Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar12 Rhagfyr 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (eitem 4 ar y rhaglen) am gynnydd gyda chamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol a dywedodd y byddai’r cais am gostau i drosglwyddo gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd yn cael ei gynnwys yn adroddiadau monitro cyllideb refeniw.
Yn ogystal â’r camau gweithredu sy’n weddill, fe fyddai’n edrych i mewn i’r cais am gyflwyniad blynyddol am waith Crwner Gogledd Cymru.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (eitem 5 ar y rhaglen) ar Raglen Waith bresennol y Pwyllgor. Fe gytunodd y byddai’n gwirio eitem Cynllun y Cyngor sydd wedi’i drefnu ar gyfer mis Chwefror er mwyn osgoi dyblygu.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Waith; a
(b) Rhoi awdurdod i Reolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Pwrpas: Rhoi diweddariad a sefyllfa cyllideb refeniw’r Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad (eitem 6 ar y rhaglen) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am sefyllfa cyllideb refeniw’r Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26 yn cynnwys y goblygiadau yn dilyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Lleol Cymru.
Yn ystod trafodaeth, cafwyd eglurhad gan swyddogion yn dilyn amryw o gwestiynau, yn cynnwys craffu ar ddewisiadau terfynol y gyllideb cyn i’r Cyngor gyfarfod ym mis Chwefror.
Fe awgrymodd y Cynghorydd Coggins Cogan fod y Cadeirydd, Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd setliadau mynegol ar gyfer blynyddoedd i ddod. Cafodd y diwygiad ei gynnig gan y Cadeirydd a’i eilio gan y Cynghorydd Ibbotson.
PENDERFYNWYD:
(a) Wedi ystyried adroddiad Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2025/26, bod y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu cyfeirio at y Cabinet pan fydd yn ystyried yr adroddiad; a
(b) Bod y Cadeirydd, Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu llythyr ar y cyd at Lywodraeth Cymru er mwyn awgrymu'n gryf y byddai cael gwybod am setliadau mynegol aml-flwyddyn yn cael ei groesawu gan y Cyngor a gan Gynghorau eraill, er mwyn helpu i gynllunio ymlaen yn fwy effeithiol ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 (Mis 8) Pwrpas: I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 (Mis 8) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad (eitem 7 ar y rhaglen) ar sefyllfa Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ym mis 8 2024/25, cyn i’r Cabinet ei ystyried.
Ymatebodd y Swyddogion i gwestiynau a godwyd yn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Cynghorydd Coggins Cogan at y tanwariant o £0.098m ar brydau ysgol am ddim a gofynnodd bod y portffolio yn ystyried defnyddio hyn i gefnogi prydau ysgol am ddim yn ystod cyfnodau o wyliau.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2024/25 (mis 8), bod y sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor yn cael eu cyfeirio at y Cabinet. |
|
Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd - Y Wybodaeth Ddiweddaraf Pwrpas: Darparu diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf ynghylch anfonebau Gofal Iechyd Parhaus sydd heb gael eu talu i’r Cyngor gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) adroddiad (eitem 8 ar y rhaglen) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y ddyled hirdymor gyfredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) mewn perthynas â phecynnau Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn Sir y Fflint.
Fe holodd y Cadeirydd am rai o’r ffigurau sydd yn yr atodiad ac fe dynnodd sylw at yr angen am gywirdeb.
Yn ystod trafodaeth am y llythyr oedd yn atodiad i’r adroddiad, cynigiodd y Cynghorydd Ibbotson fod y Cadeirydd yn ysgrifennu unwaith eto at Jeremy Miles AS i fynegi siom y Pwyllgor gyda’r ymateb cychwynnol a cheisio rhagor o gymorth. Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Coggins Cogan.
Yn dilyn y drafodaeth, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd grynodeb o’r pwyntiau a godwyd ac ar ôl pleidlais, cafodd y diwygiad ei basio.
Cytunwyd hefyd fod yr Uwch Reolwr a’i chydweithiwr yn cyfarfod y Cadeirydd i lunio’r llythyr er mwyn adlewyrchu’r sylwadau a wnaed.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol yn ymwneud ag anfonebau Gofal Iechyd Parhaus sydd heb eu talu i’r Cyngor gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a
(b) Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ddiolch i’r Gweinidog am ei lythyr, ond i nodi nad oedd yr ymateb yn mynd i’r afael â phrif bryderon y llythyr gwreiddiol a anfonwyd gan y Cyngor am y broses gymrodeddu, ac i geisio ei gymorth â chefnogaeth bellach wrth symud y broses yn ei blaen. |
|
Cynllun Ynni Ardal Leol Sir y Fflint Pwrpas: Ceisio cefnogaeth y o ran Prif Adroddiad ac Adroddiad Technegol Cynllun Ynni Ardal Leol Sir y Fflint. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Prosiect Newid Hinsawdd adroddiad (eitem 9 ar y rhaglen) i dderbyn fersiwn derfynol Cynllun Ynni Ardal Leol Sir y Fflint ac argymell bod y Cabinet yn ei gymeradwyo.
