Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 6 a 14 Rhagfyr 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 6 ac 14 Rhagfyr 2017.
Cofnodion 6 Rhagfyr, 2017
Cofnod rhif 2: Cyfeiriodd y Cynghorydd Woolley at nifer o wallau teipograffyddol angen eu diwygio.
Gofynnodd y Cynghorydd McGuill a oedd y gweithdy Cynhyrchu Incwm wedi’i ddilyn i fyny a chafodd wybod y byddai Aelodau yn cael eu hysbysu unwaith y gwneir trefniadau.
Cofnodion 14 Rhagfyr, 2017
Amlygodd y Cynghorydd Jones ei bryderon am y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd lle nad oes symudiad ar ddiwedd y flwyddyn a dywedodd fod angen trafodaeth bellach ar faint ddylai ei roi yn ôl i’r gyllideb. Ailadroddodd ei sylwadau yngl?n â thrin gweddillion refeniw'r un peth â chyfalaf cyn diwedd y broses cyllid presennol yn ôl addewid y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i rannu'r manylion.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y drafodaeth yn ei absenoldeb o a’r Arweinydd o’r cyfarfod ac esboniodd bod y ddau wedi bod mewn cyfarfodydd gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y diwygiad i gofnod rhif 6, cymeradwyo’r ddwy set o gofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Adolygiad Blynyddol o Arfarniadau PDF 88 KB Pwrpas: Darparu canlyniadau’r Adolygiad Blynyddol o Arfarniadau i’r pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Uwch-Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad yn dangos dadansoddiad manwl o lefelau cwblhau gwerthusiadau ar draws pob portffolio.
Nodwyd pwysigrwydd gwerthusiadau mewn gwella polisi perfformiad a chyfarfodydd corfforaethol. Bu cydnabod y dylai gweithwyr cymwys dderbyn gwerthusiadau ystyrlon a rheolaidd. Yn dilyn adolygiad lle cytunwyd ar nifer o eithriadau, roedd adolygiad targed blynyddol fwy heriol o gwblhau 100% o werthusiadau ar gyfer gweithwyr cymwys. Rhannwyd dadansoddiad o’r cynnydd gyda gwerthusiadau o fewn pob portffolio, a oedd yn amcangyfrif bod disgwyl i 77% gael eu cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.
Mynegodd y Prif Weithredwr ei fod wedi siomi gyda’r cynnydd anghyson wrth gwblhau gwerthusiadau ar draws portffolios. Roedd yn annog gwneud gwelliannau, ac oherwydd hynny y byddai adroddiad blynyddol ar werthusiadau yn cael ei lunio yn y dyfodol. Roedd y dirywiad yng nghanran y gwerthusiadau a gwblhawyd rhwng mis Tachwedd 2016 a mis Rhagfyr 2017 yn rhannol oherwydd newid sylweddol a pharhaus ar draws y gweithlu, yn cynnwys yr effaith ar drosglwyddiadau y Model Cyflawni Amgen.
Rhoddodd y Cadeirydd ei sylwadau ar lithriant y cynnydd a cadarnhaodd y swyddogion bod y gwerthusiadau sydd heb eu gwneud eto wedi cael eu trefnu. Nododd dadansoddiad y ffigyrau ar draws y gwasanaethau, bod rheiny sydd wedi eu dal ar gyfer ‘Newid Sefydliadau 2' yn adlewyrchu nifer isel yn y portffolio hwnnw.
Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd McGuill, trafododd yr Uwch-Reolwr y datrysiadau TGCh sy’n cael eu harchwilio i gefnogi gyriant gwell i gofnodi ac adnabod patrymau.
Gofynnodd y Cynghorydd Jones am y gwahaniaeth rhwng cyrff cyhoeddus eraill i sefydlu cysylltiadau rhwng perfformiad gweithwyr a gofnodwyd drwy’r broses gwerthuso a thaliadau o gynyddrannau blynyddol. Cytunwyd y byddai Swyddogion yn edrych i mewn i hyn ac adrodd yn ôl os yw gallai hyn ei weithredu yn Sir y Fflint.
Ymatebodd yr Uwch-Reolwr i sylwadau y Cynghorydd Johnson ar yr amser paratoi sydd ei angen ar reolwyr i gynnal gwerthusiadau. Mewn ymateb i sylwadau pellach, fe gytunodd i ddarparu gwybodaeth bellach ar gwmpas rheolaeth rheolwyr.
Pwysleisiodd y Cynghorydd Woolley ar bwysigrwydd cyswllt rheolaidd rhwng rheolwyr a gweithwyr i annog teimlad o berthyn, yn enwedig i'r rheiny sy'n gweithio o bell. Siaradodd y Prif Weithredwr am y cyfrifoldebau a'r disgwyliadau sydd ar reolwyr atebol mewn rheoli perfformiad eu timau. Cytunodd y Cynghorydd Mullin gyda hyn.
Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Hughes ar godi proffil y gwerthusiadau, awgrymodd y Prif Weithredwr bod y Pwyllgor yn gohirio unrhyw benderfyniadau nes bydd adroddiad ar y sefyllfa diwedd blwyddyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wneir yn erbyn y targed a osodwyd ar gyfer cwblhau gwerthusiadau portffolios a'r Cyngor yn ei chyfanrwydd;
(b) Bod y swyddogion yn ymchwilio i unrhyw gysylltiadau rhwng perfformiad gweithwyr, a gofnodwyd drwy’r broses gwerthuso a thâl mewn cynyddrannau blynyddol o fewn graddau mewn Cynghorau eraill ac o fewn Sector Cyhoeddus Cymru;
(c) Bod swyddogion yn ystyried os yw cyflwyno'r fath gynllun yn ymarferol yn Sir y Fflint ac yn adrodd yn ôl mewn cyfarfod yn y dyfodol; ... view the full Cofnodion text for item 60. |
|
Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 8) PDF 68 KB Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 8) i’r Aelodau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2017/18 fel yr oedd ym Mis 8 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.
Ar Gronfa’r Cyngor, y sefyllfa net flynyddol disgwyliedig (heb ei liniaru i leihau pwysau costau a gwella’r cynnyrch ar gynllunio effeithlonrwydd) oedd bod disgwyl gwario £0.846 miliwn yn uwch na’r gyllideb, yn adlewyrchu lleihad o £0.416 miliwn yn Mis 7. Yr amrywiaethau mwyaf sylweddol disgwyliedig oedd llai o wario ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Cyngor lle fyddai’r angen yn parhau i gael ei fonitro, ac amrywiad positif ar gronfa gasglu Treth y Cyngor oherwydd diwedd y gwaith ar adolygiad Disgownt Person Sengl. Adroddwyd cynnydd sylweddol yn nhanwariant Cyllid Corfforaethol a Chanolog, yn bennaf oherwydd lleihad yng nghostau pensiwn y flwyddyn.
Amcangyfrifwyd y byddai 94% o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn cael eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn. Roedd effaith posib hyn ar gyllideb 2018/19 yn cael ei fonitro’n agos, ynghyd â nifer o risgiau newydd yn ymddangos yn ystod y flwyddyn megis y defnydd posib o gronfeydd wrth gefn o’r gyllideb cynnal a chadw, yn amodol ar amodau’r tywydd.
Dangosodd diweddariad ar gronfeydd a gweddillion gwerth £4.236 miliwn o gronfeydd arian at raid yn ddisgwyliedig erbyn diwedd y flwyddyn.
Ar y Cyfrif Refeniw Tai, rhagamcanwyd y byddai gwariant yn ystod y flwyddyn £0.035m yn is na’r gyllideb, gan adael balans o £1.081 ar ddiwedd y flwyddyn sy’n uwch na’r lefel isaf a argymhellir.
Gofynnodd Aelodau bod eu diolch yn cael ei fynegi i dimau Strydwedd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith yn ystod y tywydd gwael diweddar.
Fel y trafodwyd yn flaenorol, cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i sicrhau bod y ffigwr mewn bracedi coch yn cael ei ailosod ar gyfer tanwariant mewn adroddiadau monitro cyllid yn y dyfodol. Cytunodd hefyd i ddarparu eglurhad ar ffioedd Rheoli Plâu ac Anifeiliaid yn Atodiad 3 yr adroddiad Cabinet, fel y gofynnodd y Cynghorydd Johnson.
Mynegodd Aelodau eu pryderon yngl?n â gorwario parhaus ar Leoliadau Tu Allan i’r Sir a gofynnwyd i'r mater gael ei atgyferio at ystyriaeth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.
Crynhodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y penderfyniad, fel y cytunwyd gan Aelodau, a byddai’n cynghori’r Arweinydd a’r swyddogion statudol dros neges e-bost, gan anfon copi at y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi adroddiad Mis 8 Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 a chadarnhau ar yr achlysur hwn bod y materion sydd angen sylw’r Cabinet yn bryderon ar orwariant ar leoliadau Tu Allan i’r Sir, fel y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1.05 ac 1.06 yr adroddiad Cabinet. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 72 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth gyflwyno’r Rhaglen Waith i'r Dyfodol presennol ar gyfer ystyriaeth, awgrymodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod yr eitem ar ddull ‘gwario’n deg’ yn cael ei ohirio tan fis Mawrth neu Ebrill, o ystyried faint o waith paratoi fydd gan y Tîm Cyllid.
Wrth sôn am yr un mater, dywedodd y Cynghorydd Heesom bod angen trafodaeth bellach i gyfeirio at anghysondeb ar draws ardaloedd y sir.
Yn dilyn trafodaeth a gafwyd eisoes, byddai diweddariad ar werthusiadau yn cael eu hamserlennu ar gyfer mis Ebrill neu Fai.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo gyda diwygiadau; a
· Bod adroddiad ar sut i gyflwyno’r wybodaeth (ac amlder) y dull ‘gwario teg mewn trefi’ (yn unol â rhybudd Cynnig ger bron y Cyngor ym mis Rhagfyr 2017) yn cael ei symud o gyfarfod mis Chwefror i gyfarfod mis Mawrth neu Ebrill;
· Bod adroddiad diweddaru ar Werthusiadau’n cael ei lunio erbyn cyfarfodydd mis Ebrill neu Fai.
(b) Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd yn cael amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, os bydd angen. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |