Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 4 a 14 Mehefin 2018.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: COFNODION
Eglurodd y Cadeirydd bod y cofnodion yn cael eu cyflwyno er mwyn eu cadarnhau fel cofnod cywir ac nid er mwyn i’r Aelodau geisio adroddiadau cynnydd ar faterion penodol.
(i) Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2018.
(ii) Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2018.
Cywirdeb
Tudalen 13, cofnod rhif 20 – Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom bod y frawddeg lle'r oedd yn cyfeirio at ddadansoddiad o lefelau risg presennol yn cael ei diwygio i nodi 'er budd pobl ifanc, yr A548 a Phorthladdoedd Mostyn’.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol PDF 72 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried.
Mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom bryder na fyddai Cynllun y Cyngor yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor nes y cyfarfod a gynhelir ar 15 Tachwedd, a holodd a oedd modd ei symud ymlaen i'r cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 20 Medi. Eglurodd y Prif Weithredwr bod adroddiadau monitro ar berfformiad Cynllun y Cyngor yn cael eu darparu deirgwaith y flwyddyn. Eglurodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y gellir cyflwyno adroddiad monitro Ch1 (Ebrill i fis Mehefin) i'r Pwyllgor ym mis Medi, ond fel yn y blynyddoedd blaenorol byddai'r adroddiad canol blwyddyn ar gyfer mis Ebrill i fis Medi (a gyflwynir ym mis Tachwedd) yn dangos mwy o gynnydd.
Yn ystod y drafodaeth awgrymodd y Cynghorydd Richard Jones efallai y byddai angen gweithdy neu gyd-gyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol gyda Phwyllgorau eraill i sicrhau y cynhelir trosolwg o Gynnig Twf Gogledd Cymru. Cytunwyd y byddai adroddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am Gynnig Twf Gogledd Cymru yn cael ei gynnwys ar y rhaglen ar gyfer cyfarfod 15 Tachwedd, yn dilyn eitem Cynllun y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;
(b) Bod adroddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am Gynnig Twf Gogledd Cymru yn cael ei gynnwys ar y rhaglen ar gyfer cyfarfod 15 Tachwedd, yn dilyn eitem Cynllun y Cyngor.
(c) Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, gan ymgynghori gyda Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, os bydd angen.
|
|
Asesiad o Effaith Integredig PDF 87 KB Pwrpas: I alluogi’r Pwyllgor i ddeall a defnyddio’r Asesiad o Effaith Integredig Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i alluogi’r Pwyllgor i ddeall a defnyddio’r Asesiad o Effaith Integredig. Darparodd wybodaeth gefndir a gwahodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol i roi cyflwyniad ar yr Asesiad o Effaith Integredig. Pwyntiau allweddol y cyflwyniad oedd:
· Beth yw ystyr Asesiad o Effaith Integredig? · beth yw’r manteision? · dull Sir y Fflint · y camau nesaf
Nododd y Cynghorydd Richard Jones ganlyniadau ac effaith y camau a gymerir gan yr Awdurdod ac awgrymu bod angen darparu system symlach i gynorthwyo gyda dealltwriaeth a chraffu materion. Cydnabu’r Prif Weithredwr y sylwadau a dywedodd ei fod yn hyderus y byddai gweithdy MTFS, a gynhelir ar 23 Gorffennaf, yn ateb rhai o’r pryderon a godwyd.
Mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom bryderon fod y cynigion a gyflwynwyd ar gyfer model yr Asesiad o Effaith Integredig yn gosod safbwynt /datrysiadau i’r defnyddwyr gwasanaeth a chymunedau lleol a nododd bod angen gwneud rhagor o waith ar y pecyn offer.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Arnold Woolley at y matrics risg a nododd y gellir ei gymhwyso i ystyried effaith y cynigion gwneud penderfyniadau.
Nododd y Cadeirydd bod angen cynnwys cydraddoldeb mewn gwaith a hawliau plant yn yr Asesiad o Effaith Integredig. Holodd a gysylltwyd â Chomisiynydd Plant Cymru. Eglurodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y byddai’n olrhain hyn.
Darparodd y Prif Weithredwr sicrwydd bod effaith y penderfyniadau a wnaed gan yr Awdurdod yn cael eu hystyried yn ddilys ac yn deg. Atgoffodd y Pwyllgor mai'r bwriad oedd defnyddio'r Asesiad o Effaith Integredig (a) yn gyfatebol a (b) ar gyfer y penderfyniadau polisi ac adolygu gwasanaeth / cyllideb mwyaf sylweddol.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn croesawu’r Asesiad o Effaith Integredig ac yn deall ei ddiben a’i ddefnydd.
|
|
AMRYWIO TREFN Y RHAGLEN Cofnodion: Eglurodd y Cadeirydd y byddai eitem 8 ar y rhaglen (Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016/18 ac Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2017/18 yn cael eu dwyn ymlaen). Bydd gweddill yr eitemau yn cael eu hystyried yn y drefn a ddangosir ar y rhaglen.
|
|
Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2017/18 terfynol y Cyngor ac Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 16/18 cyn ei gyflwyno.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol adroddiad i gyflwyno Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016/18 ac Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2017/18. Darparodd wybodaeth gefndir ac egluro bod yr adroddiad yn darparu trosolwg o gynnydd o ran cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb a Safonau'r Gymraeg, ac yn nodi meysydd i'w gwella.
Mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom bryderon nad oedd lles pobl ifanc yn cael ei adlewyrchu'n ddigonol yn y Cynlluniau. Cytunodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y bydd yn cynnwys esiamplau o waith a wnaed ar gyfer pobl ifanc a phobl h?n yn y dyfodol.
Mynegodd y Cynghorydd Tudor Jones yr effaith a'r cyfle sydd gan yr Aelodau i hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn eu cymunedau lleol. Holodd y Cynghorydd Jones a oedd canlyniad archwiliad sgiliau'r Gymraeg yn cynnwys gweithwyr sy’n gweithio mewn ysgolion. Eglurodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol fod yr hyn a adroddir ar Safonau’r Gymraeg yn canolbwyntio’n bennaf ar weithwyr a bod hyrwyddiad drafft yr iaith Gymraeg yn cynnwys cymunedau. Yn ystod y drafodaeth, cytunwyd y byddai arolwg Cymraeg gweithlu’r Cyngor yn cynnwys yr Aelodau yn y dyfodol.
Holodd y Cadeirydd beth oedd cyfartaledd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer awdurdodau lleol; byddai ymateb yn cael ei anfon ar e-bost at aelodau’r Pwyllgor.
Mewn ymateb i bryder gan y Cadeirydd o ran hyrwyddo ymgysylltiad gyda hyfforddiant cydraddoldeb, eglurodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol eu bod yn hyrwyddo drwy'r Infonet a thrwy dimau rheoli gwasanaeth.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiadau blynyddol a’r meysydd o gynnydd ar gyfer gwelliant sydd wedi’u nodi; a
(b) Bod arolwg Cymraeg gweithlu’r Cyngor yn cynnwys yr Aelodau yn y dyfodol. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (alldro) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (alldro) PDF 69 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn nodi sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i ddarparu Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Alldro) ac Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Alldro) i'r Aelodau.
Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar sefyllfa Monitro’r Gyllideb Refeniw 2017/18 (Alldro) a oedd wedi’i atodi i’r adroddiad. Cyfeiriodd at sefyllfa gyffredinol Cronfa’r Cyngor a’r sefyllfa alldro terfynol fesul portffolio (yn amodol ar archwiliad). Eglurodd mai sefyllfa'r gronfa yn gyffredinol oedd bod gwariant £2.107m yn is na’r gyllideb. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y rhesymau dros yr amrywiadau wedi’u crynhoi yn atodiad 2 yr adroddiad, gydag amrywiadau portffolio arwyddocaol wedi’u hegluro ym mharagraffau 1.04 i 1.09. Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y prif ystyriaethau a chyfeirio at gyflawniad yr effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn, Cronfa'r Cyngor, y cronfeydd wrth gefn a'r balansau, ceisiadau i gario arian ymlaen a'r Cyfrif Refeniw Tai.
Tynnodd y Cynghorydd Haydn Bateman sylw at dudalen 41 yr adroddiad a cheisio eglurhad am strategaeth y gyllideb – cronfeydd wrth gefn cyffredinol. Ceisiodd wybodaeth hefyd o ran pryd y byddai’r cyfleusterau cyhoeddus yn Stryd Newydd, yr Wyddgrug, yn cau.
Ymatebodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i gwestiynau pellach a godwyd gan yr Aelodau o ran y ffigyrau a ddarparwyd ar gyfer pobl ac adnoddau ym mharagraff 1.02 yr adroddiad, a’r ceisiadau i gario cyllid drosodd.
Cynigodd y Cynghorydd Richard Jones y dylid anfon llythyr at Lywodraeth Cymru (LlC) i fynegi pryder y Pwyllgor fod grantiau’n cael eu darparu ddiwedd mis Mawrth. Nododd y Prif Weithredwr yr achos cenedlaethol a thynnodd sylw at weithdy a gynhelir ar 23 Gorffennaf. Awgrymodd efallai y byddai’r Aelodau yn dymuno aros tan ar ôl y gweithdy cyn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru. Cefnogodd y Cynghorydd Patrick Heesom y gwaith heriol a wnaed gan y Cynghorydd Richard Jones o ran materion sy’n ymwneud â’r gyllideb. Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Alldro) a oedd wedi’i atodi fel Atodiad B i’r adroddiad. Darparodd wybodaeth gefndir ac egluro bod tabl 1 ym mharagraff 1.03 yn nodi sut yr oedd y Rhaglen wedi newid yn ystod 2017/18. Nododd hefyd y newidiadau yn ystod y cyfnod hwn a arweiniodd at gynnydd net yng nghyfanswm y Rhaglen o £2.863m fel y nodwyd yn nhabl 2 yr adroddiad. Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y gwariant cyfalaf o gymharu â’r gyllideb, yr hyn sy'n cael ei gario ymlaen i 2018/19, a chyllid cynlluniau cymeradwy 2017/18, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Cynghorydd Haydn Bateman at dudalen fonitro cyllideb Cyfalaf Cynllunio a’r Amgylchedd a gofyn am wybodaeth yngl?n â lleoliad y Felin Flawd.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r sefyllfa ac yn cadarnhau nad oedd unrhyw faterion i’w hadrodd ar lafar i’r Cabinet, heblaw i adrodd y bydd llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru yn mynegi pryder y Pwyllgor o ran darparu grantiau ddiwedd mis Mawrth.
|
|
2018/19 monitro cyllideb refeniw (interim) PDF 68 KB Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r risgiau allweddol a’r problemau sy’n hysbys o ran sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer 2018/19 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad yn nodi risgiau a materion allweddol sy’n berthnasol i sefyllfa alldro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2018/19 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Eglurodd mai’r adroddiad dros dro oedd adroddiad monitro cyllideb refeniw cyntaf 2018/19 ac darparodd wybodaeth ar gynnydd o ran cyflawni effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn erbyn y targedau a osodwyd ac adrodd drwy eithriad ar amrywiadau sylweddol a allai effeithio ar y sefyllfa ariannol yn 2018/19.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol er ei bod yn gam cynnar yn y flwyddyn ariannol, effaith net cychwynnol y risgiau a'r amrywiadau sy'n dod i'r amlwg fel y nodwyd yn yr adroddiad, yw y rhagwelir bod gwariant yn £1.619m yn is na'r gyllideb. Fodd bynnag, aeth yn ei flaen i egluro ei bod yn bwysig nodi heb y buddion cyllidebol dros dro o'r Isafswm Darpariaeth Refeniw (£1.4m) a’r ad-daliad TAW (£1.9m) roedd risgiau net o £1.7m i'r Cyngor eu rheoli. Byddai gwaith monitro manwl cyntaf yr holl risgiau ac amrywiadau yn cael eu hadrodd i’r Cabinet ar 25 Medi 2018.
Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y prif ystyriaethau, o ran trafodaethau cyflog ar gyfer Staff Cenedlaethol a’r Cyngor (NJC), gorwariant lleoliadau y tu allan i’r sir, gwasanaethau iechyd meddwl – gorwariant lleoliadau preswyl, Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig, tanwariant Darpariaeth Isafswm Refeniw, a thanwariant ad-daliad TAW.
Pwysleisiodd y Cynghorydd Richard Jones y sylwadau a wnaeth mewn cyfarfodydd blaenorol yngl?n â’r galw am gronfa ganolog Cymru ar gyfer cyllid y tu allan i'r sir ar gyfer cynghorau Cymru. Nododd y Prif Weithredwr bod rhai darparwyr gofal ar draws y DU yn codi cyfraddau cost uchel anghynaliadwy ar gyfer gofal arbenigol penodol. Awgrymodd y Cynghorydd Jones y dylid anfon llythyr at LlC yn amlinellu'r angen ar gyfer cyllid ychwanegol i gynorthwyo awdurdodau lleol ac fe gytunwyd y byddai hyn yn cael ei ystyried ymhellach yn dilyn ail weithdy'r gyllideb a gynhelir ar 23 Gorffennaf.
Mewn ymateb i bryder gan y Cynghorydd Haydn Bateman o ran incwm o wastraff ailgylchu, eglurodd y Prif Weithredwr bod incwm o ailgylchu eitemau plastig, papur a cherdyn wedi gostwng yn sylweddol oherwydd newidiadau i’r farchnad ryngwladol. Nododd bod y potensial ar gyfer incwm o ailgylchu dillad yn faes y gellir ei ystyried ymhellach.
Mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom bryderon o ran y risgiau ariannol sy’n gysylltiedig ag ysgolion. Nododd nifer yr ysgolion uwchradd yn Sir y Fflint sydd mewn sefyllfa o ddiffyg ariannol ac effaith bellach posibl y dyfarniad cyflog ar gyfer athrawon a fyddai'n cael ei gytuno'n genedlaethol. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y mesurau a gymerwyd gan yr Awdurdod i wella cyllid ysgolion a nododd bod rhagor o waith ar y gweill gan y Cabinet i roi cymorth i gyllidebau ysgolion lle bynnag y bo modd yn y dyfodol fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Nododd y Prif Weithredwr mai dim ond drwy gyllid cenedlaethol y gellir datrys y risgiau ariannol nid trwy gyllid lleol.
PENDERFYNWYD:
Nododd y Pwyllgor y sefyllfa a chadarnhau nad oedd unrhyw faterion i’w ... view the full Cofnodion text for item 33. |
|
Canlyniadau refeniw buddsoddiadau mawr mewn rhaglenni cyfalaf PDF 87 KB Pwrpas: Derbyn adroddiad ar y goblygiadau Refeniw yn sgil buddsoddiadau mawr ar y rhaglen gyfalaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a darparodd gyflwyniad ar ganlyniadau refeniw buddsoddiadau mawr y rhaglen gyfalaf. Roedd hyn yn ategu at y model a groesawyd mewn cyfarfod blaenorol. Y prif gynlluniau buddsoddi a nodwyd yn y cyflwyniad oedd:
Rhaglen Buddsoddiadau Ysgolion - Ysgol Uwchradd Cei Connah
Nododd y Cynghorydd Richard Jones bod angen penderfynu ar effaith y rhaglenni cyfalaf ac awgrymodd y dylid cynnal asesiad o effaith i ddangos y buddion. Cydnabu’r Prif Weithredwr y pwynt a wnaed. Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones hefyd at gost dymchwel Neuadd y Sir – camau 3-4 a gofynnodd sut y byddai hyn yn cael ei ariannu.
Siaradodd y Cynghorydd Patrick Heesom am werth pensaernïol Neuadd y Sir a nododd y dylid amddiffyn yr adeilad. Nododd bod yr Wyddgrug yn leoliad da ac yr hoffai gadw’r gwasanaethau yn Neuadd y Sir. Pwysleisiodd y Prif Weithredwr bod symud i Unity House, Ewlo yn adleoliad rhannol gan nad oedd gan yr adeilad ddigon o le ar gyfer yr holl staff na'r holl wasanaethau sy'n cael eu darparu. Eglurodd y byddai trafodaethau yn cael eu cynnal yn hirdymor o ran datblygu safle campws Neuadd y Sir, yr Wyddgrug. Roedd campws Neuadd y Sir yn hen, yn ddrud i’w gynnal ac nid oedd yn addas i bwrpas ar gyfer gofod swyddfa gyfoes bellach.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi a chroesawu’r adroddiad.
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 12.17pm)
|