Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Ystyried mater a atgyfeiriwyd at a Pwyllgor yn unol a'r Trefniadau galw i mewn PDF 98 KB Mae penderfyniad y cyfarfod Cabinet ar 12 Gorffennaf 2022 yn ymwneud â ‘Adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau 2022’ wedi cael ei alw i mewn. Atodir copi o’r weithdrefn ar gyfer delio ag eitem sydd wedi’I galw i mewn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y weithdrefn ar gyfer galw penderfyniad Cabinet i mewn fel y manylir yn y ddogfen ategol. Roedd y Cabinet wedi ystyried adroddiad ar ‘Adolygiad Blynyddol o Ffioedd a Thaliadau 2022’ yn ei gyfarfod ar 12 Gorffennaf 2022. Galwyd y penderfyniad i mewn (Cofnod Penderfyniad 3991) gan y Cynghorwyr Bernie Attridge, Helen Brown, Bill Crease, Richard Jones Debbie Owen Roedd copïau o adroddiad y Cabinet, y Cofnod o Benderfyniad a’r Gymeradwyaeth o Alw i Mewn a oedd yn nodi tri rheswm dros y galw i mewn wedi’u cynnwys gyda phapurau’r rhaglen. |
|
Adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau 2022 PDF 102 KB AdroddiadPrifWeithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol - Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant, Cymunedau Cryf gan gynnwys Gwerth Cymdeithasol a Chaffael
Atodir y dogfennau canlynol i gynorthwyo Aelodau:
· Copi o adroddiad Adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau 2022 · Copio’r Cofnod o Benderfyniad · Copy o’r Hysbysiad Galw i Mewn
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Sylwadau gan lofnodwyr y galw i mewn
Cyfeiriodd y Cynghorydd Bernie Attridge at y rhesymau a roddwyd dros y galw i mewn, gan ddweud eu bod yn rhesymau eithaf eang ac amlinellodd ei gwestiynau, fel a ganlyn:
Cyfeiriodd y Cynghorydd Attridge at reswm 1 dros y galw i mewn sy’n ymwneud â chynnydd o 88% mewn rhent i gr?p cymunedol y teimlwyd y byddai’n cael canlyniadau distrywiol, a phe bai hyn yn cael ei wneud ar draws sir y Fflint gallai achosi goblygiadau cymdeithasol i grwpiau cymunedol eraill. Cododd bryderon ynghylch y cynnydd arfaethedig, yr oedd yn credu iddo gael ei gynnig oherwydd nad oedd y Cyngor wedi adolygu’r rhent ers nifer o flynyddoedd ac nid oedd yn teimlo y dylid cosbi’r gr?p cymunedol oherwydd hyn. Dywedodd nad oedd yn teimlo bod hyn yn dderbyniol o gwbl.
Dywedodd y Cynghorydd Bill Crease ei fod yn teimlo bod y cynnydd arfaethedig o 88% mewn rhent i gr?p cymunedol yn enghraifft o’r hyn all fynd o’i le wrth ddefnyddio mesur safonol yn ddiwahân. Dywedodd bod y gr?p dan sylw wedi treulio llawer iawn o amser yn gwella’ adnodd ar gyfer y gymuned yn arwyddocaol a’i fod wedi rhedeg llawer o sesiynau a fu o fudd i’r gymuned uniongyrchol ac ehangach. Roedd yn teimlo, oherwydd methiant y Cyngor i reoli ei bolisi prydlesu’n gywir ac i adolygu rhent mewn ffordd safonol, bod y gr?p cymunedol hwn yn wynebu cynnydd o 88% am rentu adnodd nad oedd yn rhaid i’r Cyngor, y Gwasanaeth Ceidwaid na Pharc Gwepra wneud unrhyw gyfraniad ariannol tuag ato.
Cyfeiriodd y Cadeirydd, fel un o lofnodwyr y galw i mewn, at ffioedd hurio ystafelloedd o fewn y rhestr o ffioedd a thaliadau nad ydynt wedi cynyddu o gymharu â hurio ystafelloedd y gwasanaethau ieuenctid a chymunedol sydd wedi cynyddu 6%, a gofynnodd pam bod gwahaniaeth. O ran y PCI, gwnaeth sylwadau ar y datganiad yn y polisi y dylai gwasanaethau fod yn barod i roi gwybodaeth ategol i ddangos bod adferiad costau llawn neu gymhariaeth â chyfradd y farchnad yn cael ei wireddu, lle caniateir hynny, ac awgrymodd bod y Pwyllgor, mewn cyfarfod yn y dyfodol, yn derbyn y costau llawn er mwyn cymharu â chyfraddau’r farchnad. Cyfeiriodd hefyd at ... view the full Cofnodion text for item 18. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol. |