Eitemau
Rhif |
eitem |
76. |
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)
Pwrpas: I dderbyn
unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol
a hynny.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Yn
dilyn cyngor gan y Prif Swyddog (Llywodraethu), datganodd y
Cynghorydd Bernie Attridge gysylltiad personol sy’n rhagfarnu
ar eitem 7 ar y rhaglen, Adroddiad Cydymffurfiaeth Hawliau
Gwybodaeth. Gadawodd yr ystafell ar
gyfer yr eitem honno.
|
77. |
Cofnodion PDF 88 KB
Pwrpas: I gadarnhau,
fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 8 Chwefror
2024.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ar gofnod rhif 74, gofynnodd
y Cadeirydd i’r sylwadau a wnaed gan y Rheolwr Corfforaethol
(Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol) ar raglen Hyfforddeion Sir
y Fflint gael ei gynnwys, yn benodol, y byddai’r cynnig yn
cael ychydig o effaith gan y byddai’r hyfforddeion hynny heb
ddigon o adnoddau yn ystod y cyfnod.
|
PENDERFYNWYD:
|
Yn amodol ar y diwygiad,
bod
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2024
yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.
|
|
78. |
Olrhain Gweithred PDF 75 KB
Pwrpas: Rhoi gwybod
i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu
o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd
adroddiad am y camau gweithredu o’r cyfarfodydd
blaenorol. Cafodd yr argymhelliad yn yr
adroddiad ei gefnogi.
|
PENDERFYNWYD:
|
Bod y Pwyllgor yn
nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud.
|
|
79. |
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 91 KB
Pwrpas: Ystyried y
flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau
corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Gofynnwyd
i’r Pwyllgor ystyried, ac addasu os oedd angen,
Rhaglen Waith y Pwyllgor. Cefnogwyr yr argymhellion yn yr adroddiad, yn
amodol ar gynnwys adroddiad ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig
2025/26.
|
PENDERFYNWYD:
|
(a) Cymeradwyo’r
Rhaglen Waith, fel y’i diwygiwyd; a
(b) Rhoi awdurdod i’r
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â
Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng
cyfarfodydd, yn ôl yr angen.
|
|
80. |
AMRYWIO TREFN Y RHAGLEN
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cytunwyd amrywio trefn y rhaglen i ddod ag eitem 8 ar y
rhaglen ymlaen (Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Werth Cymdeithasol) er
mwyn galluogi siaradwyr i fod yn bresennol.
|
81. |
Adroddiad Diweddaru ar Werth Cymdeithasol PDF 124 KB
Pwrpas: Cyflwyno
adroddiad diweddaru ar werth cymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif
Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a’r Swyddog Gweithredol
Strategol
adroddiada oedd yn
amlinellu data perfformiad ar gyfer chwe mis olaf 2022/23 a chwe
mis cyntaf 2023/24, ynghyd â chrynodeb o’r meysydd
canolbwyntio o fewn y rhaglen gwerth cymdeithasol ar gyfer
2024/25.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y
Cynghorwyr Sam Swash ac Alasdair Ibbotson, bydd ymateb yn cael ei
rannu gyda’r holl Aelodau presennol ar a allai gwaith ar
werth cymdeithasol gael ei danseilio gan Barth Buddsoddi Gogledd
Ddwyrain Cymru a chymhellion treth.
Cafodd yr argymhellion yn yr
adroddiad eu cefnogi.
|
PENDERFYNWYD:
|
(a) Bod y Pwyllgor yn
nodi’r perfformiad cadarnhaol a gyflawnwyd mewn perthynas
â chreu gwerth cymdeithasol ar gyfer chwarter tri a phedwar
yn y flwyddyn ariannol 2022/23, yn ogystal â dau chwarter
cyntaf 2023/24;
(b) Bod y Pwyllgor yn
cefnogi’r camau nesaf ar gyfer y rhaglen gwerth cymdeithasol,
fel yr amlinellir yn yr adroddiad; ac
(c) Er mwyn alinio
adroddiadau perfformiad i flwyddyn ariannol, mae’r Pwyllgor
yn cefnogi newid yn yr amserlen adrodd, gyda’r adroddiad
perfformiad gwerth cymdeithasol blynyddol yn cael ei gyflwyno ym
Mehefin bob blwyddyn.
|
|
82. |
Llythyr Blynyddol 2022-23 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chwynion a wnaed yn erbyn Gwasanaethau Cyngor Sir y Fflint yn hanner cyntaf 2023-24 PDF 142 KB
Pwrpas: Rhannu Llythyr
Blynyddol 2022-23 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o’r cwynion a
dderbyniwyd gan bob portffolio o’r Cyngor yn hanner cyntaf
2023-24.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid a
Phennaeth Safonau Cwynion, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru adroddiad ar berfformiad blynyddol y Cyngor mewn
perthynas â’r cwynion a dderbyniwyd rhwng 1 Ebrill 2022
- 31 Mawrth 2023, ynghyd â throsolwg o’r cwynion a
dderbyniwyd gan bob portffolio rhwng 1 Ebrill 2023 - 30 Medi
2023. Cafodd yr argymhellion yn yr
adroddiad eu cefnogi.
Yn ôl cais gan y
Cynghorydd Alasdair Ibbotson, bydd manylion pellach yn cael eu
rhannu ar yr amrywiadau rhwng nifer y cwynion agored ac yn weddill,
a’r rhai wedi cau ar ôl deg diwrnod, er mwyn cael gwell
dealltwriaeth o’r sefyllfa.
|
PENDERFYNWYD:
|
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi
perfformiad blynyddol y Cyngor mewn perthynas â’r
cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod
2022-23;
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi
perfformiad hanner blwyddyn (2023-24) y Cyngor o ran cwynion a
wnaed yn erbyn gwasanaethau yn unol â’r weithdrefn
bryderon a chwynion; a
(c) Bod y Pwyllgor yn
cefnogi'r blaenoriaethau a amlinellwyd ym mharagraff
1.24.
|
|
83. |
Cydymffurfiaeth Hawliau Gwybodaeth PDF 153 KB
Pwrpas: Darparu
gwybodaeth ar fonitro perfformiad yn erbyn gofynion Rheoliad
Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Rhyddid Gwybodaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog
(Llywodraethu)
adroddiad gyda’r wybodaeth am berfformiad mewn
perthynas â chydymffurfiaeth â thargedau ymateb ar
gyfer Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Hawliau Unigolion yn chwe mis
cyntaf 2023/24.
Yn ôl cais y
Cynghorydd Jason Shallcross, bydd y data a ddangosir ym mharagraff
1.03 yr adroddiad yn adlewyrchu’r canran ar gyfer bob
Sir. Nodwyd y byddai’r adroddiad
yn cael ei drefnu ddwywaith y flwyddyn ar Raglen Waith y
Pwyllgor.
Cafodd yr argymhellion yn yr
adroddiad eu cefnogi.
|
PENDERFYNWYD:
|
(a) Bod y Pwyllgor yn
nodi’r gwelliannau a wnaed hyd yn hyn ers 2020/21;
a
(b) Bod y Pwyllgor yn
nodi’r camau arfaethedig i wella perfformiad yn y meysydd
hynny lle mae amseroedd ymateb yn is na’r cyfartaledd
gofynnol o 80%.
|
|
84. |
Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 10) PDF 77 KB
Pwrpas: I gyflwyno
Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 10) ac amrywiant
sylweddol i’r Aelodau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid
Strategol
adroddiad ar sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2023/24
ym mis 10 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw
Tai, cyn i’r Cabinet ei hystyried.
Yn ôl cais gan y
Cynghorydd Alasdair Ibbotson, byddai mwy o fanylion yn cael eu
rhannu gydag Aelodau ar yr ymgynghoriad gydag Undebau Llafur a
chynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch mewn perthynas â Chyfarpar
Diogelu Personol o dan y Gwasanaethau Stryd a Chludiant
(darpariaeth gwasanaeth) a ddangosir fel amrywiad i’r
gyllideb yn Atodiad 2. Cytunwyd hefyd y
byddai swyddogion yn dod a’r mater i sylw Cadeirydd Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi. Rhannodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y
wybodaeth ddiweddaraf ar Setliad Terfynol Llywodraeth Leol a fydd
yn cael ei rannu i holl Aelodau.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn
yr adroddiad ynghyd â’r cynnig ychwanegol.
|
PENDERFYNWYD:
|
(a) Ar ôl ystyried
Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (mis 10), fod y sylwadau
yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet pan fydd yn
ystyried yr adroddiad; a
(b) Bod llythyr yn cael ei
anfon i’r Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru i amlygu
effaith prinder llety fforddiadwy yn y sector yn y sector rhentu
preifat ar gyllid yr awdurdodau lleol.
|
|
85. |
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan yr
ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi ei heithrio yn rhinwedd
paragraff 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel
y’i diwygiwyd).
|
86. |
Cambrian Aquatics
Pwrpas: Cyflwyno
adroddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Trosglwyddo
Asedau Cymunedol, Cambrian Aquatics.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Gweithredol Strategol adroddiad ar
Drosglwyddo Ased Cymunedol, Cambrian Aquatics.
Yr argymhelliad oedd
i’r Pwyllgor ystyried cynnwys yr adroddiad a rhoi adborth
i’r Cabinet fel bo’n briodol.
|
PENDERFYNWYD:
|
Ar ôl ystyried cynnwys
yr adroddiad, bod y Pwyllgor yn rhoi’r adborth canlynol
i’r Cabinet:
(a) Bod y Pwyllgor yn
cydnabod gwerth strategol y baddonau, o ystyried agosatrwydd Cei
Connah i Afon Dyfrdwy a’i aber llanwol;
(b) Bod y Cabinet yn
ystyried faint sydd wedi cael ei arbed trwy gydol oes y
trosglwyddiad ased ac a allai cyfran o hynny fod ar gael i Cambrian
Aquatics; a
(c) Bod cyfnod pellach yn
cael ei ganiatáu i Aelodau Lleol weithio gyda Cambrian
Aquatics i weld a ellir gwella ei berfformiad ariannol ac a oes
datrysiad amgen yn hytrach na chau.
|
|
87. |
Cynllun Busnes NEWydd 2024/25
Pwrpas: Cyflwyno
Cynllun Busnes 2024/25 Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf i’w
gymeradwyo.
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr
Gyfarwyddwr NEWydd a’r Swyddog
Gweithredol Strategol adroddiad i geisio cefnogaeth ar gyfer
Cynllun Busnes Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf 2024/25. Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei
gefnogi.
|
PENDERFYNWYD:
|
Bod y Pwyllgor yn ystyried
ac yn gwneud sylwadau ar gynnwys Cynllun Busnes NEWydd 2024/25,
sy’n cynnwys rhagamcanion ariannol, cyfleoedd busnes posibl,
amcanion strategol a blaenoriaethau busnes, ynghyd â risgiau
a mesurau lliniaru a nodwyd.
|
|
88. |
Trefniadau gyda NEWydd Catering & Cleaning Limited
Pwrpas: Cyflwyno a
cheisio ardystiad i gynnig mewn perthynas â
threfniadau’r dyfodol rhwng y Cyngor a NEWydd Catering &
Cleaning Limited.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog
Gweithredol Strategol adroddiad i geisio cefnogaeth ar gyfer cynnig
mewn perthynas â threfniadau yn y dyfodol rhwng y Cyngor ac
Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf. Yr
argymhellion oedd ystyried a gwneud sylwadau ar y
cynigion.
Yn ôl y gofyn, byddai
manylion yr aelodau Bwrdd newydd yn cael eu rhannu gyda’r
Aelodau ar ôl y cyfarfod.
|
PENDERFYNWYD:
|
(a) Bod y Pwyllgor yn
ystyried ac yn gwneud sylwadau ar y cynnig am gontract newydd rhwng
y Cyngor ac Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyfyngedig;
(b) Bod y Pwyllgor yn
ystyried ac yn gwneud sylwadau ar delerau arfaethedig y contract
newydd, fel yr amlinellir yn yr adroddiad;
(c) Bod ystyriaeth yn cael
ei roi yn y trafodaethau contract i’r posibilrwydd o
drosglwyddo unrhyw endidau masnachol y mae’r Cyngor yn ymdrin
â nhw; a
(d) Cyn dyfarnu contract
hirdymor, cyflawni dadansoddiad o gostau a buddion symud y
gwasanaeth yn fewnol.
|
|
89. |
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
|