Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.
|
|
Cynllun y Cyngor 2018/19 Pwrpas: I dderbyn cyflwyniad ar Gynllun Drafft y Cyngor (i ddilyn y gweithdy i bob aelod a gynhaliwyd ar 29 Mai) er mwyn i’r Pwyllgor allu cynghori’r Cabinet ar y cynnwys terfynol. Cofnodion: Dechreuodd y Swyddog Gweithredu Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y cyflwyniad drwy gyfeirio tuag at Gynllun y Cyngor a thaflenni Adolygiad Targedau oedd wedi eu rhannu. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu awgrymiadau a godwyd gan Aelodau yn y Gweithdy a gynhelir ar y 29 Mai yn Rhan 1 gyda’r targedau ar gyfer rhagori, gwella neu gynnal o fewn Cynllun y Cyngor yn cael eu cyfeiriadaeth yn Rhan 2.
Derbyniodd y Cynghorydd Richard Jones y fersiwn diwygiedig o'r modd strategol i adfywio a chefnogi canol trefi fel y rhannwyd, ond er hyn yr oedd yn pryderu os oes gan y Cyngor adnoddau digonol i wireddu’r uchelgais. Esboniodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y bydd y dull datblygiadol i adfywio a chefnogi canol trefi yn cael ei gynnal mewn partneriaeth gyda Chynghorau Tref.
Gofynnodd y Cynghorydd Jones pam fod y targed perfformiad ar gyfer tai fforddiadwy wedi eu diddymu. Mewn ymateb i’r esboniad gan y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y byddai’r targed wedi ei ddiddymu fel mesur perfformiad cenedlaethol, awgrymodd y Cynghorydd Jones y byddai’r targed yn parhau fel mesur lleol yn 2018/19. Cytunodd y Cynghorydd Patrick Heesom gyda'r awgrymiad hwn a chododd bryder yngl?n â datblygwyr yn darganfod bylchau yn y ddeddfwriaeth er mwyn cynnig digonedd o dai fforddiadwy.
Cododd Cynghorydd Heesom bryder ynghylch diffyg darpariaeth ieuenctid ledled y Sir a bod mwyafrif helaeth o’r trigolion yn methu cael mynediad at y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ac felly ddim am gael budd allan o'r gwasanaeth yn cynnwys annog mynediad i waith ac ati. Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) dros dro bod y sylwadau wedi cael eu nodi.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill i Thema Cynllun y Cyngor ‘Cyngor Gwyrdd’ a dywedodd yn ystod y gweithdy Aelodau ei bod hi wedi awgrymu y dylai’r Cyngor gyd-weithio gyda mannau bwyd parod iddynt gyflwyno cynllun lle byddai nodi rhif cofrestru becynnu’r bwyd er mwyn lleihau lefelau sbwriel ar draws y Sir. Awgrymodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y byddai'r syniad hwn yn cael ei ychwanegu i Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylcher er mwyn ystyried y dewisiadau sydd ar gael.
Gofynnodd y Cynghorydd McGuill bod boddhad gofalwyr yn parhau i gael ei fonitro.
Mewn ymateb i’r sylwadau ynghylch cofrestru ysgolion, esboniodd y Prif Swyddog dros dro Bolisi Cofrestru Ysgolion y Cyngor a’r broses apêl sy’n agored i rieni os nad oeddent yn llwyddiannus yn cael mynediad i’w hysgol dewis gyntaf.
Gofynnodd y Cynghorydd Joe Johnson a oes unrhyw wybodaeth ar leoliad i le gall teithwyr sy’n aros am gyfnod byr aros. Hefyd fe ofynnodd a fyddai’r cynllun Buddsoddiad Canol Tref yn cael ei rannu’n deg ar draws y Sir. Cadarnhaodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol nad oedd lleoliad wedi ei bennu i’r teithwyr sy’n aros dros dro eto.
Awgrymodd Cynghorydd Paul Johnson y byddai’r Strategaeth Treftadaeth, sy’n cynnwys safleoedd pwysig megis Parc Treftadaeth Greenfield Valley; yn fwy perthnasol os caiff ei symud i Thema Cynllun y Cyngor ‘Cyngor Uchelgeisiol’, yn ... view the full Cofnodion text for item 13. |
|
Pwrpas: I nodi meysydd o danberfformiad corfforaethol a gwasanaeth yn erbyn Cynllun y Cyngor a’r mesuryddion perfformiad a osodwyd ar gyfer 2017/18, ac aros am gynllun gweithredu gan y Cabinet gyda chynigion ar gyfer gwella perfformiad yn 2018/19. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) dros dro'r trosolwg perfformiad y Cyngor 2017-18, gan ystyried y mesuryddion perfformiad a gafwyd eu cydnabod yn lleol, yn ogystal â’r mesuryddion a meincnodwyd yn genedlaethol, sef y Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus.
Ar y cyfan roedd y ddwy ddogfen yn bositif, gyda’r mwyafrif o'r mesuryddion yn dangos llwyddiant o gyrraedd targed a gwella yn gyson ar hyd y flwyddyn. Er hyn, roedd yn bwysig iawn i’r Cyngor gadw ffocws ac i barhau i gynnal lefel o graffu ar ardaloedd perfformio penodol yn ystod 2018/19.
Mae’r adroddiad yn darparu manylion ar fesuryddion perfformiad sydd wedi dangos bod gostyngiad mewn perfformiad, heb gyrraedd y targed o bell ffordd, neu yn genedlaethol yn y 2 chwartel meincnodi gwaethaf. Byddai mesurau y cytunwyd arnynt yn y categorïau hyn yn cael eu monitro ar gyfer adolygiad ac arolygiaeth yn y dyfodol.
Soniodd y Cynghorydd Patrick Heesom am ei bryderon yngl?n â'r nifer o ddangosyddion Coch. Gwnaeth sylw fod y cyrhaeddiad addysgol Cyfnod Allweddol 4 ddim digon uchel ac nad oedd perfformiad y disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn ddigonol.Dywedodd fod angen gwella’r ardaloedd hyn ar frys.
Gwnaeth y Cynghorydd Hilary McGuill sylw ar y mesuryddion perfformiad ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, mewn swydd neu hyfforddiant, a dywedodd eu bod angen eu nodi a’u holrhain yn gynt yn hytrach na dim ond eu cydnabod pan yn 16 mlwydd oed. Dywedodd y Prif Swyddog dros dro bod hyn yn flaenoriaeth ar gyfer y portffolio er mwyn datblygu, ac fe amlinellodd fod angen defnyddio cyn lleied o adnoddau er mwyn wynebu’r heriau mwyaf.
Mewn ymateb i bryderon am Aura Leisure, esboniodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol bydd y Pwyllgor Trosolwg a Craffu Newidiadau Sefydliadol yn parhau i dderbyn adroddiadau cyson ar berfformiad Aura Leisure.
Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones os gellir darparu dogfen i Aelodau, a fyddai yn dangos y newidiadau rhwng Cynllun y Cyngor 2017/18 a Chynllun 2018/19, a fydd yn helpu Aelodau i adnabod y newidiadau yn rhwydd. Cytunodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol i ddarparu'r wybodaeth hon yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Yn ogystal, adroddodd hi fod adolygiad o Gynllun y Cyngor 2018/19 i hysbysu Cynllun 2019/20 am ddechrau yn gynharach ym mis Hydref/Tachwedd 2018.
Roedd aelodau yn galw am eglurhad am eiriad y dangosyddion perfformiad, cyfeiriad a sylwadau ar ddatblygiad perfformiad ar gyfer y canlynol:-
Darparodd y Prif Swyddog dros dro esboniad ar Reolwyr a gweithwyr yn cwblhau rhaglenni yn ymwneud â straen, gyda'r bwriad o sicrhau fod digon ... view the full Cofnodion text for item 14. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd un aelod o’r wasg yn bresennol. |