Tynnodd y Cynghorydd Coggins Cogan sylw at anghywirdebau yn yr adroddiad. O ran argymhelliad 1, cafodd ei ddiwygiad arfaethedig bod y Pwyllgor yn nodi yn hytrach na chymeradwyo y dogfennau, ei eilio gan y Cynghorydd Shallcross.
Cafodd argymhelliad ychwanegol ei gynnig gan y Cynghorydd Coggins Cogan fod y Pwyllgor yn rhagweld neu’n disgwyl y bydd yr hydrogen a gynhyrchir y cyfeirir ato yn yr adroddiad yn wyrdd, er mwyn bodloni amcanion newid hinsawdd, ac y byddent yn ceisio ymateb gan y Rheolwr Rhaglen petai yna unrhyw anhawster wrth gyflawni’r nod yma. Cytunodd y Swyddog Prosiect i drafod hyn gyda’r Rheolwr Rhaglen.
Yn dilyn yr awgrym am weithdy ar newid hinsawdd, fe gytunwyd y byddai’r Cynghorydd Allan Marshall yn trafod y briff posibl ar gyfer gweithdy o’r fath gyda’r swyddogion, gan nodi y gweithdai cyflwyniadol oedd ar gael i Aelodau.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi Prif Adroddiad ac Adroddiad Technegol Cynllun Ynni Ardal Leol Sir y Fflint (Atodiad 1 a 2 yr adroddiad), gan ddeall bod y camau gweithredu sydd wedi’u rhoi i Gyngor Sir y Fflint yn amodol ar sicrhau a chynnal y cyllid angenrheidiol;
(b) Body Pwyllgor yn nodi cynnwys adroddiad yr Awdurdod Glo ‘Cyngor Sir y Fflint: Cyfleoedd i Adfer Gwres D?r’ (Atodiad 3) ar y cyd â Chynllun Ynni Ardal Leol; a
(c) Bod y Pwyllgor yn rhagweld neu’n disgwyl bod cynhyrchu hydrogen y cyfeirir ato yn adroddiad Cynllun Ynni Ardal Leol yn wyrdd, a cheisio ymateb gan y Rheolwr Rhaglen ar ddichonoldeb cyflawni’r nod yma, a bod adroddiad yn dod yn ôl gerbron y Pwyllgor os nad dyma oedd yr achos. |
|
Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2024/25 Pwrpas: Adolygu a monitro perfformiad canol blwyddyn y Cyngor, gan gynnwys camau gweithredu a mesurau, fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor (2023-28) ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad (eitem 10 ar y rhaglen) i adolygu’r cynnydd ar ganol y flwyddyn yn ôl blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2024/25. Roedd hwn yn adroddiad yn seiliedig ar eithriadau oedd yn canolbwyntio ar feysydd perfformiad nad oedd yn cyrraedd eu targed ar hyn o bryd.
Cafodd pryderon a godwyd am y canran o alwadau ffôn nad oedd yn cael eu hateb yn y Ganolfan Alwadau eu cydnabod gan Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol. Byddai adroddiad yn y dyfodol yn cael ei drefnu ar gyfer hyn yn y Rhaglen Waith.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau oedd yng Nghynllun y Cyngor 2023-28 i’w cyflawni o fewn 2024/25;
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi perfformiad cyffredinol yn ôl mesurau / dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2024/25; a
(c) Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni. |
|
Rheoli Risg - Adroddiad Cofrestr Risgiau Gorfforaethol Pwrpas: I adolygu Cofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad (eitem 11 ar y rhaglen) i adolygu’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol oedd newydd ei llunio a fyddai’n cael ei ddefnyddio i gofnodi risgiau sylweddol a allai effeithio ar amcanion a gweithrediadau strategol sefydliad.
Fe awgrymodd y Cadeirydd y gallai rhywfaint o’r geiriau yn yr adroddiad gael eu hadolygu a’u safoni.
Dywedodd y Cynghorydd Ibbotson nad oedd effaith newid hinsawdd ar draws y sefydliad yn cael ei adlewyrchu yn y ddogfen a bod angen cyfeiriad penodol at wytnwch ariannol y Cyngor a ffactorau allanol ehangach yn y gofrestr risg. Cytunodd y Prif Weithredwr i drafod gyda’r swyddogion perthnasol yngl?n â sut y gallai newid hinsawdd gael ei gynnwys. Ar yr ail bwynt, byddai’n trafod gyda’r tîm Cyllid i gynnwys naratif pellach yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Cafodd yr argymhellion eu cefnogi.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr adborth ar y Gofrestr Risgiau Gorfforaethol oedd newydd ei llunio’n cael ei nodi; a
(b) Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau o’r trefniadau ar waith i reoli'r risgiau sydd wedi'u manylu yn y Gofrestr Risgiau Gorfforaethol. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |