Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

29.

AMRYWIO TREFN Y RHAGLEN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod newid yn nhrefn busnes er mwyn galluogi’r Rheolwr Archwilio Mewnol i gyflwyno eitemau agenda 8-13. Byddai gweddill yr eitemau'n cael eu hystyried yn y drefn ar y rhaglen.

30.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel aelod o Fwrdd NEW Homes, datganodd y Cynghorydd Janet Axworthy ddiddordeb personol yn eitem 4 ar y rhaglen – Diweddariad Chwarter 4 Rheoli’r Trysorlys.

31.

Cofnodion pdf icon PDF 97 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 27 Ionawr 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2021, fel y’u cynigiwyd gan Allan Rainford a’u heilio gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.

 

Materion yn Codi

 

Cofnod rhif 22 – tynnodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) sylw at y penderfyniad diwygiedig i egluro fod ddeddfwriaeth yn caniatáu i Aelod etholedig gael ei benodi yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.  Roedd hyn wedi ei gyfathrebu i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod ym mis Ionawr.

 

Cofnod rhif 23 – fel yr awgryma Sally Ellis, cytunwyd y dylid cynnig y ddau le sy’n weddill ar y panel recriwtio ar gyfer yr aelod lleyg ychwanegol i un o’r aelodau lleyg presennol ac un o aelodau etholedig y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

32.

Adolygiad o Gyfansoddiad y Cyngor / Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 87 KB

Ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Archwilio i newid enw Pwyllgor Archwilio’r Cyngor a chynnwys swyddogaethau newydd yng nghylch gorchwyl presennol y Pwyllgor a ail-enwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol adroddiad i nodi newid enw’r Pwyllgor Archwilio i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, gyda swyddogaethau ychwanegol i’w cynnwys yn y Cylch Gorchwyl.  Byddai adroddiad ar y newidiadau yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiadol cyn eu cymeradwyo gan y Cyngor Sir i’w gweithredu o fis Ebrill 2021.  Fel yr adroddwyd yn y cyfarfod blaenorol, byddai newidiadau pellach i gyfansoddiad y Pwyllgor a ailenwyd yn cael eu cyflwyno o fis Mai 2022.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan Sally Ellis, dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y byddai amserlen yn cael ei pharatoi mewn cydweithrediad a’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i sicrhau fod y Pwyllgor wedi ei arfogi a’r wybodaeth a’r hyfforddiant angenrheidiol i gyflawni ei ddyletswyddau newydd. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau hyfforddiant ar y cyd gyda chynghorau eraill. Rhoddwyd eglurder hefyd i Allan Rainford yngl?n ag adroddiadau panel annibynnol ar asesiadau cyfoedion gyda chynghorau eraill o dan y dyletswyddau newydd.

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson am yr angen i gynnwys agweddau llywodraethu yn yr hyfforddiant archwilio statudol a roddwyd i’r rhai ar y Pwyllgor. Cafodd hyn ei gydnabod gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) a gyfeiriodd at gyswllt gyda chynghorau eraill ar ddehongli cyson ar y gofynion newydd. Cytunwyd ar newid i’r geiriad yn adran 7.02 y Cylch Gorchwyl er mwyn eglurder.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Janet Axworthy gefnogi’r argymhelliad ac fe’i heiliwyd gan Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod enw diwygiedig Pwyllgor Archwilio’r Cyngor yn cael ei gydnabod a’r swyddogaethau newydd yn cael eu nodi yn y Ddeddf a gynhwysir yng Nghylch Gorchwyl y Pwyllgor a ailenwyd.

33.

Cynllun Strategol Archwilio Mewnol pdf icon PDF 92 KB

Cyflwyno’r Cynllun Archwilio Mewnol arfaethedig ar gyfer 2021/22 - 2023/24 er ystyriaeth yr Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y Cynllun Strategol Archwilio Mewnol tair blynedd ar gyfer 2021-2024 oedd wedi ei ddatblygu gan ddefnyddio mapio gwarant, canlyniad gwaith archwilio blaenorol, risgiau newydd a rhai sy’n datblygu ac ymgynghori gydag uwch swyddogion ac Archwilio Cymru. Er y byddai pob adolygiad blynyddol a rhai uchel eu blaenoriaeth yn cael eu gwneud o fewn 2021/22, byddai archwiliadau blaenoriaeth ganolig yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gyda deiliaid portffolio. Byddai unrhyw waith i ymateb i faterion sy’n codi neu yn ymwneud â sefyllfa frys yn cael blaenoriaeth dros adolygiadau blaenoriaeth ganolig.

 

Croesawodd y Prif Weithredwr y Cynllun cynhwysfawr. Er y gallai peth o’r gwaith gael ei oedi oherwydd problemau gallu, disgwyliwyd i’r Cynllun gael ei gyflwyno’n gyffredinol ar amser o fewn blwyddyn.

 

Myfyriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ar werth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol o fewn y sefydliad a dywedodd fod rhai archwiliadau yn ymwneud â materion cyfredol wedi eu blaenoriaethu.

 

Pan ofynnodd Sally Ellis, cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio Mewnol fod lefelau is o adnoddau eleni wedi eu cynnwys fel ffactorau yn y Cynllun ac y byddai rhai adolygiadau blaenoriaeth ganoligyn rhoi mwy o gydbwysedd a hyblygrwydd o ystyried ansicrwydd y sefyllfa argyfwng. Rhoddodd fanylion hefyd am amrywiol ffrydiau gwaith yngl?n â chynlluniau atal twyll.

 

Ailadroddodd y Prif Weithredwr yr ymrwymiad parhaus na fyddai Archwilio Mewnol yn cael ei leihau ar unrhyw bryd heb gytundeb y Pwyllgor.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Paul Johnson a Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried y meysydd dan sylw, gan gynnwys y rhai a flaenoriaethwyd ar gyfer y flwyddyn gyntaf, a lefel adnoddau’r archwiliad, mae’r Pwyllgor yn cymeradwyo Cynllun Strategol Archwilio Mewnol Sir y Fflint ar gyfer 2021-2024.

34.

Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus pdf icon PDF 89 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am ganlyniadau’r asesiad mewnol blynyddol mewn perthynas â chydymffurfio â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol ganlyniadau’r asesiad mewnol blynyddol o gydymffurfiaeth â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. Roedd canlyniadau’r hunanasesiad mewnol ar gyfer 2020/21 a’r asesiad allanol a gyflawnwyd ar gyfer 2016/17 yn dynodi bod y gwasanaeth yn cydymffurfio â’r safonau ymhob maes arwyddocaol ac yn gweithredu’n annibynnol ac yn wrthrychol.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cynnydd r gamau i fynd i’r afael ag elfennau o gydymffurfiaeth rhannol ac un achos o ddiffyg cydymffurfiaeth.

 

Eiliwyd cynnig y Cynghorydd Paul Johnson i dderbyn yr adroddiad a’i ganfyddiadau gan y Cynghorydd Janet Axworthy.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad a’i ddarganfyddiadau am yr hunanasesiad.

35.

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol pdf icon PDF 92 KB

Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol yr adroddiad rheolaidd yn dangos cynnydd yn erbyn y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol.

 

Ers yr adroddiad diwethaf, nid oedd yr un adroddiad Coch (sicrwydd cyfyngedig) a dim ond un adroddiad Oren Goch (peth sicrwydd) ar yr adolygiad Gofal Iechyd Parhaus. Nodwyd fod cyfanswm y camau gweithredu oedd yn aros wedi lleihau ers cyhoeddi’r adroddiad.

 

Mynegodd Sally Ellis bryderon yngl?n â nifer y camau gweithredu oedd yn aros, yn enwedig y rhai oedd wedi eu nodi fel blaenoriaeth uchel. Wrth gydnabod yr amrywiol resymau allai arwain at oedi, cytunodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y byddai’n cysylltu â’r rheolwyr dan sylw fel y gallai’r Pwyllgor dderbyn diweddariad am sefyllfa’r camau gweithredu ar faterion blaenoriaeth uchel.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai ef a Phrif Swyddog (Llywodraethu) a’r Rheolwr Archwilio Mewnol yn cysylltu gyda Thîm y Prif Swyddog yngl?n ag adolygu camau gweithredu o sy’n aros ar faterion o bwys uchel, er mwyn rhoi sicrwydd ac eglurder i’r Pwyllgor. Yngl?n â chamau gweithredu’r adolygiad Gofal Iechyd Parhaus, dywedodd fod y mater wedi ei uwchgyfeirio i lefel rhanbarthol a’i fod wedi ei godi’n uniongyrchol gyda’r Bwrdd Iechyd. Nododd y Prif Swyddog (Llywodraethu) mai mater o ariannu oedd hyn, ac y cai’r cynnydd ei fonitro gan y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Adnoddau Corfforaethol o dan ei raglen gwaith i’r dyfodol ym mlwyddyn newydd y Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Paul Johnson, rhoddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol eglurder yngl?n ag adolygiad y gwasanaeth Rheoli Plâu.

 

Yn dilyn pryderon a godwyd gan Allan Rainford am gynnydd y camau gweithredu oedd yn aros, rhoddodd y Rheolwr Archwilio Mewn sicrwydd y byddai’n ymgysylltu a’r gwasanaethau rheiny er mwyn ymestyn dyddiadau cau a chynorthwyo gyda chwblhau camau gweithredu.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Paul Johnson a Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad.

36.

Olrhain Gweithred y Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 79 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y camau gweithredu sy’n codi o’r pwyntiau a godwyd mewn cyfarfodydd Pwyllgor Archwilio blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol ddiweddariad ar y camau gweithredu oedd yn codi o gyfarfodydd blaenorol, a dywedodd y byddai’r gweithdy ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn cael ei gynnal ar brynhawn 21 Ebrill 2021.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Paul Johnson a Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad ac yn croesawu’r cynnydd a wnaed.

37.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 83 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i'w hystyried, gan gynnwys cynigion ers yr adroddiad diwethaf. Bydd yr eitemau a restrir yn cael eu hadolygu i roi ystyriaeth i gyfrifoldebau ychwanegol sy’n codi o newidiadau i ddeddfwriaeth.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Janet Axworthy a Paul Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

 (b)      Awdurdodi Rheolwr yr adran Archwilio Mewnol, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

38.

Diweddariad Chwarter 4 Rheoli'r Trysorlys 2020/21 pdf icon PDF 119 KB

Mae’radroddiad yn rhoi diweddariad ar faterion sy’n ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd mis Chwefror 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Technegol Dros Dro ddiweddariad ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd Chwefror 2021.  Adroddwyd ar sefyllfa’r Cyngor yngl?n â buddsoddiadau a benthyca tymor hir a thymor byr, yn ogystal â diweddariad ar gyd-destun economaidd a’r rhagolygon cyfraddau llog.

 

Cododd Allan Rainford nifer o bwyntiau yngl?n â’r portffolios buddsoddi a benthyca tymor byr. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Technegol Dros Dro fod defnyddio Cronfeydd Marchnad Arian yn helpu i arallgyfeirio buddsoddiadau o fewn rhychwant y strategaeth, a bod buddsoddiadau’n cael eu rheoli bob dydd i wneud yn fawr o’r sefyllfa a chynllunio at y dyfodol.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan Sally Ellis, eglurwyd fod defnyddio Cronfeydd Marchnad Arian yn bodloni dull darbodus y Cyngor o fuddsoddi – yn enwedig yn ystod sefyllfa’r argyfwng – er mwyn rheoli risg ac elw.

 

Yngl?n â ffurf yr atodiadau, awgrymodd y Cynghorydd Paul Johnson fod y portffolio buddsoddi yn cynnwys y cyfanswm o’r flwyddyn flaenorol er mwyn eu cymharu a bod y portffolio benthyca tymor byr yn cael ei restru yn nhrefn y dyddiad cychwyn er mwyn gweld y patrwm benthyca drwy gydol y cyfnod. Wrth ymateb i gwestiwn pellach, nid oedd effaith sylweddol ar y llif arian yn deillio o’r sefyllfa frys.

 

Wrth i’r Aelod Cabinet Cyllid, roedd y Cynghorydd Glyn Banks yn croesawu darganfyddiadau’r adroddiad.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod swyddogion ynystyried y sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Johnson i nodi ffordd fwy hygyrch o gyflwyno’r wybodaeth.

 

Cytunai’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a hyn gan ddweud y gellid dangos gwelliannau tebyg yn yr adroddiad canlyniad sydd i ddod yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

 

Ar y sail hwnnw, cynigiodd y Cynghorydd Paul Johnson gefnogi’r argymhelliad ac fe’i eiliwyd gan Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod diweddariad chwarter Rheoli Trysorlys 2020/21 yn cael ei gefnogi; a

 

 (b)      Bod swyddogion yn ymchwilio i ddewisiadau yngl?n a’r ffordd orau o gyflwyno’r data yn adroddiadau’r dyfodol.

39.

Diweddariad Rheoli Risg pdf icon PDF 81 KB

I gefnogi’r Protocol Uwchgyfeirio Risg o fewn y fframwaith rheoli risg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i gefnogi’r Protocol Uwchgyfeirio Risg fel rhan o’r fframwaith rholi risg a ddiweddarwyd ac a ystyriwyd ym mis Tachwedd 2020.

 

Roedd y protocol yn nodi’r disgwyliadau ar gyfer uwchgyfeirio risg sylweddol ble na ellid ei liniaru neu reoli/leihau ei gyfradd. Tra roedd hyn yn cynnwys risgiau gweithredol, cadwyd cofnodion risg hefyd ar gyfer prosiectau allweddol, a chafodd cynnwys risg ei ychwaneg at adroddiadau pwyllgorau allweddol er mwyn helpu'r broses benderfynu. Byddai’r dull systematig a fabwysiadwyd yn ystod y sefyllfa frys – a gydnabuwyd gan y Pwyllgor, Aelodau ac Archwilio Cymru – yn parhau pan fyddai trefniadau gweithredu arferol yn dychwelyd a chaent eu dilysu gan waith Archwilio Mewnol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Janet Axworthy gefnogi’r argymhelliad ac fe’i heiliwyd gan Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r protocol uwchgyfeirio.

40.

