Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

66.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

67.

Cofnodion pdf icon PDF 74 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 9 Rhagfyr 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 9 Rhagfyr 2021, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Haydn Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

68.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 74 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu adroddiad ar gynnydd y camau gweithredu oedd yn codi o’r cyfarfodydd blaenorol.  Yn unol â’r cais, byddai’n cylchredeg copi o’r llythyr a gafodd ei anfon at y Bwrdd Iechyd i’r holl Aelodau. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.

69.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r rhaglen gwaith i'r dyfodol a ddiweddarwyd i’w hystyried, dywedodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu bod y cyfarfod ym mis Mawrth yn debygol o fynd ymlaen.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton ac Arnold Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; ac

 

(b)       Awdurdodi’r Hwyluswyr Trosolwg a Chraffu, ar ôl ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

70.

Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru (NWC-REPS) - Adroddiad Blynyddol 2020/21 pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Cael Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer 2020/21.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol ar gyfer 2020/21 sy’n amlinellu gweithgareddau a wnaed yn lleol a rhanbarthol i fodloni dyletswyddau deddfwriaethol.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Rhanbarthol drosolwg o’r prif feysydd gwaith yn ystod y cyfnod a oedd yn canolbwyntio ar yr ymateb aml-asiantaeth i’r pandemig Covid-19.   Cafodd diweddariad ar weithgareddau lleol ei rannu hefyd, yn cynnwys effeithiolrwydd y Tîm Ymateb i Reoli Argyfwng ac adolygu Cynlluniau Parhad Busnes i gefnogi parhad gwasanaethau critigol yn ystod y pandemig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Haydn Bateman, rhoddodd y Rheolwr Rhanbarthol eglurhad ar drefniadau diogelwch a chyfrifoldebau mewn perthynas â’r gwneuthurwr cemegol lleol, Synthite.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at ymweliad safle i ystafell rheoli’r Heddlu ychydig o flynyddoedd yn ôl a gofynnodd am y posibilrwydd o gael ymweliad yn y dyfodol.   Er nad oedd hyn yn bosibl yn ystod y pandemig, dywedodd y Prif Weithredwr bod modd cynnal ymweliad safle yn y dyfodol pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny a gyda phwrpas clir.   Gofynnodd i’r Rheolwr Rhanbarthol nodi’r cais fel y gellir ei ystyried ar adeg briodol.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton ac Arnold Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd yn sgil y diweddariad; a

 

(b)          Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau am barodrwydd y Cyngor i gynllunio rhag argyfyngau ac adroddiadau dilynol penodol am unrhyw ddigwyddiadau argyfwng lleol neu ranbarthol mawr y bu’n rhaid i’r Cyngor ymateb iddynt.

71.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig A Chyllideb 2022/23 pdf icon PDF 74 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar yr amcangyfrif cyllideb ar gyfer 2022/23 a goblygiadau Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a gafwyd ar 21 Rhagfyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor ar brif benawdau ac effeithiau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, cyn proses gosod y gyllideb ffurfiol y Cyngor ym mis Chwefror.

 

Roedd y cyllid allanol cyfun dros dro ar gyfer 2022/23 yn gynnydd o 9.2% ar y cyllid allanol cyfun a addaswyd ar gyfer 2021/22 – sydd ychydig yn is na chynnydd cyfartalog Cymru gyfan o 9.4%.  Roedd hyn yn cynrychioli cynnydd ariannol o £25.396 miliwn o 2021/22 ond nid oedd yn ystyried ffioedd clwyd Prosiect Trin Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru a’r Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol, lle derbyniwyd y ddau yn flaenorol drwy grantiau penodol.   Yn ychwanegol, roedd disgwyl i fodloni effeithiau’r holl ddyfarniadau cyflog a’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn llawn yn ogystal â’r risgiau parhaus fel Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a chostau ychwanegol parhaus ac incwm a gollwyd oherwydd y pandemig yn dilyn dod â Chronfa Galedi Llywodraeth Cymru i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.

 

Byddai’r pwysau ychwanegol hyn yn cynyddu’r gofyniad cyllideb ychwanegol cyffredinol ag adroddwyd yn flaenorol, a oedd wedi’i seilio ar y lefel isaf ac o dan lefelau galw yn ystod y flwyddyn.   Unwaith i’r gwaith ar adolygu’r holl bwysau cost ychwanegol gael ei gwblhau, bydd angen argymell cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2022/23 gan y Cabinet i’r Cyngor ym mis Chwefror.   Byddai adeiladu gwydnwch i mewn i gronfeydd wrth gefn yn ystyriaeth allweddol o osod y gyllideb ar gyfer 2022/23 ac ar gyfer y Strategaeth Cyllid Tymor Canolig, yn enwedig o ystyried y dyraniadau dangosol heriol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.

 

Wrth ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad, croesawodd y Cynghorydd Paul Shotton y Setliad cynyddol ond bu iddo gydnabod bod dyraniadau dangosol y dyfodol, costau byw cynyddol a sefyllfa ariannu Sir y Fflint yng Nghymru yn atgyfnerthu pwysigrwydd cynnal trafodaethau parhaus gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i wneud achos am ariannu mwy teg.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr bod dyraniad Sir y Fflint yn is na chyfartaledd Cymru ac roedd ei safle fel yr 20fed Cyngor allan o 22 yng Nghymru ar gyllid y pen yn bryder parhaus.   Wrth dynnu’r cyllid gwaelodol ychwanegol, a oedd yn bwriadu diogelu Cynghorau rhag disgyn llawer is na chyfartaledd Cymru, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y penderfyniad gan LLC o bosibl wedi cael ei ddylanwadu gan y Setliad.

 

Bu i’r Cynghorydd Ian Roberts hefyd groesawu’r cynnydd yn y Setliad ond dywedodd y byddai angen i ragamcanion cyllideb cyfredol y Cyngor ystyried nifer o bwysau sylweddol nad oedd wedi’u cwblhau eto.   Cyfeiriodd at effaith ehangach canlyniadau ar ddyfarniadau cyflog athrawon a’r Cyflog Byw Cenedlaethol ac ategodd yr angen i gytundebau cyflog cenedlaethol gael eu hariannu’n llawn.

 

Gan ateb cwestiwn y Cynghorydd Sean Bibby am gymharu dyraniadau a roddwyd i awdurdodau cyfagos, eglurodd y swyddogion bod yr adroddiad wedi’i seilio ar y cyfartaledd ar draws Gogledd Cymru a oedd yn debyg i’r cyfartaledd cenedlaethol a bod yr anghydraddoldeb cyllid yng Nghymru yn cael ei godi  ...  view the full Cofnodion text for item 71.

72.

Cynllun y Cyngor 2022-23 pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        Ymgynghori ar Ran 1 o Gynllun y Cyngor 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i adolygu Cynllun Drafft y Cyngor ar gyfer 2022/23 yn cynnwys yr ‘uwch strwythur’ o chwe thema sy’n cyd-fynd â’r Amcanion Lles.   Roedd y blaenoriaethau a’r camau gweithredu ategol yr un fath â 2021/22, gydag ychydig o ddatblygiadau i’r is-flaenoriaethau ar gyfer Tlodi, Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd, Economi ac Addysg a Sgiliau.   Bydd y cynllun yn cael ei adolygu gan yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu cyn ei rannu gyda’r Cabinet, cyn cael ei gymeradwyo gan y Cyngor ym mis Gorffennaf.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol  bod yr amserlen yn rhoi cyfleoedd i gael cyfraniadau gan Aelodau sydd newydd gael eu hethol.

 

Er ei fod yn cydnabod fformat gwell y Cynllun, dywedodd y Cynghorydd Richard Jones bod llawer o’r cerrig milltir tuag at ddiwedd y flwyddyn ac awgrymodd ddull ar gyfer mesur cynnydd i sicrhau eu bod yn dal yn berthnasol.   Rhoddodd enghreifftiau o nifer o fentrau oedd ar goll ers y llynedd a dywedodd y dylid fod wedi cynnwys esboniadau.

 

Mewn ymateb, eglurodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol y dylai llawer o’r camau gweithredu dros y tymor hirach gael eu cyflawni erbyn mis Mawrth 2023 a byddai’r cynnydd yn cael ei adlewyrchu mewn adroddiadau perfformiad chwarterol.   Dywedodd nad oedd rhai o’r materion a gynhwyswyd yn y Cynllun ar gyfer y llynedd wedi’u tynnu gan eu bod bellach yn rhan o fusnes normal neu wedi’u cwblhau.   Cafodd eglurhad ar symudiadau o’r fath ei adrodd yn y cam monitro canol blwyddyn ym mis Rhagfyr a bydd hefyd yn cael ei egluro yn yr adroddiad diwedd blwyddyn i gael ei gymeradwyo ym mis Gorffennaf.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Roberts at y thema Tlodi a rhoddodd eglurhad ar newidiadau cenedlaethol arfaethedig i brydau ysgol am ddim.   Siaradodd o blaid y Cynllun ar gyfer 2022/23 a ellir ei addasu i fodloni blaenoriaethau’r weinyddiaeth newydd yn dilyn yr Etholiadau.

 

Wrth groesawu’r Cynllun, canmolodd y Cynghorydd Paul Shotton yr amrywiaeth o gyfleoedd ar draws y Sir.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cadeirydd, rhoddodd y Prif Weithredwr fwy o fanylion am y strategaeth i drosi fflyd cludiant y Cyngor i rai trydan a thanwyddau eraill fel hydrogen, tra bod y Cynghorydd Ian Roberts yn siarad am ddatblygu rhwydwaith gwefru ceir trydan y Cyngor.

 

Croesawodd y Cynghorydd Richard Lloyd yr ystod o gamau gweithredu dan y flaenoriaeth Tai Fforddiadwy a Hygyrch.   Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd y Prif Weithredwr wybodaeth am ymgysylltu â landlordiaid i helpu i ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd a byddai’n cadarnhau gyda’r Tîm Gwella Cartrefi bod y cynllun yn cael ei hyrwyddo’n weithredol.

 

Yn dilyn cyngor gan y Prif Swyddog (Llywodraethu), cytunodd y Cynghorydd Shotton - a oedd wedi symud yr argymhelliad - ar newid gan y Cynghorydd Richard Jones i roi’r gair ‘Drafft’ cyn Cynllun y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr adborth yn cael ei nodi ar y cynnwys wedi’i adnewyddu yn ymwneud â’r themâu ar gyfer Cynllun Drafft y Cyngor 2022-23 cyn ei rannu gyda’r Cabinet ym mis Mehefin 2022.

73.

Strategaeth Ddatblygu Pobl a Sefydliadol newydd 2022-2025 pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Rhannu blaenoriaethau strategol ar gyfer Strategaeth Ddatblygu Pobl a Sefydliadol newydd 2022-2025.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygiad Sefydliadol, adroddiad ar y blaenoriaethau strategol ar gyfer Strategaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol newydd ar gyfer 2022-25.

 

Er bod yr ymateb i’r pandemig wedi tarfu ar adolygu’r Strategaeth Pobl presennol, roedd nifer o ganlyniadau cadarnhaol yn deillio o’r newidiadau mewn arferion gweithio a ellir eu datblygu ymhellach.   Byddai’r Strategaeth newydd yn amlinellu uchelgeisiau cynyddol ar gyfer y gweithlu a’r sefydliad, gan adlewyrchu ar ddigwyddiadau dros y 18 mis diwethaf ac adeiladu ar feysydd o arfer da.   Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r ffactorau allanol allweddol a chanlyniadau sy’n debygol o gael eu darparu dan bob thema a fyddai’n aros yn hyblyg i addasu i unrhyw newidiadau ac ymateb i risgiau fel recriwtio a chadw staff.

 

Canmolodd y Cynghorydd Arnold Woolley yr adroddiad ond roedd yn bryderus am y diffyg gwybodaeth ar werthusiadau blynyddol.   Mewn ymateb, rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol sicrwydd bod hyn wedi’i gynnwys drwy gyflwyno rhaglen adolygu perfformiad newydd ar sail gwerthoedd.

 

Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at bwysigrwydd y Strategaeth o ran sicrhau bod gweithwyr ar bob lefel yn deall eu rolau a’u cyfranogiad yn glir o fewn y sefydliad ac y byddai fframio uchelgeisiau fel cyflogwr delfrydol yn helpu i greu diwylliant gweithlu cadarnhaol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Arnold Woolley a Mared Eastwood.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r blaenoriaethau strategol fel sylfaen ar gyfer datblygu iteriad nesaf y Strategaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol 2022-2025 cyn iddo gael ei roi i weithwyr ac Undebau Llafur ar gyfer ymgynghoriad ac adborth, cyn cael ei gyflwyno i’r Cabinet.

74.

Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 8) pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar Fis 8 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw fel yr oedd ym Mis 8 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa diwedd blwyddyn ragamcanol - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i leihau pwysau costau ac i wella effeithlonrwydd - oedd gwarged gweithredol o £0.716 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflogau a fyddai’n dod o gronfeydd wrth gefn) a oedd yn adlewyrchu newid ffafriol o £0.061 miliwn o fis 7.     Byddai hyn yn gadael balans y gronfa wrth gefn at raid ar ddiwedd y flwyddyn yn £6.586 miliwn.  Roedd y symudiadau sylweddol o fis 7 fel ag amlinellwyd yn yr adroddiad.   Rhoddwyd diweddariad ar risgiau amrywiol yn cynnwys aros am ganlyniadau dyfarniadau cyflog y NJC (Llyfr Gwyrdd) i gael eu bodloni gan y Gronfa Wrth Gefn At Raid, parhad cyllid grant Gofal Cymdeithasol i 2022/23 a chynnydd yn y galw am Leoliadau y Tu Allan i’r Sir.   Rhoddwyd diweddariad hefyd ar y newidiadau i gymhwyster Cronfa Galedi Llywodraeth Leol sy’n effeithio ar hawliadau hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol pan oedd yn dod i ben.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant arfaethedig o £0.548 miliwn yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.924 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellir.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Richard Jones, rhoddwyd eglurhad ar drosglwyddo costau eiddo canolog ar draws yr holl bortffolios i mewn i’r gyllideb Cyllid Canolog a Chorfforaethol.

 

Wrth ddiolch i’r swyddogion, dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson bod lefel y manylder yn yr adroddiad yn dangos rheolaeth ariannol dda.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Richard Lloyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 8), fod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.

75.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.