Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 9 Mawrth 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2023, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Bill Crease a Linda Thomas.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu sy’n codi o’r cyfarfodydd blaenorol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Allan Marshall a Bill Crease.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 99 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y rhaglen gwaith i’r dyfodol gyfredol i’w hystyried a nodi’r newidiadau canlynol:
· Adroddiad Alldro’r Gyllideb Refeniw a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 - yn cael ei symud o fis Mai i fis Gorffennaf · Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 Mis 1 yn cael ei symud o fis Mehefin i ganiatáu ar gyfer Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw Dros Dro 2023/24 ym mis Gorffennaf.
Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bill Crease a Linda Thomas.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; a
(b) Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Adroddiad Effaith Cronfeydd Sir y Fflint 2022 PDF 106 KB Pwrpas: Rhannu Adroddiad Effaith Cronfeydd Sir y Fflint, 2022, a luniwyd gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru (CFIW). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adroddiad Effaith Cronfeydd Sir y Fflint ar gyfer 2022 a oedd yn amlinellu’r cynnydd a wnaed gyda Chronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint a Chronfa’r Degwm Deiran, ac roedd y ddau wedi cael eu gweld gan Sefydliad Cymunedol Cymru.
Cyflwynwyd y Pwyllgor i Andrea Powell o Sefydliad Cymunedol Cymru a roddodd gyflwyniad byr ar y meysydd canlynol, fel yr atodwyd i’r adroddiad:
· Cyflwyniad · Y wybodaeth ddiweddaraf yn cynnwys dosbarthu grantiau · Hanes a Throsolwg o’r Gronfa · Perfformiad Ariannol · Astudiaethau Achos
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, rhoddwyd eglurhad ar aelodaeth y panel grantiau a dosbarthu dyfarniadau. Cadarnhawyd hefyd bod polisïau buddsoddi moesegol yn addasu yn y tymor hwy i gefnogi newid hinsawdd.
Croesawodd y Cadeirydd y cyflwyniad a’r astudiaethau achos sy’n cyd-fynd, a oedd yn tynnu sylw at y buddion i unigolion a grwpiau.
Adleisiwyd ei sylwadau gan y Cynghorydd Paul Johnson a gyfeiriodd at waith ‘Emerge Community Arts’, un o’r grwpiau a oedd wedi elwa o grant.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Rob Davies.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried cynnwys Adroddiad Effaith Cronfeydd Sir y Fflint 2022, bod y Pwyllgor yn cefnogi gwaith Sefydliad Cymunedol Cymru. |
|
Cynllun y Cyngor 2023-28 PDF 101 KB Pwrpas: Rhannu cynnwys drafft Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 er mwyn ceisio adolygiad/adborth cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar flaenoriaethau, is-flaenoriaethau ac amcanion lles wedi’u hadnewyddu yng Nghynllun y Cyngor 2023-28, a oedd yn adlewyrchu golwg hirdymor ar adferiad, prosiectau ac uchelgeisiau dros y cyfnod. Roedd Rhan 2 o Gynllun y Cyngor yn cael ei ystyried gan bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i sicrhau darpariaeth lawn o Ran 1 a’i fesurau a thargedau priodol, cyn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir.
O dan Amgylcheddau Dysgu, tynnodd y Cynghorydd Bill Crease sylw at ddatblygu strategaeth moderneiddio ysgolion o fewn ardal Saltney erbyn mis Mawrth 2024. Cyfeiriodd at gynlluniau gwaith blaenorol yn Ysgol Uwchradd Dewi Sant nad oedd wedi’u datblygu oherwydd materion yngl?n â’r safle a nododd yr angen brys i ddatblygu cynigion pellach i wella’r amodau yn yr ysgol.
O dan Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd, gofynnodd y Cynghorydd Sam Swash pam nad oedd cyfeiriad at y ddeddfwriaeth sydd ar fin dod i rym ar gynghorau yn sefydlu eu cwmnïau bysiau trefol eu hunain wedi’i gynnwys yn y camau gweithredu ar gyfer yr is-flaenoriaeth Dewisiadau Teithio Llesol a Chynaliadwy.
Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd unrhyw wybodaeth bellach ar y newidiadau wedi dod i law eto gan Lywodraeth Cymru. Cytunodd y gellir cynnwys rhywfaint o gyfeiriadau ac y byddai’n cyfeirio’n ôl at y Prif Swyddog.
Codwyd y pwyntiau canlynol gan y Cadeirydd i’w cyfeirio at y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol a’r Cabinet:
· Adolygu’r rhesymeg dros symud yr is-flaenoriaethau ar Eiddo Gwag, Ynni Adnewyddadwy a Gwario Arian er Budd Sir y Fflint. · Tlodi Incwm - ystyried amserlenni’r camau gweithredu, yn enwedig pwynt bwled rhif 7 ar wneud y mwyaf o’r hawl i fudd-dal. · Tlodi Plant - egluro sut y gellir rheoli a mesur canlyniadau lle defnyddir cyllid grant allanol. · Cymorth Tai ac Atal Digartrefedd - os ellir ystyried bod y geiriad diwygiedig i sicrhau bod digartrefedd “yn brin, byr ac anghylchol” yn gostwng y targed hwnnw. · Cyngor Di-garbon Net - ystyried a ddylid defnyddio’r geiriad ar gyfer camau gweithredu sy’n “ganolog i adferiad Covid-19” ar gyfer y Cynllun pum mlynedd hwn. · Addasu Newid Hinsawdd - ymholiad yngl?n â sut y gellir rheoli a mesur Rheoli Perygl Llifogydd os byddai’r gwasanaeth hwn yn cael ei roi i ddarparwr allanol a hefyd dim sôn am brosiectau ynni adnewyddadwy. · Cysylltedd Trafnidiaeth - anghytuno gyda’r ail bwynt bwled ar gefnogi’r gwaith o sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig. · Byw’n Annibynnol - eglurder o ran sut y gellir mesur bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. · Diogelu - cwestiynu’r cyfnod hir i baratoi at weithredu’r gweithdrefnau Trefniadau Amddiffyn Rhyddid newydd. ... view the full Cofnodion text for item 95. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 11) PDF 77 KB Pwrpas: I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 11) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2022/23 ym mis 11 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, cyn i’r Cabinet ei hystyried.
O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa ddisgwyliedig ar ddiwedd y flwyddyn yn golygu fod yna £2.106miliwn dros ben (ac eithrio effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n dod o’r cronfeydd wrth gefn). Byddai hyn yn gadael balans cronfa wrth gefn at raid o £8.364miliwn ar ddiwedd y flwyddyn sy’n cynnwys cost ychwanegol yn ystod y flwyddyn o £3.955miliwn ar gyfer dyfarniadau cyflog 2022/23 hyd yma a £2.4miliwn o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a drosglwyddwyd o ddyraniad cynnal refeniw ychwanegol 2021/22, a gymeradwywyd ym mis Rhagfyr 2022. Roedd y symudiadau sylweddol o fis 10 yn bennaf o ganlyniad i newidiadau i gyllid grant ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r dyraniad o’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol a gafodd effaith gadarnhaol ar y sefyllfa gyda Lleoliadau y tu Allan i’r Sir. Roedd y symudiad cadarnhaol mewn Cyllid Canolog a Chorfforaethol oherwydd incwm annisgwyl unwaith yn unig o arbedion Ardrethi Annomestig a lleihad pellach mewn costau benthyca byrdymor o Fenthyciadau Canolog a’r Cyfrif Buddsoddiadau, yn ychwanegol at gynyddu incwm o fuddsoddiad dros dro o ganlyniad i gyfraddau llog banciau yn codi. Roedd nifer o geisiadau i gario cyllid drosodd i 2023/24, a oedd yn dod i gyfanswm o £1.4miliwn ar draws portffolios, fel y nodir yn Atodiad 6.
Roedd crynodeb o risgiau yn ystod y flwyddyn a gafodd eu holrhain yn nodi’r sefyllfa bresennol o ran lefelau casglu Treth y Cyngor a’r dyfarniadau cyflog, ynghyd â risgiau eraill fel tâl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff, lle arhoswyd am benderfyniad gan Lywodraeth Cymru.
Roedd diweddariad ar gronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi yn nodi bod y balans presennol ar yr Arian Wrth Gefn Brys Covid-19 yn £3.610miliwn, i’w ddefnyddio i fodloni’r costau sy’n gysylltiedig â Covid a galwadau ehangach.
O ran y Cyfrif Refeniw Tai, rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £2.839miliwn yn uwch na’r gyllideb, a fyddai’n gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.635miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellwyd.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Sam Swash a’r Cadeirydd ar y tâl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff, eglurwyd bod gorchymyn wedi’i roi i’r Cyngor a bod trafodaethau yn parhau er mwyn sefydlu’r gosb a roddir. Byddai’r risg yn cael ei asesu fel rhan o ymrwymiadau diwedd y flwyddyn yn nhermau dyrannu arian at raid yn y cyfrifon gan ddibynnu ar ganlyniad y trafodaethau hynny.
Fel y gofynnwyd yn flaenorol, gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd i adroddiadau yn y dyfodol gynnwys eglurhad ar y symudiadau (waeth pa mor fach) mewn cyllidebau cymeradwy i ychwanegu eglurder.
