Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

85.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

86.

Cofnodion pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 17 Ionawr 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2019.

 

Ar gofnod rhif 83, gofynnodd y Cynghorydd Heesom i’r paragraff olaf ddangos bod ei gwestiwn ef yn ymwneud â maint a chapasiti cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi ac a oedd eu hangen ai peidio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiad, y byddai’r cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir ac yn cael eu llofnodi gan y Cadeirydd.

87.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 67 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ar gynnydd y camau gweithredu a oedd yn deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r adroddiad yn cael ei nodi.

88.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 71 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Flaenraglen Waith bresennol i’w hystyried.  Cytunwyd ar y newidiadau canlynol:

·         Y byddai’r Cynllun Rheoli Asedau diwygiedig yn cael ei ail-amserlennu ar gyfer Chwarter 3.

·         Y byddai’r Dangosfwrdd o Fesurau yn cael eu hystyried ym mis Ebrill (ar ôl y gweithdy ar 27 Mawrth)

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y byddai’r Flaenraglen Waith, fel y’i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; ac

 

(b)       Y byddai Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn yr awdurdod i amrywio’r Flaenraglen Waith rhwng y cyfarfodydd, pe byddai angen.

89.

Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20

I dderbyn diweddariad ar lafar ar y gwaith sy’n cael ei wneud yn dilyn y Cyngor Sir ar 29 Ionawr ac i gynghori ar osod y gyllideb yn y Cyngor Sir ar 19 Chwefror (gan nodi’r holl weithdai Aelodau sydd i’w cynnal ar ôl cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol).

Cofnodion:

Darparodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol ddiweddariad ar y gwaith a wnaed mewn ymateb i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 29 Ionawr yn dilyn y penderfyniad i ohirio’r broses o bennu’r gyllideb ar gyfer 2019/20.  Byddai adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 19 Chwefror yn gofyn am ateb ar y gyllideb i’w ail-argymell i’r Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw a chyn y penderfyniad ffurfiol i bennu’r Dreth Gyngor ar 28 Chwefror a fyddai’n dilyn.

 

Roedd pob Aelod wedi derbyn gwahoddiad i fynychu cyfarfod briffio yn syth ar ôl y cyfarfod er mwyn i swyddogion adrodd yn ôl ar eu canfyddiadau a chyflwyno nodyn briffio ar y prif faterion a godwyd:

·      Ffyrdd amgen o ddefnyddio derbyniadau cyfalaf i leihau’r cyfrif Darpariaeth Isafswm Refeniw (MRP);

·      Y rhesymeg dros ddiogelu’r lefel o gronfeydd wrth gefn ar £5.8 miliwn (amcanestyniad diwedd y flwyddyn);

·      Adolygiad o gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi na ddisgwylir iddynt gael eu defnyddio yn 2019/20;

·      Agweddau technegol arbed arian drwy aildrefnu benthyciadau;

·      Y defnydd o lif arian dros ben ar gyfer y gyllideb.

 

Yn dilyn y briffio, byddai’r holl wybodaeth yn cael ei hanfon drwy e-bost at bob Aelod er mwyn cynorthwyo’r drafodaeth ar 19 Chwefror.  Roedd y Cynghorydd Richard Jones wedi’i friffio ar wahân ar y materion a godwyd ganddo, am na allai fynychu’r cyfarfod.

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr bwysigrwydd cyngor technegol amrywiol, y dylid ei ddilyn, a barn broffesiynol ar risg, y dylid ei dilyn, ac y dylid darparu’r cyngor a’r farn hon er mwyn galluogi’r Aelodau i wneud penderfyniad ar y gyllideb.  Dywedodd bod yr amserlen yn hollbwysig, nid yn unig er mwyn cyflawni’r gofynion statudol i bennu cyllideb gytbwys ond hefyd er mwyn caniatáu proses megis cyflwyno gofynion y Dreth Gyngor a gweithredu newidiadau i’r cyfnodau rhandaliadau.

 

Wrth groesawu’r wybodaeth a roddwyd gan Swyddog A151, mynegodd y Cynghorydd Heesom ei bryderon bod arweinyddiaeth y Cyngor wedi creu cyllideb ddiffygiol, er gwaethaf y canllawiau deddfwriaethol, ac na fyddai’r argymhelliad i ddatrys y gyllideb drwy gynyddu’r Dreth Gyngor yn cael ei gymeradwyo gan y mwyafrif o Aelodau.  Cyfeiriodd at restr o ‘opsiynau’ a rannwyd gan swyddogion y Cyngor Sir ac, oherwydd y diffyg opsiynau i leihau’r gyllideb, dywedodd bod yn rhaid i’r arweinwyr edrych ar wariant unwaith eto er mwyn nodi cyllideb gyfreithiol gytbwys.

 

Eglurodd y Cynghorydd Aaron Shotton nad oedd y gyllideb wedi’i phennu eto ac mai cyfrifoldeb y corff o Aelodau etholedig oedd gwneud hynny.  Dywedodd nad oedd pennu ‘cyllideb ddiffygiol’ yn ddatganiad o ffaith oherwydd ni fyddai’n cyflawni dyletswydd statudol y Cyngor.  Argymhellion y swyddogion a’r swyddogion statudol yw’r rhain a dywedodd mai ei gynnig ef yng nghyfarfod y Cyngor Sir ym mis Ionawr oedd cydnabod yr angen i gynyddu’r Dreth Gyngor pe na roddwyd unrhyw gymorth pellach gan Lywodraeth Cymru.  Yn y cyfarfod hwnnw, roedd yr Aelodau wedi cytuno i ohirio’r eitem hyd nes y byddai dirprwyaeth drawsbleidiol wedi cwrdd â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru i geisio Setliad Llywodraeth Leol gwell ar gyfer 2019/20.  Canlyniad yr ymweliad  ...  view the full Cofnodion text for item 89.

90.

Datblygu Rhaglen Gyfalaf 2019/20 - 21/22 pdf icon PDF 218 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf y cyfnod 2019/20 hyd at 21/22.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar ddatblygu Rhaglen Gyfalaf 2019/20 - 2021/22 a fyddai’n cael ei hariannu gan y Cyngor, gan gynnwys manylion cyfredol grantiau a benthyciadau penodol ar gyfer y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a benthyciadau i North East Wales (NEW) Homes.  Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r dyraniadau gwahanol ar gyfer y tair adran Statudol/Rheoliadol, Asedau a Gedwir a Buddsoddiadau.

 

Ers cyhoeddi’r diffyg cyffredinol o £8.216 miliwn ym mis Chwefror 2018, bu ymdrech gadarnhaol ac arwyddocaol gyda derbyniadau cyfalaf yn cael eu creu a chyllid cyfalaf ychwanegol gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Cyfalaf Cyffredinol ychwanegol.  Roedd hyn yn lleihau cyfanswm y diffyg amcangyfrifedig yng nghyfnod 9 2018/19 i £1.428 miliwn dros gyfnod o dair blynedd hyd at 2020/21.  Er bod cynnydd da wedi’i wneud ar dderbyniadau cyfalaf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roedd hyn yn dod yn fwy heriol dros amser.  Amcangyfrifwyd tua £2.3 miliwn o dderbyniadau cyfalaf yn ystod y cyfnod, yn ddarostyngedig i risgiau o ran cymhlethdodau a grymoedd y farchnad.  Yn unol â pholisi darbodusrwydd y Cyngor ar dderbyniadau cyfalaf, ni wnaed unrhyw newidiadau i’r sefyllfa gyllidebol hyd nes y byddant wedi’u cyflawni’n llawn.

 

O ran y dyraniadau arfaethedig ar gyfer y tair blynedd, rhoddwyd esboniad ar y rhesymeg i’r cynlluniau newydd gefnogi cyflwyniad digidol y cwricwlwm ysgolion a’r cynllun gliniaduron/cyfrifiaduron personol newydd.  Roedd diweddariad ar grantiau penodol yn nodi’r costau a oedd yn gysylltiedig â rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif lle’r oedd cyfraniadau uwch gan Lywodraeth Cymru yn cael effaith gadarnhaol ar gyfraniadau’r Cyngor.  Yn ystod trosolwg o gynlluniau posibl yn y dyfodol, cyfeiriwyd at y gwaith a wnaed yn ardal Saltney fel rhan o’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol lle’r oedd cyfraddau ymyrraeth Llywodraeth Cymru wedi cynyddu o 75% i 81%.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Shotton nifer o ymrwymiadau yn y Rhaglen Gyfalaf, er enghraifft y buddsoddiad cyfalaf sylweddol mewn ysgolion gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer cysylltedd digidol, yn ogystal ag uwchraddio mannau chwarae a chaeau chwaraeon synthetig.  Croesawodd y cyfraniadau uwch gan Lywodraeth Cymru mewn nifer o feysydd a’r ymrwymiad parhaus i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol.

 

Croesawyd y dyraniadau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru gan y Prif Weithredwr hefyd, er bod y straen ar gyllidebau’r Cyngor yn parhau.  Cyfeiriodd at yr angen i ehangu’r ddarpariaeth yng Nghartref Preswyl Marleyfield ac i fuddsoddi mewn cynlluniau chwarae er mwyn bodloni’r galw.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Johnson y dylid newid enw Theatr Clwyd er mwyn adlewyrchu buddsoddiad y Cyngor ac i hyrwyddo Sir y Fflint.  Er i’r Prif Weithredwr gytuno y byddai’n codi’r mater hwn gyda’r Bwrdd, soniodd am lwyddiant y Theatr, a oedd yn uchel ei pharch ar hyd a lled y wlad, ac yn theatr â delwedd brand cadarnhaol.

 

Wrth drafod pwysigrwydd y Theatr, dywedodd y Cynghorydd Williams y dylai’r enw barhau fel y mae oherwydd roedd yn enw sefydledig a oedd wedi bod yn uchel ei barch ers cyfnod sylweddol o amser.

 

Pan holodd y Cynghorydd Cunningham am y cynlluniau newydd arfaethedig yn y Rhaglen Gyfalaf, esboniodd y Prif Swyddog  ...  view the full Cofnodion text for item 90.

91.

Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2019/20 - 2021/22 pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys ystod o Ddangosyddion Darbodus sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen Gyfalaf dros y cyfnod o 3 blynedd 2019/20 - 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid, Cyfrifeg Dechnegol, y Strategaeth Gyfalaf wedi’i diweddaru, cyn ei chyflwyno i’r Cabinet.  Roedd y Strategaeth, a oedd yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodusrwydd y Cyngor ar gyfer 20129/20 - 2021/22, wedi’i gwahanu oddi wrth y Cynllun Rheoli Asedau er mwyn cyflawni’r newidiadau a wnaed i Godau Ymarfer y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA).  Byddai’r Cynllun Rheoli Asedau yn cael ei ddiweddaru a’i rannu yn ddiweddarach yn y flwyddyn.  Roedd y Strategaeth yn ddogfen gyffredinol a oedd yn dod â strategaethau a pholisïau amrywiol at ei gilydd, wedi’u rhannu’n nifer o adrannau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Heesom sut yr oedd yr eitem yn cysylltu ag adroddiad Monitro’r Rhaglen Gyfalaf a’r dull y gallai Aelodau geisio gohirio buddsoddiad cyfalaf.  Tynnodd y Rheolwr Cyllid sylw at adran Llywodraethu'r Strategaeth sy’n cyflwyno’r fframwaith, gyda chynnydd yn cael ei adrodd yn chwarterol.  Siaradodd y Prif Weithredwr am yr hyblygrwydd sydd wedi’i ymgorffori yn y Rhaglen Gyfalaf a’r anhawster o ohirio buddsoddiadau yn ystod y flwyddyn ar ôl i’r Rhaglen gael ei chymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y bydd y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo ac yn argymell y Strategaeth Gyfalaf i’r Cyngor Sir;

 

(b)       Y bydd y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo ac yn argymell i’r Cyngor:-

 

·         Y Dangosyddion Darbodusrwydd ar gyfer 2019/20 - 2021/22 fel y’u nodir yn Nhablau 1 a 4-7 y Strategaeth Gyfalaf.

·         Awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i sicrhau symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a’r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).

 

(c)       Nid oes gan y Pwyllgor unrhyw faterion penodol i’r Cabinet eu hystyried cyn y bydd Strategaeth gyfalaf 2019/20 - 2021/22, ar ei ffurf derfynol, yn cael ei hystyried gan y Cyngor.

92.

Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 pdf icon PDF 149 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu grynodeb o’r cynnydd ar Gynllun y Cyngor ar gyfer 2017-23 yn Chwarter 3 2018/19 gan ddarparu dadansoddiad o feysydd o danberfformio a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.  Roedd yr adroddiad hwn yn gadarnhaol ar y cyfan, gyda 92% o’r camau gweithredu wedi’u nodi fel rhai a oedd yn gwneud cynnydd da, a bod 85% yn debygol o gyflawni’r canlyniad dymunol.

 

Nodwyd bod 65% o ddangosyddion perfformiad wedi cyflawni neu wedi rhagori ar y targedau.  O’r tri maes a oedd yn dangos statws coch RAG, gwnaed cynnydd sylweddol i leihau’r nifer cyfartalog o ddyddiau a gymerwyd i gwblhau Grantiau Cyfleusterau Anabledd ac roedd disgwyl gwelliannau pellach ar gyfer 2019/20 ar ôl i’r ôl-groniad o achosion etifeddiaeth gael eu cwblhau.  Byddai’r bwrdd adolygu Grantiau Cyfleusterau Anabledd yn parhau i fonitro cynnydd ac roedd eu cydweithwyr Archwilio Mewnol yn fodlon bod y cynnydd ar y trywydd cywir.  Cafwyd peth gwelliant yng nghanran y plant sy’n derbyn gofal gydag asesiad iechyd amserol, fodd bynnag, roedd y canlyniadau’n cael eu dylanwadu gan gapasiti partneriaid Iechyd.

 

Roedd risgiau’n cael eu rheoli’n llwyddiannus gyda’r mwyafrif ohonynt wedi’u hasesu fel mân risgiau/risgiau anarwyddocaol ac roedd risgiau a oedd yn gysylltiedig â datblygu Marleyfield ac effeithiolrwydd yr Hwb Cymorth Cynnar wedi’u lliniaru’n ddigonol i gael eu datrys.  Roedd chwech o’r saith risg coch yn cael eu heffeithio gan yr hinsawdd ariannol bresennol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Mullin i’r Swyddog Gweithredol a’i thîm am eu gwaith a chroesawodd y cynnydd a gyflawnwyd hyd yma.

 

Cydnabu’r Cynghorydd Heesom agweddau cadarnhaol yr adroddiad ond mynegodd bryderon yngl?n â’r cynnydd ar yr amcanion yn y flaenoriaeth Cyngor Uchelgeisiol, yn benodol ar y strategaeth drafnidiaeth ranbarthol a lleol a godwyd yng nghyfarfod y Gr?p Strategaeth Cynllunio.  Dywedodd bod angen gwybodaeth bellach am y seilwaith traffig a’r twf economaidd ar draws y Sir.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, er bod y Cyngor wedi llwyddo i ddenu grantiau trafnidiaeth, byddai datblygu corff Trafnidiaeth Cymru yn golygu mai dylanwad cyfyngedig fyddai gan gynghorau.

 

Fe ganmolodd y Cynghorydd Johnson y gwaith partneriaeth rhwng y Cyngor, Llywodraeth Cymru a’r Cynghorau Tref/Cymuned er mwyn cyflawni canlyniadau da yng ngorllewin Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y byddai’r Pwyllgor yn nodi ac yn cymeradwyo:

 

·         Y lefelau cynnydd a hyder cyffredinol o ran cyflawni gweithgareddau yng Nghynllun y Cyngor;

·         Y perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor;

·         Y lefelau risg presennol yng Nghynllun y Cyngor.

 

(b)       Y byddai’r Pwyllgor wedi’i sicrhau gan y cynlluniau a’r camau gweithredu i reoli’r broses o gyflawni Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19.

93.

Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Nodi a chefnogi’r drafft terfynol o’r Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg yn cynnwys adborth o’r ymgynghoriad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Polisi Strategol adroddiad gyda’r Strategaeth Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg bum mlynedd derfynol ar gyfer Sir y Fflint, i’w hystyried cyn cael ei mabwysiadu gan y Cabinet.  Mae’n ofyniad ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i gynhyrchu strategaeth i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg.

 

Rhoddwyd trosolwg o’r prif bwyntiau a gododd yn ystod y broses ymgynghori a oedd wedi creu ymatebion gan 157 o unigolion.  Cafwyd cydnabyddiaeth, er mwyn cyflawni targed Llywodraeth Cymru i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg, y byddai’n rhaid i’r Cyngor weithio gyda phartneriaid amrywiol i hyrwyddo dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a chynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.  Cydnabuwyd hefyd y gellir archwilio dull partneriaeth rhwng Sir y Fflint a Wrecsam i adeiladu ar waith fforwm presennol y Gymraeg er mwyn hyrwyddo strategaethau’r ddau Gyngor a rhannu’r hyn a ddysgir.

 

Wrth groesawu’r adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Hessom at y diwydiannau creadigol a’r celfyddydau lle gallai mwy o ddefnydd o’r iaith Gymraeg ffynnu.  Awgrymodd y Prif Weithredwr y gallai enghreifftiau o fentrau Cymraeg yn Theatr Clwyd ac mewn hybiau gael eu hadlewyrchu’n gliriach yn y Strategaeth.

 

O ran cyllid, cynghorwyd y Cynghorydd Bateman bod cyfleoedd i fanteisio ar grantiau yn cael eu hamlygu i fusnesau bach a sefydliadau gwirfoddol.

 

Talodd y Cynghorydd Johnson deyrnged i’r Cynghorydd Tudor Jones i godi proffil yr iaith Gymraeg i fusnesau bach a sefydliadau gwirfoddol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Cunningham i’r Cynghorydd Tudor Jones am godi proffil  y Gymraeg a rhoddodd ganmoliaeth i’r cyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr.  Dosbarthwyd llythyr gan y Cynghorydd Jones i’r Pwyllgor lle diolchodd i Aelodau am eu cyfranogiad yn yr arolwg diweddar a oedd wedi creu canlyniadau cadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y byddai’r Pwyllgor yn cymeradwyo Strategaeth Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg, cyn iddi gael ei mabwysiadu gan y Cabinet;

 

(b)       Y byddai’r Pwyllgor yn cefnogi adolygiad o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Menter Iaith Fflint a Wrecsam a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu fforwm isranbarthol er mwyn monitro a datblygu Strategaethau Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg yn y ddwy sir.

94.

Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu – Chwarter 3 2018/19 pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Ystyried Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu ar gyfer Chwarter 3  2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygiad Sefydliadol adroddiad gwybodaeth am y gweithlu ar Chwarter 2 2018/19.

 

Darparodd drosolwg o’r dadansoddiad o’r proffilio oedran ac esboniodd bod gostyngiad wedi bod o ran presenoldeb yn ystod y cyfnod, gyda’r prif reswm wedi’i briodoli i Straen, Iselder a Gorbryder, a oedd yn adlewyrchu’r darlun cenedlaethol.  Defnyddiwyd dull rhagweithiol i annog cyflogeion i godi materion iechyd meddwl a chael mynediad i’r amrediad o gymorth a oedd ar gael.  Roedd lefel y gwariant ar weithwyr asiantaeth wedi gostwng yn sylweddol yn dilyn penodiadau i nifer o swyddi gwag yn y gwasanaeth Strydlun, fel y nodwyd yn flaenorol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r Pwyllgor yn nodi Adroddiad Gwybodaeth y Gweithlu ar gyfer trydydd chwarter 2018/19 hyd at 31 Rhagfyr 2018.

95.

Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 9) ar Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Mis 9) pdf icon PDF 70 KB

Pwrpas:        Darparu’r sefyllfa fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2018/19 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis 9 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn).  Darparu’r sefyllfa ddiweddaraf ar Mis 9 rhaglen gyfalaf 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar y sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, a’r Rhaglen Gyfalaf 2018/19 ym Mis 9.  Byddai’r ddau’n cael eu hystyried gan y Cabinet ar 19 Chwefror 2019.

 

Monitro’r Gyllideb Fonitro

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd gwarged gweithredol o £0.233 miliwn a oedd yn adlewyrchu symudiad cadarnhaol o £0.207 miliwn o Fis 8.  Yr amrywiaethau allweddol oedd costau ychwanegol ar gyfer trafnidiaeth Anghenion Addysgol Arbennig wedi’u gwrthbwyso gan ostyngiad yng nghostau’r Rhwydwaith Priffyrdd yn dilyn dyraniad grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru.  Cyhoeddwyd incwm annisgwyl ychwanegol ar gyfer Cyllid Canolog a Chorfforaethol, ynghyd â swm a ddelir yn ganolog ar gyfer chwyddiant ansafonol ar gyfer costau egni nad oeddent yn ofynnol mwyach yn ystod y flwyddyn.

 

Ni fu unrhyw newid i’r arbedion arfaethedig cyffredinol lle’r oedd disgwyl i 96% gael ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Byddai manylion pellach am Gronfeydd Wrth Gefn a Balansau yn cael eu rhannu yn y cyfarfod briffio a gynhelir ar ôl y cyfarfod.  Amcangyfrifwyd mai cyfanswm y balans o Gronfeydd Wrth Gefn a oedd ar gael oedd £5.985 miliwn, gan ystyried yr amcanestyniadau diweddaraf.  Roedd y sefyllfa bresennol ar y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn dangos y byddai’r rhain yn lleihau i £7.829 miliwn.

 

Er ei fod yn canmol ansawdd adroddiadau misol y Gyllideb Refeniw, dywedodd y Cynghorydd Heesom nad oedd lefel y manylion yn cynorthwyo’r Aelodau i werthuso’r gwariant portffolio.  Nododd gost benthyca tymor byr fel maes arall yr oedd angen gwybodaeth bellach amdano.

 

Disgrifiodd y Prif Weithredwr y lefel o waith sydd ei hangen i gynhyrchu’r adroddiadau manwl.  Anogwyd yr aelodau i godi meysydd penodol o ddiddordeb yn uniongyrchol gyda swyddogion unrhyw amser er mwyn gallu darparu nodiadau briffio.  Gallai’r Aelodau godi unrhyw faterion portffolio hefyd i’w cynnwys ym Mlaenraglenni Gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Y Rhaglen Gyfalaf

 

Dangosodd crynodeb o newidiadau i’r rhaglen ar gyfer y cyfnod a nodwyd cyfanswm cyllideb diwygiedig o £71.192 miliwn, yn bennaf oherwydd cyllid grant ychwanegol.  Cafwyd crynodeb o geisiadau am symiau o £1.815 miliwn i’w cario ymlaen a nodwyd dau ddyraniad ychwanegol.  Dangosodd y sefyllfa gyllido gyffredinol ar gyfer y cyfnod tair blynedd ddiffyg o £1.428 miliwn cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffynonellau cyllid eraill.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at wariant ar drefi yn y sir a chwestiynodd y buddsoddiad a wnaed yng ngorllewin Sir y Fflint, ac yn benodol Dociau Mostyn.

 

Cafodd yr aelodau eu hatgoffa bod trefi’r sir a oedd wedi’u rhestru yn seiliedig ar saith maes y Cynllun Llesiant a bod dadansoddiad o’r gwariant yn yr ardal i’w weld yn yr atodiad.

 

O ran y cronfeydd Statws Sengl/Cyflogau Cyfartal a oedd wedi’u clustnodi, hysbyswyd y Cynghorydd Bateman bod y gweddill yn cael ei ddefnyddio ar gyfer costau cyflogaeth, fel y cytunwyd yn flaenorol gan y Cyngor Sir, ac y byddent wedi’u gwario’n llwyr cyn hir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r Pwyllgor yn cefnogi’r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Cabinet ar gyfer 19 Chwefror ac yn cadarnhau nad oes unrhyw  ...  view the full Cofnodion text for item 95.

96.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r wasg a’r cyhoedd yn cael eu heithrio o’r cyfarfod oherwydd ystyriwyd bod yr eitem ganlynol yn cael ei heithrio yn rhinwedd paragraff 14 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

97.

Cyfleuster Taliad Cyflym

Pwrpas:        Cymeradwyo cynllun talu anfonebau’n gynt i gyflenwyr a allai yn ei dro greu incwm i’r Cyngor.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr (Llywodraethu) adroddiad i geisio cymeradwyo cynllun talu anfonebau’n gyflymach i gyflenwyr, a allai gynhyrchu incwm i’r Cyngor.

 

Wrth gyflwyno egwyddorion a buddiannau’r Cyfleuster Taliad Carlam (APF), ymatebodd y Prif Weithredwr i nifer o gwestiynau gan y Cadeirydd ac esboniodd mai cynllun gwirfoddol oedd hwn.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Prif Swyddog am ei waith yn codi’r ateb creadigol hwn.  Dywedodd bod cyflwyno’r cynllun wedi derbyn ystyriaeth fanwl a’u bod wedi mynd i’r afael â’r pryderon cychwynnol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet:

 

(a)       Cymeradwyaeth i gyflwyno Cyfleuster Taliad Carlam i gyflenwyr ar gyfer y Cyngor, fel y nodwyd yn yr adroddiad;

 

(b)       Y bydd yr awdurdod hwnnw’n cael ei ddirprwyo i’r Prif Swyddog (Llywodraethu) i gynnal ymarfer caffael a gosod contract gyda Darparwr Gwasanaeth yn unol ag egwyddorion yr adroddiad;

 

(c)       Y bydd yr awdurdod hwnnw’n cael ei ddirprwyo i’r Prif Swyddog (Llywodraethu) a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol ac Asedau, i gyflwyno’r newidiadau sydd eu hangen i bolisïau ac arferion y Cyngor, yn ôl yr angen.

98.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.