfeiriad yn yr adroddiad at gynnal a chadw cyfleusterau dan Aura Leisure & Libraries lle’r oedd gwaith ar asesu anghenion buddsoddi cyfalaf yn anghyflawn. Mewn ymateb i awgrym y Cynghorydd Heesom, dywedodd y byddai gweithdy ar ariannu cyfalaf i Aelodau’n cael ei drefnu yn y Flwyddyn Newydd. Gofynnodd y Cynghorydd Heesom i hyn ystyried ei bwynt ar ddatblygu economaidd.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad, a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r ddadl, gan y Cynghorydd Cunningham ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 (paragraff 1.09) ar gyfer adrannau Statudol/Rheoleiddiol ac Asedau Cadwedig Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2020/21 - 2022/23;

 

(b)       Bod  ...  view the full Cofnodion text for item 60.

Item 8 - Capital Programme presentation pdf icon PDF 586 KB

61.

Strategaeth Gyfalaf yn Cynnwys Dangosyddion Darbodus 2020/21 – 2022/23 pdf icon PDF 186 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2020/21 - 2022/23 ar gyfer ei adolygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg Dechnegol) y Strategaeth Gyfalaf wedi’i diweddaru cyn cyflwyno i’r Cabinet. Roedd y Strategaeth yn ddogfen gyffredinol a ddygodd ynghyd amryw strategaethau a pholisïau, wedi’u rhannu’n nifer o adrannau ac yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2020-21 - 2022-23. Ni wnaed unrhyw newidiadau sylweddol o’r flwyddyn flaenorol.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Collett ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn argymell y Strategaeth Gyfalaf i’r Cabinet; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn argymell y canlynol i’r Cabinet:-

 

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2020/21 - 2022/23 fel y manylwyd yn Nhablau 1, a 4 – 7 sy’n cynnwys y Strategaeth Gyfalaf.

·         Awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol weithredu symudiadau rhwng y terfynau a gytunwyd ar wahân o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a’r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).

62.

Strategaeth Gyfalaf a Cynllun Rheoli Asedau 2020 - 2026 pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Cynllun Rheoli Asedau 2020 - 2026 ar gyfer ei adolygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar Gynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2020-26 a adnewyddwyd, a osododd strategaeth tymor canolig y Cyngor ar gyfer rheoli ei asedau a symud tuag at y portffolio asedau gorau posibl. Cafodd cyfanswm gwerth asedau’r Cyngor, sef tir ac eiddo yn bennaf, eu prisio am £762m. Crëwyd dros £7m o dderbynebau cyfalaf dros y tair blynedd diwethaf i fuddsoddi yn y Rhaglen Gyfalaf.

 

Rhannodd y Cynghorydd Heesom ei bryderon ynghylch i ba raddau y gallai’r asedau cyfalaf a chorfforaethol gyfrannu at y gyllideb refeniw. Croesawodd y diweddariad a siaradodd am y potensial i drafod gyda’r Arweinwyr Gr?p ar y Gofrestr Asedau.

 

Wrth groesawu’r adroddiad, siaradodd y Cynghorydd Mullin am y dull adeiladol a gymerwyd i optimeiddio’r portffolio asedau.

 

O ran pwynt y Cynghorydd Heesom, dywedodd y Prif Weithredwr nad effeithiodd y derbynebau cyfalaf yn uniongyrchol ar y ‘bwlch’ yng nghyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor. Er yr ymddangosai cyfanswm gwerth yr asedau’n sylweddol, roedd hyn yn cynnwys yr ystâd gyhoeddus gyfan, er enghraifft ysgolion a chanolfannau hamdden, ac roedd tybiaethau’r dyfodol ar dderbynebau cyfalaf yn gymedrol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn cynharach gan y Cynghorydd Heesom, esboniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod yr heriau wrth recriwtio i’r tîm asedau a phrisio wedi cymell dull gwahanol o ychwanegu at adnoddau gydag ymgynghorwyr arbenigol allanol. Yn ogystal, roedd proses recriwtio ar waith i lenwi swydd wag ar lefel uwch.

 

Dywedodd y Cynghorydd Johnson y gallai ymchwil ar y ddemograffeg newidiol mewn trefi llai o faint ffurfio rhan o drafodaethau’r dyfodol.

 

Croesawodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad fel cynllun integredig ar gyfer monitro ystâd y Cyngor i’r dyfodol.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Cunningham ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Williams.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi Cynllun Rheoli Asedau 2020-2026 er mwyn iddo allu cael ei fabwysiadu fel y brif ddogfen ar gyfer rheoli eiddo corfforaethol ac asedau adnoddau tir y Cyngor.

63.

Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 6) a Rhaglen Gyfalaf (Mis 6 ) pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 6 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Darparu gwybodaeth ar Fis 6 y Rhaglen Gyfalaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa fonitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a diweddariad ar Raglen Gyfalaf 2019/20 ym mis 6 cyn i’r Cabinet eu hystyried.