Cafodd yr argymhelliad, fel y diwygiwyd i adlewyrchu’r ddadl, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Rob Davies.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (mis 11), bod y Pwyllgor yn dymuno bod y risg o ran y tâl posibl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff ... view the full Cofnodion text for item 96. |
|
Darparu gwasanaethau cyhoeddus yn yr 21ain ganrif - trosolwg PDF 125 KB Pwrpas: I edrych ar fanteision a chyfyngiadau contractau allanol a/neu greu gwasanaethau a rannir fel modd o ddarparu gwasanaethau’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i archwilio manteision a chyfyngiadau contractau allanol a/neu greu gwasanaethau a rannir fel modd o ddarparu gwasanaethau’r Cyngor, fel y gofynnwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor.
Cyflwynwyd y Pwyllgor i Kelly Oldham-Jones, Swyddog Gweithredol Strategol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau), a roddodd trosolwg o’r prif feysydd yn yr adroddiad. Eglurodd, yn ychwanegol at grynhoi detholiad ehangach o fodelau cyflawni amgen, roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at egwyddorion craidd ehangach a gofynion deddfwriaethol y dylid eu hystyried. Wrth osod dull y Cyngor, cyfeiriwyd at y meini prawf allweddol - yn cynnwys canllawiau Llywodraeth Cymru - a’r angen i ddatblygu bob model i fodloni anghenion penodol a gyda’r adnoddau priodol i’w gweithredu, fel y dangoswyd yn yr enghreifftiau a rennir.
Wrth dynnu sylw at yr Uned Caffael ar y Cyd fel gwasanaeth a rennir gyda Chyngor Sir Ddinbych, dywedodd y Prif Weithredwr y dylid cydnabod bod lefel sylweddol o waith wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf i drawsnewid gwasanaethau, yn cynnwys diogelu gwasanaethau ar gyfer cymunedau trwy Fodelau Cyflawni Amgen a Throsglwyddiadau Asedau Cymunedol. Felly, dylai dealltwriaeth o’r manteision i’r Cyngor a’i bartneriaid fod yn ystyriaeth allweddol ar gyfer y dewisiadau ar gyfer gwasanaethau a rennir.
Bu i’r Cadeirydd gydnabod y cymhlethdodau sydd ynghlwm ac awgrymodd bod y Pwyllgor yn nodi un dewis er mwyn gallu rhannu adroddiad manwl i ystyried y goblygiadau.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson ei fod yn bwysig bod unrhyw newid yn gwella’r gwasanaeth hwnnw.
Wrth sôn am y rhestr gynhwysfawr o ddewisiadau a rennir yn yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Bill Crease y dylai craffu ar gynigion a dadansoddiad cost i ddeall y buddion ddod yn ddiwylliant sy’n cael ei fewnosod ar draws y sefydliad.
Dywedodd y Prif Weithredwr y dylai unrhyw ystyriaethau roi sylw dyledus i feini prawf allweddol fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a hawliau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth.[1] Mewn ymateb i’r sylwadau a godwyd, rhoddodd sicrwydd i Aelodau bod ystyriaeth yn cael ei roi i hyfywedd modelau priodol.
Cynigodd y Cadeirydd ddiwygiad i’r argymhellion i adlewyrchu’r ddadl. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Allan Marshall.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r modelau gwahanol y gellir eu defnyddio fel modelau amgen i ddarparu gwasanaethau;
(b) Bod y Pwyllgor yn cydnabod y ffactorau ehangach, fel paramedrau deddfwriaethol ac egwyddorion craidd, sydd angen cael eu harsylwi wrth ystyried darparu gwasanaethau trwy fodelau cyflawni amgen;
(c) Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd bod y Cyngor yn ystyried yr holl fodelau cyflawni amgen priodol, a manteision a chyfyngiadau’r rhain, fel rhan o werthuso dewisiadau ehangach wrth adolygu gwasanaethau; a
(d) Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad yn y dyfodol ar wasanaethau a rennir yn y dyfodol. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiwyd ac eiliwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd gan y Cynghorwyr Allan Marshall a Bill Crease.
PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Cynllun Busnes NEWydd 2023/24 Pwrpas: Cyflwyno Cynllun Busnes Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf 2023/24 i’w gymeradwyo. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr y Cynllun Busnes blynyddol 2023/24 ar gyfer Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf i’w ystyried cyn ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth ffurfiol.
Rhoddodd Steve W Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf, grynodeb o elfennau allweddol y Cynllun Busnes ynghyd â phwysau ariannol a nodwyd ar gyfer 2023/24 gyda chamau lliniaru cysylltiedig.
Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, rhoddodd y Rheolwr Gyfarwyddwr a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Masnachol a Thai) eglurhad ar y cyfrifoldebau a’r trefniadau ariannol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Rob Davies.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r risgiau strategol sy’n wynebu’r busnes a’r Cynllun Busnes 2023/24, sy’n cynnwys lliniaru’r risgiau a nodwyd, ac yn canmol y Cynllun Busnes i’r Cabinet. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |