Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: Nodi bod y Cyngor, yn y Cyfarfod Blynyddol, wedi penderfynu y dylid penodi’r Cynghorydd Richard Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyngor, yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, wedi penderfynu y dylai’r Gr?p Annibynnol, enwebu Cadeirydd y Pwyllgor.
Cynigiodd y Cynghorydd Chris Dolphin fod y Pwyllgor yn cadarnhau penodi’r Cynghorydd Richard Jones fel Cadeirydd y Pwyllgor. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jason Shallcross ac fe’i cymeradwywyd wedi cynnal pleidlais ar y mater.
PENDERFYNWYD:
Cadarnhau penodiad y Cynghorydd Richard Jones fel Cadeirydd y Pwyllgor. |
|
Penodi is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Enwebodd y Cadeirydd y Cynghorydd Chris Dolphin fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ron Davies.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Chris Dolphin yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10 Mawrth 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2022, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Vicky Perfect a Kevin Rush.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol. |