Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr David a Gladys Healey gysylltiad personol gydag eitem rhif 10 ar y rhaglen gan eu bod yn llywodraethwyr yn Ysgol Uwchradd Castell Alun (a nodwyd yn adroddiad y Rhaglen Gyfalaf).
Ar eitem rhif 14 ar y rhaglen, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i’r Aelodau a oedd ar banel grantiau mewnol y Cyngor nad oedd angen iddynt ddatgan cysylltiad. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 18 Hydref 2018. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2018.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Pwrpas: Hysbysu’r Pwyllgor am gynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi cynnydd ar bwyntiau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at yr adroddiad ar arolwg cynnal a chadw cylchol pont Sir y Fflint a ddosbarthwyd a gofynnodd bod yr Aelodau yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw adroddiadau pellach. Cytunodd y Prif Weithredwr y byddai’n gwirio dyddiad yr arolwg nesaf yn 2019 a gofynnodd bod unrhyw gwestiynau am yr arolwg yn cael eu hanfon at y Prif Swyddog (Tai ac Asedau). Mewn ymateb i sylwadau pellach, cytunodd y byddai adroddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Strategaeth Gyfalaf a’r Cynllun Rheoli Asedau yn cael ei drefnu ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 72 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried.
Ar broses y gyllideb, eglurodd y Prif Weithredwr y posibilrwydd y byddai cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal ym mis Ionawr oherwydd bod Setliad Terfynol Llywodraeth Leol yn cael ei gyflwyno ar ôl cyfarfod arferol mis Rhagfyr.
Nododd y Cynghorydd Heesom ei bod yn aneglur sut yr oedd cyfrifoldebau portffolio diwygiedig Prif Swyddog yn cysylltu â'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol. Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd cylch gorchwyl y Pwyllgorau yn cael eu trefnu o amgylch portffolios swyddogion a bod y swyddogion yn adrodd i sawl Pwyllgor fel bo’r angen.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a
(b) Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
(i) Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y CYLLIDEBAU CENEDLAETHOL; GOBLYGIADAU A'R RHAGOLYGON LLEOL DIWEDDARAF Pwrpas: Derbyn cyflwyniad gan y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar safle’r gyllideb genedlaethol a’r goblygiadau. Cofnodion: (ii) CYLLIDEB 2019/20 – CYNIGION CAM 1 - CYLLID CORFFORAETHOL
(iii) CYLLIDEB 2019/20 – CYNIGION CAM 2 – YR HOLL BORTFFOLIOS
(iv) CYLLIDEB 2019/20 – CYNIGION CAM 2 – GWASANAETHAU CORFFORAETHOL
Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad ar y cyd ar broses y gyllideb flynyddol a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol:
· Cyflwyniad a phwrpas yr adroddiadau cyllid · Cam 1 Cyllideb 2019/20 o Datrysiadau’r gyllideb gorfforaethol · Cam 2 Cyllideb 2019/20 o Crynodeb o gynigion cynllun busnes ar lefel portffolio o Cynigion cynllun busnes gwasanaethau corfforaethol · Y wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa’r gyllideb genedlaethol · Datganiadau Cyllideb DU y Canghellor · Rhagolwg y gyllideb leol wedi’i ddiweddaru 2019/20 · Dewisiadau ac opsiynau strategol o Crynodeb o sefyllfa gyllidebol Cymru o Adborth sesiynau’r gweithlu o #CefnogiGalw – sefyllfa ymgyrchu a’r drafodaeth gyhoeddus o #EinDiwrnod 20 Tachwedd · Y camau nesaf a therfynau amser
Roedd Cam 1, a ddaeth i ben, yn cynnwys datrysiadau ar gyfer cyllid corfforaethol a'r costau ar gyfer y sefydliad cyfan fel y nodwyd yn yr adroddiad. Roedd rhan o’r cyfanswm o £7.937m yn isafswm o gynnydd Treth y Cyngor o 4.5% ac roedd at ddibenion dangosol ar y cam hwn, net y Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor. Roedd gostyngiadau ar gyfer cymorthdaliadau Model Darparu Amgen (ADM) wedi’u cynnwys yng nghynlluniau busnes y sefydliadau hynny. Rhannwyd datganiadau dull ategol ar gyfer pob cynnig, ag eithrio’r gostyngiad yn swyddi rheoli corfforaethol a’r ffrydiau incwm newydd lle bo’r gwaith yn parhau, a’r adolygiad anomaleddau cludiant a oedd yn adlewyrchu canlyniadau penderfyniadau blaenorol ar hawl i gludiant.
Roedd cynigion Cam 2 yn cynnwys penderfyniadau gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a oedd wedi adolygu eu portffolios perthnasol. Roedd y pwysau o ran costau, buddsoddiadau ac arbedion effeithlonrwydd yn cael eu hargymell i’w mabwysiadu heb eithriad. Gydag incwm ac arbedion effeithlonrwydd lleihau'r gweithlu / swyddi wedi'u targedu wedi'u nodi mewn man arall yn y strategaeth, byddai cyfanswm cynigion effeithlonrwydd portffolio'r cynllun busnes yn cyfrannu £0.630m i'r bwlch a ragwelwyd yn y gyllideb. Roedd hyn yn cynnwys cyfanswm o £0.360m ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol a chrynhodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Llywodraethu) eu meysydd perthnasol.
Eglurwyd y byddai unrhyw adborth gan y Pwyllgor yn cael ei rannu gyda'r Cabinet wrth ystyried mabwysiadu'r cynigion ar gyfer Camau 1 a 2, cyn eu cyflwyno i'r Cyngor Sir.
Yn ystod diweddariad ar sefyllfa’r gyllideb genedlaethol gan y Prif Weithredwr, atgoffwyd yr Aelodau bod Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol yn nodi gostyngiad o 1% yng Nghyllid Allanol Cyfun (AEF) ar gyfer Sir y Fflint a oedd yn gyfystyr â £1.897m ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau tuag at ddyfarniad cyflog athrawon cenedlaethol a chynnydd mewn galw am brydau ysgol am ddim.
Ers adrodd am y rhagolwg o £13.7m o fwlch yn y gyllideb ym mis Medi, roedd nifer o newidiadau i bwysau a phwysau ychwanegol wedi arwain at fwlch cyllidebol diwygiedig o £13.9m. Byddai effaith y gostyngiad mewn arian yn AEF a gweithrediad cynigion Cam 1 a 2 yn gadael bwlch cyllidebol o £6.7m ar gyfer 2019/20.
Eglurodd y ... view the full Cofnodion text for item 56. |
|
Monitro’r Gyllideb Refeniw 2018/19(Mis 6) ar Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Mis 6) PDF 70 KB Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 6) i’r Aelodau ar Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Mis 6). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (HRA), a'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2018/19 fel yr oedd ym Mis 6. Byddai'r ddau yn cael eu hystyried gan y Cabinet ar 20 Tachwedd 2018.
Monitro Cyllideb Refeniw
O ran Cronfa'r Cyngor, roedd y diffyg gweithredol wedi gostwng o £0.081miliwn i £0.222miliwn. O ran rhagolwg sefyllfa’r portffolios, roedd cynnydd o £0.122m ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir wedi golygu bod gorwariant yn ystod y flwyddyn yn £1.585m.
Amcangyfrifwyd y byddai 96% o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn cael eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.
Roedd diweddariad ar risgiau ac effeithiau o bwysau ysgolion yn ogystal â’r hysbysiad y byddai cyllid ychwanegol ar gyfer dyfarniad cyflog athrawon yn cael ei gynnwys fel rhan o’r Setliad.
Rhagwelwyd y byddai’r balans ar Gronfeydd wrth Gefn Arian at Raid yn £7.469m ar ddiwedd y flwyddyn.
Nid oedd newid yn HRA lle y rhagwelwyd y byddai'r gwariant o fewn y flwyddyn yn £0.067m yn is na'r gyllideb, gan adael balans diwedd blwyddyn o £1.165m.
Mewn ymateb i ymholiadau gan y Cynghorydd Jones, rhoddwyd eglurhad ar ddosbarthiad cyfraniad cyllid addysg gan Lywodraeth Cymru drwy fformiwla cyllid ysgolion. Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai'r sefyllfa ar adnoddau / gorbenion gorfodi meysydd parcio yn ffurfio rhan o'r adolygiad sy'n cael ei adrodd ym mis Rhagfyr.
O ran yr ymchwiliad cenedlaethol annibynnol i fynd i'r afael â honiadau cam-drin rhywiol plant yn y gorffennol, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y costau yn ddangosol ar hyn o bryd, yn amodol ar unrhyw geisiadau pellach am wybodaeth. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gladys Healey, rhoddwyd eglurhad ar etifeddiaeth cyfrifoldeb y Cyngor fel awdurdod dilynol.
O ran Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, eglurwyd bod y gostyngiad i gostau Addysg ac Ieuenctid yn £0.027m yn hytrach na £0.058m.
Rhaglen Gyfalaf
Roedd crynodeb o’r newidiadau i’r rhaglen yn ystod 2018/19 yn nodi cyfanswm cyllideb ddiwygiedig o £70.289m yn bennaf oherwydd newidiadau i broffiliau gwariant a chadarnhau cyllid grant yn ystod y flwyddyn. Crynhowyd y ceisiadau am symiau cario ymlaen gyda chyfanswm o £2.246m yn Nhabl 3.
Roedd sefyllfa gyllidebol gyffredinol am dair blynedd yn dangos diffyg o £8.577m cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a /neu ffynonellau cyllid eraill.
O ran y sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer buddsoddi mewn trefi yn y sir, holodd y Cynghorydd Jones am y dadansoddiad o ardaloedd rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) a nodwyd yn Nhabl 7. Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai gwybodaeth ar ddiffiniad yr ardaloedd hynny yn cael ei darparu.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Cabinet ar gyfer 20 Tachwedd ar Fonitro’r Gyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 6) ac yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion eraill i’w cyflwyno i’r Cabinet; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi sefyllfa Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Mis 6) a chadarnhau, ar yr achlysur hwn, nad oes unrhyw faterion i’w cyflwyno gerbron y Cabinet. |
|
Cynllun y Cyngor 2018/19 – Adroddiad Monitro Canol Blwyddyn PDF 116 KB Pwrpas: I adolygu cynnydd canol blwyddyn o flaenoriaethau ac amcanion Cynllun y Cyngor 2018/19. Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol grynodeb lefel uchel o gynnydd canol blwyddyn ar Gynllun y Cyngor ar gyfer 2017-23 gan ddarparu dadansoddiad o feysydd sy'n tanberfformio sy'n berthnasol i'r Pwyllgor. Gwnaed cynnydd cadarnhaol o ran cyflawni camau gweithredu, mesurau a risgiau ar gyfer dros 80% o'r amcanion.
Oherwydd materion technegol, ni fu modd darparu'r atodiad manwl arferol ac felly trefnwyd adroddiad llawn ar gyfer y cyfarfod nesaf ym mis Rhagfyr. Yn dilyn cais a wnaed gan y Cynghorydd Jones yn flaenorol, roedd gwaith ar y gweill i ddatblygu darlun o'r cylch cynllunio ar gyfer cynllunio ariannol, busnes a pherfformiad. Byddai hyn yn cael ei rannu yng nghyfarfod mis Ionawr, ynghyd â’r manylion ar ystod o wybodaeth perfformiad sydd ar gael i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i’w defnyddio ar gyfer adrodd ar berfformiad.
Cynigodd y Cynghorydd Jones y dylid gohirio ystyried yr eitem ymhellach tan gyfarfod mis Rhagfyr pan fyddai’r adroddiad llawn ar gael. Eiliwyd hyn a chafodd ei gefnogi gan y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Y dylid gohirio ystyried yr adroddiad tan gyfarfod mis Rhagfyr. |
|
Adroddiad perfformiad Strategaeth Pobl PDF 102 KB Pwrpas: Cael y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Pobl. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Pobl 2016-2019 gyda chrynodeb o’r pum blaenoriaeth strategol allweddol ar gyfer gweddill 2018/19.
Yn ystod 2017/18, gwnaed cynnydd da o ran darparu Strategaeth Prentisiaeth, tuedd ar i lawr ar gyfer lefelau absenoldeb salwch a gwella’r cynnig dysgu a datblygu. Fel un o’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer 2018/19, gwnaed gwaith sylweddol i gyflawni model cyflog cyfartal a chynaliadwy.
Wrth groesawu’r adroddiad cadarnhaol, holodd y Cynghorydd Jones am y posibilrwydd o gyflawni’r targed 100% ar gwblhau’r gwerthusiad. Darparodd yr Uwch Reolwr sicrwydd bod lefel uchel o her i Brif Swyddogion i gyflawni hyn, ac er bod rhai portffolios yn agos at gyflawni'r targed, gallai'r gwahaniaeth o ran maint y portffolios amharu ar y ffigyrau.
Cafwyd trafodaeth ar yr awgrym y dylai Prif Swyddogion fynychu cyfarfodydd yn y dyfodol i egluro'r rhesymau dros beidio â chyflawni'r targed; ymarfer a fabwysiadwyd yn llwyddiannus yn y Pwyllgor Archwilio. Holodd y Cynghorydd Jones a fyddai modd rhoi hyn ar waith erbyn y diweddariad nesaf yng nghyfarfod mis Ionawr.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi adroddiad perfformiad Strategaeth Pobl a'r cynnydd a nodwyd;
(b) Diolch i'r Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol am ei gwaith ar yr adroddiad; a
(c) Bod y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu ym mis Ionawr a bod unrhyw Brif Swyddogion yn bresennol i egluro'r rhesymau os nad yw eu meysydd wedi cyflawni 100%. |
|
Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu – Chwarter 1 2018/19 PDF 91 KB Pwrpas: Ystyried Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu ar gyfer Chwarter 1 2018/19. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad gwybodaeth am y gweithlu ar gyfer Chwarter 1 2018/19.
Roedd dadansoddiad ac ymarfer meincnodi manwl yn cael ei gyflawni i ddeall y rhesymau dros y gostyngiad mewn ffigyrau presenoldeb. Er y gwnaed cynnydd da ar y gwerthusiadau perfformiad, roedd cyflawni’r targed o 100% yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Adroddwyd gwelliant ar lefel y gwariant ar weithwyr asiantaeth lle bo nifer y lleoliadau presennol wedi gostwng i 52.
Nododd y Cynghorydd Jones bod angen lleihau nifer y gweithwyr asiantaeth hir dymor mewn rolau parhaol. Eglurodd yr Uwch Reolwr bod mwyafrif yr unigolion hynny wedi derbyn cyflogaeth parhaol a bod disgwyl i’r gwasanaethau ryddhau’r rhai heb swyddi parhaol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynnydd yn Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu Chwarter 1; a
(b) Diolch i’r Uwch Reolwr am yr adroddiad. |
|
CRONFA GWADDOL CYMUNEDOL – ADRODDIAD BLYNYDDOL PDF 81 KB Pwrpas: I gefnogi gwaith y Sefydliad Cymunedol wrth gyflwyno eu Hadroddiad Blynyddol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a pherfformiad Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint (y Gronfa) ers yr adroddiad diwethaf ym mis Ionawr 2017. Cyflwynodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol yng Nghymru (CFIW) a roddodd gyflwyniad ar waith y Gronfa, yn ymwneud â’r canlynol:
· Sefydliad Cymunedol – y wybodaeth ddiweddaraf · Hanes a Throsolwg o’r Gronfa · Perfformiad Ariannol y Gronfa · Crynodeb o ddyfarniadau grant a’r Gronfa ar gyfer 2018/19 · Astudiaethau achos
Darparwyd y wybodaeth ddiweddaraf ar Gronfa'r Degwm (WCAF) a oedd wedi trosglwyddo i’r CFIW, a sefydlu Cronfa Cymorth Eiddo Penarlâg a’r Rhanbarth. Yn ogystal â’r gwaith partneriaeth da rhwng y Cyngor, y CFIW a phreswylwyr Sir y Fflint, roedd cyfleoedd yn cael eu harchwilio i ddatblygu nifer o bartneriaethau newydd i elwa cymunedau lleol. Adolygir rheolwyr buddsoddi bob tair blynedd er mwyn cynorthwyo i gyflawni'r nod o gynyddu'r arian a datblygu buddsoddiad yn ddoeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Adroddwyd twf o 6.4% yn y Gronfa dros y 12 mis diwethaf er y nodwyd rhywfaint o risg gwyliadwrus ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. O’r cyfanswm o £25,682 o grantiau sydd ar gael ar gyfer 2018/19, roedd £6,779 wedi'i ddyfarnu hyd yn hyn. Y dull newydd oedd nodi dulliau o gynyddu amrywiaeth a gwneud cysylltiadau cryfach drwy fireinio meini prawf a chynyddu hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth a defnyddio cyllid yn well. Adlewyrchwyd hyn yn rhai o’r straeon a rannwyd o ran y grwpiau oedd wedi elwa.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd David Healey, eglurodd Mr. Williams bod unigolion a grwpiau yn gallu cyflwyno cais am gyllid grant. Cytunodd y byddai'n siarad gyda'r Cynghorydd Healey am yr enghraifft a roddodd. Eglurodd y Swyddog Gweithredol bod ffurflenni gwahanol ar gyfer unigolion a sefydliadau, ac roedd y ddwy ffurflen ar gael ar wefan y Cyngor.
Croesawodd y Cynghorydd Heesom y cynnydd a adroddwyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi gwaith y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ar ran y Cyngor; ac
(b) Y dylid diolch i Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, am ei bresenoldeb a’i gyfraniad yn y cyfarfod. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol. |