Cynllun Archwilio Archwilio Cymru 2021 pdf icon PDF 85 KB

Adolygu Cynllun Archwilio - Archwilio Cymru 2021 ar gyfer y Cyngor sy’n nodi’r gwaith archwilio arfaethedig ar gyfer y flwyddyn, yn ogystal ag amserlen, costau a’r timoedd archwilio sy’n gyfrifol am gynnal y gwaith.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Gynllun Archwilio gan Archwilio Cymru ar gyfer 2021 oedd yn nodi’r trefniadau a’r cyfrifoldebau ar gyfer gwaith archwilio arfaethedig i’r Cyngor yn ystod y flwyddyn gydag amserlenni, costau a’r timau archwilio oedd yn gyfrifol am gynnal y gwaith.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ei gefnogaeth ar gyfer cynnwys y Cynllun Archwilio yr ymgynghorwyd â’r swyddogion yngl?n ag ef.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, cyfeiriodd Gwilym Bury o Archwilio Cymru at yr amserlen gychwynnol a roddwyd ar gyfer cwblhau’r gwaith archwilio ac y gallai’r sefyllfa argyfwng effeithio ar hynny o bosibl.  Roedd ffioedd archwilio ar gyfer gwaith archwilio cyfrifon a pherfformiad yn aros yr un fath â’r llynedd, a’r ffi arfaethedig ar gyfer gwaith ardystio grantiau yn ddibynnol ar faint yr archwilio oedd ei angen.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford, dywedodd Gwilym Bury fod gwaith Archwilio Cymru ar wydnwch ariannol o dan Gynlllun Archwilio 2021/21 ar fin cychwyn ac yr adroddid ar y darganfyddiadau ar gyfer Sir y Fflint yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr y cai’r adroddiadau eu rhannu gyda’r Pwyllgor hefyd a’r darganfyddiadau’n cael ei cynnwys yn y cynllunio ariannol. Dywedodd y byddai strategaeth ariannol y Cyngor yn aros yr un fath mwy neu lai er mwyn amddiffyn gwasanaethau a pharhau’r achos dros well Setliad gan Lywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Paul Johnson, rhoddodd Gwilym Bury gefndir yngl?n a’r angen i gynghorau gydymffurfio ag egwyddorion datblygu cynaliadwy fel y’u nodir mewn deddfwriaeth.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geoff Collett gefnogi’r argymhelliad ac fe’i heiliwyd gan Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi Cynllun Archwilio Cymru.

41.

Sicrwydd Rheoleiddio Allanol pdf icon PDF 90 KB

Cefnogi’r crynodeb o’r holl adroddiadau rheoleiddio allanol a dderbyniwyd yn ystod 2019/20 ynghyd ag ymateb y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad cryno i roi sicrwydd bod yr adroddiadau gan reoleiddwyr ac arolygwyr allanol yn 2019/20 wedi cael eu hystyried yn unol â’r protocol adrodd mewnol cytunedig, a bod y camau gweithredu wedi eu cyflawni mewn ymateb i’r argymhellion.

 

Er nad oedd gofyn am ymateb lleol i astudiaethau cenedlaethol, gwelwyd dull y Cyngor o ymateb a chynnwys gwaith lleol fel arfer dda. Roedd y protocol adrodd a atodwyd at yr adroddiad yn nodi’r trefniadau i ymatebion ar gyfer gwaith lleol penodol gael ei archwilio ac i ddarparu sicrwydd ar agweddau llywodraethu.

 

Dywedodd Gwilym Bury fod pob adroddiad wedi ei gynnwys yn yr Adroddiad Archwilio Blynyddol a ystyriwyd yn y cyfarfod blaenorol.

 

Ceisidd Sally Ellis sicrwydd fod trefniadau mewn lle i fonitro cynnydd ar gamau gweithredu sy’n deillio o’r adroddiadau, gan nad oedd hyn yn glir bob amser. Siaradodd y Prif Weithredwr am atebolrwydd gan y Prif Swyddog a’r Aelod Cabinet perthnasol. Tra roedd y Cyngor yn adrodd yn ffurfiol ar adroddiadau lleol, nid oedd gofyn gwneud hynny ar gyfer adroddiadau cenedlaethol, ond roedd Pwyllgorau Archwilio a Throsolwg yn gallu rhoi eitemau o ddiddordeb ar eu rhaglenni gwaith i’r dyfodol.  Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r adroddiad yn cael ei rannu gyda’r Cadeiryddion a’r Is-gadeiryddion Archwilio a Throsolwg er mwyn tynnu sylw at unrhyw feysydd diddordeb ar gyfer blaen-gynllunio adroddiadau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y cyfarfod cyswllt blynyddol gyda’r Cadeiryddion Archwilio a Throsolwg – a oedd wedi ei oedi yn ystod y sefyllfa argyfwng – yn cael ei aildrefnu gan fod hyn yn dechneg ddefnyddiol i godi ymwybyddiaeth o bynciau o ddiddordeb.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Andy Dunbobbin a Paul Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor wedi derbyn sicrwydd dros ymateb y Cyngor i ddarnau o waith rheoleiddio allanol.

42.

PRESENOLDEB AELODAU O'R WASG

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.