Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Ionawr 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2023, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Linda Thomas a Bill Crease.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu a oedd yn codi o’r cyfarfodydd blaenorol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Kevin Rush a Jason Shallcross.
PENDERFYNWYD:
Y byddai’r Pwyllgor yn nodi'r cynnydd a wnaed. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 80 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried, gan gynnwys eitemau i’w dyrannu ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol.
Yn dilyn awgrymiadau gan y Cadeirydd, bydd adroddiad ar yr adolygiad o’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn cael ei drefnu ar gyfer mis Medi 2023. Bydd adroddiad i egluro gofynion statudol ac anstatudol fel rhan o’r broses o osod y gyllideb hefyd yn cael ei drefnu.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Chris Dolphin.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; a
(b) Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd - Adroddiad Diweddaru PDF 90 KB Pwrpas: I rannu diweddariad ar y sefyllfa bresennol o ran dyled hirdymor gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers yr adroddiad diwethaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) adroddiad ar y wybodaeth ddiweddaraf am y ddyled hirdymor gyfredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), mewn perthynas â darparu pecynnau Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn Sir y Fflint ers yr adroddiad diwethaf ym mis Rhagfyr 2022.
Dangosodd dadansoddiad o’r sefyllfa ddiwedd Ionawr 2023 anfonebau heb eu talu a oedd yn dod i gyfanswm o £0.666 miliwn, gan gynnwys £0.127 miliwn yn ddyledus i’w ad-dalu o fewn yr wythnosau nesaf. Ers mis Rhagfyr 2022, llwyddodd y broses gymrodeddu annibynnol rhwng y Cyngor a BIPBC i adennill £0.114 miliwn o hen ddyled, gan adael £0.327 miliwn i’w drafod drwy drefniadau cymrodeddu a fydd yn ailgychwyn cyn bo hir yn dilyn oedi dros dro yn sgil absenoldebau. Roedd lefel y ddyled weithredol oedd yn weddill, sef £0.211 miliwn, yn welliant o 15.65% ar yr hyn yr adroddwyd arno ym mis Rhagfyr.
Wrth groesawu’r cynnydd, diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion a’r Pwyllgor am eu rhan yn y gwaith o gyrraedd y sefyllfa hon. Fodd bynnag, pwysleisiodd bod y £0.327 miliwn yn risg bosib pe bai’r broses gymrodeddu’n methu â datrys yr anfonebau hyn.
Adleisiwyd ei sylwadau gan y Cynghorydd Bill Crease.
Bu i’r Cynghorydd Paul Johnson gydnabod rôl y Pwyllgor o ran codi ymwybyddiaeth o’r mater, a thalodd deyrnged i’r swyddogion a BIPBC am eu cyfraniad.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Jason Shallcross a Kevin Rush.
PENDERFYNWYD:
Y byddai’r Pwyllgor yn nodi’r gwaith rheoli cyllideb rhagweithiol parhaus o ran yr anfonebau heb eu talu a godwyd gan y Cyngor i’w talu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 9) a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Mis 9) PDF 78 KB Pwrpas: I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 9), Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Mis 9) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2022/23 ym mis 9 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn i’r Cabinet ei hystyried.
Monitro Cyllideb Refeniw
O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau ac/neu wella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau - oedd diffyg gweithredol o £0.117 miliwn. Byddai hyn yn gadael balans cronfa wrth gefn at raid o £6.464 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn (ar ôl effaith y dyfarniadau cyflog terfynol) ac yn cynnwys £2.432 miliwn wedi’i drosglwyddo o’r dyraniad Cynnal Refeniw ychwanegol a dderbyniwyd ar ddiwedd 2021/22, fel yr adroddwyd ym mis 8.
Cafwyd crynodeb o symudiadau sylweddol ar draws portffolios o fis 8, ynghyd â cheisiadau i ddwyn arian ymlaen ar gyfer offer gweinydd newydd i ysgolion, a chais am gyllid o’r Gronfa wrth Gefn at Raid i dalu costau achos cyfreithiol arwyddocaol o fewn y Gwasanaethau Plant. Er i’r gwaith olrhain risgiau o fewn y flwyddyn adrodd am y sefyllfa bresennol gyda lefelau casglu Treth y Cyngor a dyfarniadau cyflog, roedd effaith y galw uwch am Leoliadau y Tu Allan i’r Sir a chludiant ysgol yn cael ei fonitro’n agos i ganfod yr effaith yn y tymor canolig. Tynnwyd sylw at bwysau a oedd yn dod i’r amlwg, fel costau cynnal a chadw’r gaeaf a’r Tâl am Dorri Rheolau Ailgylchu Gwastraff, ynghyd â balansau diwedd blwyddyn a ragwelwyd ar gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.
O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant a ragwelir o £3.208 miliwn yn fwy na’r gyllideb yn ystod y flwyddyn, yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.266 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellwyd.
Mewn ymateb i bryderon gan y Cynghorydd Bill Crease am y gostyngiad a ragwelir ym malansau’r ysgolion ar ddiwedd y flwyddyn, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y rhain wedi’u seilio ar wybodaeth leol swyddogion sy’n gweithio gyda’r ysgolion, ac y gallai grantiau hwyr gael effaith arnynt, ond ni fyddai’r symiau penodol yn hysbys nes cau’r cyfrifon.
Bu i’r Cadeirydd gydnabod y symudiadau amrywiol sy’n cyfrannu at y symudiad cadarnhaol o £0.235 miliwn o fis 8. Mewn ymateb i gwestiynau, cytunodd y swyddogion i ymateb ar wahân ar symudiad costau gofal tymor byr o’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol ac ar gydbwyso’r mân amrywiadau a ddangosir yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn y Cadeirydd am reoli’r risg o amgylch Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, eglurodd y Prif Weithredwr a’r Cynghorydd Christine Jones fod buddsoddiad yng Nghanolfan Asesu Plant T? Nyth a Pharc Bromfield yn llunio rhan o strategaeth ehangach i ddatblygu darpariaeth fewnol a fyddai’n cyfrannu at leihau’r pwysau hynny.
Y Rhaglen Gyfalaf
Y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2022/23 oedd £71.565 miliwn, gan ystyried yr holl symiau a ddygwyd ymlaen ac arbedion a drosglwyddwyd yn ôl i’r rhaglen. Roedd newidiadau yn ystod y cyfnod wedi digwydd yn bennaf oherwydd cyflwyno ffrydiau ariannu grant ar draws ... view the full Cofnodion text for item 79. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |