Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

13.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

14.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad am y camau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol.

 

Mewn perthynas â’r camau gweithredu a ddeilliodd o’r cyfarfod ym mis Mawrth, byddai copïau o ymatebion gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cael eu dosbarthu i’r Pwyllgor.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud.

15.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Raglen Waith y Pwyllgor i’w hystyried, gan nodi bod angen diweddaru teitlau Aelodau’r Cabinet ar y Cylch Gorchwyl.

 

Yn unol â'r cais, byddai swyddogion Cyllid yn rhannu dadansoddiad o arian grant a gwariant y Cyngor ar weithredu parthau 20mya.

 

Byddai adroddiad yn cael ei drefnu ar gyfer mis Tachwedd / Rhagfyr 2024 i roi manylion gwariant a rheolaethau ariannol o fewn y portffolio Asedau.  Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Waith, fel y’i diwygiwyd; a

 

(b) Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

16.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2025/26 pdf icon PDF 73 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer y gofyniad ychwanegol cyllideb 2025/26 a’r strategaeth ac amserlen y gyllideb sy’n datblygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar gam cyntaf datblygu'r gyllideb ar gyfer 2025/26 cyn ei ystyried gan y Cabinet.

 

Byddai ymatebion ar wahân yn cael eu rhannu gyda'r Pwyllgor ar (i) y rhesymeg dros ariannu cludiant i ddisgyblion o'r tu allan i'r sir i Ysgol Uwchradd Gatholig Caer yn hytrach na defnyddio darpariaeth leol; (ii) y broses ar gyfer ymdrin â phobl sy'n datgan eu bod yn ddigartref heb unrhyw gysylltiad lleol; a (iii) manteision posibl yn deillio o Reoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000.

 

Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y sylwadau yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25, yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet pan fydd yn ystyried yr adroddiad.

17.

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Alldro) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Alldro) pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn darparu sefyllfa alldro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, a sefyllfa alldro’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a'r Rheolwr Cyllid Strategol adroddiadau ar ganlyniad terfynol 2023/24 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai a'r Rhaglen Gyfalaf cyn i’r Cabinet eu hystyried.

 

Byddai ymatebion ar wahân yn cael eu rhannu â'r Pwyllgor ar (i) y gost o brynu cerbydau ar gyfer adnewyddu contract y Fflyd; (ii) canran y cronfeydd wrth gefn yn erbyn refeniw a ddelir gan awdurdodau lleol eraill at ddibenion cymharu; (iii) gwybodaeth am y tâl llety gwasanaeth a rennir gan Gyngor Gwynedd o dan Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi; a (iv) manylion costau Tlodi Bwyd o £0.042m a danddatganwyd yn flaenorol mewn Tai a Chymunedau.  Hefyd, gofynnwyd am ddiweddariad ar opsiynau lliniaru digartrefedd ar gyfer cyfarfod mis Medi.

 

Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (sefyllfa derfynol), y byddai’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet; ac

 

(b) Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (sefyllfa derfynol), y byddai’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.

18.

Monitro Cyllideb Refeniw (Interim) 2024/25 pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r risgiau allweddol a’r problemau sy’n hysbys o ran sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer 2024/25 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad a oedd yn rhoi’r trosolwg cyntaf o sefyllfa monitro’r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.

 

Diwygiwyd yr argymhelliad i adlewyrchu’r drafodaeth hon.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 (dros dro), y byddai’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet; a

 

(b) Cyfeirio sylwadau ar y broses ar gyfer ymdrin ag adroddiadau eithriedig i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd i'w hystyried.

19.

Llywodraethu ar gyfer y Rhaglen Drawsnewid pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo’r penderfyniad ar ddulliau trosolwg ar gyfer y rhaglen arfaethedig o adolygiadau trawsnewid. Nod y rhaglen drawsnewid yw adolygu’r ffordd rydym yn gweithio er mwyn gwneud arbedion i helpu i gau’r bwlch cyllido yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar y strwythur llywodraethu arfaethedig ar gyfer y rhaglen drawsnewid, gyda’r nod o wneud arbedion i helpu i gwrdd â'r bwlch ariannu yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Gofynnodd Arweinydd y Cyngor i gael gwneud cofnod o’i ddiolch i'r Cadeirydd am gymryd rhan yn y broses.

 

Yn ystod y drafodaeth, cafodd gwelliant ei gyflwyno, a’i golli.  Pleidleisiwyd am welliant dilynol, a oedd yn adlewyrchu pryderon ynghylch adolygu cynnydd ar ganlyniadau ac adnoddau yn rheolaidd.  Nododd swyddogion y cais am ddiweddariadau ar y rhaglen i nodi ‘safon methiant’ i ganfod unrhyw risgiau posibl.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r strwythur llywodraethu arfaethedig ac yn ei argymell i'r Cabinet ymrwymo i adnoddau Blwyddyn 1 (2024/25) y rhaglen; a

 

(b) Bod y Pwyllgor yn addasu ei raglen waith ei hun er mwyn ystyried y rôl y bydd yn ei chwarae yn y rhaglen drawsnewid.

20.

Strategaeth Ddigidol - Adolygiad Archwilio Cymru, Argymhellion a Chamau Gweithredu Arfaethedig pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Cyflwyno canlyniad yr archwiliad ar Strategaeth Ddigidol y Cyngor, er mwyn cael cymeradwyaeth i’r cynllun gweithredu arfaethedig mewn ymateb i argymhellion gan Archwilio Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar ganlyniad yr archwiliad ar Strategaeth Ddigidol y Cyngor, er mwyn cael cymeradwyaeth i’r cynllun gweithredu arfaethedig mewn ymateb i argymhellion gan Archwilio Cymru.

 

Gwnaed awgrym ar gyfer eitem ar Egwyddor 2 y Datganiadau Digidol Lleol o fewn Strategaeth Ddigidol y Cyngor.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn nodi'r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor ar y cynllun gweithredu arfaethedig.

21.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi ei heithrio yn rhinwedd paragraff 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

22.

Cyllid Grant y Trydydd Sector

Pwrpas:        Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid y trydydd sector; Cist Gymunedol a Chyllid Strategol. Bydd hyn yn cynnwys diweddariad cynnydd ar weithredu’r camau sy’n deillio o’r adolygiad diwethaf ar gyllid ac argymhellion ar gyfer camau nesaf.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol - Rhaglen Gyfalaf ac Asedau ddiweddariad ar gyllid y trydydd sector; Y Gist Gymunedol a Chyllid Strategol, a oedd yn cynnwys cynnydd ar roi camau gweithredu o'r adolygiad diwethaf ar waith, ac argymhellion ar gyfer y camau nesaf.

 

Cytunodd swyddogion i geisio eglurder ynghylch cyllid y Gist Gymunedol, er mwyn sicrhau cysondeb rhwng y swm a nodir yn yr adroddiad a’r swm ar wefan y Cyngor.  Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Bod y Pwyllgor yn nodi'r wybodaeth a ddarparwyd ar gyllid y trydydd sector, ynghyd â'r cynnydd a wnaed wrth weithredu adolygiad blaenorol;

 

(b) Bod y Pwyllgor yn nodi argymhelliad o adolygiad pellach o Gyllid Strategol i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd, gan gynnwys y rhai a amlygwyd gan yr Archwiliad Mewnol diweddar. Yn ogystal, bod adroddiadau pellach yn cael eu dwyn yn ôl i'r Pwyllgor wrth i'r gwaith fynd rhagddo er mwyn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf; a

 

(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi parhad cynllun cyllid grant y Gist Gymunedol, yn amodol ar adolygiad sydd i'w gynnal yn 2024/25, i gynnwys y cylch gorchwyl.

23.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.