Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

24.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

25.

Ystyried mater a atgyfeiriwyd at a Pwyllgor yn unol a'r Trefniadau galw i mewn pdf icon PDF 71 KB

Pwrpas:        Mae penderfyniad y cyfarfod Cabinet ar 23 Gorffennaf 2024 yn ymwneud â Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau 2024 wedi cael ei alw i mewn.  Atodir copi o’r weithdrefn ar gyfer delio ag eitem sydd wedi’I galw i mewn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y Cabinet wedi ystyried adroddiad ar yr ‘Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau 2024’ yn ei gyfarfod ar 23 Gorffennaf 2024.  Roedd y penderfyniad (Cofnod o Benderfyniad 4243) wedi cael ei alw i mewn fel y dengys yn yr Hysbysiad Galw i Mewn ar y rhaglen.

 

Roedd copïau o adroddiad y Cabinet, Cofnod o’r Penderfyniad a Chymeradwyo Galw i Mewn wedi’u cynnwys ym mhecyn y rhaglen.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd drosolwg o’r drefn ar gyfer galw Penderfyniad Cabinet i mewn fel y manylwyd yn y ddogfen ategol a oedd wedi’i chynnwys yn y rhaglen.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y llofnodwyr i gyflwyno’r rhesymau dros y galw i mewn i’r Pwyllgor.

26.

Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau 2024 pdf icon PDF 662 KB

Pwrpas:        Adroddiad Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol - Aelod Cabinet Cyllid a Gwerth Cymdeithasol

 

Atodir y dogfennau canlynol i gynorthwyo Aelodau:

 

·         Copi o’r adroddiad - Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau 2024

·         Copi o’r Cofnod o Benderfyniad

·         Copi o’r Hysbysiad Galw i Mewn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Sylwadau gan y rhai a lofnododd y cais galw i mewn

 

Ar ran y pum llofnodwr, amlinellodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson y rhesymau dros Alw i Mewn, gan ehangu ar y rhesymau a amlinellwyd yn y rhaglen.

 

Ymatebion gan y Penderfynwyr

 

Ar ran yr Aelod Cabinet Cyllid a oedd yn absennol, ymatebodd y Cynghorydd Christine Jones i’r pryderon a fynegwyd gan y rhai a lofnododd y cais Galw i Mewn.

Gwahoddodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau i’r Penderfynwyr a’r llofnodwyr Galw i Mewn.

 

Yn ystod y drafodaeth, rhoddodd swyddogion eglurhad yngl?n â’r camosod yn yr atodlen gan gytuno i ystyried ailfformatio i wahanu ffioedd a thaliadau statudol ac yn ôl disgresiwn, ac eithrio TAW.

 

Pan wahoddwyd y Cynghorydd Ibbotson i grynhoi ar ran y llofnodwyr Galw i Mewn, croesawodd yr awgrymiadau a wnaed gan swyddogion ac eiliodd y cynnig a wnaed gan y Cynghorydd Gladys Healey ar gyfer Opsiwn 3.

 

Wrth ymateb i’r sylwadau, cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i gysylltu â’r Prif Swyddog (Llywodraethu) yngl?n â’r awgrym am adolygiad o’r cynllun Dirprwyo Grymoedd.

 

Cafodd y Cynghorydd Christine Jones hefyd gyfle i grynhoi.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd atgoffa’r Aelodau o’r opsiynau ar gyfer gwneud penderfyniad fel y manylwyd yn eitem 3 ar y rhaglen.

 

Cafwyd pleidlais a chefnogwyd Opsiwn 3.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried y penderfyniad, mae’r Pwyllgor yn parhau i fod yn bryderus amdano ac yn ei gyfeirio’n ôl i’r corff sy’n gwneud penderfyniad er mwyn ei ailystyried.  Yna, bydd y penderfynwr yn ailystyried, yn y cyfarfod cynharaf posibl, ac yn diwygio’r penderfyniad neu beidio, cyn mabwysiadu penderfyniad terfynol.

27.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.