Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

45.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

46.

Cofnodion pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 20 Medi 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Medi 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

47.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 69 KB

Pwrpas:        Hysbysu’r Pwyllgor am gynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi cynnydd ar bwyntiau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor.  Diweddarwyd y fformat i gynnwys terfynau amser fel y gofynnwyd yn flaenorol.

 

Fel diweddariad pellach ar weithredoedd o gyfarfod mis Gorffennaf, anogwyd Aelodau i gwblhau arolwg Iaith Gymraeg a chafwyd 54 o ymatebion hyd yma.

 

O ran cam gweithredu heb ei gwblhau ers cyfarfod y Pwyllgor ym mis Medi, dywedodd swyddogion y caiff copïau o’r adroddiad arolwg ar bont Sir y Fflint eu rhannu erbyn y diwrnod canlynol.  Eglurodd y Cynghorydd Heesom bod ei gais am yr adroddiad yn ymwneud â hyfywedd y bont fel sianelydd ar gyfer mater seilwaith priffyrdd sylweddol.  Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r adroddiad yn cael ei gylchredeg i bob Aelod o’r Pwyllgor.  Byddai cynlluniau Llywodraeth Cymru i fabwysiadu’r bont fel rhan o’r rhwydwaith y cefnffyrdd yn dileu unrhyw gyfrifoldeb ar y Cyngor dros waith cynnal a chadw yn y dyfodol.

 

Croesawodd y Cynghorwyr Heesom a McGuill y gweithdai portffolio cyllideb diweddar y gofynnwyd amdanynt gan Aelodau.  Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i dîm am eu cyfraniad, a rhoddodd wybod bod gwaith yn mynd rhagddo ar y rhestr o faterion penodol a nodwyd yn y gweithdai a gaiff ei chylchredu i'r Aelodau i gyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

48.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol i gael ei hystyried, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd wybod bod rhai eitemau wedi’u gohirio o’r cyfarfod hwn o ganlyniad i gyfranogiad swyddogion yng ngwaith paratoi deunyddiau a gafodd eu defnyddio yn y gweithdai cyllideb.

 

Byddai’r ddau gam gweithredu o gyfarfod y Pwyllgor mis Medi yn ymwneud â pherfformiad data a mapio taenlenni yn cael eu cynnwys yn agenda'r cyfarfod nesaf.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd McGuill, cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i ddarparu manylion cyswllt y tîm TG i'r Aelodau i'w helpu â materion iPad.  Atgoffodd y Cynghorydd Mulin bod cymorth TG ar gael ar gais.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a

 

 (b)      Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

49.

Safle diweddaraf ar Gyllidebau Llywodraeth Cymru a'r DU a Chynllunio'r Gyllideb Lleol 2019/20

Pwrpas:        Derbyn diweddariad ar lafar.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar am y sefyllfa ariannol ddiweddaraf yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru (LlC) ynghylch Setliad Dros Dro’r Llywodraeth Leol ar gyfer 2019/20 a oedd yn destun ymgynghori ffurfiol.  Cyn y Setliad terfynol a ddisgwylir ar 19 Rhagfyr, byddai Cyhoeddiad Cyllideb Hydref y Canghellor ar 29 Hydref yn hanfodol bwysig wrth sefydlu unrhyw symiau canlyniadol i Gymru.  Roedd hyn o ganlyniad i ymrwymiad a roddwyd gan LlC y byddai unrhyw symudiadau cadarnhaol newydd (er enghraifft, cyllid ychwanegol ar gyfer addysg a gofal cymdeithasol) yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer llwyodraeth leol fel cydnabyddiaeth o'r dyraniad ychwanegol sydd eisoes wedi'i flaenoriaethu ar gyfer y sector Iechyd.

 

O ran ffigwr y Setliad Dros Dro, dywedodd y Prif Weithredwr, yn ogystal â'r ffaith bod Sir y Fflint yn gyngor cyllid isel, golyga amrywiadau dosbarthiad ei fod yn un o dri awdurdod yng Ngogledd Cymru sy’n derbyn y gostyngiad mwyaf o 1%, sy’n cyfateb i golled o £1.9miliwn i Sir y Fflint (gan gynnwys y dyfarniad cyflog blynyddol i athrawon na chaiff ei ariannu). 

 

Fel un o’r risgiau mwyaf ar lefel y DU, roedd cadarnhad gan LlC am sut fydd costau ychwanegol ar gyfer cyfraniadau cyflogwyr i bensiynau athrawon yn cael eu hariannu yn dal heb ddod i law.

 

I Sir y Fflint, roedd hyn yn risg ychwanegol posibl o £3.5miliwn yn ystod y flwyddyn. 

  Roedd rhaid i'r Cabinet wneud penderfyniad yn ymwneud â chyflwyno dyfarniad cyflog athrawon yn ystod y flwyddyn, roedd Sir y Fflint yn disgwyl derbyn £0.409 miliwn o’r dyraniad gan LlC sy’n tua hanner y cyfanswm.  Roedd rhai sylwadau yn mynegi nad oedd y Setliad yn cynnwys ychwaneged ar gyfer 2019/20 sy’n rhoi pwysau pellach o o leiaf £1.3miliwn.

