Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet_kelly@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o gysylltiad.
|
|
Ystyried mater a atgyfeiriwyd at y Pwyllgor yn unol â'r Trefniadau Galw i Mewn PDF 158 KB Mae penderfyniad y cyfarfod Cabinet ar 16 Gorffennaf yn ymwneud â Ffioedd a Thaliadau wedi cael ei alw i mewn. Atodir copi o’r weithdrefn ar gyfer delio a phenderfyniad sydd wedi’i galw i mewn.
Cofnodion: Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd pam bod yr alwad yn cael ei hystyried gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn hytrach nag un yr Amgylchedd. Nid oedd yr alwad yn ymwneud ag egwyddor casglu gwastraff gwyrdd na chodi tâl amdano. Roedd yr alwad yn herio effeithiolrwydd a chyfiawnhad y cynnydd awgrymedig i’r tâl blynyddol am gasglu gwastraff gwyrdd. Roedd hon yn un elfen o’r polisi ffioedd a thaliadau corfforaethol a oedd newydd ei fabwysiadu – mater ariannol yn hytrach nag un am ddarparu gwasanaeth.
Rhoddodd y swyddog wedyn drosolwg o’r drefn ar gyfer galw Penderfyniad Cabinet i mewn fel y manylwyd yn y ddogfen ategol. Roedd y Cabinet wedi ystyried adroddiad ar yr adroddiad Ffioedd a Thaliadau yn ei gyfarfod ar 16 Gorffennaf 2019. Roedd y penderfyniad (Cofnod o Benderfyniad 3673) wedi’i alw i mewn gan y Cynghorwyr Mike Peers, Patrick Heesom, Chris Dolphin, Helen Brown, George Hardcastle, Veronica Gay a Richard Jones. Roedd copïau o adroddiad y Cabinet, y Cofnod o Benderfyniad a’r Hysbysiad Galw i Mewn, a oedd yn nodi pum rheswm dros alw i mewn, wedi eu cynnwys gyda phapurau’r rhaglen ar gyfer y cyfarfod.
Dywedodd y Cadeirydd na fyddai’n derbyn cynigion ar gyfer unrhyw un o’r pedwar dewis nes byddai’r Aelodau wedi clywed yr achosion a gyflwynwyd gan y symbylwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a bod yr Aelodau wedi cael cyfle i ofyn cwestiynau i’r ddwy ochr.
|
|
Ffioedd a Thaliadau PDF 260 KB Atodir y dogfennau canlynol i gynorthwyo Aelodau:-
· Copi o adroddiad y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chudliant) –Ffioedd a Thaliadau
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fel symbylwyr yr alwad, gwahoddwyd y Cynghorwyr Mike Peers, Patrick Heesom, Chris Dolphin a Helen Brown i gyflwyno i’r Pwyllgor yn gyntaf.
Diolchodd y Cynghorydd Mike Peers i’r Cadeirydd a’r Pwyllgor ac amlinellodd y rhesymau am yr alwad i mewn, gan gyfeirio at yr alwad flaenorol ar gasglu gwastraff gwyrdd a gynhaliwyd fis Ionawr 2018.
Eglurodd y pryderon bod y nifer oedd yn cofrestru i gael trwyddedau casglu gwastraff gwyrdd wedi gostwng 23% ar ôl cynyddu Treth y Cyngor. Pan gynhaliwyd yr adolygiad ar flwyddyn gyntaf y gwasanaeth, roedd yr adroddiad yn cynnwys ffigyrau anghywir: nid oedd y ffigwr o 33,871 o drwyddedau wedi’u gwerthu yn gywir. Wrth rannu hwn yn 29,021 am un bin, 5,292 am yr ail a 558 am y trydydd, cyfanswm y trwyddedau oedd 39,279. Gan fod pob trwydded yn costio £30, roedd arian dros ben yn y flwyddyn gyntaf, a oedd yn golygu nad oedd angen codi tâl. Gyda’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor, roedd yn annheg rhoi mwy o gostau i drigolion Sir y Fflint.
Cododd y Cynghorydd Chris Dolphin nifer o faterion: - ble roedd yr arian dros ben wedi cael ei wario; bod hon yn fargen wael i gwsmeriaid; bod biniau 140 litr yn rhy fach o gymharu â’r rhai a ddarperid gan awdurdodau eraill ac nad oedd y cynnydd o 6.6% neu 16% os oedd cwsmeriaid yn talu £35 yn rhesymol. Dywedodd eto fod angen i’r tâl fod yn deg. Cyfeiriodd at 1.10 yn adroddiad y Cabinet, a oedd yn dweud y gallai pobl ystyried y cynnydd yn annheg ac y gallai effeithio ar y nifer oedd yn cofrestru i’w derbyn. Roedd hyn, ynghyd â’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor, wedi’i brofi gan ostyngiad o 23% yn y niferoedd a oedd am dderbyn y gwasanaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom bod yr Aelodau’n deall rôl y Cyngor i greu incwm ond nad oedd y ffordd hon yn briodol. Roedd angen iddi fod yn deg a derbyniol a dywedodd bod y ffigyrau yn adroddiadau’r Cabinet yn dangos bod arian dros ben. Gallai hyn ymddangos i fod yn bolisi trethu dwbl a dylid ailystyried y Polisi Creu Incwm. Er bod Aelodau eraill yn deall bod y Cyngor wedi’i danariannu a bod angen edrych ar ffyrdd eraill o greu incwm, nid hon oedd y ffordd gywir. Roedd yn rhaid bod yn deg â phawb. Cyfeiriodd y Cynghorydd Helen Brown at 1.07 yn adroddiad cyfarfod y Cabinet fis Ionawr ar adolygu Taliadau Gwastraff Gwyrdd yn Sir y Fflint pan adolygwyd y flwyddyn gyntaf. Cyflwynwyd 33,871 o drwyddedau ac nid oedd unrhyw bryderon o ran costau cynyddol ond 7 mis yn ddiweddarach yn adroddiad Gorffennaf, roedd cynigion i gynyddu taliadau. Roedd yn anodd deall y ffigyrau a gyflwynwyd. Hefyd yn yr adroddiad, roedd yn dweud bod gostyngiad yn nifer y trwyddedau a gyflwynwyd o gymharu â’r flwyddyn gyntaf. Gofynnodd ble roedd gwybodaeth ynghylch yr arian dros ben i’w chael a dywedodd nad oedd unrhyw gyfiawnhad dros y cynnydd.
Ymatebion gan y penderfynwyr Croesawai’r Prif Weithredwr yr ... view the full Cofnodion text for item 31. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd un aelod o’r cyhoedd ac un aelod o’r wasg yn bresennol. (Dechreuodd y cyfarfod am 11.30 am a daeth i ben am 1.42 pm.)
…………………………………………… Y Cadeirydd |