Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Dim. |
|
Eitem Frys Cofnodion: Nododd y Pwyllgor penderfyniad y Cadeirydd i ganiatáu eitem brys fel y nodir dan adran 100B4 (b) Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Mewn ymateb i sylw yn y wasg ar Eithriad i'r Dreth Gyngor i unigolion sydd wedi cael diagnosis ‘salwch meddwl difrifol’, rhoddodd y Rheolwr Refeniw ddatganiad ar y sefyllfa yn Sir y Fflint. Er bod yr adroddiadau yn nodi nifer isel o hawlwyr mewn rhai mannau o’r DU, yn Sir y Fflint roedd 527 aelwyd yn gymwys i gael gostyngiad a roedd 185 o'r rhai hynny yn cael eu heithrio'n llwyr. Roedd y 342 yn weddill yn cael gostyngiad o 25% gan bod oedolyn arall yn byw yn yr eiddo hynny. Y meini prawf cymwys oedd bod rhaid i unigolyn gael tystysgrif meddygol gan Feddyg Teulu neu feddyg ymgynghorol i fod ag amhariad meddygol difrifol e.e. Dementia, Alzheimer’s, Parkinson’s. Cyhoeddwyd y manylion y cais ar wefan y Cyngor a roedd y tîm Treth Y Cyngor yn darparu cyngor a chyfeiriadau o argaeledd y gostyngiad i breswylwyr.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod yr wybodaeth yn dangos bod Sir y Fflint yn Gyngor sydd yn Gyfeillgar i Ddementia, ac yn cefnogi pobl leol yn dda. I roi rhagor o gefnogaeth, bydd swyddogion yn cysylltu â chydweithwyr Iechyd a’r Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint i ystyried sut i ail hyrwyddo’r gostyngiad. Roedd yr Aelodau lleol yn cael eu hannog i weithio gyda’r Cyngor i godi ymwybyddiaeth ymysg preswylwyr.
Mewn ymateb i’r ymholiadau, cadarnhaodd y Rheolwr Refeniw bod y gostyngiad yn berthnasol i brif gartref yr ymgeisydd, a bod dyfarniadau ôl-weithredol wedi seilio ar ddyddiad yr oedd yr unigolyn wedi cael tystysgrif feddygol yn nodi ei fod yn salwch meddwl difrifol. Y prif bwynt cyswllt oedd y Llinell Gymorth Treth Y Cyngor (01352 704848) lle fydd timau swyddogion arbenigol yn cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau. Gellir cysylltu â’r Rheolwr Refeniw a’r Rheolwr Tîm os fydd angen.
Bydd y datganiad yn cael ei anfon drwy e-bost i’r holl Aelodau yn dilyn y cyfarfod. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 14 Chwefror 2019. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2019.
Cofnod 89: Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 – angen tynnu'r cyfeiriad at argymhellion y swyddog o frawddeg olaf y Cynghorydd Heesom. Hefyd siaradodd y Cynghorydd Heesom ynghylch yr angen i Aelodau ddatgysylltu eu hunain o safbwyntiau'r swyddogion ynghylch y cynnydd yn Nhreth y Cyngor fel y cytunwyd yn y gyllideb.
Cofnod 90: Datblygu Rhaglen Gyfalaf 2019/20-21/22 - Bydd sylwadau'r Cynghorydd Williams ar Theatr Clwyd yn cael eu newid i fod yn eglur.
Cynigiodd y Cynghorydd Johnson bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo gyda’r ddau newydd, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Hughes.
Cymrodd y Cadeirydd y cyfle i godi pryderon nad oedd rhai o'r Aelodau yn ymwybodol ohonynt ynghylch sut i gael mynediad at adroddiadau Rhan 2 eithriedig sydd wedi’u diogelu gan gyfrinair ar eu iPad. Dywedodd y Cynghorydd Johnson y dylid atgoffa Arweinwyr Gr?p o’r gefnogaeth sydd ar gael gan y tîm TGCh.
Anogodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr Aelodau sydd yn cael anawsterau i nodi’r canllaw a oedd yn cael ei ddosbarthu’n gyfnodol neu gynigion o hyfforddiant a chefnogaeth gan yr adran TGCh.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi cynnydd ar bwyntiau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol a dywedodd bod y gweithdy gwybodaeth ar berfformiad wedi ei newid i 29 Ebrill.
Fel y trafodwyd yn y cyfarfod ym mis Chwefror, cododd y Prif Weithredwr y sylw am newid enw ar gyfer Theatr Clwyd gydag uwch aelodau'r Bwrdd a’r tîm rheoli, a fydd yn cadw’r brand ar gyfer proffil a pharhad.
Yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr 2018, roedd y Cynghorydd Heesom wedi gofyn am ragor o adroddiadau ar Bont Sir y Fflint yn dilyn ei bryderon ynghylch goblygiadau ar seilwaith ffordd leol a chyfleoedd i ddylanwadu penderfyniadau Llywodraeth Cymru. Ailadroddodd y Prif Weithredwr ei ymateb i’r cyfarfod hwnnw gan gynnwys yr ymrwymiad i rannu’r adroddiad cylchol pan fydd yr archwiliad nesaf yn cael ei gynnal. Mae’r risgiau adnoddau ar gyfer atebolrwydd cynnal a chadw yn y dyfodol wedi cael ei ymdrin yn y trafodaethau blaenorol.
Roedd y Cynghorydd Johnson wedi cynnig cefnogi argymhellion yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 71 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried. Cytunwyd ar y newidiadau canlynol:
· Bod yr adroddiad alldro 2018/19 yn cael ei drefnu ar gyfer mis Gorffennaf. · Bod yr adroddiad modelu tâl, yn cynnwys cais y Cynghorydd Woolley ar Holiaduron Gwerthuso Swyddi a Swydd- Ddisgrifiadau, yn cael ei drafod yn y cyfarfod mis Mai os yw’n bosibl. · Cael gwared ar yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw o fis Mai i allu canolbwyntio ar gau’r cyfrifon yn fuan, ac i dderbyn diweddariad ar gyfalaf a refeniw ym mis Gorffennaf.
Dywedodd y Cynghorydd Woolley y dylai ei awgrym blaenorol ar y Gofrestr Asedau fod yn eitem ar wahân i’r Cynllun Rheoli Asedau a oedd ei angen ym mis Hydref. Gofynnodd y Prif Weithredwr i’r Cynghorydd Woolley rannu ei bryderon penodol os bydd adroddiad cynharach ei angen.
Mewn ymateb i ymholiad y Cynghorydd Johnson ar y Bwrdd Uchelgais Economaidd, dywedodd y Prif Weithredwr bod y gwaith craidd dan gylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter. Awgrymodd bod y dull o graffu penderfyniadau allweddol ar Faterion Wrth Gefn i’w trafod gyda Chadeiryddion Trosolwg a Chraffu ar ôl cytuno ar Benawdau'r Telerau yn ystod yr Haf.
Gofynnodd y Cynghorydd Johnson am drefniadau am graffu penderfyniadau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chael adroddiadau gan gynrychiolwyr y Cyngor ar y grwpiau hynny. Dywedodd y Prif Weithredwr y dylid ystyried gweithgareddau penodol gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol. Awgrymodd i wahodd Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Prif Weithredwr i gymryd rhan mewn gweithdy Aelodau yn y dyfodol cyn seibiant mis Awst i gysylltu â gwaith y Cyngor ar y gyllideb.
Eglurodd y Cynghorydd Roberts ei fod yn darparu adborth i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid ar ganlyniadau'r cyfarfodydd cenedlaethol a fynychodd yn ei swydd fel Aelod Cabinet Addysg. Er yr oedd yn croesawu’r cyllid ychwanegol ar gyfer atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw yn yr ysgolion a'r costau ar gyfer pensiynau athrawon, cododd bryderon ynghylch y dyletswyddau ychwanegol sylweddol sydd yn cael ei roi ar ysgolion a chynghorau yn dilyn y diwygiad Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru a gyfeiriwyd ato yn yr eitem nesaf.
Croesawodd y Cynghorydd Heesom ddiweddariadau pellach ar y Cynnig Twf Gogledd Cymru ac anogodd yr holl Aelodau i gael mynediad wybodaeth am gyfarfodydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Cydnabu bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cynnal y trosolwg a bod yn rhan o drafodaethau pan fo angen.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Johnson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Axworthy.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a
(b) Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Trategaeth Ariannol Tymor Canolig Diweddariad Rhagolygon PDF 74 KB Pwrpas: Diweddaru Rhagolygon MTFS 2020/21 - 2022/23. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar ragolygon Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) ar gyfer 2020/21-2022/23 cyn cael ei ystyried gan y Cabinet. Roedd cyflwyniad ar y cyd gyda'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn cynnwys y canlynol:
· Rhagolwg ariannol ym mis Chwefror 2019. · Adolygu’r pwysau o Tâl/y gweithlu o Gofynion Gofal Cymdeithasol o Pwysau Addysg o Pwysau ariannol corfforaethol o Pwysau eraill – wedi’u diweddaru a rhai newydd o Risgiau · Camau Nesaf · Amserlen
Ers yr adroddiad i'r Cyngor Sir ym mis Chwefror, mae effaith y pwysau presennol a adolygwyd, pwysau newydd a rhai sydd yn codi, a’r defnydd ychwanegol o gronfeydd wrth gefn yn y cam cyllideb, wedi cynyddu'r bwlch cyllideb a ragwelir ar gyfer 2020/21 i £13.320m. Roedd nifer o bwysau gan gynnwys tybiaethau ar dâl athrawon, a buddsoddiad yng Nghartref Preswyl Marleyfield a gofal ychwanegol Treffynnon a fyddai’n helpu i fodloni galwadau’r gwasanaeth a gosod yn erbyn pwysau ychwanegol. Roedd yr effaith cychwynnol amcangyfrif Deddf Tribiwnlys Addysg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2018 yn bwysau newydd gyda goblygiadau cost uchel i bob cyngor.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod y mwyafrif uchel o fwlch yn y gyllideb ond yn cael ei ariannu gan y diwygiad y polisi cenedlaethol. Roedd safbwyntiau’r Pwyllgor a’r Cabinet yn helpu’r gr?p trawbleidiol i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru. Roedd yr achos ar sail tystiolaeth am gyllid cenedlaetholi cynyddol yn cynnwys tri bloc:
1. Diogelu chwyddiant yn erbyn costau craidd e.e. tâl a phensiwn; 2. Pwysau difrifol ar y gwasanaeth e.e. Lleoliadau y tu allan o'r Sir a Phlant Dan Ofal; a 3. Cyllid llawn i ddeddfwriaeth newydd e.e. Anghenion Dysgu Ychwanegol
Amlygodd y Cynghorydd Roberts y pwysigrwydd bod y gr?p trawsbleidiol yn gweithio gyda’i gilydd i lunio ymateb i’r Gweinidog dros Lywodraeth Leol gan gynnwys yr angen i ddarparu cyllid ar gyfer dyfarniadau tâl cenedlaethol.
Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd McGuill, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod dyraniadau heb eu defnyddio wedi cael eu rhoi yn ôl yn y cronfeydd wrth gefn i gynnal lefelau call, ond mae rhai risgiau wedi bod yn fwy na'r swm o gyllideb sydd ar gael. Atgoffodd yr Aelodau bod y cronfeydd wrth gefn ond yn cael eu defnyddio ar sail un tro.
Dywedodd y Cynghorydd Axworthy ei fod yn cefnogi adolygiad o’r polisi cyllid cenedlaethol. Awgrymodd bod Comisiwn 2016 ar gyllid llywodraeth leol yng Nghymru – yr oedd Sir y Fflint wedi bod yn brif cyfrannwr – yn cael ei adolygu eto a’i deilwra ar gyfer perthnasedd ar y cam hwn i gefnogi’r achos i Lywodraeth Cymru. Dywedodd y Prif Weithredwr bod diffyg cynnydd ar argymhellion yr adroddiad a chadarnhaodd bod y sylwadau ar y fformiwla cyllid o fewn y cylch gorchwyl ar gyfer y gweithgor trawsbleidiol. Cytunodd y bydd yr adroddiad yn cael ei ddosbarthu i holl Aelodau gan ei fod yn cael ei gynnwys yn rhestr ddarllen ar gyfer y gweithgor.
Dywedodd y Cynghorydd Heesom bod angen mecanwaith i sicrhau bod y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol yn ... view the full Cofnodion text for item 104. |
|
Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 11) PDF 68 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 11 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw fel yr oedd ym Mis 11 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, a ni ddisgwylir i’r sefyllfa alldro sydd i'w adrodd ym mis Gorffennaf newid yn sylweddol oni bod newidiadau hwyr ar lefelau galw ar wasanaethau.
Ar Gronfa’r Cyngor, roedd arian dros ben gweithredol o £0.931m a oedd yn symudiad cadarnhaol o £0.188m o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd gwaith yn cael ei wneud ar gau'r gyfrifon, roedd y risgiau o newidiadau sylweddol i'r alldro wedi lleihau. Amcangyfrifwyd y byddai 96% o arbedion a gynlluniwyd yn y flwyddyn wedi’u cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.
Gan edrych ar Arian At Raid a balansau, roedd angen ystyried y tanwariant arfaethedig cyfredol a dyraniadau a gytunwyd yn flaenorol, rhagwelwyd bod y balans yr Arian wrth Gefn i fod yn £8.715m. Fel y cytunwyd yn flaenorol gan y Cyngor, roedd y swm yn cael ei ddefnyddio i gau'r bwlch cyllideb ar sail unwaith yn lleihau’r cyfanswm balans sydd ar gael o £6.494m. Bydd gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r dyraniadau o’r Gronfa Hapddigwyddiad i fuddsoddi mewn newid a’r gofyniad newydd i weithredu Corff Cymeradwyo System Draenio Cynaliadwy fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Wrth geisio cadarnhad ar amrywiant cyllideb, dywedodd y Cynghorydd Heesom ei fod yn hanfodol bod dadansoddiad o wariant portffolio a oedd wedi’i atodi i’r adroddiad wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol. Siaradodd y Prif Weithredwr ynghylch yr effaith ar adnoddau i ddefnyddio dull tebyg, a bod yr ymarfer ar gyfer pob Pwyllgor i gael gwybodaeth arbedion effeithlonrwydd a phwysau o fewn eu portffolio perthnasol yn ychwanegol i faterion cyllideb yn codi fel rhan o adrodd rheolaidd ar berfformiad. Os oedd pryderon ynghylch pwnc penodol, roeddynt yn cael eu hatgyfeirio i'r Pwyllgor perthnasol neu wneud cais i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol fel yr oedd wedi cael ei wneud yn flaenorol.
Gofynnodd y Cynghorydd Heesom am ddadansoddiad diweddar o wariant Cyllid Corfforaethol a Chanolog. Dywedodd y Prif Weithredwr y bydd adroddiad yn y dyfodol yn cael ei drefnu ar gyfer y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
Mewn ymateb i ymholiad y Cynghorydd Bateman ar gyllidebau dirprwyedig ysgolion, bydd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn darparu manylion ar y canran a ddyrannwyd i gyflogau gweithwyr sef y gyfran uchaf o'r cyllidebau hynny.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Heesom ac eiliwyd gan y Cynghorydd Johnson
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r argymhellion yn yr adroddiad Cabinet ar gyfer 16 Ebrill ac yn cadarnhau nad oes unrhyw bryderon eraill y mae'n dymuno eu cyflwyno i'r Cabinet y mis hwn. |
|
Adborth o'r Gweithdy Cwynion gan Aelodau a Thrin Achosion PDF 93 KB Pwrpas: Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn cefnogi'r gweithredoedd a nodwyd yn y gweithdy i'r Holl Aelodau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad yn rhoi adborth a chynnydd ar gamau gweithredu gan weithdy cwynion gan aelodau a thrin achosion.
Dywedodd y Cynghorydd McGuill broblem wrth gael ymatebion i gwynion oedd yn cael eu hailadrodd a oedd wedi cael eu cofnodi ar y system.
Dywedodd y Cynghorydd Woolley bod rhai aelodau o’r cyhoedd wedi cael anhawster i gysylltu â swyddogion dros y ffôn.
Dywedodd y Cadeirydd y byddai mater ynghylch rhoi trwyddedau biniau brown wedi arwain at breswylwyr yn stopio ceisio cysylltu â Strydwedd am amseroedd hir. Roedd wedi profi yr un fath wrth geisio datrys ymholiadau’r preswylwyr hynny. Hefyd siaradodd am amharodrwydd parhau rhai swyddogion i gynnwys rhifau eu ffôn symudol y Cyngor o fewn eu llofnod e-bost.
Cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i ymlid y materion hyn a chynghorwyd bod y canllawiau wedi cael eu hail-gylchredeg i swyddogion. Cyfeiriodd at yr effaith o absenoldebau a swyddi gwag o fewn y Ganolfan Gyswllt yn ystod galwadau uchel am wasanaethau, a dywedodd bod Rebecca Jones wedi cael ei phenodi fel y rheolwr strategol sydd yn gyfrifol am sicrhau bod y Ganolfan Gyswllt yn cael ei gweithredu'n effeithiol.
Darparodd y Prif Weithredwr eglurhad ar y safonau am weithio'n hyblyg a bod disgwyliad bod yr unigolion hynny ar gael. Gofynnodd i Aelodau atgyfeirio problemau sydd yn ailadrodd yn unol â’r trefniadau a gytunwyd.
Awgrymodd y Cynghorydd Johnson y dylai cyfeiriadau e-bost yr Aelodau gael eu newid i gynnwys ‘cyng.’ (‘cllr’). Mewn ymateb, dywedodd y swyddogion bod y teitl yn amlwg o adran ‘properties’ yn y cyfeiriad e-bost a dylid ei adlewyrchu ar lofnod e-bost unigol. Fel y cytunwyd yn y gweithdy, gallai’r ymatebion i gwynion yr Aelodau ond gael eu blaenoriaethu ar gyfer materion nad ydynt yn arferol.
Canmolodd y Cynghorydd Heesom y gweithdy a’r swyddog arweiniol oedd ynghlwm. Dywedodd ei fod yn bwysig nad oedd Aelodau yn cael eu cyfyngu i wneud sylwadau, a bod y gair ’priodol’ yn cael ei newid i ‘gymesur’ ar restr o egwyddorion cyffredinol a nodir yn sleidiau’r cyflwyniad.
Cytunwyd y bydd diweddariad ar gynnydd gyda’r cynllun gweithredu yn cael ei drefnu ar gyfer mis Gorffennaf.
Cynigodd y Cynghorydd Woolley yr argymhellion, a chafodd eu heilio gan y Cynghorydd Bateman.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r gweithredoedd a nodwyd yn y gweithdy i'r Holl Aelodau. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |