Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 16 Medi 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 16 Medi 2021, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Geoff Collett ac Andy Williams.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir. |
|
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi cynnydd ar gamau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Richard Jones.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 79 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ddiweddaraf i’w hystyried.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at becynnau gofal ar y cyd a drafodwyd yng nghyfarfod mis Gorffennaf a dywedodd nad oedd y cais am fanylion y swm a gollwyd i’r Cyngor dros gyfnod rhesymol o amser wedi cael ei weithredu eto. Gofynnodd am gadarnhad hefyd ynghylch a oedd llythyr wedi cael ei anfon at y Bwrdd Iechyd yn ceisio mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn y broses apelio am benderfyniadau ar becynnau gofal oedd wedi’u hariannu ar y cyd.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod penderfynu ar becynnau gofal o’r fath yn bwnc cymhleth ers tro gyda goblygiadau cost sylweddol ac roedd y Cyngor wedi ymgysylltu’n helaeth gyda’r Bwrdd Iechyd. Dywedodd bod ymrwymiad wedi’i roi yn y gorffennol gan y Bwrdd Iechyd i adolygu’r system a bod angen ei adolygu eto. Fe awgrymodd efallai yr hoffai’r Pwyllgor wneud cais am gyfarfod preifat ar frys rhwng swyddogion a Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd er mwyn adolygu proses a chanlyniadau, gydag adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor hwn a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Siaradodd y Cynghorydd Jones am oblygiadau ariannol i’r Cyngor a dywedodd na ddylai cyfraniadau amcanol gan y Bwrdd Iechyd gael eu cynnwys yn y gyllideb nes bod y broses apeliadau wedi dod i ben. Cynigiodd yr awgrym a wnaed gan y Prif Weithredwr a gofynnodd bod yr adroddiad, yn cynnwys gwybodaeth a ofynnwyd amdani ym mis Gorffennaf, yn dod yn ôl i’r Pwyllgor ym mis Tachwedd/Rhagfyr. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Arnold Woolley.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; fel y’i diwygiwyd yn y cyfarfod;
(b) Bod y Prif Weithredwr yn cysylltu â Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn ceisio cyfarfod adolygu brys i’r diffyg mewn pecynnau ariannu ar y cyd, sydd wedi’u achosi gan benderfyniadau’r Bwrdd Iechyd ar gyllid. Bod adroddiad am hyn, yn cynnwys datrysiad 16(c) o’r cyfarfod ar 8 Gorffennaf 2021, yn dod yn ôl i’r Pwyllgor yma a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2021; a
(b) Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Gwaith Swyddfa'r Crwner PDF 87 KB Pwrpas: I dderbyn cyflwyniad gan John Gittins ar waith Swyddfa’r Crwner. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad am waith Crwner Gogledd Cymru (Dwyrain a’r Canol) a'r gwaith a wnaed ar ran Cynghorau yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint.
Roedd Mr. John Gittins, Uwch GrwnerUwch Grwner dros Ogledd Cymru - Dwyrain a’r Canol, yn bresennol i roi cyflwyniad oedd yn cynnwys:
· Gorchymyn Gogledd Cymru (Dwyrain a’r Canol) (Rhanbarth Crwner) · Swyddog Barnwrol Annibynnol · Ystadegau · Cefnogaeth · Y Gyfraith · Y ‘Groesffordd’ · Ymchwiliad · Y Cwest · Pwerau’r Crwner – Atodlen 5 / Goblygiadau · Atal marwolaethau yn y dyfodol · Pethau cadarnhaol...ac amseru damweiniol · Swyddi a chyfrifoldebau eraill · “Lle mae’n gorffen?”
Tynnodd yr adroddiad sylw at yr ystod eang o bwerau deddfwriaethol a chyfrifoldebau sydd gan y Crwner a oedd yn swydd hanesyddol sy’n cael ei hariannu gan awdurdod lleol ar sail statudol. Rhannwyd gwybodaeth hefyd am bwerau’r Crwner i gyhoeddi adroddiadau o dan Rheoliad 28 Rheoliadau (Ymchwiliadau) Crwneriaid 2013 oedd yn gofyn i sefydliadau, yn cynnwys awdurdodau lleol i weithredu er mwyn lleihau’r risg o farwolaethau yn y dyfodol. Cyfeiriwyd hefyd at waith y Prif Weithredwr yn cefnogi swyddfa’r Crwner yn ystod sefyllfa o argyfwng.
Diolchodd y Prif Weithredwr i Mr. Gittins am ei gyflwyniad ac am y modd y mae’n ymgymryd â’i swydd.
Gan ymateb i gwestiynau gan Aelodau, fe eglurodd Mr. Gittins sgôp ei gyfrifoldebau cyfreithiol.
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai’r argymhelliad bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau blynyddol gan y Crwner yn y dyfodol yn gyfle i ystyried perfformiad a’r pwysau sydd yn y gwasanaeth.
Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i Mr.Gittins am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth a gafodd ei groesawu.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Mared Eastwood.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn diolch i’r Crwner am ei waith ac yn cael rhagor o adroddiadau yn flynyddol. |
|
Pwrpas: Derbyn adborth gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Gam 2 y broses o osod cyllideb ar gyfer 2022/23. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i ystyried canlyniad ymgynghoriad gyda’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar gynigion cyllideb 2022/2023, i alluogi’r Pwyllgor i ymateb i’r Cabinet. Diolchodd i holl Aelodau’r Pwyllgor, Cadeiryddion ac Aelodau Cabinet am eu cyfraniadau a’u cefnogaeth yn ystod y broses hon.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys adborth o dri o’r Pwyllgorau a rhoddwyd diweddariad ar lafar am y ddau oedd yn weddill a oedd wedi cyfarfod. Roedd pob un wedi cefnogi’r pwysau costau o fewn eu portffolios ac nid oeddynt wedi gallu nodi rhagor o gyfleoedd i arbed arian. Y ddau fater oedd yn codi oedd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant oedd yn ceisio rhagor o fanylion am ddyrannu buddsoddiad £1m arfaethedig mewn ysgolion a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd oedd yn gofyn am fonitro risgiau agored yn ofalus.
Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd bod yr ymgynghoriad wedi cyflawni gofynion cyfansoddiadol a bod yr adroddiad i’r Cabinet wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu bod y rhan yma o’r gyllideb wedi’i chwblhau.
Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ddiweddariad am bedwar prif newid oedd yn effeithio ar amcangyfrif cyllideb y Cyngor:
· Rhagamcanion o ddyfarniadau cyflog i adlewyrchu’r sefyllfa bresennol ar drafodaethau cenedlaethol – 1.75% ar gyfer y flwyddyn bresennol ar sail reolaidd ar gyfer y flwyddyn nesaf a 1% o 2022/23 · Cynnydd Yswiriant Gwladol – ychydig dros £1.4m · Cynnydd yn lwfans Aelodau (fel yr argymhellwyd gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol) - £0.184m · Pwysau amrywiol a ohiriwyd am eu bod yn ddianghenraid neu wedi’u hariannu drwy grantiau eraill – cyfanswm cynnydd i ychydig dros £18m
Ar ddatrysiadau cyllideb, roedd y targed arbedion effeithlonrwydd a ragamcanwyd i’w gyrraedd o £2m wedi cael ei ddiwygio i £1.25m. Byddai angen cynnydd o 5.75% mewn Grant Cefnogaeth Refeniw i gefnogi’r holl bwysau cost a nodwyd, a oedd yn unol â’r achos ariannol a wnaed gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
Dywedodd y Prif Weithredwr bod trafodaethau cenedlaethol presennol am ddyfarniad tâl y rhai nad ydynt yn athrawon yn dynodi bod y rhagamcan yn debygol o fod yn uwch a bod trafodaethau Gweinidogol drwy’r CLlLC yn parhau.
Gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Richard Jones, fe eglurodd y Prif Weithredwr bod rhagamcan yr Yswiriant Gwladol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer Aura Cymru, Arlwyo a Glanhau NEWydd a Theatr Clwyd. Roedd yr achos tystiolaethol cenedlaethol gan CLlLC yn cael ei ystyried yn ragamcan realistig i lywio penderfyniad cenedlaethol. Byddai Setliad annigonol yn golygu bod angen adolygiad o bwysau cost dianghenraid a risgiau cysylltiedig, o ystyried bod rhagamcan y gyllideb wedi cael ei gefnogi heb sgôp ar gyfer arbedion effeithlonrwydd pellach.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts y byddai penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn cael ei ddylanwadu gan ddatganiad y Canghellor ar y gyllideb.
Diolchodd y Cynghorydd Paul Johnson i holl Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am eu cyfraniadau a her i’r broses gyllideb.
Rhoddodd y Cynghorydd Richard Jones deyrnged i waith y Prif Weithredwr yn llunio’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a oedd wedi bod yn declyn defnyddiol wrth gynllunio ... view the full Cofnodion text for item 44. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 5) PDF 77 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar Fis 5 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad am sefyllfa Mis 5 2021/22 ar gyfer Monitro Cyllideb Refeniw cyn i’r Cabinet ei ystyried. Roedd yn cynnwys canlyniad adolygiad o gronfeydd wrth gefn a balansau gwasanaeth y gofynnwyd amdanynt gan y pwyllgor ym mis Gorffennaf.
O ran Cronfa’r Cyngor, dywedodd y Rheolwr Cyllid bod y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i leihau pwysau costau a/neu wella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd a rheoli cost - yn warged gweithredol o £0.182 miliwn (heb gynnwys effaith dyfarniad tâl i gael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), gan adael balans cronfa wrth gefn a ragwelwyd o £5.875 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd y symudiad ffafriol yma yn bennaf oherwydd dyraniad cyllid Grant Adferiad Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yng Ngofal Cymdeithasol Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir.
Ymysg y risgiau yn ystod y flwyddyn, roedd yna welliant yn lefelau casglu Treth y Cyngor ac roedd y galw am y Cynllun Lleihau Treth y Cyngor yn cael ei fonitro wrth i ddiwedd y cynllun ffyrlo agosáu.
Rhoddwyd diweddariad am gyflawni arbedion a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn, cronfeydd wrth gefn sydd wedi’u neilltuo a heb eu neilltuo, ynghyd â sefyllfa ariannu mewn argyfwng oedd yn adnabod peryglon yn sgil newidiadau i feini prawf cymhwyso. Mae’r adolygiad parhaus o gronfeydd wrth gefn a balansau gwasanaeth wedi nodi £0.585m a fydd yn cael ei argymell i’w ryddhau yn ôl mewn i’r Gronfa Arian at Raid.
Yn y Cyfrif Refeniw Tai, roedd gorwariant arfaethedig o £0.633m yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo yn £3.839m, a oedd yn uwch na’r canllawiau argymelledig ar wariant.
Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton am effaith costau chwyddiannol a newidiadau i’r Credyd Cynhwysol ar sefyllfa ddigartrefedd. Dywedodd y Rheolwr Cyllid bod y Grant Cymorth Tai ymysg y rhai oedd yn destun newidiadau mewn cymhwysedd ac fe wneir y mwyaf ohono i gefnogi unigolion.
Dywedodd y Prif Swyddogion (Tai ac Asedau) bod y pwysau amrywiol ar y sefyllfa ddigartrefedd yn cael ei fonitro’n agos gan y rhagwelir rhagor o alw am y gwasanaeth. Roedd y newyddion diweddaraf yn cael ei adrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau, Tai ac Asedau yn rheolaidd.
Gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Richard Jones, dywedodd y Prif Weithredwr bod rheolau pellter yn dod i ben yn raddol yn unol ag asesiadau risg ac mewn ymgynghoriad gydag Undebau Llafur, ac y byddai nifer o wasanaethau yn mynd i gostau rheolaidd ar ôl i’r Gronfa Galedi ddod i ben. O ran y risg gyda’r dyfarniadau tâl, cafwyd eglurhad tra bod dyfarniad tâl athrawon yn ystod y flwyddyn wedi’i setlo, roedd trafodaethau ar gyfer tâl y rhai nad oedd yn athrawon ar draws y DU yn parhau ar agor a’u bod y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.
Gan ymateb i’r cwestiynau, fe atgoffodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr Aelodau am y sefyllfa ddiweddar ar ddyfarniadau tâl – cafwyd adroddiad ar lafar yn yr eitem flaenorol – byddai’n cael ei ddiweddaru ar gyfer yr adroddiad ... view the full Cofnodion text for item 45. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol. |