Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai gr?p gwleidyddol penodol enwebu Cadeirydd y Pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi’n ffurfiol y Cadeirydd a enwebir. Cofnodion: Bu i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd atgoffa’r Pwyllgor y penderfynodd y Cyngor yn y Cyfarfod Blynyddol mai'r gr?p Ceidwadol ddylai enwebu Cadeirydd y Pwyllgor.Roedd y gr?p wedi enwebu’r Cynghorydd Clive Carver.
PENDERFYNWYD: Cadarnhau’r Cynghorydd Clive Carver fel Cadeirydd y Pwyllgor am flwyddyn y cyngor.
(Ar y pwynt hwn, cadeiriodd y Cynghorydd Carver weddill y cyfarfod)
|
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.
Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer swydd yr Is-gadeirydd.Enwebwyd y Cynghorydd Paul Cunnigham gan y Cynghorydd Paul Johnson, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Mike Lowe. Ar ôl cynnal pleidlais, cadarnhawyd yr enwebiad.Ni chafwyd enwebiadau pellach.
PENDERFYNWYD: Penodi'r Cynghorydd Paul Cunningham yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor am flwyddyn y cyngor. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 11 Ebrill 2019.
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2019.
Cofnod 101: gofynnodd y Cynghorydd Heesom bod ei bwynt ynghylch yr angen i Aelodau ddatgysylltu eu hunain o safbwyntiau'r swyddogion ynghylch y cynnydd yn Nhreth y Cyngor fel y cytunwyd yn y gyllideb, yn cael ei gynnwys yn y cofnodion. Hefyd, cymerodd y Cynghorydd Heesom y cyfle i fynegi pryder nad oedd adroddiad monitro cyllideb wedi’i gynnwys ar y rhaglen i’w ystyried gan y Pwyllgor yn ystod y cyfarfod hwn. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at yr arfer sefydlog sef bod adroddiadau monitro misol yn dechrau wedi chwarter cyntaf bob blwyddyn. Felly, nid oedd adroddiad yn ofynnol tan fis Gorffennaf.
Cofnod 104: Cyfeiriodd y Cynghorydd Woolley at ei sylwadau a dywedodd bod y pryderon a godwyd gan yr Awdurdod wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru gan Gymdeithas Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ers 2008, ond heb gael eu hymdrin. Cytunwyd y byddai’r cofnodion yn cael eu diwygio i adlewyrchu bod cynnydd cenedlaethol o ran datrysiad yn anfoddhaol.
Cofnod 103: Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Richard Jones cytunwyd y byddai’r geiriau ‘Cydnabu bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cynnal y trosolwg a bod yn rhan o drafodaethau pan fo angen.’ yn cael eu cynnwys yn y paragraff olaf.
Cytunwyd y byddai Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn anfon e-bost at y Pwyllgor yn gwahodd Aelodau i anfon unrhyw ddiwygiad arfaethedig i’r cofnodion drafft ato cyn cyfarfodydd er mwyn gallu paratoi’r geiriad ymlaen llaw.
Cynigiodd y Cynghorydd Paul Johnson bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo gyda’r ddau ddiwygiad, ac eiliwyd hynny.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi cynnydd ar bwyntiau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Cyfeiriodd at yr eitem Cylch Cyllid a Chynllunio Busnes ar y rhaglen a dywedodd fod y gweithdy gwybodaeth perfformiad wedi’i aildrefnu ac y byddai’n cael ei gynnal ar 30 Mai.
Yn dilyn trafodaeth yn ystod cyfarfod blaenorol, roedd y Prif Weithredwr wedi awgrymu y dylid cynnal gweithdy i Aelodau ar gyllid pensiwn gweithwyr ac fe gytunwyd y byddai sesiwn fer ar ‘Sut mae'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn gweithio’ yn cael ei chynnal ar unwaith cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 13 Mehefin.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.
|
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 71 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried ac fe dynnodd sylw at yr eitemau a oedd ar yr amserlen i’w trafod yn ystod cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 13 Mehefin.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at yr awgrym i wahodd cynrychiolwyr o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gymryd rhan mewn gweithdy i Aelodau yn y dyfodol cyn seibiant mis Awst i gysylltu â gwaith y Cyngor ar y gyllideb. Dywedwyd wrth y Cynghorydd Johnson ein bod yn aros am ymateb gan CLlLC er mwyn cytuno ar ddyddiad addas.
Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones a fyddai modd rhoi ystyriaeth i’r Pwyllgor yn cymryd rhan yng ngwaith y Gweithgor Trawsbleidiol ar Gyllid Llywodraeth Leol. Cytunodd y Prif Weithredwr a’r Cynghorydd Ian Roberts â’r awgrym a dywedodd bod cyfarfod nesaf y Gweithgor Trawsbleidiol yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf a byddai modd darparu adborth.
Cyfeiriwyd at yr angen i drafod â Chadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar draws y rhanbarth am y ffordd orau i graffu ar Faterion a Gadwyd yn Ôl gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru maes o law. Cynigodd y Prif Weithredwr i fynd ar drywydd hyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a
(b) Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, gan ymgynghori gyda Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, os bydd angen.
|
|
Adolygiad o'r Polisi Cyflogau a'r Model Cyflogau PDF 103 KB Pwrpas: Darparu adroddiad ar gynnydd ar (1) modelu tâl ar gyfer gweithredu'r ail flwyddyn (2019) o'r cytundeb tâl dwy flynedd y Cyd-Gyngor Cenedlaethol (2018/19-2019/20) a (2) cynnal dyluniad strwythurol a thelerau cyflogaeth yn dilyn Cytundeb Statws Sengl (2014).
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad cynnydd ar (1) modelu tâl ar gyfer gweithredu'r ail flwyddyn (2019) o'r cytundeb tâl dwy flynedd y Cyd-Gyngor Cenedlaethol (2018/19-2019/20); a (2) cynnal dyluniad strwythurol a thelerau cyflogaeth yn dilyn Cytundeb Statws Sengl (2014).
Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndir a dywedodd pe bai’r Cyngor yn gweithredu'r ail flwyddyn o gytundeb tâl y Cyd-Gyngor Cenedlaethol yn unol â’r model cenedlaethol ar sail debyg ‘darllen ar draws’, byddai’r model tâl lleol yn cael ei amharu i’r graddau na fyddai'n cyflawni egwyddorion dylunio sefydliadol a pholisi tâl a byddai efallai yn agored i her ar sail anghydraddoldeb rhywedd. O ganlyniad, roedd model tâl presennol y Cyngor wedi’i adolygu i ddarparu’r cytundeb tâl cenedlaethol.
Adroddodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol ar fodelu tâl, cynnal a chadw y Cytundeb Statws Sengl a Newid ac Ailgynllunio Sefydliadol. Dywedodd bod blwyddyn 2 cytundeb tâl y Cyd-Gyngor Cenedlaethol yn cynnwys cyflwyno colofn gyflog ‘newydd’ gyda chymathiad i bwyntiau colofn gyflog newydd ac roedd wedi creu newid sylfaenol i’r model tâl / colofn gyflog yn lleol. Daethpwyd i gytundeb lleol ar fodel tâl dewisedig ym mis Mawrth 2019. Arweiniodd ganlyniad cyffredinol y model newydd at weithrediad colofn gyflog cenedlaethol newydd a ddarparwyd ar ei chyfer fel rhan o’r cytundeb dwy flynedd ac fe arweiniodd hefyd at gyflawni colofn gyflog llyfn, mynd i’r afael â chydraddoldeb tâl a’r bwlch rhwng graddau tâl craidd Cyngor Taleithiol Llundain Fwyaf a graddau tâl uwch Hay.
Esboniodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol bod y model tâl newydd wedi pasio’r profion o fod yn gyfreithiol, yn deg, yn ymarferol, yn gynaliadwy, yn dderbyniol ac yn fforddiadwy. Gwnaed cyfathrebu cychwynnol i weithwyr ym mis Mawrth. Y dyddiad dod i rym o’r model tâl newydd oedd 1 Ebrill 2019 a’r dyddiad targed ar gyfer gweithredu oedd mis Gorffennaf 2019 (i’w ôl-ddyddio i fis Ebrill 2019). Yn ychwanegol i Asesiad o Effaith ar Degwch mewnol, comisiynwyd Asesiad O Effaith Ar Gydraddoldeb annibynnol. Roedd yr asesiadau’n gadarnhaol ac yn darparu sicrwydd. Dywedodd yr Uwch Reolwr fod cymeradwyaeth derfynol wedi’i rhoi i’r model tâl arfaethedig a’r strwythur graddio gan yr Undebau Llafur cydnabyddedig ym mis Ebrill ac roedd gwaith gweithredu wedi dechrau. Dywedodd mai’r gweithgarwch critigol oedd glanhau data ac adlinio portffolios ar iTrent (system feddalwedd y gweithlu) ac roedd wedi’i gwblhau. Byddai’r model newydd yn cael ei gymhwyso mewn amgylchedd prawf er mwyn ei brofi cyn ei drosglwyddo i amgylchedd byw.
Dywedodd y Prif Weithredwr a’r Uwch Reolwr fod cynnal uniondeb y model tâl yn hanfodol i ddiogelu'r Cyngor rhag hawliadau cyflog cyfartal. Roedd llywodraethu’r prosesau cynnal a chadw a monitro parhaus o’r Cydgytundeb Statws Sengl yn sicrhau bod uniondeb y Cytundeb yn cael ei gynnal a’i gyflawni yn rhannol drwy ddarparu Archwiliadau Tâl Cyfartal a chynlluniau gweithredu yn ychwanegol i ail-ddylunio gwasanaeth.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Billy Mullin at y gwaith anodd a chymhleth a wnaed yn yr Adolygiad o’r Polisi Tâl a’r Model Tâl a mynegodd ei ddiolch i’r Prif Weithredwr ac Uwch Reolwr Adnoddau Dynol ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Cynllun y Cyngor 2019/20 PDF 103 KB Pwrpas: Gwahoddir y pwyllgor i ystyried a rhoi sylw ar yr adroddiad ynghlwm a gafodd ei gymeradwyo gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 16 Ebrill ac wedi’i ddatblygu ers hynny.
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar Gynllun y Cyngor 2019/20 a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 16 Ebrill a datblygwyd ers hynny. Gofynnwyd i’r Pwyllgor adolygu’r blaenoriaethau a’r is-flaenoriaethau a darparu adborth i’r Cabinet.
Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndir ac esboniodd fod amlinelliad o Gynllun y Cyngor 2019/20 yn cynnwys y saith thema, eu blaenoriaethau ac is-flaenoriaethau wedi’u crynhoi yn yr adroddiad. Roedd gwaith yn datblygu’n dda ar fanylion pob is-flaenoriaeth ac roedd y camau gweithredu yn ystod y flwyddyn wedi’u cynllunio. Rhoddwyd cymeradwyaeth y Cabinet o'r blaenoriaethau a’r is-flaenoriaethau o Ran 1 o’r Cynllun ym mis Ebrill. Byddai’r Cynllun cyfan – Rhan 1 a 2 (Rhan 2 yn cynnwys y mesurau a'r cerrig milltir manwl) yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir ym mis Mehefin ar argymhelliad y Cabinet.
Roedd Cynllun y Cyngor yn cadw’r uwch-strwythur o chwech thema a blaenoriaethau cefnogol gyda thema ychwanegol i ganolbwyntio ar y gwasanaethau gweithredol proffil uchel. Dywedodd y byddai cynllun drafft gyda holiadur byr i ddarparu adborth yn cael ei anfon at y Pwyllgor yr wythnos nesaf ac awgrymodd y dylid cynnal gweithdy i ystyried Cynllun y Cyngor yn fanwl ar ddiwedd mis Mai. Cytunodd y Pwyllgor i hyn.
Siaradodd y Cynghorydd Billy Mullin am fewnbwn gwerthfawr y Pwyllgor wrth graffu ar Gynllun y Cyngor a dywedodd bod sylwadau a safbwyntiau’r Aelodau wedi’u hystyried. Siaradodd hefyd am bwysigrwydd presenoldeb Aelodau yn y gweithdai a’r cyfle yr oedd y gweithdai yn ei roi i drafod unrhyw bryder.
Mynegodd y Cynghorydd Richard Jones y safbwynt nad oedd pob Aelod wedi llwyr werthfawrogi’r gwahoddiad i’r gweithdy a phwysigrwydd Cynllun y Cyngor. Soniodd am yr angen i reoli’r Cynllun ochr yn ochr â’r broses gyllideb. Cynigodd y Cynghorydd Jones bod yr eitem yn cael ei gohirio nes bod y gweithdy ar Gynllun y Cyngor wedi’i gynnal a bod e-bost yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor yn annog yr holl Aelodau i fynychu’r gweithdy i’w gynnal ddiwedd mis Mai. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Paul Cunningham. Cytunodd y Cadeirydd i anfon e-bost ar ran y Pwyllgor i bwysleisio pwysigrwydd mynychu’r gweithdy ar Gynllun y Cyngor. Awgrymodd y Cynghorydd Glyn Banks y dylid gofyn i'r Aelodau yn yr e-bost am eu hadborth ar Gynllun Drafft y Cyngor.
Tynnodd y Cynghorydd Richard Jones sylw at frawddeg olaf, yr ail baragraff ar dudalen 57 yr adroddiad ac roedd yn awgrymu bod rhai gwasanaethau yn cael eu hystyried â phroffil is ac nad oeddent yn cael eu diogelu.
Mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom sawl pryder mewn perthynas â Chynllun y Cyngor a dywedodd bod angen gwneud mwy o waith ar osod y gyllideb a swyddogaethau allweddol fel yr amlinellwyd yn y Cynllun. Soniodd hefyd am Fargen Dwf Gogledd Cymru a'r Strategaeth Trafnidiaeth Integredig a dywedodd bod angen mwy o strwythur yn y Cynllun i fynd i’r afael â’r materion allweddol o ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’n croesawu trafodaeth bellach ar faterion penodol neu heriau yr oedd Aelodau yn dymuno eu codi a ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Gweithgor trawsbleidiol ar gyllid Llywodraeth Leol Cofnodion: Rhoddodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndir a chyflwyniad ar y Gweithgor Trawsbleidiol ar Gyllid Llywodraeth Leol a oedd yn trafod y pwyntiau allweddol canlynol:
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts bod y cyfarfod a gynhaliwyd rhwng y gynrychiolaeth drawsbleidiol a’r Gweinidog ym mis Chwefror wedi bod yn gadarnhaol. Cyfeiriodd at bwysau gwasanaeth ac fe gyfeiriodd at yr angen i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid i gwrdd â dyfarniadau cyflog athrawon a oedd wedi’u dirprwyo i awdurdodau lleol ac ar yr angen i roi cap ar gyllid lleol ar gyfer lleoliadau y Tu Allan i’r Sir. Cyfeiriodd hefyd at yr angen am fynegeio chwyddiant, y gost ar gyfer deddfwriaeth newydd a'r adolygiad hirdymor o’r fformiwla cyllido. Diolchodd y Cynghorydd Roberts i bawb a oedd wedi mynychu’r cyfarfod a dywedodd bod cyfarfod pellach wedi’i drefnu ar gyfer wythnos nesaf. Dywedodd y Prif Weithredwr mai ffocws y Gr?p oedd darparu sail dystiolaeth ar gyfer gwell cyllid cenedlaethol.
Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom fod angen i Aelodau gael mwy o atebolrwydd a rhan yn y broses o fonitro cyllideb gwariant. Yn ei ymateb, esboniodd y Cynghorydd Ian Roberts bod croeso i Aelodau anfon awgrymiadau pellach ar y gyllideb i’r Prif Weithredwr, Aelodau Cabinet neu’r Tîm Cyllid.
Yn ystod trafodaeth cytunwyd y byddai sleidiau’r cyflwyniad yn cael eu hanfon at y Gweithgor Trawsbleidiol gyda’r rhaglen ar gyfer y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD:
Croesawu cynnydd y Gweithgor Trawsbleidiol ar Gyllid Llywodraeth Leol.
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 12.10pm)
|