 

Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi gwneud eu hachos cylluniadol yn seiliedig ar dystiolaeth i LlC wella sefyllfa’r Setliad tra roedd hyblygrwydd o fewn ei gyllidebau ar y cam hwn.  Fel rhan o’r ymgyrchu hir a pharhaus, roedd pryderon ynghylch yr effaith a gaiff diffyg cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol ar Iechyd oherwydd dylid ystyried y ddau faes ochr yn ochr â’i gilydd.  Yn dilyn trafodaethau blaenorol, awgrymwyd bod Aelodau yn gohirio unrhyw gamau gweithredu pellach nes y gellir sefydlu effaith Datganiad y Canghellor.

 

O ran yr ansicrwydd ynghylch grantiau penodol, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol wybod eu bod yn aros am fanylion pellach ynghylch cyhoeddiad LlC o £30miliwn yn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol  a £15 miliwn ar gyfer addysg.

 

Roedd y Cynghorydd Heesom yn pryderu'n arw am ddigonolrwydd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a phortffolio sydd wedi’u strwythuro i wella sefyllfa ariannol y Cyngor.  Dywedodd bod y gwasanaethau dan bwysau sylweddol ac na ellir eu darparu yn y fframwaith presennol.  Aeth ymlaen i gwestiynu ymateb y Cyngor i gyfres o argymhellion o fewn adroddiad a gafodd ei rannu.

 

O ran y pwynt olaf, eglurodd y Prif Weithredwr y cefndir y tu ôl i'r adroddiad gan weithiwr cyllid proffesiynnol a gafodd ei gomisiynu gan y Cyngor gyda chyllid CLlLC mewn ymateb i gynnig  ...  view the full Cofnodion text for item 49.

50.

Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 5) pdf icon PDF 68 KB

Pwrpas:          Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis  5  a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2018/19 fel yr oedd ym Mis 5 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

O ran Cronfa'r Cyngor, roedd y diffyg weithredol wedi gostwng i £0.303miliwn o £0.660miliwn yn y mis blaenorol.  O ran safle rhagdybiaethol y portffolios, roedd y gorwariant ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir yn ystod y flwyddyn yn cael ei wrthbwyso’n bennaf gan y tanwariant sylweddol ar Gyllid Canolog a Chorfforaethol. 

 

Amcangyfrifwyd y byddai 97% o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn cael eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Ymhlith y risgiau sy’n cael eu holrhain, argymhelliwyd y dylid cyfrannu o leiaf £0.015miliwn o arian wrth gefn y Cyngor tuag at costau cyfreithiol yr ymchwiliad cenedlaethol annibynnol i Gam-Drin Plant yn Rhywiol.

 

Tynnwyd sylw at y pwysau sylweddol sydd ar ysgolion o ganlyniad i’r gwobrau tâl athrawon a gwobrau tâl eraill na wyddys amdanynt pan osodwyd y gyllideb.  Fel y soniwyd dan yr eitem diwethaf, byddai newidiadau arfaethedig i bensiynau athrawon yn golygu cynnydd yng nghyfraddau cyfraniadau cyflogwyr. 

 

Mae crynodeb o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn dangos gostyngiad blynyddol gyda chyfanswm yr amcanestyniad ar ddiwedd y flwyddyn yn £11.101miliwn.

 

Ar y Cyfrif Refeniw Tai, rhagamcanwyd y byddai gwariant yn ystod y flwyddyn £0.067m yn is na’r gyllideb, gan adael balans o £1.165m ar ddiwedd y flwyddyn sy’n uwch na’r lefel isaf a argymhellir.

 

O ran cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, gofynnodd y Cadeirydd a fyddai’n bosibl newid enw Flintshire Enterprise Ltd am nad yw'n bodoli mwyach.  Cytunodd swyddogion i ymchwilio i hyn.

 

Tynnodd y Cynghorydd Heesom sylw at newidiadau i’r gyllideb ar gyfer Strydwedd a Chludiant a chludiant i'r ysgol yn benodol.  Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'r adroddiad nesaf i'r Cabinet yn mynd i'r afael â materion na ddatryswyd i'w ystyried gan Trosolwg a Chraffu yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at incwm o daliadau meysydd parcio nad yw wedi cyrraedd y targed rhagamcanol a gofynnodd a fyddai'n bosibl ei adolygu eto oherwydd yr effaith sylweddol ar fasnachwyr canol tref a oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd o ganlyniad i ostyngiad yn nifer yr ymwelwyr.  Dywedodd y gallai'r Cyngor wneud mwy i hyrwyddo a chefnogi adfywiad canol trefi, oherwydd bod llawer o bobl yn dewis ffyrdd eraill o sopia, megis Parc Brychdyn lle y gellir parcio am ddim.  Roedd Aelodau eraill yn cefnogi’r farn hon.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mullin bod hyfywedd canol trefi yn broblem genedlaethol o ganlyniad i newid yn y ffordd mae pobl yn dewis siopa.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod nifer o ffactorau sy’n cyfrannu at y diffyg incwm gan gynnwys yr oedi mewn gweithredu ffioedd yn y Fflint.  Caiff manylion pellach eu cyflwyno i'r Cabinet ym mis Rhagfyr fel rhan o adolygiad canol y flwyddyn o'r Strategaeth Barcio.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyfeiriwyd at y dulliau gwahanol o adfywio canol trefi.  Trafododd y Cynghorodd Johnson welliannau i ganol tref Treffynnon sydd wedi cael ei chynnwys yn y  ...  view the full Cofnodion text for item 50.

51.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.