Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Bernie Attridge gysylltiad personol â chofnod rhif 25 (perfformiad diwedd blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022/23) yn ystod trafodaeth ar addasiadau i bobl anabl. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Gorffennaf 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Bill Crease ac Allan Marshall.
Materion yn Codi
Cofnod rhif 13: Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd – dywedodd y Cadeirydd fod yr anomaleddau yr holodd amdanynt yn y cyfarfod wedi eu cadarnhau wedyn gan yr Uwch Reolwr; h.y. y ffigwr a drawsosodwyd o’r adroddiad blaenorol a’r swm £12,223.39 ar anfoneb nad oedd wedi ei dalu.
Cofnod rhif 14: Monitro’r Gyllideb Refeniw a Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Sefyllfa Derfynol) – dywedodd y Cadeirydd, yn seiliedig ar y ffigwr a ddyfynnwyd gan y swyddog, dylai cyllid y Cyngor elwa £36,000-£50,000 y flwyddyn o ganlyniad i’r gwaith a wneir gan y Pwyllgor i ostwng y ddyled sydd heb ei thalu ar gyfer parhau â phecynnau gofal iechyd ar y cyd.
Cofnod rhif 18: Darparu gwasanaethau cyhoeddus yn yr 21ain ganrif – byddai’r Cadeirydd yn cysylltu â’r Prif Weithredwr yngl?n â themâu ar gyfer adroddiadau’r dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion yn gofnod cywir. |
|
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu sy’n codi o’r cyfarfodydd blaenorol.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Allan Marshall ac fe’i heiliwyd gan y Cadeirydd.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 89 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol, cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod trefniadau’n cael eu gwneud ar gyfer sesiwn i’r holl Aelodau ar waith Swyddfa’r Crwner.
Yn unol â chais gan y Cynghorydd Bernie Attridge, byddai’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa bresennol Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol yn cael ei rhannu gyda’r Pwyllgor. Yn y cyfamser, gofynnwyd i’r Cynghorydd Attridge gysylltu â’r Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) yngl?n â mater a oedd yn benodol i ward.
O ganlyniad i gais gan y Cynghorydd Sam Swash, byddai adolygiad cyfnodol o berfformiad o ran y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei drefnu.
Ar y sail honno, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Linda Thomas.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23 PDF 137 KB Pwrpas: I roi’r adroddiad terfynol i Aelodau, gyda chrynodeb o’r casgliadau ar ôl cwblhau Cam 2 yn cynnwys crynodeb o adborth ar ôl ymgynghoriad ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar gynnydd Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23, a oedd yn crynhoi adborth o ymgynghoriad ac ymgysylltiad â budd-ddeiliaid ar ganfyddiadau dadansoddiad yn ôl yr wyth thema. Diolchodd i Aelodau’r Pwyllgor am eu rhan yn y broses ddrafftio.
Amlinellodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg welliannau a wnaed i fodel yr hunanasesiad yn dilyn y cynllun peilot a gynhaliwyd ar gyfer 2021/22, a’r ystod o ymgyngoreion drwy gydol y broses dri cham. Yr oedd yr adroddiad terfynol yn dangos bod y Cyngor, ar y cyfan, wedi perfformio’n dda yn ôl yr asesiad, ac mae camau gweithredu’n cael eu cymryd ar hyn o bryd parthed y meysydd a nodwyd ar gyfer eu gwella. Yr oedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar gynnydd meysydd i’w gwella a nodwyd o gynllun peilot 2021/22. Byddai’r adroddiad yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio cyn ei gymeradwyo’n derfynol gan y Cabinet.
Holodd y Cadeirydd a oedd y gweithdy ym mis Mehefin wedi bod yn agored i’r holl Aelodau, gan fod presenoldeb wedi bod yn isel. Eglurwyd bod cynrychiolwyr o’r Pwyllgor hwn, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Cabinet wedi eu gwahodd. Pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd Diwylliant, Gwytnwch, Gwerthoedd a Moeseg – y cyfeiriwyd atynt yn ystod y gweithdy – a holodd a oedd y rhain wedi eu hadlewyrchu’n glir yn y ddogfen.
Yngl?n â thema ‘Ymgysylltu â Chwsmeriaid a’r Gymuned’, galwodd y Cynghorydd Bernie Attridge am fwy o ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd ac Aelodau Etholedig, gan gynnwys drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Dywedodd y dylai perchnogaeth gorfforaethol gael ei harwain gan uwch swyddogion, a bod darpariaeth cefnogaeth ar gyfer cwsmeriaid – er enghraifft, mewn swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu – angen ei hadolygu ar fyrder.
Wrth ymateb i sylwadau’r Cadeirydd, tynnodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg sylw at y meysydd a nodwyd i’w gwella lle’r oedd themâu’n ymwneud â diwylliant, gwerthoedd a moeseg yn nodi camau gweithredu i’w gwreiddio ledled y sefydliad a’u mesur yn briodol. Rhannwyd enghreifftiau o adroddiadau a pholisïau a oedd yn adlewyrchu gwytnwch cynyddol o fewn y Cyngor, a chynlluniau i ddatblygu diwylliant perfformiad drwy’r fframwaith.
Wrth gydnabod pwysigrwydd gwreiddio’r materion hynny ledled y sefydliad a’r strwythur, siaradodd y Prif Weithredwr am y gwaith a oedd yn mynd rhagddo i wella perchnogaeth gorfforaethol o ddarpariaeth gwasanaeth. Rhoddodd eglurhad am yr academi ar gyfer uwch arweinwyr, y cyfeiriwyd ati yn y ddogfen, a oedd yn un ffordd o roi dull gweithredu mwy unedig ar waith wrth ddarparu gwasanaeth ledled y Cyngor. Aeth yn ei flaen i ddweud yr arweinir diwylliant y Cyngor o’r top a dylanwedir arno gan ymddygiad swyddogion ac Aelodau, gyda’r nod o gael dull gweithredu cyson ar y cyd er mwyn gallu darparu gwasanaethau o ansawdd uchel.
Pwysleisiodd y Cynghorydd Bill Crease y pwysigrwydd bod rheoli perfformiad yn cael ei lywio gan ymholi data er mwyn ceisio canolbwyntio ar feysydd lle mae tanberfformio; er enghraifft, y data diweddar a rannwyd am amseroedd ateb y ffôn yn y Ganolfan Gyswllt. Yn ... view the full Cofnodion text for item 24. |
|
Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022-23 PDF 172 KB Pwrpas: Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad monitro i adolygu’r cynnydd ar ddiwedd y flwyddyn yn ôl blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2022/23. Yr oedd hwn yn adroddiad cadarnhaol ar y cyfan – bu cynnydd da mewn 77% o weithgareddau, ac yr oedd 62% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd eu targedau neu wedi rhagori arnynt. Yn dilyn adborth blaenorol, adolygwyd yr adroddiad i roi mwy o eglurder yngl?n â nodi meysydd i’w gwella. Yr oedd yr adroddiad eglurhaol, a oedd yn seiliedig ar eithriadau, yn amlygu chwe cham gweithredu yn weddill a 25 o ddangosyddion perfformiad na chyflawnwyd, ynghyd ag esboniadau, gyda rhai ohonynt yn cynnwys ffactorau allanol.
Ymatebodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg i gwestiwn gan y Cadeirydd yngl?n â threfniadau adrodd, gan gynnwys adnewyddu Cynllun 5 mlynedd y Cyngor yn flynyddol. Aeth rhagddi i ddweud y gallai dyddiadau targed ar gyfer blaenoriaethau fod yn 12 mis neu yn y tymor hirach, gan gynnwys cerrig milltir lle bo’r angen, a byddai’n rhoi adborth i dîm Perfformiad i sicrhau bod targedau wedi eu diffinio’r glir yn y ddogfen.
Wrth ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Bernie Attridge, cadarnhawyd bod pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ystyried adroddiadau perfformiad chwarterol yn ymwneud â’u cylch gorchwyl, ac yr oeddynt yn gallu codi meysydd penodol i’w hadolygu ymhellach ar eu rhaglen gwaith i’r dyfodol.
Dywedodd y Cadeirydd, er na ddylai’r pwyllgor hwn ddyblygu rôl Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu eraill, dylid atgyfeirio meysydd pryder yn briodol.
Amlygodd y Cynghorydd David Healey sut oedd y Cynllun yn cyd-fynd â’r amcanion lles. Parthed Tlodi Plant, canmolodd y gyfradd gwblhau 100% o ran ‘Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod plant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn gallu cael mynediad at fwyd, ymarfer corff a chynlluniau cyfoethogi yn ystod gwyliau’r haf’, a gofynnodd a oedd y cynnig wedi ei ymestyn i haf 2023.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod cynlluniau ar gael ac y byddai manylion mwy penodol yn cael eu rhannu. Awgrymodd y Cynghorydd Healey y dylid rhannu’r ymateb gyda’r holl Aelodau.
Gan nodi camau gweithredu yng nghylch gwaith pwyllgorau eraill, dywedodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ei bod yn bwysig i’r Pwyllgor hwn gael trosolwg o dargedau na chyrhaeddwyd / targedau a ymestynnwyd er mwyn ystyried y goblygiadau ariannol yn ystod y flwyddyn ac effaith ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Parthed is-flaenoriaeth Tai Cymdeithasol, gofynnodd am fwy o fanylion am ddangosyddion perfformiad yn ymwneud â chartrefi newydd y Cyngor, tai fforddiadwy a chartrefi Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a oedd yn cael eu hadeiladu.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod amseroedd ymateb yngl?n ag addasiadau ar gyfer pobl anabl wedi gwella dros y blynyddoedd, a gwnaed newidiadau i’r broses; fodd bynnag, yr oedd rhai materion etifeddiaeth, a oedd yn effeithio ar gynlluniau addasu mwy o faint, yn dylanwadu’n negyddol ar berfformiad. Parthed datblygiadau tai cymdeithasol, y targed cyffredinol oedd 50 uned y flwyddyn, fel yr adlewyrchwyd mewn adroddiadau strategol; fodd bynnag, yr oedd diffyg cynnydd cynllun yn ymwneud â phartneriaid wedi effeithio ... view the full Cofnodion text for item 25. |
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25 PDF 74 KB Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r amcangyfrifon ar gyfer y gyllideb a’r strategaeth ar gyfer pennu cyllideb 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr a Rheolwr Cyllid Corfforaethol y wybodaeth ddiweddaraf am y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2024/25 cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet. Pwysleisiwyd yr her sylweddol sy’n wynebu’r Cyngor wrth nodi datrysiadau i gytuno ar gyllideb gyfreithiol a chytbwys erbyn mis Mawrth 2024.
Yr oedd y rhagolygon diweddaredig yn dangos isafswm gofyniad cyllidebol o £32.386 miliwn ychwanegol o adnoddau refeniw ar gyfer 2024/25, gan gymryd i ystyriaeth risgiau parhaus fel y sefyllfa genedlaethol ddiweddaraf ar dâl sector cyhoeddus, yr effaith a amcangyfrifir o newidiadau hysbys i alw mewn gwasanaeth ac effeithiau chwyddiannol parhaus. Yr oedd yr adroddiad yn nodi newidiadau ers mis Gorffennaf, gan gynnwys risgiau parhaus a allai newid y gofyniad cyllidebol a’r gwaith a wnaed gan bortffolios dros yr haf yn dilyn gweithdai i Aelodau ar y gyllideb ym mis Gorffennaf. Yr oedd datrysiadau ariannu yn nodi’r canfyddiadau o adolygiadau portffolio, gan gynnwys pwysau costau ac ailystyried dewisiadau eithriedig ar gyfer 2023/24 – a byddai’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn ystyried y cyfan ym mis Hydref. Yr oedd crynodeb o’r sefyllfa gyffredinol ddiwygiedig ar y cam hwn yn dangos bod bwlch o £14.042 miliwn yn y gyllideb i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys. Wrth gydnabod yr her gyllidebol fawr ar gyfer 2024/25, parheid i gael sylwadau dros well setliad ledled Cymru.
Rhannodd y Cynghorydd Bernie Attridge bryderon am y canlyniad posibl yn absenoldeb cynnydd sylweddol yn y setliad gan Lywodraeth Cymru.
Wrth ymateb i ymholiad y Cynghorydd Alasdair Ibbotson yngl?n â bod tanysgrifiad Stonewall ymysg y dewisiadau ychwanegol i’w hystyried, dywedodd y Prif Weithredwr y dylid cydnabod y byddai angen gwneud dewisiadau anodd a byddai angen adolygu pob agwedd o’r gyllideb.
Dywedodd y Cadeirydd y byddai angen gwneud asesiad risg ar y rhestr ddewisiadau o 2023/24 i’w hailystyried, a hynny cyn iddi gael ei hystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, fel y cadarnhawyd gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol. Yn dilyn ymholiad yngl?n â phwysau newydd mewn ysgolion, eglurodd y Prif Weithredwr fod hyn yn ofyniad o ganlyniad i ddull gweithredu mwy trylwyr gan Estyn parthed iechyd a diogelwch ar ystad ysgolion. Yn unol â chais, darparodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion y gweithdai cyllideb a drefnwyd ar gyfer mis Hydref, a anogodd yr Aelodau i fod yn bresennol.
Gofynnodd y Cadeirydd am eglurder yngl?n â chasgliadau’r adroddiad, ac ymatebodd y Cynghorydd Paul Johnson drwy siarad am ddull gweithredu’r Cyngor mewn perthynas â’r gyllideb a rôl yr Aelodau wrth wneud penderfyniadau anodd i ymateb i raddfa’r her ar gyfer 2024/25.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at strwythur darbodus y Cyngor, a’i hanes o gael ei ystyried fel Cyngor sy’n cael ei redeg yn dda yn ariannol. Fodd bynnag, byddai sefyllfa’r gyllideb ar gyfer 2024/25 angen dull gweithredu gwahanol er mwyn creu rhaglen drawsnewid a fyddai’n datblygu sail gynaliadwy o sefydlogrwydd ariannol ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Byddai gwasanaethau statudol yn parhau i gael eu darparu’n ddiogel drwy weithio drwy’r safonau hynny, ond byddai angen newidiadau anochel.
Cafodd yr argymhelliad yn yr ... view the full Cofnodion text for item 26. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 4) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 4) PDF 78 KB Pwrpas: I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 4) ac adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 4). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Strategol adroddiadau ar sefyllfa mis 4 2023/24 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn i’r Cabinet eu hystyried.
Monitro’r Gyllideb Refeniw
O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa a ragwelwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd diffyg gweithredol o £2.644 miliwn (gan eithrio effaith y dyfarniad cyflog sydd i’w ddiwallu o arian wrth gefn), gyda balans o £4.043 miliwn yn y gronfa wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn (ar ôl effaith amcangyfrifedig y dyfarniadau cyflog). Cadarnhawyd bod Cyllid Caledi a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn ystod 2022/23 wedi dod i ben bellach, a bod balans o £3.743 miliwn o’r arian wrth gefn hwnnw wedi ei gario ymlaen. Yr oedd y rhagolygon economaidd yn dal i fod yn heriol o ganlyniad i gynnydd chwyddiannol parhaus a chynnydd yn y galw ar wasanaethau. Rhoddwyd crynodeb o’r sefyllfa a ragwelir ar draws portffolios ac, yn unol â chais blaenorol, byddai adroddiadau monitro’r gyllideb yn y dyfodol yn cynnwys dadansoddiad o symudiadau.
Yr oedd trosolwg o risgiau yn cynnwys sefyllfa ddiweddaraf y tâl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff, y galw cynyddol am wasanaethau digartrefedd a lleoliadau y tu allan i’r sir, ac adnewyddiad contract y fflyd, a oedd ar ddod. Yn seiliedig ar y sefyllfa bresennol, amcangyfrifwyd y byddai 99% o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd wedi eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.
Parthed y Cyfrif Refeniw Tai, rhagwelwyd y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.065 miliwn yn is na’r gyllideb, a rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol yn £3.262 miliwn.
Gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am ddyraniad y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a roddwyd o’r neilltu ar ffurf llinell cyllideb refeniw a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn gwneud cyfanswm o oddeutu £0.250 miliwn. Gofynnodd hefyd i gael gwybodaeth ar gyfer y cyfarfod nesaf am refeniw a godwyd o’r cynnydd mewn premiymau Treth y Cyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi ar gyfer y flwyddyn bresennol o’i gymharu â’r blynyddoedd diwethaf.
Cytunodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol i gysylltu â Rheolwr Refeniw a Chaffael i ddarparu’r ail beth. Parthed yr ymholiad yngl?n â’r CDLl, eglurwyd bod trosglwyddiad y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a oedd yn weddill o 2022/23 wedi ei gynnwys yn y cronfeydd wrth gefn at raid a ddygwyd ymlaen i’r flwyddyn bresennol. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y dyraniad refeniw CDLl sydd ar ôl (oddeutu £110,000) yn dal i fod yng nghyllideb Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi ar gyfer 2023/24. Perodd hyn i’r Cynghorydd Sam Swash holi pam nad oedd y swm hwn wedi ei drosglwyddo i gronfeydd wrth gefn i gynorthwyo’r sefyllfa gyffredinol. Cytunodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol i ddarparu ymateb ar wahân.
Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd bod gwaith yn mynd rhagddo i adolygu unrhyw ddyraniadau nad oedd wedi eu gwario, heb ymrwymiadau contract, y gellid eu rhoi mewn cronfeydd wrth gefn.
Yn dilyn pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge yngl?n â nifer y symudiadau mewn cyllidebau a gymeradwywyd ar y cam cynnar hwn, cytunodd y Cadeirydd ac ... view the full Cofnodion text for item 27. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |