Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

26.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

27.

Cofnodion pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 8 a 29 Gorffennaf 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 8 a 29 o Orffennaf 2021, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Haydn Bateman a Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

28.

AMRYWIO TREFN Y RHAGLEN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd newid yn nhrefn y busnes i alluogi’r cyfranwyr i gyflwyno eu hadroddiadau yn gyntaf.

29.

Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol pdf icon PDF 123 KB

Pwrpas:        Darparu sicrwydd a throsolwg i’r Aelodau o weithgareddau a chynnydd y Bartneriaeth yn 2020/21.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr trosolwg blynyddol o weithgareddau a chynnydd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn ystod y 12 mis diwethaf, a oedd yn ofyniad statudol. Fel y nodwyd yn flaenorol, roedd trefniadau llywodraethu ar gyfer y CSP wedi cael eu dynodi i’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus a roedd ei ddyletswyddau wedi eu rhyddhau drwy’r Bwrdd ‘Pobl yn Ddiogel’, y mae eu gwaith wedi ei tanategu gan y cynllun cyflenwi lleol.

 

Cafwyd cyflwyniad ar y cyd gan y Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes (Siân Jones), Arweinydd Tîm Diogelwch Cymunedol (Richard Powell) a Chydlynydd Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Rhiannon Edwards)

 

·         Cyd-destun

·         Grwpiau Cyflawni Diogelwch Cymunedol

·         Blaenoriaethau lleol ar gyfer 2021/22:

o   Blaenoriaeth 1 - Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

o   Blaenoriaeth 1 – Amddiffyn Oedolion Diamddiffyn

o   Blaenoriaeth 3 – Amddiffyn Pobl Ifanc Diamddiffyn

o   Blaenoriaeth 4 – Amddiffyn ein Cymunedau

·         Trosedd ac Anhrefn yn Sir y Fflint– sefyllfa bresennol (o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol)

·         Partneriaethau Rhanbarthol

 

Wrth groesawu’r adroddiad a’r cyflwyniad, cynigiodd y Cynghorydd Heesom yr argymhelliad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Haydn Bateman. Bydd sleidiau’r cyflwyniad yn cael eu rhannu gyda’r Aelodau yn dilyn y cyfarfod hwn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r cyfranwyr am eu presenoldeb.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi a chefnogi Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.

Item 6 - CSP presentation slides pdf icon PDF 288 KB

Dogfennau ychwanegol:

30.

Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru - Adroddiad Blynyddol pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Derbyn Adroddiad Blynyddol y Swyddfa Rheoli Portffolios ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar gyfer 2020-21.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adroddiad Blynyddol Swyddfa Rheoli Portffolio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru 2020-21. Roedd y gofyniad i adrodd yn flynyddol ar y cynnydd yn rhan o Gytundeb Bargen Terfynol y Bargen Dwf Gogledd Cymru a lofnodwyd ym mis Rhagfyr 2020.

 

Rhoddodd y Rheolwr Arloesi ac Adfywio cyflwyniad yn crynhoi gwaith y Swyddfa Rhaglen yn ystod y 12 mis diwethaf a oedd yn cynnwys:

 

·         Portffolio Bargen Twf

·         Y Rhaglenni

o   Digidol

o   Tir ac Eiddo

o   Ynni Carbon Isel

o   Arloesedd mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel

o   Bwyd-amaeth a Thwristiaeth

·         Adroddiad Blynyddol

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Geoff Collett a Patrick Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

I nodi Adroddiad Blynyddol Swyddfa Rheoli Portffolio'r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar gyfer 2020-21.

Item 7 - NWEAB presentation slides pdf icon PDF 3 MB

Dogfennau ychwanegol:

31.

Pecyn Ysgogi Economaidd Cynghrair Mersi A'r Ddyfrdwy pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        Ceisio cefnogaeth Pecyn Ysgogi Economaidd Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Arloesi ac Adfywio adroddiad ar gefndir a chynnwys y Pecyn Ysgogi Economaidd Cynghrair Mersi A'r Ddyfrdwy a oedd yn cynrychioli cynnig i Lywodraeth Cymru a’r DU ar gyfer cyllid i ddarparu'r pum blaenoriaeth buddsoddi ar gyfer yr isranbarth. Roedd y camau nesaf i ddiffinio a blaenoriaethu'r prosiectau buddsoddi o fewn y pecyn cyn ymgysylltu â’r ddwy Lywodraeth. Mae gwaith sylweddol wedi’i gyflawni i sicrhau bod y pecyn a’r Cytundeb ar gyfer y Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cyflenwi ei gilydd heb ddyblygu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom i adroddiadau yn y dyfodol i gynnwys rhagor o wybodaeth ar oblygiadau'r cynllun ‘HyNet’ a rheoli rhyddhad ar gyfer Sir Y Fflint. Cynigiodd yr argymhelliad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys y Pecyn Ysgogiad Cyllidol ac yn cefnogi ei goethder a chyflwyniad i’r Llywodraethau perthnasol.

32.

Cyllideb 2022/23 - Cam 2 Trosolwg pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Pennu’r dull gweithredu ar gyfer llunio cyllideb 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y broses cyllideb gyffredinol ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23 yr oedd gan y Pwyllgor arolygiaeth amdano. Yn dilyn gwaelodlin cadarn ar bwysau ar gostau a sefydlwyd yng Ngham 1 o ddatblygu'r gyllideb ym mis Gorffennaf, gwahoddwyd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i adolygu’n gadarn y pwysau sydd yn creu gofyniad cyllideb yn eu portffolio perthnasol.  Ar ddechrau’r broses Cam 2, roedd adroddiad ar wahân yn yr agenda yn nodi’r pwysau o ran costau o fewn y Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid Corfforaethol dan gylch gwaith y Pwyllgor.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr, Prif Swyddog (Llywodraethu), Rheolwr Cyllid Corfforaethol ac Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol gyflwyniad manwl a oedd yn cynnwys:

 

·         Pwrpas a Chefndir

·         Crynodeb o Gyfansymiau Pwysau Costau;

·         Pwysau Costau Corfforaethol

o   Llywodraethu

o   Pobl ac Adnoddau

o   Cyllid Corfforaethol

·         Datrysiadau Strategol

·         Diweddariad ar Arbedion Effeithlonrwydd

·         Amserlenni Cyllideb

 

Bydd sleidiau’r cyflwyniad yn cael eu rhannu gyda’r Aelodau yn dilyn y cyfarfod.

 

Roedd crynodeb o’r pwysau yn rhagweld isafswm gofyniad cyllidebol ychwanegol o £16.749m o adnoddau refeniw yn 2022/23, roedd hyn yn amodol ar newid yn ddibynnol ar ganlyniad pwysau penderfyniad cenedlaethol sydd yn cael ei drafod ar hyn o bryd. Yn y cam hwn, amcangyfrifwyd y gellir cyflawni £1.250m o arbedion effeithlonrwydd. Roedd y datrysiadau cyllideb strategol i gyrraedd cyllideb cyfreithiol a chytbwys yn ddibynnol yn bennaf ar ymgodiad blynyddol yn y Grant Cynnal Refeniw.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Haydn Bateman, rhannwyd rhagor o wybodaeth ar fuddiannau o allu cynyddol mewn Iechyd Galwedigaethol i fodloni’r galw ac i ddarparu ffisiotherapi mynediad cyflym.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts bod dull ar y cyd yn cael ei gyflawni ar ofynion cyllid cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru.

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson am y sefyllfa genedlaethol sy’n newid a oedd yn cyfrannu at yr heriau.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Patrick Heesom, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Haydn Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad ac yn cefnogi’r dull ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu unigol;

 

 (b)      Derbyn pwysau o ran costau’r Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid Corfforaethol, a

 

 (c)      Cynghori nad oes meysydd o arbedion effeithlonrwydd y mae’n credu y dylid edrych ymhellach.

Items 9-10 - Budget presentation slides pdf icon PDF 338 KB

Dogfennau ychwanegol:

33.

Adroddiad Terfynol Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol Sir y Fflint pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Rhannu adroddiad asesu cynaliadwyedd ariannol gan Archwilio Cymru gydag aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar ganfyddiadau Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol y Cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru yn dilyn adolygiad o bob Cyngor ledled Cymru.  Nid oedd angen ymateb ffurfiol gan fod yr adroddiad wedi cyflwyno adlewyrchiad teg o sefyllfa ariannol y Cyngor a dim materion newydd i’w nodi. Cafwyd yr eitem er gwybodaeth yn unol â’r protocol i adroddiadau rheoleiddio.

 

Wrth gyflwyno’r canfyddiadau, croesawodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gydnabyddiaeth o ‘strategaeth ariannol glir ac wedi’i rannu’n dda’, perfformiad y gorffennol ar gyflawniadau arbedion effeithlonrwydd a gwariant i’w gymharu’r gyllideb. Amlygodd y sylwadau ar Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru i helpu i adfer incwm a gollwyd a defnydd y Cyngor o’r arian wrth gefn.

 

Dywedodd Matt Edwards bod yr adroddiad wedi dod i gasgliad o’r ail gam o’r gwaith asesu cynaliadwyedd ariannol gan Swyddfa Archwilio Cymru yn ystod 2020-21 yn dilyn asesiad sylfaenol o’r effaith cychwynnol y pandemig yn 2019-20.

 

Dywedodd Gwilym Bury bod pob adroddiad cenedlaethol yn cael eu cyhoeddi ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru, a bod adroddiad cryno cenedlaethol yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Nodwyd bod bwlch cyllid arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2022-23 yn adlewyrchu’r sefyllfa ar adeg yr adolygiad ac wedi cynyddu ers hynny fel y nodwyd yn gynharach yn y cyfarfod.

 

Diolchodd y Cynghorydd Geoff Collett y swyddogion am yr adroddiad cadarnhaol yn ogystal â’r Cynghorydd Paul Johnson a oedd yn falch nad oedd unrhyw argymhellion newydd i’r Cyngor.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Andy Williams a Kevin Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad a chadarnhau nad oes unrhyw faterion i’w cyflwyno gerbron y Cabinet.

34.

Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21(Mis 4) a Rhaglen Gyfalaf (Mis 4) pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 4) ac Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Mis 4) ac amrywedd sylweddol i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol a Rheolwr Cyllid eu hadroddiadau ar sefyllfa Mis 4 2021/22 ar gyfer Monitro Cyllideb Refeniw a Monitro Rhaglen Gyfalaf cyn cael ei ystyried gan y Cabinet.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

Roedd yr adroddiad yn ystyried y sefyllfa ddiweddaraf ar hawliau a wnaethpwyd i gronfa galedi Llywodraeth Cymru (LlC) a fyddai wedi bod yn hanfodol yn ystod y cyfnod o argyfwng.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i ostwng pwysau costau a/neu i wella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd a rheoli cost - yn ddiffyg gweithredol o £0.739m miliwn (gan eithrio’r effaith y dyfarniad cyflog i’w fodloni gan y cronfeydd wrth gefn). Byddai’r sefyllfa yn gadael balans cronfa hapddigwyddiad o £5.057m ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd rhesymau dros y sefyllfa a ragwelwyd a nodwyd yn yr adroddiad ac yn cynnwys amrywiant sylweddol yng Ngwasanaethau Plant, Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, Gwasanaethau Stryd a Chludiant.

 

Rhoddwyd diweddariad ar y risgiau ariannol allweddol (gan gynnwys sefyllfa well ar gyfraddau casglu Treth Y Cyngor), cyflawniadau o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn, a’r sefyllfa o ran yr arian wrth gefn a balansau a nodwyd yn yr adroddiad. Ar gronfeydd wrth gefn na glustnodwyd, nodwyd bod £2.1m o gyllid argyfwng Covid-19 yn parhau ar hyn o bryd yn dilyn dyraniad o £0.900m ar gyfer hawliau grantiau anghymwys sy’n berthnasol i Covid-19.  Roeddynt yn aros am wybodaeth ar Gyllid Adfer Gofal Cymdeithasol LlC a fyddai’n gwneud iawn i ychydig o’r pwysau presennol o ran costau o fewn y portffolio hwn.  Bydd diweddariad yn cael ei ddarparu yn yr adroddiad ar gyfer Mis 5.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant arfaethedig o £0.495m miliwn yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo o £3.978m miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau a argymhellwyd ar wariant.

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau gan y Cynghorydd Haydn Bateman, rhoddodd y swyddogion gadarnhad ar feini prawf cyllid Colli Incwm ar gyfer taliadau meysydd parcio.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Geoff Collett am ddadansoddiad pellach ar y gorwariant o £1.008m yn y Gwasanaethau Plant a dealltwriaeth a oedd disgwyl i’r pwysau hyn barhau. Cytunodd y Rheolwr Cyllid i gysylltu gyda chydweithwyr yn yr Adran Gofal Cymdeithasol i ddarparu ymateb i’r Pwyllgor.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Geoff Collett a Haydn Bateman.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Y cyfanswm ar gyfer y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2021/22 oedd £77.136 miliwn, gan ystyried bod yr holl symiau a ddygwyd ymlaen ac arbedion yn trosglwyddo’n ôl i’r rhaglen.  Roedd newidiadau yn ystod y chwarter olaf yn bennaf oherwydd cyflwyno ffrydiau ariannu grant ac ailbroffilio’r gyllideb.

 

Roedd y sefyllfa canlyniad arfaethedig yn £72.837m a oedd yn golygu tanwariant o £4.299 miliwn i Gronfa'r Cyngor a argymhellwyd i’w barhau ar gyfer cwblhau cynlluniau 2022/23. Cafwyd crynhoad o'r dyraniadau ac arbedion ychwanegol a nodwyd yn y chwarter hwn ynghyd ag arian dros ben arfaethedig cyffredinol o £2.795 miliwn ar gyfer y rhaglen tair blynedd cyn cyflawni derbyniadau cyfalaf ychwanegol  ...  view the full Cofnodion text for item 34.

35.

Diweddariad Chwarterol Cyflogaeth a’r Gweithlu pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys diweddariadau strategol yn ogystal ag ystadegau chwarterol y gweithlu a dadansoddiad ohonynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad gwybodaeth am y gweithlu a’u dadansoddiad ar gyfer y chwarter cyntaf yn 2021/22.

 

Wrth grynhoi’r meysydd allweddol, tynnodd yr Uwch-Reolwr sylw at effaith y tueddiadau cyflogaeth sy’n newid o ganlyniad i’r pandemig a oedd yn cael eu monitro'n ofalus. Yn ogystal mae'r diweddariad yn cynnwys cynlluniau i adnewyddu'r model gwerthuso ar gyfer 2022 i ganolbwyntio yn fwy ar werthoedd a llesiant, a’r ymgyrch recriwtio sydd yn digwydd yn yr Adran Gwasanaethau Stryd a Chludiant lle’r oedd disgwyl i allu lleihau gwariant ar weithwyr asiant yn y chwarter nesaf. Yn ogystal rhannwyd wybodaeth ar y lansiad llwyddiannus y rhaglen prentisiaeth ar gyfer 2021/22.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Haydn Bateman a Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu ar gyfer Chwarter 1, 2021/22 hyd 30 Mehefin 2021.

36.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi cynnydd ar gamau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.

37.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried ac i nodi’r newidiadau canlynol:

 

·         Adborth gan y Pwyllgorau Craffu a Throsolwg ar y Gyllideb 2022/23 – cyfarfod mis Hydref.

·         Rhaglen Gyfalaf – cyfarfod mis Tachwedd

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; fel y’i diwygiwyd yn y cyfarfod; a

 

 (b)      Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

38.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.