Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
TEYRNGED I'R DDIWEDDAR PETER EVANS Cofnodion: Yn ôl cais y Cadeirydd, Aelodau'r Pwyllgor a'r swyddogion, bu iddynt godi mewn tawelwch fel teyrnged i Peter Evans, y cyn Rheolwr Democrataidd a Llywodraethu, a fu farw. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 14 Tachwedd 2019. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2019. Cynigiodd y Cynghorydd Heesom newid bychan i eirfa ar gofnod rhif 58 ac eiliwyd gan y Cynghorydd Cunningham.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Ymgynghoriad Strategaeth Amgylchedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Derbyn cyflwyniad gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Cofnodion: Croesawyd cynrychiolwyr Shân Morris a Helen MacArthur (Prif Swyddogion Cynorthwyol) a Stuart Millington (Uwch Reolwr Hyfforddiant a Datblygu) i’r cyfarfod i roi cyflwyniad llafar ar ddatblygiad Strategaeth Cynaliadwyedd ac Amgylchedd Hirdymor ar gyfer 2020 ymlaen gan yr Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (NWFRA.
Er yr amlygwyd yr heriau ariannol yn y flwyddyn flaenorol, ffocws ymgynghoriad eleni oedd datblygu strategaeth trosfwaol yn nodi amcanion ar newid hinsawdd, cyfrifoldebau amgylcheddol a chymdeithasol i helpu gyda chynllunio ar gyfer y dyfodol. Y bwriad fyddai mabwysiadu dull gwahanol i weithio gyda phartneriaid ac i leihau’r effaith ar y gyllideb, a roedd 75% wedi’i dosrannu i gostau gweithwyr. Cynghorwyd yr Aelodau bod y gwasanaethau ymatebol ac ataliol wedi dod i gost o £50 y pen o’r boblogaeth ledled Gogledd Cymru. Rhoddwyd drosolwg ar y rôl ataliol a oedd yn cynnwys gweithgareddau i helpu i gadw pobl yn ddiogel ac i nodi problemau cymdeithasol. Ymysg heriau yn y dyfodol roedd parhad gwasanaeth diffodd tân wrth gefn a gweithio gyda sefydliadau partner i leihau'r risg o lifogydd.
Fel aelod blaenorol o’r Gwasanaeth Tân, roedd y Cynghorydd Cunningham yn adnabod gwerth diffoddwyr tân wrth gefn a’r effaith o weithgareddau atal tân. Yn yr ymgynghoriad, awgrymodd i rannu trefniadau cludo i gyfarfodydd bwrdd.
Amlygodd y Cynghorydd Heesom y perygl o lifogydd a newid hinsawdd fel y prif broblemau, a dywedodd y dylid ymgynghori â’r NWFRA ar geisiadau cynllunio, yn debyg i Gyfoeth Naturiol Cymru fel yr ymgynghorai statudol ar berygl o lifogydd. Eglurwyd dan y deddfwriaeth gyfredol, ymgynghorwyd â'r gwasanaeth ar y ddwy ardal benodol yn unig - mynediad i gerbydau'r gwasanaeth tân a chyflenwadau d?r. Hefyd gofynnodd y Cynghorydd Heesom ynghylch ymgysylltiad gyda phobl ifanc a chynghorwyd ar yr ystod o weithgareddau atal tân ac addysg mewn ysgolion.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, siaradodd y cynrychiolwyr ynghylch cyfrifoldebau amgylcheddol a rennir gan bob corff cyhoeddus megis defnydd cynyddol o gyfarfodydd cynhadledd fideo a mesurau effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau. Gobeithir y bydd newid o ddefnyddio cerbydau offer tân sydd yn rhedeg ar ddiesel yn newid cadarnhaol, ond mae hyn yn dibynnu ar wneuthurwyr yn datblygu dewis amgen addas. Roedd y dull effeithiol gan NWFRA i asesu cyn ymateb, a felly yn lleihau’r nifer o gamrybuddion, yn cael eu nodi fel arferion da.
Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Johnson ar y posibilrwydd am fwy o fesurau atal tân mewn ardaloedd gwledig, nodwyd bod y NWFRA yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i flaenoriaethu meysydd risg ac ymgysylltu â thirfeddianwyr i wella rheoli tir, a bod cyflwyniad o dimau tanau gwyllt yn ystod 2020 yn manteisio.
Rhoddodd y Cynghorydd Bateman sylw ar effaith parcio ar y stryd mewn rhai ardaloedd a allai gyfyngu ar fynediad i gerbydau offer tân. Er nad oedd gan y Gwasanaeth Tân bwerau penodol i ddatrys hyn, roedd cyngor a chymorth ar gael i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol.
Gofynnodd y Cynghorydd Woolley ynghylch risgiau yn y dyfodol a beth ellir ei wneud i helpu. Er bod demograffeg Gogledd Cymru a recriwtio diffoddwyr ... view the full Cofnodion text for item 71. |
|
Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi cynnydd ar bwyntiau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol. Ers cyhoeddi’r adroddiad, mae camau gweithredu wedi’u cwblhau ar adroddiad Pont Sir y Fflint, Adroddiad Blynyddol Diogelwch Cymunedol a chostau trwyddedu Citrix.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Cunningham ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Johnson.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 79 KB Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Bateman ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Johnson.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 8) PDF 75 KB Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 8 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw fel yr oedd ym Mis 8 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid.
Roedd y diffyg gweithredol o £1.892m yn gadarnhaol o’i gymharu â’r £0.301m yn y mis blaenorol. Roedd yr amrywiaeth sylweddol ar y gorwariant o £2.080m ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir, a’r adolygiad parhaus ar yr hawliad gostyngiad Treth Y Cyngor i unigolyn sengl sydd wedi cynhyrchu £0.227m hyd yma. Y gorwariant mwyaf sylweddol oedd ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a Strydwedd a Chludiant, fel yr adroddwyd yn flaenorol i’r Pwyllgor, a roedd unrhyw effeithiau cylchol wedi’u cynnwys yng nghyllideb 2020/21. Gan edrych ar y sefyllfa, roedd y tîm Prif Swyddog wedi gosod targed i leihau sefyllfa gorwariant i £1.500m-1.750m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Ar y llwybr ôl-rhain arbedion a gynlluniwyd yn y flwyddyn, roedd 91% wedi’u cyflawni a disgwylir i hyn aros yr un fath ar ddiwedd y flwyddyn.
Yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, mae goblygiadau’r Setliad Dros Dro a ddaeth i law ym mis Rhagfyr yn cael ei ddadansoddi ar hyn o bryd a bydd y canfyddiadau yn cael eu hadrodd i'r Cyngor yn ddiweddarach y mis hwn.
O ran y Cronfeydd Wrth Gefn a Balansau, roedd yr amcangyfrif balans diwedd blwyddyn yn y Cronfeydd Wrth Gefn Arian at Raid yn £2.977m.
Yn y Cyfrif Refeniw Tai, roedd gorwariant arfaethedig o £0.131m yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo yn £1.192m, a oedd yn uwch na’r canllawiau argymelledig ar wariant.
Dywedodd y Prif Weithredwr er bod cynnydd wedi’i wneud ar y sefyllfa gorwariant, roedd hyn yn parhau yn bryder oherwydd y newidiadau yn y galw am Leoliadau y Tu Allan i’r Sir. Er bo gwaith arwyddocaol wedi’i gyflawni i leihau gwariant dianghenraid ar draws y portffolios, roedd cynnydd dda yn cael ei wneud ar leihau costau cludiant ysgol ac adolygiad o’r gostyngiad Treth Y Cyngor person sengl. Nodwyd bod y cyfleoedd ar grantiau penodol yn cael eu harchwilio a'r effaith o amodau tywydd ar y gyllideb cynnal a chadw y gaeaf. Er bod pwysau wedi’u cynnwys yng nghyllideb 2020/21, roedd Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir yn parhau i fod y broblem fwyaf, er yr effaith gadarnhaol o ddatrysiadau creadigol lleol.
Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Heesom ar falansau ysgol, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y rhagamcan wedi seilio ar ddisgwyliad o’r hysbysiad hwyr o grantiau penodol tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Yn dilyn cwestiwn arall, darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth ar y lefel o adnoddau yn y tîm Archwilio Mewnol.
Cododd y Cynghorydd Woolley ei bryderon ar ddyddiad anghywir a nodwyd yn yr adroddiad eglurhaol ac anghysondebau amrywiol yn y ffigurau. Hefyd gofynnodd pa eitemau o wariant dianghenraid oedd wedi’u cyfeirio fel bod effaith y penderfyniadau hynny yn cael eu hystyried. Ar y pwynt olaf, dywedodd ... view the full Cofnodion text for item 74. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol. |