Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor mai Gr?p Geidwadol a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Clive Carver yw Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn ddinesig hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor fod o’r Gr?p Ceidwadol. Cafodd y Pwyllgor wybod fod y Cynghorydd Clive Carver wedi cael ei benodi i’r rôl ar gyfer blwyddyn y cyngor.
PENDERFYNWYD:
Nodi penodiad y Cynghorydd Clive Carver fel Cadeirydd y Pwyllgor. |
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Enwebodd y Cynghorydd Paul Shotton y Cynghorydd Geoff Collett fel Is-gadeirydd y Pwyllgor, ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Lloyd. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.
PENDERFYNWYD:
Penodi'r Cynghorydd Geoff Collett yn Is-gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 11 Mawrth 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2021, yn amodol ar ddiwygiad i gofnodi ymddiheuriad y Cynghorydd Patrick Heesom oherwydd problemau cysylltu.
Ar y sail honno, cafodd y cofnodion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Geoff Collett.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y diwygiad, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi cynnydd ar gamau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Geoff Collett a Mared Eastwood.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 80 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried, gyda chyfarfodydd yn canolbwyntio ar bum prif elfen: Strategaeth, Cyllid, Perfformiad, Partneriaethau a Rheoleiddio. Byddai adroddiad Archwilio Cymru ar gynaliadwyedd ariannol yn cael ei gynnwys ym mis Medi.
Fel y nodwyd yn flaenorol, gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones am adroddiad cynharach ar thema Tlodi yr oedd y Pwyllgor yn gyfrifol amdano yn awr, o ystyried pwysigrwydd y testun. Croesawodd awgrym y Prif Weithredwr am gyfarfod arbennig ar y testun ar ddiwedd Gorffennaf, a chynnig hyn fel argymhelliad ychwanegol.
Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai rhaglenni gwaith i’r dyfodol y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu angen rhyw elfen o hyblygrwydd i ddelio â materion ychwanegol a risgiau a allai gael eu cyfeirio gan y Pwyllgor Adfer newydd.
Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom am adroddiad ar ganlyniad ymgynghoriad Llywodraeth Cymru (LlC) ar Gydbwyllgorau Cyfunol a'r goblygiadau ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Eglurodd y Prif Weithredwr na chafwyd unrhyw gynigion cadarn gan LlC eto ac y byddai unrhyw adroddiadau yn y dyfodol yn cael eu rhannu gyda’r Cabinet a'r Pwyllgorau perthnasol.
Yn amodol ar ychwanegu cyfarfod arbennig, cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Patrick Heesom a Richard Jones.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; fel y’i diwygiwyd yn y cyfarfod; a
(b) Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Diweddariad ar y Strategaeth Adfer PDF 105 KB Pwrpas: Derbyn diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf o safbwynt yr amcanion adfer. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Adfer newydd a sefydlwyd i gydlynu ail gam adfer trwy gyfeirio risgiau a materion at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol. Byddai’r gyfres newydd o amcanion adfer corfforaethol yn cael eu hargymell i'r Pwyllgor Adfer i'w mabwysiadu yn eu cyfarfod cyntaf.
Siaradodd y Cynghorydd Richard Jones - a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor Adfer - am y cylch gwaith ac aelodaeth drawsbleidiol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Patrick Heesom.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad ac yn aros am ganllawiau gan y Pwyllgor Adfer ar y risgiau a’r materion i'w hadolygu’n fanylach o fewn ei Gylch Gorchwyl fel rhan o’r rhaglen gwaith i’r dyfodol. |
|
Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn PDF 107 KB Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad monitro diwedd blwyddyn i adolygu cynnydd diwedd blwyddyn yn erbyn y blaenoriaethau corfforaethol sy’n berthnasol i’r Pwyllgor fel y nodwyd ym Mesurau Adrodd y Cyngor 2020/21. Ar y cyfan roedd yn adroddiad cadarnhaol o ystyried yr heriau o’r sefyllfa o argyfwng, gyda 67% o’r dangosyddion perfformiad yn diwallu neu’n rhagori ar eu targedau.
Wrth gyflwyno’r adroddiad, siaradodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol am effaith yr argyfwng ar dargedau a thueddiadau. Dywedodd bod y data yn dangos bod y Cyngor wedi cynnal cofnod da o ran perfformiad a chynllunio effeithiol gan barhau i fod yn uchelgeisiol.
Eglurodd y Cynghorydd Richard Jones bod effeithiau’r cyfnod argyfwng wedi’i gwneud yn anodd cymharu perfformiad gyda’r blynyddoedd blaenorol.
Eglurodd y Prif Weithredwr bod rhai o’r targedau perfformiad wedi’u haddasu yn ystod y cyfnod ac mai un o’r amcanion ar gyfer adfer yw ailosod yr holl dargedau ac ailddechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Yn dilyn sylwadau cadarnhaol gan y Cynghorydd Patrick Heesom ar arddull yr adroddiad a gyhoeddwyd, diolchodd y swyddogion i'r Ymgynghorydd Perfformiad Strategol am ei waith i gasglu a chyflwyno data mewn arddull y gellir ei ddarllen.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Heesom a Shotton.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn derbyn yr Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn a bydd yn monitro meysydd sy'n tanberfformio a cheisio gwybodaeth bellach fel y bo'n briodol; a
(b) Bod y Pwyllgor wedi cael ei sicrhau gan yr eglurhad a roddwyd ar gyfer tanberfformio, sy’n cael eu hegluro’n bennaf gan yr aflonyddwch a achosodd y pandemig. |
|
Cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol PDF 119 KB Pwrpas: Diweddaru Trosolwg a Craffu ar ein parodrwydd ar gyfer cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar baratoadau’r Cyngor ar gyfer dechrau’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Roedd hyn yn ofyniad statudol ar gyrff cyhoeddus perthnasol i roi sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldebau o ran canlyniadau o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol.
Darparodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol a’r Rheolwr Budd-daliadau gyflwyniad ar y cyd yn ymdrin â’r canlynol:
· Beth yw’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol a beth mae’n ei wneud? · Telerau Allweddol · Anghydraddoldebau canlyniadau · Enghreifftiau o dlodi · Dangos sylw dyledus – trywydd archwilio · Diwallu’r ddyletswydd – beth ydym ni’n ei wneud · Canlyniadau gwell · Astudiaeth Achos
Darparodd y cyflwyniad enghreifftiau ehangach o dlodi a oedd yn cysylltu ag un o’r blaenoriaethau o fewn Cynllun y Cyngor. Roedd yr adroddiad yn cael ei rannu gyda’r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i godi ymwybyddiaeth o’r ymrwymiadau newydd. Ymysg y camau gweithredu, byddai cynnwys canlyniadau Asesiad o Effaith Integredig ar adroddiadau pwyllgor yn gymorth i ddangos ystyriaeth o effeithiau posibl tlodi wrth wneud penderfyniadau strategol. Fel y gofynnwyd, byddai copïau o’r cyflwyniad yn cael eu dosbarthu ar e-bost i’r Pwyllgor.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd ar effaith tlodi digidol, siaradodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) am y gwaith i wella cysylltedd digidol a byddai’n rhannu manylion cyswllt y swyddog perthnasol. Cymrodd y cyfle i dynnu sylw at friffio Aelodau ar y Strategaeth Ddigidol yn fuan.
Cydnabu’r Cynghorydd Patrick Heesom bwysigrwydd yr adroddiad o ystyried y materion hyn, a chyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno newid a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Fel y gofynnwyd gan y Cadeirydd, byddai’r swyddogion yn darparu ymateb ar wahân ar niferoedd sydd wedi derbyn brechlynnau yn Sir y Fflint.
Gan groesawu’r adroddiad, diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i’r Rheolwr Budd-daliadau am ei gwaith i fynd i’r afael â thlodi bwyd. Mewn ymateb i ymholiad, siaradodd am bwysigrwydd gweithio gyda chymunedau i ddeall effaith lawn anghydraddoldebau i breswylwyr a nodi camau i fynd i’r afael â hynny.
Croesawodd y Cynghorydd Richard Jones ystyriaeth y ddyletswydd ar lefel strategol a chynnig argymhelliad ychwanegol bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad chwarterol i ddangos sut yr oedd hyn yn cael ei wneud. Roedd y Cynghorydd Paul Shotton yn eilio.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi gofynion y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol.
(b) Bod y Pwyllgor yn sicr bod y Cyngor yn barod i ddiwallu ei ddyletswydd newydd; a
(c) Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad chwarterol i ddangos sut mae gofynion y ddeddfwriaeth yn cael eu hystyried ar gyfer adroddiadau strategol. |
|
Item 10 - Socioeconomic Duty slides PDF 561 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol. |