Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Hydref 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2022, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Bill Crease.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad ar y camau gweithredu oedd yn codi o’r cyfarfodydd blaenorol a chytunodd i ail-ddosbarthu copi mwy o’r gylchred cynllunio busnes ac ariannol i’r Cynghorydd Bill Crease. Bydd y camau gweithredu a gododd o’r cyfarfod ym Medi yn cael eu tynnu o’r rhestr gan eu bod wedi cael eu cwblhau.
Ar y sail honno, cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr argymhellion, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Bill Crease.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 80 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried. Cytunwyd y byddai’n cysylltu gyda’r Cadeirydd i ystyried y posibilrwydd o ohirio rhai eitemau ym mis Rhagfyr er mwyn galluogi i eitem y gyllideb gael ei flaenoriaethu.
Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr argymhellion, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jason Shallcross.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd Pwrpas: I rannu diweddariad llafar ar y sefyllfa bresennol o ran dyled hirdymor gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers yr adroddiad diwethaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn ôl y cais yn y cyfarfod diwethaf, rhoddodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) ddiweddariad ar ddyled hirdymor cyfredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) o ran darparu pecynnau Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn Sir y Fflint. Roedd adroddiad gyda gwybodaeth ychwanego ar lefelau dyled diweddar wedi cael ei rannu gyda’r Pwyllgor cyn y cyfarfod.
Ers y cyfarfod diwethaf, mae cynnydd da wedi cael ei wneud i fynd i’r afael â’r ‘mannau cul’ yn y system er mwyn gwella llif gwybodaeth a dealltwriaeth o’r broses o safbwynt y ddwy ochr. Roedd cyfarfodydd rheolaidd ar bob lefel wedi helpu i atgyfnerthu prosesu effeithlon o anfonebau ac roedd llwybr uwchgyfeirio clir wedi cael ei sefydlu i atgyfeirio unrhyw faterion sylweddol. Tra bod gwaith yn parhau ar anfonebau hirdymor, y prif ffocws oedd ar anfonebau diweddar gyda BIPBC yn gweithio’n galed i sicrhau taliad prydlon. Cafodd sefyllfa anfoneb heb ei dalu o £141,917.51 ei adrodd rhwng 12 Hydref a 11 Tachwedd 2022.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at sylwadau a wnaed gan Paul Carter (BIPBC) yn y cyfarfod blaenorol fod gwybodaeth gefnogol ar goll er mwyn cefnogi taliadau o rhai o’r anfonebau hirdymor. Ar y rhestr, croesawodd cliriad yr anfonebau diweddar ond cododd bryderon fod deg anfoneb newydd, ac roedd y ddau gyda’r gwerth uchaf yn parhau heb eu talu ac nad oedd unrhyw un o’r anfonebau hanesyddol wedi cael eu clirio, ac nid oedd hyn yn rhoi sicrwydd ar fynd i’r afael â’r dyled hirdymor.
Mewn ymateb, eglurodd yr Uwch Reolwr fod un o’r cyfansymiau uchaf yn ymwneud â phecyn cyfun ar gyfer tri lleoliad tu allan i’r sir. Eglurodd fod y rhestr yn dangos sefyllfa ar gyfer holl anfonebau heb eu talu yn ystod y cyfnod, a bod gwaith yn parhau i symud ymlaen gyda’r rhain cyn gynted â phosibl.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge nad oedd y diweddariad wedi lliniaru ei bryderon am y ddyled, yn arbennig o ran sefyllfa ariannol y Cyngor. Wrth gwestiynu os ddylai’r holl ddyledion gael eu clirio, dywedodd y dylai cyfarfodydd arweinyddiaeth gael eu cynnal yn fwy aml a dylai’r mater gael ei uwchgyfeirio drwy’r llwybr gyfreithiol.
Cytunodd y Cynghorydd Chris Dolphin fod hyn yn fater hirdymor difrifol, ac awgrymodd y byddai cynnwys cyfeiriad at nifer yr achosion a’r costau cysylltiedig mewn diweddariadau yn y dyfodol, yn darparu darlun mwy clir o’r ddyled sy’n weddill.
Wrth gydnabod y cynnydd a wnaed, dywedodd y Cynghorydd Bill Crease ei fod yn hanfodol sefydlu rhesymau dros yr oedi gyda thaliadau. Dywedodd y dylai materion ar ochr y Cyngor gael ei ddatrys yn fewnol ac y dylai oedi yn sgil BIPBC gael eu holrhain yn gyfreithiol.
Mewn ymateb i sylwadau, cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at y dyfarniadau cymhleth o ran taliadau CHC a chynghorodd yn erbyn camau cyfreithiol. Wrth gydnabod arwyddocâd y mater hwn, awgrymodd fod y canolbwynt yn parhau ar drafodaethau lefel uchel rheolaidd er mwyn datrys materion ac adeiladu ar arbenigedd mewnol er mwyn herio penderfyniadau BIPBC lle bod angen.
Wrth bwysleisio’r goblygiadau llif arian, ... view the full Cofnodion text for item 45. |
|
Item 6 - supplementary report PDF 110 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Diweddariad Canol Blywddyn Cyflogaeth a Gweithlu PDF 109 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys diweddariadau strategol yn ogystal ag ystadegau chwarterol y gweithlu a dadansoddiad ohonynt. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Cydymffurfio a Gwybodaeth Busnes adroddiad diweddaru canol blwyddyn ar ystadegau a dadansoddiad y gweithlu ar gyfer 2022/23, gan gynnwys cyfrif pennau, trosiant gweithwyr a phresenoldeb.
Roedd trosolwg o feysydd allweddol yn cydnabod y pwysau ar weithlu cenedlaethol fel y gwelwyd ar draws y portffolios ac roedd gwaith yn cael ei wneud i fynd i’r afael â heriau mewn recriwtio a chadw staff o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Y prif reswm dros absenoldebau a adroddwyd oedd iechyd meddwl a atgoffwyd pawb am yr ystod o gymorth oedd ar gael i weithwyr. Roedd diweddariad ar wariant gweithwyr asiantaeth yn adlewyrchu’r galw cynyddol ar gyfer rolau arbenigol a chydweithio i ddatblygu dull cyfun ar gyfer recriwtio a chadw gweithwyr.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Chris Dolphin, rhoddodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) wybodaeth ar gysylltiadau’r Cyngor gyda ADSS Cymru a threfniadau o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol i flaenoriaethu gwaith yn seiliedig ar risg, yn arbennig o ystyried y cynnydd cenedlaethol sylweddol yn nifer yr ymchwiliadau amddiffyn plant.
Ar ôl cwestiwn gan y Cadeirydd, dywedodd yr Ymgynghorydd Cydymffurfio a Gwybodaeth Busnes fod gwariant asiantaeth cronnus yn cynyddu o un flwyddyn i'r llall am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ac roedd hyn yn cael ei fonitro yn agos. Cytunodd i ddarparu manylion pellach ar ddadansoddiad patrymau yn dyddio’n ôl i 2019.
Ar y sail honno, cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr argymhellion, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Bill Crease.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Adroddiad Gwybodaeth y Gweithlu Canol Blwyddyn ar gyfer 2022/23; a
(b) Bod manylion pellach yn cael eu rhannu ar y cynnydd mewn gwariant asiantaeth cronnus dros y tair blynedd ddiwethaf. |
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig A Chyllideb 2023/24 PDF 75 KB Pwrpas: Darparu diweddariad ar y gofyniad cyllideb ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 cyn y gyfres o gyfarfodydd Trosolwg a Chraffu ym mis Rhagfyr. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad i ddiweddaru Aelodau ar y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2023/24 cyn y cyfarfodydd Trosolwg a Chraffu ym mis Rhagfyr, a derbyn y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar 14 Rhagfyr 2022.
Yn y cyfarfod fis Hydref, roedd y rhagolwg diwygiedig yn dangos isafswm gofyniad cyllidebol o £24.348 miliwn ychwanegol o adnoddau refeniw ar gyfer 2022/23. Roedd gwaith pellach i ganfod newidiadau a risgiau sylweddol wedi arwain at gynnydd pellach, fel yr adroddwyd i’r briffiau cyllid Aelodau diweddar, ac fel y crynhowyd yn yr adroddiad. Er bod gwaith yn parhau er mwyn sefydlu’r effaith yn llawn, rhagwelwyd y byddai’r gofyniad cyllidebol ychwanegol yn gallu codi i oddeutu £32 miliwn. Roedd nifer o risgiau parhaus a allai gael effaith pellach a byddai hyn yn parhau i gael ei adolygu, gan gynnwys lleoliadau tu allan i’r Sir a dyfarniadau cyflog athrawon. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diweddariad ar gynnydd gyda datrysiadau cyllideb a’r amserlen yn arwain at y setliad cyllidebol terfynol. Byddai trosolwg o’r sefyllfa ar draws y portffolios yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Ionawr.
Wrth gyfleu difrifoldeb y sefyllfa, dywedodd y Prif Weithredwr y cydnabyddir fod graddfa’r sefyllfa bresennol yn cyflwyno heriau sylweddol wrth osod cyllideb gytbwys.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd yr adroddiadau a briffiau diweddar yn rhoi unrhyw ddatrysiadau ar sut i gydbwyso’r gyllideb ac y byddai dewisiadau lliniaru angen cael eu rhannu er mwyn galluogi Aelodau i ystyried a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y gwaith a gyflawnwyd hyd yn hyn yn adlewyrchu graddfa’r her ariannol. Dywedodd y byddai manylion cynigion effeithlonrwydd portffolio yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol ym mis Rhagfyr, ynghyd â throsolwg o effeithlonrwydd ar draws holl bortffolios. Tra bod gwaith ar gyllid corfforaethol yn parhau, byddai canlyniadau yn cael eu rhannu gydag Aelodau a byddai derbyn y Setliad Dros Dro yn darparu eglurder raddfa’r bwlch cyllidebol a’r dewisiadau ar gael.
Mewn ymateb i’r Cadeirydd, rhannodd y Prif Weithredwr ei bryderon a dywedodd bod holl awdurdodau lleol yng Nghymru mewn sefyllfa debyg. Rhoddodd sicrwydd fod swyddogion wedi cymryd pob cyfle i adolygu effeithlonrwydd a bod gwaith yn parhau i gyflwyno sefyllfa y gellir ei ddarparu.
Cafodd ei sylwadau ei gefnogi gan Aelod Cabinet y Cynghorydd Paul Johnson a ddywedodd bod hwn yn sefyllfa digynsail yn cynnwys nifer o faterion tu allan i reolaeth y Cyngor. Roedd yn gobeithio y byddai eglurder yn dilyn cyfarfod cyllid gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a holl awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.
Mynegodd y Cynghorydd Bill Crease ei bryderon o ran yr amser ar gael i wneud penderfyniadau heriol iawn er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg a’r effeithiau posibl ar drigolion.
Cytunodd y Cynghorydd Bernie Attridge fod hwn yn sefyllfa digynsail ac nid oedd yn gallu canfod beth ellir ei wneud i osod cyllideb gytbwys, o ystyried fod LlC eisoes wedi darparu ffigyrau ar gyfer Setliad dangosol. Aeth ymlaen i ddweud y ... view the full Cofnodion text for item 47. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 6) a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Mis 6) PDF 78 KB Pwrpas: I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 6), Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2022/23 (Mis 6) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) y sefyllfa derfynol mis 6 2022/23 ar gyfer monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf cyn i’r Cabinet ei ystyried.
Monitro Cyllideb Refeniw
Ar Gronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa ragweledig ar ddiwedd y flwyddyn yn ddiffyg gweithredol o £0.033 miliwn gan adael balans cronfa hapddigwyddiad o £8.071 miliwn a fyddai’n lleihau i £2.8 miliwn ar ôl bodloni’r costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn o’r dyfarniad cyflog 2022/23. Rhannwyd diweddariad ar y gostyngiad mewn cronfeydd wrth gefn brys Covid-19 a’r hawliadau parhaus ar gyfer Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru a oedd bellach yn destun cymhwysedd cyfyngedig. Rhoddwyd crynodeb o amrywiaethau sylweddol ar draws portffolios yn ystod y cyfnod gan gynnwys symudiad cadarnhaol o ran Cyllid Corfforaethol a Chanolog gan arwain at newidiadau i gyfraddau llog banc. Roedd olrhain y risgiau yn y flwyddyn yn adrodd ar sefyllfa bresennol ar ddyfarniad cyflog gyda chanlyniad dyfarniad athrawon o dan drafodaeth ac effaith y newidiadau i Yswiriant Gwladol i’w adrodd ym Mis 7. Roedd risgiau eraill yn adlewyrchu galw uchel cynyddol ar gyfer lleoliadau tu allan i’r sir a chymorth ar gyfer digartrefedd a fydd yn cael ei fonitro’n agos. Disgwyliwyd i bob un o’r arbedion effeithlonrwydd sydd ar y gweill yn ystod y flwyddyn gael eu cyflawni yn 2022/23.
Yn y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant arfaethedig o £3.324 miliwn yn fwy na’r gyllideb yn ystod y flwyddyn yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.150 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellir.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cytunodd y swyddogion Cyllid ymateb ar wahân ar yr effaith posibl pe byddai’r ddyled heb ei dalu o £1.14 miliwn gan y Bwrdd Iechyd ar y pecynnau gofal a ariennir ar y cyd, yn cael eu dderbyn.
Gwnaeth y Cynghorydd Bernie Attridge sylw ar y gorwariant a thanwariant sylweddol parhaus yn arbennig o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol a gofynnodd be allai gael ei wneud i wella gosod y gyllideb. Dywedodd bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai wedi cael eu hysbysu fod y pwysau net cynyddol ar gyfer eiddo gwag yn debygol o gael ei ddatrys.
Wrth ymateb, cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Strategol at effaith y grantiau hwyr a rhoddodd sicrwydd o gysylltiad rheolaidd gyda rheolwyr gwasanaeth er mwyn cyflawni adolygiadau manwl o gyllidebau.
O ran y Gwasanaethau Cymdeithasol, eglurodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) fod problemau recriwtio yn y sector gofal annibynnol wedi effeithio ar bwysau ar gyfer gwasanaethau darparwyr y Cyngor.
Rhaglen Gyfalaf
Y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2022/23 oedd £91.979 miliwn, gan ystyried bod yr holl symiau a ddygwyd ymlaen ac arbedion yn trosglwyddo’n ôl i’r rhaglen. Roedd newidiadau yn ystod y cyfnod yn bennaf oherwydd cyflwyno ffrydiau ariannu grant ar draws y portffolios ac ailbroffilio’r gyllideb. Roedd y sefyllfa alldro a ragwelwyd yn £87.416 miliwn gan adael £4.563 miliwn o danwariant a argymhellwyd y dylid ei gario drosodd er mwyn cwblhau cynlluniau yn 2023/24 fel y nodwyd. Roedd ... view the full Cofnodion text for item 48. |
|
Strategaeth Gyfalaf, yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2023/24 - 2025/26 PDF 285 KB Pwrpas: Cyflwyno Strategaeth Gyfalaf 2023/24 - 2025/26 ar gyfer ei hadolygu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Strategaeth Gyfalaf wedi ei diweddaru cyn ei chyflwyno i’r Cabinet. Dogfen drosfwaol oedd y Strategaeth a oedd yn dwyn ynghyd nifer o strategaethau a pholisïau ac wedi’i rhannu’n nifer o adrannau yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2023/24 - 2025/26.
Rhannodd y Cadeirydd ei bryderon ei hun am y gofyniad i argymell yr adroddiad yn sgil effaith penderfyniadau cyfalaf ar y cyfrif refeniw a heb y ffigyrau cysylltiedig. Yn absenoldeb rhagor o fanylion, cynigodd y dylid newid yr argymhellion er mwyn adlewyrchu eu bod angen cael eu nodi gan y Pwyllgor. Roedd y Cynghorydd Attridge yn rhannu ei bryderon ac fe eiliodd ei gynnig.
O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd y diwygiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r Strategaeth Gyfalaf; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi:-
· Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2023/24 – 2025/26 fel y manylir o fewn Tablau 1, a 4-8 o’r Strategaeth Gyfalaf, ac
· Awdurdod dirprwyedig i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wneud newidiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân, o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf). |
|
Rhaglen Gyfalaf 2023/24 - 2025/26 PDF 556 KB Pwrpas: Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2023/24 - 2025/26 ar gyfer ei hadolygu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2023/24 - 2025/26 a oedd yn nodi buddsoddiadau hirdymor mewn asedau i alluogi darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel gyda gwerth am arian, wedi ei rannu rhwng y tair adran: Statudol / Rheoleiddio, Asedau Wrth Gefn a Buddsoddiad. Rhoddodd gyflwyniad yn cynnwys y canlynol:
· Strwythur - Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor · Rhaglen Gyfredol 2022/23 - 2024/25 · Cyllid a Ragwelir 2023/24 - 2025/26 · Dyraniadau Arfaethedig – Statudol/ Rheoleiddiol, Asedau wrth Gefn a Buddsoddiad · Crynodeb o’r Rhaglen wedi ei hariannu’n gyffredinol · Cynlluniau sy’n cael eu hariannu’n benodol · Crynodeb Rhaglen Gyfalaf · Cynlluniau posib ar gyfer y dyfodol · Y Camau Nesaf
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge nad oedd yn gallu cefnogi’r rhaglen o ystyried sefyllfa’r gyllideb refeniw. Ar ail-ddatblygu Theatr Clwyd, eglurwyd y byddai’r £1.5 miliwn ychwanegol wedi’i ariannu gan y Rhaglen Gyfalaf graidd heb unrhyw ofyniad benthyca ychwanegol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at y Gronfa Codi’r Gwastad, ac os fyddai’n llwyddiannus byddai’n darparu ystod o fuddion ar draws y Sir. Dywedodd y gallai’r Cyngor golli allan os na fyddai’n rhoi cynigion ymlaen ar gyfer cynlluniau.
Wrth gydnabod y pwynt, pwysleisiodd y Cadeirydd ei safbwynt na ddylai pwysau refeniw gynyddu heb wybod lle byddai arbedion effeithlonrwydd pellach yn gallu cael eu cyflawni. Yn sgil y rheswm hwnnw, cynigodd diwygiad i’r Argymhellion 1, 2 a 4 ar gyfer y Pwyllgor i’w hystyried a rhoi adborth, yn hytrach na chefnogi. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Attridge.
Eglurodd y Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) fod gwaith sylweddol wedi cael ei gyflawni i ddatblygu’r Rhaglen Gyfalaf a oedd yn gallu cael ei ddarparu a gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r egwyddorion. Dywedodd fod y pwysau eisoes wedi cael ei adeiladu i’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ac ni fyddai’n cynyddu’r gofyniad benthyca. Yn ogystal â hynny, roedd sylwadau’n cael eu gwneud i gynyddu cyfradd ymyrraeth Llywodraeth Cymru, a phe byddai’n llwyddiannus, byddai’n lleihau pwysau refeniw.
Cynigiodd y Cynghorydd Dolphin ddiwygiad bod y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Vicky Perfect.
Eglurodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) y byddai prosiect Croes Atti yn helpu i fodloni’r galw uchel cynyddol ar gyfer gofal cymdeithasol fel y nodwyd yn yr adroddiad rhanbarthol, ac os na fyddai’n cael ei symud ymlaen, byddai canlyniadau refeniw o brynu’r comisiynu gofal.
Gan fod y diwygiad wedi’i gynnig a’i eilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn:
(a) Cefnogi’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 (paragraff 1.09) ar gyfer rhannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau Wrth Gefn Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2023/24-2025/26;
(b) Cefnogi’r cynlluniau sydd wedi'u cynnwys yn Nhabl 4 (paragraff 1.31) ar gyfer adran Buddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2023/24-2025/26;
(c) Yn nodi bod y diffyg mewn cyllid i ariannu cynlluniau yn 2024/25 yn Nhabl 5 (paragraff 1.37) ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo yn caniatáu hyblygrwydd. Bydd opsiynau’n cynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os ydynt ar gael), benthyca fesul cam ... view the full Cofnodion text for item 50. |
|
Item 11 - Capital Prog presentation PDF 301 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |