Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 15 Rhagfyr 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2022 ac fe gawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Linda Thomas.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y wybodaeth ddiweddaraf ar gamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Jason Shallcross.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 79 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y rhaglen gwaith i’r dyfodol cyfredol i’w hystyried, gan gynnwys eitemau i'w dyrannu i gyfarfodydd yn y dyfodol.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Gina Maddison.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
b) Bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad yw 1) rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiau ariannol a phenawdau allweddol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru 2) rhoi adborth o'r gyfres o Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu penodol 3) rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau a’r peryglon i'r gofyniad cyllideb ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 a 4) rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud ynghylch y datrysiadau cyllidebol sydd ar gael i'r Cyngor er mwyn gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2023/24 gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar brif benawdau ac effeithiau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ac adborth o’r cyfarfodydd Trosolwg a Chraffu diweddar. Roedd y wybodaeth ddiweddaraf yn manylu ar newidiadau a risgiau i'r gofyniad cyllideb ychwanegol ar gyfer 2023/24 a gwaith sy'n cael ei wneud ar y datrysiadau sydd ar gael i alluogi'r Cyngor i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys.
Wrth dynnu sylw at brif feysydd yr adroddiad, atgoffodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai amcangyfrif y gofyniad cyllideb ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 oedd £32.448 miliwn ym mis Tachwedd 2022. Yn dilyn adolygiad manwl gan y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, roedd pwysau o ran costau pob portffolio wedi'u derbyn ac ni nodwyd unrhyw feysydd lleihau costau newydd. Roedd crynodeb o'r prif themâu o'r sesiynau hynny ynghlwm â’r adroddiad. Roedd y Cyllid Allanol Cyfun (AEF) dros dro ar gyfer 2023/24 yn cynrychioli cynnydd o 8.4% a oedd yn cymharu'n ffafriol ag awdurdodau eraill yng Nghymru. Roedd hyn yn adlewyrchu cynnydd ariannol o £19.568 miliwn dros Gyllid Allanol Cyfun 2022/23 o £232.179 miliwn, fodd bynnag roedd dyraniad cyllid y pen Sir y Fflint yn parhau yn yr ugeinfed safle o blith y 22 awdurdod Cymru. Roedd cynnydd yn y dyraniad refeniw dangosol ar gyfer Cymru gyfan ar gyfer 2024/25 yn cyfateb i gynnydd o 3.1% yn 2024/25 o’i gymharu â’r cynnydd dangosol blaenorol o 2.4%.
Er y croesawyd y Setliad cynyddol ar gyfer 2023/24, roedd hyn yn cyfateb i tua 60% o bwysau o ran costau amcangyfrifedig y Cyngor a nodwyd. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn manylu ar newidiadau a gynyddodd gofyniad y gyllideb ychwanegol i £32.978 miliwn ynghyd â nifer o risgiau parhaus a allai effeithio ymhellach ar y sefyllfa. Gan fod y Setliad Dros Dro yn annhebygol o newid yn sylweddol, byddai angen i gyfuniad o'r datrysiadau cyllideb sy'n weddill gyfrannu at y bwlch o £13.410 miliwn sy'n weddill er mwyn gallu gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys. Yn dilyn adolygiad gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, byddai angen ystyried dewisiadau lleihau costau portffolio sy’n werth cyfanswm o £6.166 miliwn er mwyn penderfynu pa rai i'w datblygu fel rhan o gynigion terfynol y gyllideb. Byddai ystyriaethau cyllidebol eraill yn cynnwys effaith y gostyngiad mewn Yswiriant Gwladol Cyflogwyr, canlyniad yr Adolygiad Actiwaraidd Tair Blynedd o Gronfa Bensiynau Clwyd, cyllidebau dirprwyedig ysgolion a lefel Treth y Cyngor.
O ran balansau a chronfeydd wrth gefn, roedd yn cael ei argymell i'r Cabinet bod y dyraniad Cymorth Refeniw ychwanegol o £2.4 miliwn a dderbyniwyd ar ddiwedd 2022/23 yn cael ei drosglwyddo i'r Gronfa Wrth Gefn i gynyddu'r lefel sy'n weddill a diogelu'r Cyngor rhag risgiau.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at bwyntiau heb eu datrys a godwyd gan y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar y dewisiadau portffolio Tai a'r Amgylchedd nad oedd wedi'u cynnwys yn yr atodiad. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr atodiad yn crynhoi'r prif themâu o'r sesiynau gydag Aelodau Cabinet yn bresennol ... view the full Cofnodion text for item 68. |
|
Amrywio Trefn y Rhaglen Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd ar newid bychan yn nhrefn y rhaglen i ddod ag eitem rhif 9 ar y rhaglen, y wybodaeth ddiweddaraf ar Gynnydd Gwerth Cymdeithasol ymlaen. Bydd gweddill yr eitemau yn cael eu hystyried yn y drefn a ddangosir ar y rhaglen. |
|
Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Chynnydd Gwerth Cymdeithasol PDF 121 KB Pwrpas: Darparu data perfformiad i aelodau ar y gwerth cymdeithasol a grëwyd yn Sir y Fflint yn y cyfnodau adrodd a’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd y gwaith a wnaed ac a gynlluniwyd o ran y rhaglen waith gwerth cymdeithasol ehangach. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ddata perfformiad ar y gwerth cymdeithasol a gynhyrchwyd yn Sir y Fflint ar gyfer y cyfnodau adrodd, ynghyd â diweddariad ar gynnydd y rhaglen waith gwerth cymdeithasol ehangach.
Roedd yr adroddiad yn un cadarnhaol lle rhagorwyd ar y targedau perfformiad ar gyfer 2021/22 a hanner cyntaf 2022/23 yn dilyn camau gweithredu i gynyddu gwerth cymdeithasol o weithgareddau comisiynu a chaffael y Cyngor. Yn ogystal â darparu gwybodaeth fanwl am y cyflawniadau hynny, amlygodd yr adroddiad yr ystod o ganlyniadau i gefnogi cymunedau lleol a chydnabyddiaeth genedlaethol o waith gwerth cymdeithasol yn Sir y Fflint. Byddai'r cynllun gweithredu parhaus yn helpu i nodi gwelliannau pellach i ymgorffori gwerth cymdeithasol ar draws y sefydliad a datblygu adnoddau ychwanegol i gefnogi gwaith y Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol.
Croesawodd y Cynghorydd Bernie Attridge gamau i wneud y mwyaf o werth cymdeithasol ym mhob gweithgaredd caffael ar draws y sefydliad er mwyn adeiladu ar berfformiad.
Rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) deyrnged i waith y Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol fel yr unig aelod o’r tîm a dywedodd y byddai cynlluniau i ddatblygu ‘cefnogwyr gwerth cymdeithasol’ ar draws y sefydliad yn ehangu capasiti.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson fod gwerth cymdeithasol yn flaenoriaeth gorfforaethol i'r Cyngor ac y byddai'r cynllun gweithredu yn helpu i symud ymlaen mewn ffordd fwy cynaliadwy. Awgrymodd weithdy ar werth cymdeithasol yn y dyfodol i godi ymwybyddiaeth gyda'r holl Aelodau.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurodd y Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) nad oedd llawer o ddeilliannau gwerth cymdeithasol yn ymwneud ag agweddau ariannol a chyfeiriodd at becynnau buddion cymunedol ar gyfer cytundebau mwy.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod perfformiad yn adlewyrchu contractwyr yn cyflawni eu cyfrifoldebau cymdeithasol eu hunain trwy fecanweithiau cytundebol.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Attridge, a’u heilio gan y Cadeirydd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi'r perfformiad cadarnhaol a gyflawnwyd mewn perthynas â chynhyrchu gwerth cymdeithasol yn ystod 2021/22 yn ogystal â chwe mis cyntaf 2022/23; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r camau nesaf a gynigir. |
|
Adroddiad Monitro Perfformiad Canol Blwyddyn PDF 109 KB Pwrpas: Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad monitro i adolygu’r cynnydd ar ganol y flwyddyn yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2022/23. Roedd yr adroddiad yn un sy’n seiliedig ar eithriad yn canolbwyntio ar feysydd perfformiad nad ydynt yn cyrraedd eu targed ar hyn o bryd.
