Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor mai Gr?p Geidwadol a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Clive Carver yw Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn ddinesig hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor fod o’r Gr?p Ceidwadol.  Cafodd y Pwyllgor wybod fod y Cynghorydd Clive Carver wedi cael ei benodi i’r rôl ar gyfer blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penodiad y Cynghorydd Clive Carver  fel Cadeirydd y Pwyllgor.

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Paul Shotton y Cynghorydd Geoff Collett fel Is-gadeirydd y Pwyllgor, ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Lloyd.   Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi'r Cynghorydd Geoff Collett yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

4.

Cofnodion pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 11 Mawrth 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2021, yn amodol ar ddiwygiad i gofnodi ymddiheuriad y Cynghorydd Patrick Heesom oherwydd problemau cysylltu.

 

 Ar y sail honno, cafodd y cofnodion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiad, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

5.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi cynnydd ar gamau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Geoff Collett a Mared Eastwood.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.

6.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried, gyda chyfarfodydd yn canolbwyntio ar bum prif elfen:  Strategaeth, Cyllid, Perfformiad, Partneriaethau a Rheoleiddio.   Byddai adroddiad Archwilio Cymru ar gynaliadwyedd ariannol yn cael ei gynnwys ym mis Medi.

 

Fel y nodwyd yn flaenorol, gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones am adroddiad cynharach ar thema Tlodi yr oedd y Pwyllgor yn gyfrifol amdano yn awr, o ystyried pwysigrwydd y testun.   Croesawodd awgrym y Prif Weithredwr am gyfarfod arbennig ar y testun ar ddiwedd Gorffennaf, a chynnig hyn fel argymhelliad ychwanegol.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai rhaglenni gwaith i’r dyfodol y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu angen rhyw elfen o hyblygrwydd i ddelio â materion ychwanegol a risgiau a allai gael eu cyfeirio gan y Pwyllgor Adfer newydd.

 

 Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom am adroddiad ar ganlyniad ymgynghoriad Llywodraeth Cymru (LlC) ar Gydbwyllgorau Cyfunol a'r goblygiadau ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.   Eglurodd y Prif Weithredwr na chafwyd unrhyw gynigion cadarn gan LlC eto ac y byddai unrhyw adroddiadau yn y dyfodol yn cael eu rhannu gyda’r Cabinet a'r Pwyllgorau perthnasol.

 

Yn amodol ar ychwanegu cyfarfod arbennig, cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Patrick Heesom a Richard Jones.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; fel y’i diwygiwyd yn y cyfarfod; a

 

(b)       Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

7.

Diweddariad ar y Strategaeth Adfer pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Derbyn diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf o safbwynt yr amcanion adfer.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Adfer newydd a sefydlwyd i gydlynu ail gam adfer trwy gyfeirio risgiau a materion at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol.   Byddai’r gyfres newydd o amcanion adfer corfforaethol yn cael eu hargymell i'r Pwyllgor Adfer i'w mabwysiadu yn eu cyfarfod cyntaf.

 

 Siaradodd y Cynghorydd Richard Jones - a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor Adfer - am y cylch gwaith ac aelodaeth drawsbleidiol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Patrick Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad ac yn aros am ganllawiau gan y Pwyllgor Adfer ar y risgiau a’r materion i'w hadolygu’n fanylach o fewn ei Gylch Gorchwyl fel rhan o’r rhaglen gwaith i’r dyfodol.

8.

Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad monitro diwedd blwyddyn i adolygu cynnydd diwedd blwyddyn yn erbyn y blaenoriaethau corfforaethol sy’n berthnasol i’r Pwyllgor fel y nodwyd ym Mesurau Adrodd y Cyngor 2020/21. Ar y cyfan roedd yn adroddiad cadarnhaol o ystyried yr heriau o’r sefyllfa o argyfwng, gyda 67% o’r dangosyddion perfformiad yn diwallu neu’n rhagori ar eu targedau.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, siaradodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol am effaith yr argyfwng ar dargedau a thueddiadau.   Dywedodd bod y data yn dangos bod y Cyngor wedi cynnal cofnod da o ran perfformiad a chynllunio effeithiol gan barhau i fod yn uchelgeisiol.

 

Eglurodd y Cynghorydd Richard Jones bod effeithiau’r cyfnod argyfwng wedi’i gwneud yn anodd cymharu perfformiad gyda’r blynyddoedd blaenorol.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod rhai o’r targedau perfformiad wedi’u haddasu yn ystod y cyfnod ac  mai un o’r amcanion ar gyfer adfer yw ailosod yr holl dargedau ac ailddechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

Yn dilyn sylwadau cadarnhaol gan y Cynghorydd Patrick Heesom ar arddull yr adroddiad a gyhoeddwyd, diolchodd y swyddogion i'r Ymgynghorydd Perfformiad Strategol am ei waith i gasglu a chyflwyno data mewn arddull y gellir ei ddarllen.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Heesom a Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn derbyn yr Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn a bydd yn monitro meysydd sy'n tanberfformio a cheisio gwybodaeth bellach fel y bo'n briodol; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor wedi cael ei sicrhau gan yr eglurhad a roddwyd ar gyfer tanberfformio, sy’n cael eu hegluro’n bennaf gan yr aflonyddwch a achosodd y pandemig.

9.

Cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Diweddaru Trosolwg a Craffu ar ein parodrwydd ar gyfer cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar baratoadau’r Cyngor ar gyfer dechrau’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.   Roedd hyn yn ofyniad statudol ar gyrff cyhoeddus perthnasol i roi sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldebau o ran canlyniadau o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol.

 

Darparodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol a’r Rheolwr Budd-daliadau gyflwyniad ar y cyd yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Beth yw’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol a beth mae’n ei wneud?

·         Telerau Allweddol

·         Anghydraddoldebau canlyniadau

·         Enghreifftiau o dlodi

·         Dangos sylw dyledus – trywydd archwilio

·         Diwallu’r ddyletswydd – beth ydym ni’n ei wneud

·         Canlyniadau gwell

·         Astudiaeth Achos

 

Darparodd y cyflwyniad enghreifftiau ehangach o dlodi a oedd yn cysylltu ag un o’r blaenoriaethau o fewn Cynllun y Cyngor.   Roedd yr adroddiad yn cael ei rannu gyda’r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i godi ymwybyddiaeth o’r ymrwymiadau newydd.   Ymysg y camau gweithredu, byddai cynnwys canlyniadau Asesiad o Effaith Integredig ar adroddiadau pwyllgor yn gymorth i ddangos ystyriaeth o effeithiau posibl tlodi wrth wneud penderfyniadau strategol.   Fel y gofynnwyd, byddai copïau o’r cyflwyniad yn cael eu dosbarthu ar e-bost i’r Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd ar effaith tlodi digidol, siaradodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) am y gwaith i wella cysylltedd digidol a byddai’n rhannu manylion cyswllt y swyddog perthnasol.   Cymrodd y cyfle i dynnu sylw at friffio Aelodau ar y Strategaeth Ddigidol yn fuan.

 

Cydnabu’r Cynghorydd Patrick Heesom bwysigrwydd yr adroddiad o ystyried y materion hyn, a chyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno newid a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

 

Fel y gofynnwyd gan y Cadeirydd, byddai’r swyddogion yn darparu ymateb ar wahân ar niferoedd sydd wedi derbyn brechlynnau yn Sir y Fflint.

 

Gan groesawu’r adroddiad, diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i’r Rheolwr Budd-daliadau am ei gwaith i fynd i’r afael â thlodi bwyd.   Mewn ymateb i ymholiad, siaradodd am bwysigrwydd gweithio gyda chymunedau i ddeall effaith lawn anghydraddoldebau i breswylwyr a nodi camau i fynd i’r afael â hynny.

 

Croesawodd y Cynghorydd Richard Jones ystyriaeth y ddyletswydd ar lefel strategol a chynnig argymhelliad ychwanegol bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad chwarterol i ddangos sut yr oedd hyn yn cael ei wneud.  Roedd y Cynghorydd Paul Shotton yn eilio.

 

Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn nodi gofynion y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol.

 

(b)          Bod y Pwyllgor yn sicr bod y Cyngor yn barod i ddiwallu ei ddyletswydd newydd; a

 

(c)          Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad chwarterol i ddangos sut mae gofynion y ddeddfwriaeth yn cael eu hystyried ar gyfer adroddiadau strategol.

Item 10 - Socioeconomic Duty slides pdf icon PDF 561 KB

Dogfennau ychwanegol:

10.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.