Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

33.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

34.

Cofnodion pdf icon PDF 218 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 11 Gorffennaf a 12 Awst 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf ac 12 Awst 2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

35.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi cynnydd ar bwyntiau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.

36.

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol pdf icon PDF 137 KB

Pwrpas:        Darparu sicrwydd a throsolwg i’r Aelodau o weithgareddau a chynnydd y Bartneriaeth yn 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a oedd yn rhoi trosolwg weithgareddau’r 12 mis diwethaf. Cafodd dyletswyddau statudol y Bartneriaeth eu cyflawni trwy Fwrdd Y Gwasanaethau Cyhoeddus a arweinir gan Sir y Fflint.

 

 Cafodd yr Aelodau eu cyflwyno i Sian Jones, Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnes; Richard Powell, Arweinydd Tîm Diogelwch Cymunedol; Rhiannon Edwards, Ymgynghorydd Rhanbarthol Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol; Arolygydd Rhanbarth Gareth Cust o Heddlu Gogledd Cymru; Gerwyn Davies, Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol; a Mike White, Rheolwr Partneriaeth Wrecsam a Sir y Fflint, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Cafwyd cyflwyniad manwl yn ymwneud â'r meysydd canlynol:

 

·         Cyd-destun

·         Grwpiau Cyflawni Diogelwch Cymunedol

·         Cyflawniadau

·         Perfformiad

·         Rhyngweithio gyda’r Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel

·         Blaenoriaethau lleol ar gyfer 2018/19

 

Adroddodd Arweinydd y Tîm Diogelwch Cymunedol bod gostyngiad wedi bod mewn lefelau troseddau dioddefwyr yn Sir y Fflint dros y flwyddyn ddiwethaf a bod gostyngiad wedi bod ledled gogledd Cymru mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rhoddodd drosolwg o’r rhyngweithio sydd wedi digwydd gyda’r Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel ar ardaloedd blaenoriaeth i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched, oedolion diamddiffyn a phobl ifanc, yn ogystal â gwarchod cymunedau.

 

Siaradodd y Cynghorydd Johnson am y cysylltiadau rhwng tlodi, anghydraddoldeb a throsedd. Mewn ymateb i sylwadau am droseddau casineb, byddai penodi Swyddog Cydlyniant Cymunedol i Sir y Fflint (gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru) yn helpu i annog cymunedau i adrodd am ddigwyddiadau.

 

Soniodd yr Arolygydd Gareth Cust am y dulliau amrywiol sydd ar gael i adrodd am droseddau a chodi ymwybyddiaeth mewn ysgolion o faterion megis troseddau casineb a Llinellau Sirol. Soniodd hefyd am raglen hyfforddi gyda swyddogion yr heddlu yn Sir y Fflint i adnabod effeithiau Profiadau Niweidiol Yn Ystod Plentyndod (ACE).

 

 Wrth gydnabod y pwysau sydd ar adnoddau’r Heddlu, cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at yr atodiad hwyr i adroddiad Monitro Cynllun y Cyngor a welir yn ddiweddarach yn y Rhaglen, lle'r oedd rhywfaint o ddata perfformiad yr Heddlu ar goll.  Roedd hyn yn cynnwys nifer y digwyddiadau o gam-drin domestig a thrais rhywiol sy'n cael eu hadrodd a oedd yn faes blaenoriaeth.

 

Wrth sôn am gymhlethdod y pwnc, siaradodd y Prif Weithredwr am yr angen i ddeall uniondeb y data a ddarperir gan Heddlu Gogledd Cymru ac y byddai angen rhannu ffigwr manwl gywir gyda’r Pwyllgor unwaith y byddai ar gael.

 

Cytunodd yr Ymgynghorydd Rhanbarthol Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol bod angen i'r data hwn fod yn fwy clir oherwydd y ffordd y caiff digwyddiadau eu cofnodi. Er mwyn datrys hyn, roedd dadansoddwyr yn adolygu'r dull o gofnodi digwyddiadau er mwyn ymgorffori pob elfen o drais domestig a darparu darlun cywir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones y dylai esboniad fod wedi cael ei gynnwys i helpu i ddeall yr adroddiad er mwyn cymharu perfformiad flwyddyn ar ôl blwyddyn. Cytunodd y Prif Weithredwr a dywedodd mai dim ond y ffigwr yn yr adroddiad gwreiddiol y gallai'r Pwyllgor ei dderbyn ar hyn o bryd gyda'r cafeat ynghylch dadansoddi data parhaus.

 

Cyfeiriodd yr Arolygydd Cust at newidiadau arwyddocaol mewn cofnodi troseddau a chydymffurfio  ...  view the full Cofnodion text for item 36.

Item 5 - Community Safety Partnership slides pdf icon PDF 622 KB

37.

AMRYWIO TREFN Y RHAGLEN

Cofnodion:

Dangosodd y Cadeirydd y byddai newid bach yn nhrefn busnes ac y byddai eitem nesaf y rhaglen (Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol) yn cael ei symud i ddiwedd y cyfarfod er mwyn galluogi cynrychiolwyr i siarad am yr eitemau a oedd ar ôl.

38.

Adroddiad Monitro Cynllun y Cyngor 2018/19 ar ddiwedd y flwyddyn pdf icon PDF 489 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr grynodeb lefel uchel o gynnydd Cynllun y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn a oedd yn darparu dadansoddiad o feysydd o danberfformiad sy’n berthnasol i’r Pwyllgor. Derbyniodd y Pwyllgor atodiad diwygiedig a oedd yn cynnwys newidiadau bach. Rhoddwyd trosolwg o’r dangosyddion perfformiad â statws coch, byddai rhai o’r rheiny’n cael eu cyflawni dros amser gan fod y gwaith yn parhau. Roedd yr holl risgiau coch yn faterion mynych ac roedd rhai ohonynt yn deillio o effaith wedi’i oedi neu ffactorau allanol.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Richard Jones ei bryderon cynharach yngl?n â gwybodaeth a oedd yn angenrheidiol i’w darllen ochr yn ochr â’r adroddiad yn cael ei rhannu’n hwyr.  Mewn ymateb i sylwadau am y model arfarnu corfforaethol diwygiedig, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai hyn yn gwella safon arfarniadau a’i fod yn gysylltiedig â hyfforddiant, ac y byddai’r targed cwblhau o 100% yn parhau.  O ran nifer y bobl sy’n cael eu cadw yn yr ysbyty wrth aros am ofal cymdeithasol, dywedodd y Prif Weithredwr bod cymharu â chyfartaledd Cymru yn berthnasol a bod llawer iawn o waith yn mynd ymlaen oherwydd y materion niferus dan sylw.  Awgrymodd y Cynghorydd Jones y dylid cyfeirio’r mater at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Cododd y Cynghorydd Heesom bryderon yngl?n â diffyg gwybodaeth am feysydd risg uchel o dan y thema Cyngor Uchelgeisiol megis Cynllun Twf Gogledd Cymru a oedd yn hanfodol i economi Sir y Fflint.

 

 Atgoffodd y Prif Weithredwr y Cynghorydd Heesom mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi crynodeb o gynnydd o ran cynnwys Cynllun y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn, fel y cytunwyd gan y Cyngor Sir. Rhoddodd ddiweddariad cryno am gynnydd y Fargen Dwf y byddai Sir y Fflint yn elwa ohoni. Mewn ymateb i sylwadau pellach, rhoddodd y Cynghorydd Thomas eglurhad am y fframwaith datblygu cenedlaethol ac ymatebodd i sylwadau am gyllid a geisiwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd.

 

 Ar y dangosyddion perfformiad coch, dywedodd y Cynghorydd Banks bod y cynnydd yn bositif gyda’r datblygiad tai Cyngor yng Ngronant a chwblhad Grantiau Cyfleusterau I'r Anabl.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Heesom ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a bod y Cabinet yn cael ei hysbysu bod y Pwyllgor wedi atgyfeirio ymchwiliad i oedi wrth drosglwyddo gofal (IP1.5.2.1 M01 (PAM/025) i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

Item 7 - Addendum v2 with tracked notes pdf icon PDF 481 KB

39.

Adroddiad Blynyddol Gwelliant gan Archwilydd Cyffredinol Cymru 2018-19 pdf icon PDF 138 KB

Pwrpas:        Derbyn yr Adroddiad Gwella Blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a nodi ymateb y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr Adroddiad Gwella Blynyddol a oedd yn crynhoi’r gwaith archwilio a rheoleiddio a oedd wedi’i wneud gan Swyddfa Archwilio Cymru yn y Cyngor yn 2018/19.  Daeth yr adroddiad i gasgliad positif bod ‘y Cyngor yn cyflawni ei ofynion statudol mewn perthynas â gwelliant parhaus ond, fel pob cyngor arall yng Nghymru, mae’n wynebu heriau wrth fynd ymlaen’. Ni wnaethpwyd unrhyw argymhellion ffurfiol. Roedd ymateb y Cyngor i awgrymiadau gwirfoddol ar gyfer gwelliant yn cynnwys nifer o gamau gweithredu lefel isel.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd o Adroddiad Gwella Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2018/19.

40.

Diweddariad chwarterol Cyflogaeth a’r Gweithlu pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys diweddariadau strategol yn ogystal ag ystadegau chwarterol y gweithlu a dadansoddiad ohonynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Gwybodaeth Busnes a Chydymffurfiaeth adroddiad gwybodaeth gweithlu ar chwarter cyntaf 2019/20 a oedd yn canolbwyntio ar berfformiad a thueddiadau sefydliadol.

 

Yn unol â chais y Cadeirydd, cytunwyd y byddai adroddiadau dangosfwrdd y dyfodol yn cynnwys ffigyrau am drosiant gweithwyr yn ogystal â chanrannau.

 

 O ran y dirywiad mewn lefelau presenoldeb, roedd cydweithwyr Iechyd Galwedigaethol yn parhau i weithio gyda phortffolios i fynd i’r afael ag absenoldebau oherwydd straen, iselder a gor-bryder sef y rhesymau a gofnodir fwyaf o hyd. Roedd dadansoddiad data manwl wedi canfod bod y mwyafrif o’r absenoldebau hynny yn gysylltiedig â materion bywyd, er enghraifft ymdopi â phrofedigaeth. Byddai’r gwasanaeth ‘CareFirst’ yn cael ei ail-lansio yn dilyn cynnydd yn nifer y gweithwyr sy’n defnyddio’r gefnogaeth honno.

 

Y ffigwr mwyaf diweddar o ran cwblhau arfarniadau oedd 83%. Roedd disgwyl i’r adroddiad chwarterol nesaf ddarparu darlun mwy cywir a byddai Prif Swyddogion yn cael eu galw i fod yn atebol am unrhyw lithriant yn eu portffolios.

 

Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Richard Jones, cytunodd y Prif Weithredwr y gellid rhannu’r model arfarnu newydd gyda’r Pwyllgor mewn sesiwn friffio cyn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i sylwadau pellach, darparodd yr Ymgynghorydd Gwybodaeth Busnes a Chydymffurfiaeth eglurhad am ddata ar gyfer trosiant a sefydlogrwydd mewn ysgolion. Nododd hefyd mai nifer y lleoliadau asiantaeth gweithredol oedd 89 yn hytrach na 94.

 

Cafodd yr argymhellion, a newidiwyd i adlewyrchu’r ddadl, eu gwneud gan y Cynghorydd Jones ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad Gwybodaeth Cyflogaeth a’r Gweithlu ar gyfer Chwarter 1, 2019/20;

 

(b)       Bod yr adroddiad, yn y dyfodol, yn cynnwys ffigyrau yn ogystal â chanrannau ar gyfer trosiant gweithwyr; a

 

(c)       Bod y model arfarnu newydd yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor mewn sesiwn friffio cyn cyfarfod yn y dyfodol.

41.

Adroddiad Perfformiad Strategaeth Pobl pdf icon PDF 314 KB

Pwrpas:        Cael y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Pobl.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad diweddaru perfformiad am gyflawniadau tuag at y blaenoriaethau allweddol ar gyfer 2018/19 ym mlwyddyn olaf Strategaeth y Bobl bresennol ar gyfer 2016-2019.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Partner Busnes Adnoddau Dynol a dynnodd sylw at gyflwyniad y model tâl newydd a gwelliant yr arlwy dysgu a datblygu sy’n cynnwys mwy o opsiynau ar-lein.  Soniodd hefyd am safon uchel cyfranogwyr ar y rhaglen Brentisiaeth a datblygiad y Strategaeth Iechyd a Lles a fyddai’n helpu i gefnogi unigolion sy’n cael eu heffeithio gan faterion personol, fel yr amlygwyd mewn eitem flaenorol ar y Rhaglen.

 

Cynigodd y Cynghorydd Richard Jones argymhelliad ychwanegol y dylid diolch i’r tîm Adnoddau Dynol am eu gwaith ar y strategaeth a gafodd effaith bositif ar y gweithlu. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad yn ystod 2018/19 i gefnogi’r weledigaeth, canlyniadau a blaenoriaethau a nodwyd yn strategaeth 2016-2019 a chefnogi estyniad y strategaeth i 2019/20 i derfynu rhaglenni gwaith parhaus;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi datblygiad Strategaeth y Bobl newydd ar gyfer 2020/2023 a chynllun gweithredu cysylltiedig a fydd yn cael eu rhannu ar ffurf drafft er mwyn cael sylwadau cyn iddynt gael eu cyflwyno i’r Cabinet; a

 

(c)       Bod diolch yn cael ei roi i’r Tîm Adnoddau Dynol am eu gwaith wrth gynhyrchu a chynnal a chadw'r strategaeth.

42.

Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 Mis 4 a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2019/2020 Mis 4 ac Amrywiadau Sylweddol (Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir, Gwasanaethau Plant a Chludiant i'r Ysgol) pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth ar Fonitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 4) a Chwarter 1 Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2019/20.

 

Adrodd ar orwariant sylweddol o fewn Lleoliadau Tu Allan i’r Sir, Gwasanaethau Plant a Chludiant Ysgol o gyllideb Cronfa'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a diweddariad am Raglen Gyfalaf 2019/20 ym mis 4.  Yn unol â’r cais, rhannwyd adroddiad am yr amrywiadau arwyddocaol mewn Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, Gwasanaethau Plant a Chludiant i’r Ysgol hefyd.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

 O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i ostwng pwysau costau a gwella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd - yn ddiffyg gweithredol o £2.983m, sef gostyngiad o £0.118m ers mis Gorffennaf. Roedd y balans a ragwelir ar gyfer cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn yn £1.886m. Roedd y meysydd gorwariant ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, Gwasanaethau Plant a Chludiant i’r Ysgol yn cael eu gwrthbwyso’n rhannol gan danwariant mewn Cyllid Canolog a Chorfforaethol.   Rhagwelir y byddai cyfanswm terfynol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gytbwys pe bai'r Cabinet yn cymeradwyo'r argymhelliad i drosglwyddo £0.250m i Wasanaethau Oedolion o’r Gwasanaethau Adnoddau a Rheoleiddio i gyflawni newidiadau yn y galw am wasanaeth. Byddai’r holl feysydd gwario dianghenraid yn parhau i gael eu hadolygu er mwyn gostwng y gorwariant cyffredinol a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn.

 

 Byddi’r gyfradd gyflawni o 90% a ragwelir ar gyfer arbedion a gynllunnir yn ystod y flwyddyn yn cynyddu i 91% pe bai’r Cabinet yn cytuno i ail-osod cyfnodau’r effeithlonrwydd o Gymhorthdal Aura.

 

Yn dilyn newidiadau i fformat yr adroddiad, dangosodd diweddariad am bwysau ysgolion y sefyllfa o ran diffygion mewn ysgolion uwchradd a fyddai’n cael eu monitro’n agos.

 

Ar y Cyfrif Refeniw Tai, rhagwelir y byddai gwariant yn ystod y flwyddyn £0.081m yn uwch na’r gyllideb, gan adael balans o £1.242m ar ddiwedd y flwyddyn sy’n uwch na’r lefel isaf a argymhellir.

 

Wrth groesawu'r newid yn fformat yr adroddiad, holodd y Cynghorydd Heesom pam nad oes cronfeydd wrth gefn a oedd heb eu clustnodi ar gyfer y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) a’r Tîm Cyswllt Dioddefwyr o dan eu meysydd portffolio. Esboniodd y Prif Weithredwr bod y ddau wedi cael eu cynnwys fel pwysau yng nghyllideb 2019/20 – fel y cytunwyd gan Aelodau – ac y byddai’r symiau ychwanegol hyn yn ateb gofynion deddfwriaethol newydd ac yn cynyddu capasiti i ddiwallu anghenion pobl ifanc ddiamddiffyn. Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y symiau’n cael eu dyrannu i’r Gwasanaethau Cymdeithasol o’r Gronfa Arian at Raid yn ystod y flwyddyn. Cytunodd Swyddogion ddarparu adroddiad ar y costau sy’n gysylltiedig â SuDS yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Jones ar fformat yr adroddiad, eglurwyd bod y tabl yn gosod allan y sefyllfa gyffredinol ac y byddai’r naratif yn canolbwyntio ar amrywiadau arwyddocaol uwchben lefel a gytunwyd o £0.100m, gyda manylion llawn yr holl amrywiadau yn yr atodiad. Siaradodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) am wneud llai o ddefnydd o weithwyr asiantaeth yn ei bortffolio a oedd yn aml yn anochel.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Wisinger ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Heesom.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Roedd y rhaglen  ...  view the full Cofnodion text for item 42.

43.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno'r Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol bresennol i’w hystyried, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai hanner awr yn cael ei neilltuo ar gyfer sesiwn friffio am y model arfarnu newydd.

 

 Soniodd y Prif Weithredwr am y posibilrwydd y byddai angen oedi'r eitem ar Neuadd y Sir tan fis Tachwedd ac efallai y byddai diweddariadau lefel uchel ar safle’r gyllideb genedlaethol ar gael erbyn mis Hydref a Thachwedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei gymeradwyo, gan nodi bod eitemau ar gyfer cyfarfod mis Hydref yn debygol o newid;

 

(b)       Bod diweddariadau lefel uchel am y gyllideb yn cael eu cynnwys ar y rhaglen am y ddau gyfarfod nesaf; a

 

(c)       Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

44.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.