 

Monitro’r Gyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa diwedd blwyddyn rhagamcanol – heb gamau gweithredu i leihau pwysau cost a gwella’r cynnyrch ar gynllunio effeithlonrwydd – oedd diffyg gweithredu o £2.698m, sef symudiad ffafriol o £0.344m o Fis 5. Fel y nodwyd yn yr adroddiad, roedd y gostyngiad yn ganlyniad oediad unwaith yn unig mewn gwariant o -£0.530m ym Mis 5 a wrthbwyswyd gan bwysau ychwanegol yn y galw oedd yn gwneud cyfanswm o £0.186m. Byddai gwaith pellach ar herio meysydd gwariant a recriwtio heb fod yn hanfodol yn parhau er mwyn gostwng ymhellach y gorwariant rhagamcanol. O ran yr amrywiadau mawr fesul portffolio, byddai effaith gadarnhaol cyllid grant pwysau’r gaeaf ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau monitro cyllideb i’r dyfodol.

 

Y gweddill rhagamcanol ar Gronfeydd Wrth Gefn ar ddiwedd y flwyddyn oedd £2.171m, oedd yn llai na’r blynyddoedd blaenorol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Heesom ar Gyllid Canolog a Chorfforaethol, tynnwyd sylw at Dabl 1 yn yr adroddiad oedd yn dynodi tanwariant o £0.377m gyda’r manylion wedi’u dangos yn yr atodiad.

 

Ar incwm meysydd parcio, cynghorwyd y Cynghorydd Bateman fod rhagamcaniadau misol wedi’u haddasu yn y gyllideb ar gyfer 2020/21.

 

Wrth ddiolch i swyddogion, canmolodd y Cynghorydd Banks lefel y cynnwys yn yr adroddiad.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Roedd y newidiadau i’r rhaglen ddiwygiedig yn bennaf yn sgil cadarnhau amryw lifoedd cyllid grant yn y flwyddyn. Argymhellwyd cyfran fawr o’r tanwariant rhagamcanol o £5.585m i’r Cabinet ar gyfer prosiectau i’w cario ymlaen. Argymhellwyd defnyddio rhan o ddyraniad y Cyngor o gyllid cyfalaf Ysgogi Economaidd i fynd i’r afael ag adfer cerbydau i ganol tref Treffynnon ac effaith llifogydd ar y rhwydwaith priffyrdd. Dynododd cyllid y cynlluniau cymeradwy ddiffyg o £0.723m dros gyfnod o dair blynedd.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Johnson ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Williams.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Ar ôl ystyried adroddiad Mis 6 Monitro’r Gyllideb Refeniw 2019/20, mae’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes materion penodol y mae’n dymuno’u codi gyda’r Cabinet; ac

 

(b)       Ar ôl ystyried adroddiad Mis 6 Rhaglen Gyfalaf 2019/20, mae’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes materion penodol y mae’n dymuno’u codi gyda’r Cabinet.

64.

Cynllun y Cyngor 2019/20 – Monitro Canol Blwyddyn pdf icon PDF 294 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu grynodeb o gynnydd ar berfformiad yng Nghynllun y Cyngor yng nghanol blwyddyn 2019/20. At ei gilydd, roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol gydag 88% o gamau gweithredu wedi’u hasesu fel rhai sy’n gwneud cynnydd da, ac mae 90% yn debygol o gyflawni’r canlyniad dymunol. Adroddwyd bod 77% o ddangosyddion perfformiad wedi bodloni neu ragori ar eu targedau. Gosodwyd gwybodaeth am reolaeth y meysydd risg mawr (coch).

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Heesom y diffyg gwybodaeth am goridorau cludiant a oedd yn annatod i flaenoriaeth Cyngor Uchelgeisiol, a’r Cynllun Isadeiledd oedd yn cyd-fynd â’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i’w Archwilio gan y Cyhoedd, yn enwedig i fynd i’r afael â’r materion risg o lifogydd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad wedi darparu diweddariad, a hynny dim ond ar amcanion yng Nghynllun y Cyngor ac roedd yn cynnwys cyfeiriadau at gynlluniau cludiant lleol oedd yn ffurfio rhan o ymrwymiadau’r Cyngor. Awgrymodd fod trafodaeth ar ddarpariaeth i’r dyfodol yn cael ei chyfeirio at Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Heesom ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Woolley a gywirodd wall teipio hefyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn cymeradwyo:

 

  • Lefelau cynnydd a hyder cyffredinol wrth gyflawni’r gweithgareddau yng Nghynllun y Cyngor;
  • Y perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor;
  • Y lefelau risg presennol yng Nghynllun y Cyngor.

 

(b)       Bod y Pwyllgor wedi’i galonogi gan gynlluniau a chamau gweithredu i reoli’r gwaith o gyflawni Cynllun y Cyngor 2019/20.

65.

Diweddariad chwarterol Cyflogaeth a’r Gweithlu pdf icon PDF 188 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys diweddariadau strategol yn ogystal ag ystadegau chwarterol y gweithlu a dadansoddiad ohonynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad gwybodaeth y gweithlu ar Chwarter 2 2019/20 a ganolbwyntiodd ar berfformiad a thueddiadau sefydliadol.

 

O ran presenoldeb, roedd y tîm yn parhau i weithio’n agos gyda’r gwasanaethau i wella ffigurau. Yn dilyn dadansoddi’r rhesymau am absenoldeb, byddai ychwanegu categori ar brofedigaeth yn rhoi mwy o eglurder ac yn helpu targedu cymorth priodol i’r unigolion hynny. Adroddwyd cynnydd da ar gwblhau arfarniadau lle creodd y model arfarnu newydd adborth cychwynnol cadarnhaol a fyddai’n cael ei rannu gydag Aelodau, ar ôl iddo gael ei gwblhau. Canlyniadau cadarnhaol eraill oedd gostyngiad yn nifer y lleoliadau i weithwyr asiantaeth gweithgar a gweithredu model cyflog newydd.

 

Croesawodd y Cynghorydd Cunningham y newidiadau i gategoreiddio absenoldeb. Cynigiodd yr argymhelliad ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Adroddiad Gwybodaeth Cyflogaeth a’r Gweithlu ar gyfer Chwarter 2 2019/20 i 30 Medi 2019.

66.

Llythyr Blynyddol Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2018/19 a Chwynion yn erbyn Cyngor Sir y Fflint 2019/20 pdf icon PDF 246 KB

Pwrpas:        I rhannu Llythyr Blynyddol yr Ombwdsman ar gyfer 2018/19 a darparu trosolwg o gwynion yn erbyn gwasanaethau’r Cyngor yn hanner cyntaf 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Cyswllt â Chwsmeriaid yr adroddiad i rannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru 2018-19 ynghyd â throsolwg o gwynion yn erbyn gwasanaethau’r Cyngor yn hanner cyntaf 2019/20. Yn ogystal, nododd yr adroddiad rymoedd deddfwriaethol newydd yr oedd disgwyl i’r Ombwdsmon eu gweithredu ar ddechrau 2020.

 

Er y cafwyd cynnydd cyffredinol yn nifer y cwynion am awdurdodau lleol Cymru yn ystod y cyfnod, croesawodd yr Ombwdsmon y camau a gymerwyd i leihau’r nifer hon trwy ddatrys yn gynnar. Yn Sir y Fflint, arhosodd nifer y cwynion a dderbyniwyd yn erbyn y Cyngor yn gymharol sefydlog gyda 70% yn cael eu hystyried yn rhy gynnar gan nad oedd yr achwynwyr wedi defnyddio gweithdrefn gwyno’r Cyngor yn llawn cyn cyfeirio at yr Ombwdsmon.

 

Yn ystod hanner cyntaf 2019-20, derbyniodd y Cyngor gyfanswm o 371 o gwynion a dangoswyd gwelliant mewn amserau ymateb. Wrth gydnabod meysydd ar gyfer gwelliant a dysgu cyffredinol, roedd nifer o gamau gweithredu wedi’u cynllunio, gan gynnwys adolygiad o weithdrefnau.

 

Siaradodd y Prif Weithredwr am y berthynas gadarnhaol rhwng y swyddogion a swyddfa’r Ombwdsmon. Wrth groesawu’r adborth ar ddatrys cwynion yn gynnar, dywedodd fod yr adroddiad yn adlewyrchu’r gwelliannau a wnaed mewn ymateb i’r camau a gytunwyd yn y gweithdy. Ers y gweithdy, nid oedd yr Aelodau wedi codi unrhyw batrymau cwyno penodol yr oeddent am iddo eu hadolygu a mynd i’r afael â nhw.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Bateman, esboniodd y swyddogion fod y nifer uchaf o gwynion am Gynllunio wedi adlewyrchu’r duedd ar draws y DU. Rhoddwyd eglurhad hefyd i’r Cadeirydd ar y meini prawf ar gyfer cwynion.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mullin at faint y sefydliad a dywedodd yr ymdriniwyd â nifer y cwynion lefel isel yn brydlon.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Johnson ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor:

(a)       Yn nodi perfformiad blynyddol y Cyngor mewn perthynas â’r cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (2018-19) a chwynion lleol a wnaed yn erbyn gwasanaethau yn hanner cyntaf 2019-20;

 

(b)       Yn cefnogi adolygiad y Cyngor o’i weithdrefn gwyno o dderbyn polisi pryderon a chwynion enghreifftiol yr Ombwdsmon i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru; ac yn

 

(c)       Cefnogi’r camau a amlinellwyd yn 1.18 yr adroddiad i wella’r dull o drafod cwynion.

67.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.