Ar y cyfan roedd yr adroddiad yn un cadarnhaol gyda 70% o'r dangosyddion perfformiad (DP) wedi bodloni neu ragori ar eu targedau (gwyrdd). O'r rhai a adroddodd eu bod yn tangyflawni yn erbyn targed (coch), dim ond un oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor hwn ac roedd yn ymwneud â nifer y sesiynau dysgu digidol a ddarparwyd, o dan y thema Tlodi.
Soniodd y Cadeirydd am y sefyllfa ar gyfer cwblhau cartrefi Cyngor a chartrefi Landlordiaid Cymdeithasol Preswyl (RSL) newydd a oedd yn is na'r targed. Roedd ei sylwadau ar wella perfformiad ailgylchu drwy godi ymwybyddiaeth ac annog trigolion wedi'u codi yng nghyfarfod diweddar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a'r Economi.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Bill Crease.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawniadau’r blaenoriaethau o fewn Cynllun y Cyngor 2022/23;
(b) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo a chefnogi perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2022/23 fel y mae ar ganol y flwyddyn; a
(c) Bod y Pwyllgor wedi cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 8) PDF 76 KB Pwrpas: I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 8) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ym mis 8 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.
O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau - yw diffyg gweithredol o £0.352 miliwn, gan adael balans cronfa wrth gefn a ragwelwyd o £3.797 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol (ar ôl effaith dyfarniadau cyflog terfynol).
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf ar gymhwyster ar gyfer ceisiadau Cyllid Caledi Llywodraeth Cymru a lefel bresennol Cronfeydd Wrth Gefn argyfwng Covid-19 (fel mesur i ddiogelu yn erbyn effeithiau parhaus y pandemig) a oedd yn £4.064 miliwn. Cafodd symudiadau sylweddol ar draws portffolios o fis 7 eu crynhoi, a oedd yn cynnwys ceisiadau i ddwyn arian ymlaen gan y Gwasanaeth Pobl ac Adnoddau. Wrth olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn adroddwyd am ostyngiad bychan yn lefelau casglu Treth y Cyngor a oedd yn adlewyrchu tuedd genedlaethol. Roedd risgiau eraill a gafodd eu holrhain yn cynnwys y sefyllfa bresennol gyda Lleoliadau y tu allan i’r Sir.
O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gwariant a ragwelir yn ystod y flwyddyn o £3.076 miliwn yn uwch na'r gyllideb yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.398 miliwn, a oedd yn uwch na'r canllawiau gwariant a argymhellir.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cytunodd y Rheolwr Cyllid Strategol i ddarparu ymateb ar wahân ar y symudiad yn y cyllidebau cymeradwy o gyllideb y Prif Weithredwr i Asedau, y dywedodd y Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) y gallai ymwneud â grantiau’r trydydd sector.
Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) eglurhad ar gostau ychwanegol yn deillio o’r Digwyddiad Cyhoeddi ac Angladd Gwladol y Frenhines.
Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am y dull i rai portffolio amsugno costau adennill ychwanegol Covid-19 o’u tanwariant. Nodwyd y pwynt gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a ddywedodd y byddai swyddogion yn edrych ar hyn ar gyfer yr adroddiad nesaf. O ran y cais i ddwyn arian ymlaen, dywedodd fod hyn yn cydymffurfio â'r protocol cronfeydd wrth gefn a balansau i ddangos tryloywder.
Cydnabuwyd cais y Cynghorydd Attridge i unrhyw danwariant ar y Gronfa Refeniw Tai gael ei ddefnyddio i wella perfformiad gydag eiddo gwag gan y Cynghorydd Sean Bibby.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Linda Thomas.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (mis 8), fod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |