Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 14 Rhagfyr 2023 ac 11 Ionawr 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2023 ac 11 Ionawr 2024, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Linda Thomas a Bill Crease.
Myfyriodd y Cadeirydd ar ei sylwadau yng nghyfarfod mis Rhagfyr yngl?n â’r amser a oedd ar gael i bennu’r gyllideb ar gyfer 2024/25 a’r heriau ar gyfer y portffolios.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r ddwy set o gofnodion fel cofnod cywir. |
|
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Jason Shallcross a Vicky Perfect.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 89 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Waith bresennol i’w hystyried.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Kevin Rush a Bill Crease.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith; a
(b) Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Amrywio trefn y rhaglen Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd y bydd yna newid yn nhrefn y rhaglen i ymdrin ag eitem rhif 7 cyn ystyried eitem Cyllideb Cronfa’r Cyngor mewn sesiwn gaeedig. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 9) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 9) PDF 951 KB Pwrpas: I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 9) ac adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 9). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Strategol sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2023/24 ym mis 9 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn i’r Cabinet ei hystyried.
Monitro’r Gyllideb Refeniw
O ran Cronfa’r Cyngor, yr oedd y sefyllfa ddisgwyliedig ar ddiwedd y flwyddyn yn golygu bod yna ddiffyg gweithredol o £2.502 miliwn a oedd yn newid ffafriol o £0.440 miliwn ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym mis 8. Byddai hyn yn gadael balans o £5.108 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn yn y gronfa wrth gefn at raid ar ôl union effaith y dyfarniadau cyflog a’r dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol. O ganlyniad i’r moratoriwm parhaus ar wariant ymrwymedig heb fod dan gontract a phroses rheoli swyddi gweigion, yr oedd £1.548 miliwn o wariant gohiriedig a / neu hwyr wedi ei nodi ym mis 9. Crynhowyd y newidiadau i gyllidebau a gymeradwywyd a wnaed ers mis 8 ynghyd ag amrywiannau sylweddol, risgiau yn ystod y flwyddyn / materion sy’n dod i’r amlwg a risgiau eraill sydd wedi eu holrhain fel y nodir yn yr adroddiad. Yr oedd sefyllfa cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi yn cynnwys addasiad i falans disgwyliedig Treth y Cyngor a oedd wedi ei orddatgan ym mis 8.
O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gwariant a ragwelir o £0.049 miliwn yn fwy na’r gyllideb yn ystod y flwyddyn yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.148 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellwyd.
Parthed cais i ddwyn arian ymlaen ar gyfer Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi, gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson a allai’r Cyngor gadw ei allu i gyhoeddi is-ddeddfau lleol neu orfodi rhai blaenorol y tu hwnt i’r safonau ar gyfer Gweithdrefnau Arbennig. Cytunodd swyddogion i geisio cael ymateb gan y portffolio.
Ymatebodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i gwestiwn yngl?n â’r cais i ddwyn arian ymlaen yn ei bortffolio, ac awgrymodd y dylid rhoi eglurhad pellach mewn mwy o fanylder mewn sesiwn gaeedig cyn yr eitem nesaf ar y rhaglen. Cadarnhaodd swyddogion cyllid fod tybiaethau yng nghyfrifiadau’r gyllideb yn seiliedig ar gymeradwyo’r ddau gais am ddwyn arian ymlaen.[1]
Cyfeiriodd y Cadeirydd at risgiau yn ystod y flwyddyn a chwestiynodd ba mor effeithiol yw lobïo Llywodraeth Cymru (LlC) yn barhaus yngl?n ag ariannu tecach.
Yngl?n â Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, dywedodd y Cynghorydd Christine Jones fod gwaith a oedd yn cael ei gyflawni i fynd i’r afael â phwysau galw ac amodau’r farchnad yn dechrau cael effaith gadarnhaol dros y tymor hirach.
Rhoddodd y Cynghorydd Paul Johnson sicrwydd bod Prif Swyddogion ac Aelodau Cabinet yn parhau i wneud sylwadau cadarn, a bod Gweithgor Cyllid Tecach yn gwneud cynnydd.
Parthed cyllidebau portffolios, dywedodd y Cynghorydd Bill Crease y dylid adolygu’r dull o ragfynegi ar gyfer meysydd gwasanaeth â gorwariant o flwyddyn i flwyddyn.
Monitro’r Rhaglen Gyfalaf
Y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2023/24 oedd £92.859 miliwn, gan ystyried yr holl symiau a ddygwyd ymlaen ac arbedion a drosglwyddwyd yn ôl i’r rhaglen. Yr oedd newidiadau ... view the full Cofnodion text for item 71. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Er mwyn hwyluso trafodaeth lawnach am y trosglwyddiad y gofynnwyd amdano i gronfa wrth gefn y Strategaeth Ddigidol, cynigiodd y Cynghorydd Bill Crease fod y wasg a’r cyhoedd yn cael eu gwahardd, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jason Shallcross.
PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi ei heithrio yn rhinwedd paragraff 15 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 9) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Er mwyn ymateb i gwestiynau, darparodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) eglurhad yngl?n â threfniadau ariannu ar gyfer y Strategaeth Ddigidol a’r goblygiadau os na fyddai’r Cabinet yn cymeradwyo’r cais i ddwyn arian ymlaen.
Wrth nodi buddion gwneud gwelliannau i’r wefan, siaradodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson yngl?n â’r angen i ganolbwyntio ar wasanaethau hanfodol sydd â’r gwerth mwyaf. Ar y sail honno, cynigiodd fod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn gwrthod y cais i ddwyn arian ymlaen, ac aeth rhagddo i awgrymu trosglwyddiad ariannol posibl o elfennau eraill cronfa wrth gefn a glustnodwyd ar gyfer Buddsoddi mewn Newid Sefydliadol er mwyn ategu gwaith ar y Strategaeth Ddigidol.
Mynegwyd pryderon gan y Cynghorydd Linda Thew yngl?n â phrosesau symleiddio posibl mewn Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.
Siaradodd y Cynghorydd Bill Crease o blaid cynnig y Cynghorydd Ibbotson.
Wrth ymateb i bwynt ar gynhyrchu incwm, siaradodd y Prif Swyddog am arbedion awgrymedig o adnoddau swyddi dros dro’r Strategaeth Ddigidol.
Eglurodd y Cynghorydd Ibbotson, er nad oedd ganddo broblem gyda chais gwasanaeth Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi i ddwyn arian ymlaen, yr oedd ganddo bryderon o hyd yngl?n â chais Llywodraethu.
Cynigiodd y Cadeirydd fod y diwygiad yn nodi y dylid cyflawni asesiad risg ar gyfer unrhyw gais i ddwyn arian ymlaen, yn ôl elfennau o gyllidebau portffolios eraill, er mwyn galluogi’r Cabinet i ystyried pob opsiwn. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ibbotson.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (mis 9), y byddai’r Pwyllgor yn argymell:
(a) bod y Cabinet yn gwrthod cais Llywodraethu i ddwyn arian ymlaen; (b) bod y Cabinet yn comisiynu asesiad risg ar gyfer gwrthod cais Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi i ddwyn arian ymlaen; ac (c) y dylid cyflawni asesiad risg ar gyfer unrhyw gais i ddwyn arian ymlaen, yn ôl elfennau o gyllidebau portffolios eraill. |
|
Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2024/25 Pwrpas: Adolygu a rhoi sylwadau ar y pwysau cost, y gostyngiadau arfaethedig mewn costau, a'r risgiau cysylltiedig. Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad i ystyried cynigion ychwanegol ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol, Gwasanaeth Asedau a phortffolio Llywodraethu ar gyfer diwallu’r bwlch o £12.946 miliwn a oedd ar ôl yn y gyllideb, yr adroddwyd amdano yn y cyfarfod cynt.
Yn dilyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol, a oedd yn un siomedig, rhoddwyd y dasg i bob portffolio adolygu ei sylfaen gostau i nodi ffyrdd posibl o ostwng cyllidebau neu ddileu pwysau costau er mwyn cyfrannu mwy tuag at ddiwallu’r bwlch a oedd ar ôl. Atgoffwyd yr Aelodau o nifer o risgiau parhaus a oedd yn cael eu monitro a allai newid y gofyniad cyllidebol ychwanegol ymhellach. Byddai sylwadau gan bwyllgorau Trosolwg a Chraffu yngl?n â’u meysydd penodol yn cael eu coladu ar gyfer adroddiadau terfynol pennu’r gyllideb ar gyfer y Cabinet a’r Cyngor Sir ar 20 Chwefror.
Tabl 1 – gostyngiadau cyllidebol y Gwasanaethau Corfforaethol
Rhannodd y Cadeirydd ei bryderon yngl?n â chanlyniadau’r opsiwn yn y dyfodol ar gyfer rhaglen Hyfforddeion Sir y Fflint. Darparodd y Rheolwr Corfforaethol (Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol) gyd-destun drwy ddweud y byddai’r cynnig i ostwng y garfan ar gyfer 2024/25 yn cael effaith fach iawn, oherwydd byddai’r hyfforddeion hynny wedi derbyn llai o adnoddau yn ystod y cyfnod. Bu hyn o gymorth i’r Pwyllgor ystyried yr argymhellion.
Parthed yr adolygiad o ffioedd a thaliadau, dywedwyd wrth y Cadeirydd bod y swm yn berthnasol i 2024, ac yr oedd yn adlewyrchu amcangyfrif o ffigwr rhan o’r flwyddyn o fis Hydref 2024.
Rhoddwyd eglurhad i’r Cynghorydd Andrew Parkhurst yngl?n â’r cyfanswm amcangyfrifedig ar gyfer cyllideb gymorth Undebau Llafur. Parthed gofynion statudol, dywedodd y Rheolwr Corfforaethol (Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol), er bod y Cyngor bob amser wedi cydnabod Undebau Llafur, fel cyflogwr, byddai’n cadarnhau’r sefyllfa statudol bendant ac yn ymateb ar wahân.
Tabl 2 – gostyngiadau cyllidebol y Gwasanaeth Asedau
Yn dilyn eglurhad yngl?n â’r gostyngiad cyllidebol ar gyfer Polisi a nodwyd yn yr adroddiad, dywedodd y Cadeirydd y gallai gostyngiadau a wnaed ar gyfer cyllid trydydd sector, o bosibl, roi pwysau ar wasanaethau’r Cyngor. Cydnabu’r Prif Weithredwr a’r Cadeirydd gyfraniadau cadarnhaol y trydydd sector tuag at ddarparu gwasanaethau’r Cyngor.
Tabl 3 – gostyngiadau cyllidebol Llywodraethu
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, darparodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wybodaeth am yr effaith ar gyfathrebu gyda’r cyhoedd a achosid gan opsiwn effeithlonrwydd meddalwedd GovDelivery pe na bai’r cais i ddwyn arian ymlaen ar gyfer y Strategaeth Ddigidol yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet.
Yn dilyn trafodaeth, cafodd yr argymhelliad ar gyfer y Gwasanaeth Asedau ei gynnig a’i eilio gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Bill Crease. Cafodd yr argymhellion ar gyfer y Gwasanaethau Corfforaethol a Llywodraethu, fel y’u diwygiwyd, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Ibbotson a’r Cadeirydd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn derbyn opsiynau’r Gwasanaeth Asedau i ostwng cyllidebau; ac
(b) Ar ôl ystyried yr opsiynau i ostwng cyllidebau yn y Gwasanaethau Corfforaethol a Llywodraethu, bod y Pwyllgor yn mynegi amheuon ac anfodlonrwydd am y tro ... view the full Cofnodion text for item 74. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |