Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
DIRPRWYO Cofnodion: Yn unol â’r gofynion Cyfansoddiadol, cytunodd y Pwyllgor i ganiatáu’r i’r Cynghorydd Mike Peers ddirprwyo i’r Cynghorydd Arnold Woolley. Cadarnhawyd bod y Cynghorydd Peers wedi ymgymryd â’r hyfforddiant archwilio angenrheidiol.
PENDERFYNWYD:
Caniatáu’r i’r Cynghorydd Mike Peers i ddirprwyo yn y cyfarfod. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Datganodd y Cadeirydd, y Cynghorwyr Holgate a Johnson, a Sally Ellis, gysylltiad personol yn Eitem 8 ar y Rhaglen gan eu bod yn aelodau o Gronfa Bensiynau Clwyd.
O ran eitem 9 ar y rhaglen, datganodd y Cadeirydd a Sally Ellis gysylltiad personol ag Ysgol Gymunedol Sirol Penarlâg ac Ysgol Alun yr Wyddgrug, yn y drefn honno. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Medi 2018. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2018. Gofynnodd y Cynghorydd Dunbobbin am gael cofnodi ei ymddiheuriadau.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y diwygiad, cymeradwyo’r cofnod fel gwir gofnod a chawsant eu harwyddo gan y Cadeirydd. |
|
Adroddiad Blynyddol Gwelliant gan Archwilydd Cyffredinol Cymru PDF 84 KB Derbyn yr Adroddiad Gwella Blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a nodi ymateb y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Gwilym Bury Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) a oedd yn crynhoi’r gwaith archwilio a rheoleiddio yr ymgymerwyd ag ef yn y Cyngor ers yr adroddiad diwethaf a gyhoeddwyd ym Medi 2017. Roedd yr adroddiad, nad oedd yn gwneud unrhyw argymhellion ffurfiol, yn dod i’r casgliad bod y Cyngor yn cyflawni ei ofynion statudol mewn perthynas â gwelliant parhaus.
Roedd y Prif Weithredwr yn cydnabod y pedwar cynnig gwirfoddol newydd ar gyfer gwella, a allai wella effeithiolrwydd y swyddogaeth Drosolwg a Chraffu. Tra bo gwaith yn mynd rhagddo ar yr awgrymiadau hynny, roedd y Cyngor hefyd yn ymgymryd â hunanasesiad o berfformiad corfforaethol cyffredinol y gellid ei ddefnyddio i gynorthwyo SAC yn yr Adroddiad Gwella Blynyddol nesaf.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Johnson at yr her o gyflawni gwelliant parhaus yng ngolau llai o gyllid. Dywedodd y Prif Weithredwr bod y datganiadau gwydnwch ar gyfer bob portffolio gwasanaeth, a rannwyd yn ystod proses y gyllideb, wedi nodi’r risgiau o ran gwneud rhagor o doriadau i’r gyllideb y tu hwnt i’r rheiny a nodwyd eisoes. Dywedodd bod hunanwella yn dal i fod yn amcan parhaus fel y dangoswyd yn hanes blaenorol y Cyngor.
Cyfeiriodd Sally Ellis at argymhellion yr adroddiad cenedlaethol, yr oedd rhai ohonynt yn ymwneud â meysydd adroddiadau ‘coch’ ar gyfer Sir y Fflint. Cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y byddid yn mynd i’r afael â phob un o’r meysydd fel rhan o’r rhaglen waith Archwilio Mewnol.
Dywedodd y Prif Weithredwr, er nad oedd gofyn ymateb i argymhellion yr adroddiad cenedlaethol, mai ymagwedd y Cyngor oedd eu hystyried er mwyn nodi unrhyw bwyntiau dysgu er mwyn cryfhau trefniadau presennol ymhellach.
Dywedodd y Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu y byddai’r adroddiad blynyddol ar arolygiadau allanol, oedd ar y rhaglen ar gyfer y cyfarfod nesaf, yn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor bod adroddiadau cenedlaethol yn ogystal â rhai lleol yn cael eu nodi.
Diolchodd y Cynghorydd Johnson i’r swyddogion am gyfarfod cadarnhaol y Pwyllgor Cyswllt Archwilio a Chraffu a gynhaliwyd yn ddiweddar.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor wedi’u sicrhau ynghylch Adroddiad Gwella Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2017/18. |
|
Gwarediad Asedau a Derbyniadau Cyfalaf a Gynhyrchwyd 2017/18 PDF 84 KB Hysbysu Aelodau o Warediadau Asedau 17/18. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad blynyddol a oedd yn crynhoi gwarediadau tir a derbyniadau cyfalaf a wireddwyd yn ystod 2017/18. Roedd derbyniadau cyfalaf yn cael eu halinio i gyfrannu tuag at raglen y Cyngor o gynlluniau cyfalaf, sy’n cynnwys rhai ar raddfa fawr ac ar raddfa fechan ar draws pob portffolio. Fe’u hatgoffwyd o’r goblygiadau o ran refeniw o wariant cyfalaf, ynghyd â’r gostyngiad mewn cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwariant cyfalaf, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Gofynnodd y Cynghorydd Peers am ddadansoddiad o’r costau o ran y rhestr o warediadau asedau, gan nad ymddengys ei fod yn cynnwys safle penodol. Eglurodd y Prif Swyddog nad oedd y gwarediad dan sylw wedi’i dderbyn yn llawn gan ei fod yn seiliedig ar ei gyflawni fesul cam, a bod y wybodaeth wedi’i chrynhoi am resymau sensitifrwydd masnachol. Ceisiodd y Cynghorydd Peers wybodaeth am werth llawn yr eitem honno ac i ba raddau y byddai’r Cyngor yn manteisio ar yr ymagwedd fesul cam. Dywedodd y Pwyllgor Gwaith y byddai papur briffio preifat yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor.
Roedd Sally Ellis yn cofio’r drafodaeth am yr adroddiad yn 2017 o ran yr angen i adolygu’r meini prawf yn rheolaidd ar gyfer nodi derbyniadau cyfalaf posibl, yn enwedig o ystyried pwysigrwydd gwneud y gorau o gymorth ar gyfer cynlluniau cyfalaf. Dywedodd y Prif Swyddog bod canfyddiadau adolygiadau yr ymgymerwyd â hwy ar draws portffolios yn cael eu hystyried ar hyn o bryd er mwyn asesu addasrwydd safleoedd ar gyfer gwaredu neu fuddsoddi, yn dibynnu ar rymoedd y farchnad yn yr ardaloedd hynny. Roedd hyn yn cynnwys adolygiadau o ystadau diwydiannol tra bo ystadau amaethyddol yn destun adolygiad parhaus.
Yn dilyn y wybodaeth a rannwyd, cytunwyd nad oedd angen mwyach am yr adroddiad diweddaru ar y meini prawf, oedd i fod i gael ei gyflwyno ym mis Ionawr.
Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r derbyniadau cyfalaf rhagamcanol sy’n cefnogir Rhaglen Gyfalaf yn ffurfio rhan o ddiweddaru’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn fuan yn y Flwyddyn Newydd.
Dywedodd y Prif Swyddog y byddai hyn yn cael ei adlewyrchu hefyd yn y Strategaeth Gyfalaf a oedd i fod i gael ei diweddaru.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad. |
|
Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2018/18 a Diweddariad Chwarterol 2 PDF 114 KB I gyflwyno adroddiad drafft canol blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2018/19 i'w adolygu, gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgaredd Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod y cyfnod 1 Gorffennaf hyd at 31 Medi 2018. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Dros Dro (Cyfrifyddiaeth Dechnegol) Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys drafft ar gyfer 2018/19 cyn ei ystyried gan y Cabinet. Rhannwyd diweddariad ar Chwarter 2 er gwybodaeth.
Roedd crynodeb o’r pwyntiau allweddol yn amlygu’r cynnydd yng nghyfradd sylfaenol y Bank of England a newidiadau rheoleiddiol sydd ar ddod. Nid oedd unrhyw newidiadau i’r sefyllfa fenthyciadau hirdymor, ac ymgymerwyd â benthyca tymor byr yn unol â’r strategaeth. Byddai ymagwedd wahanol i’r modd y mae Cronfeydd Marchnad Arian yn cael eu diffinio yn lleihau’r risg o ran y buddsoddiadau hynny.
Roedd diweddariad ar Chwarter 2 yn nodi’r sefyllfa bresennol o ran gweithgareddau rheoli’r trysorlys, gydag atodiad a oedd yn nodi dadansoddiad o fuddsoddiadau a benthyciadau. Fel rhan o strategaeth y Cyngor, roedd sesiwn hyfforddi Rheoli’r Trysorlys ar gyfer yr holl Aelodau wedi’i drefnu ar gyfer 29 Ionawr 2019.
Holodd y Cynghorydd Peers ynghylch y llog o £6.4m sy’n daladwy ar fenthyciadau a ddangosir ym mharagraff 5.04. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Interim bod hyn yn adlewyrchu’r sefyllfa ganol blwyddyn a bod y mwyafrif o’r taliadau’n adlewyrchu penderfyniadau hanesyddol o ran benthyciadau. Ymgymerwyd ag adolygiadau gydag ymgynghorwyr rheoli’r trysorlys yn ystyried amodau’r farchnad ar yr adeg honno. Roedd y mwyafrif o’r benthyciadau’n daliadau aeddfedu.
Dywedodd y Cynghorydd Peers ei bod yn bwysig deall y gost i’r Cyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr bod hwn yn destun cymhleth. Dywedodd bod graddau’r craffu ar fenthyciadau yn llawer mwy cadarn a thryloyw erbyn hyn, a bod rhaid i unrhyw strategaeth ymadael ar gyfer ymrwymiadau benthyciadau fod yn sensitif i amodau’r farchnad.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Johnson, rhoddwyd eglurhad o’r mathau o sefydliadau yr oedd y Cyngor yn buddsoddi gyda hwy ynghyd â’r newid i Ddiwygio Marchnad yr UE a oedd yn lleihau ymhellach y risg o fuddsoddi gyda Chronfeydd Marchnad Arian. Yn ystod y drafodaeth ar effaith bosibl Brexit, eglurwyd nad oedd unrhyw effaith ar fenthyciadau presennol gan fod yr ansicrwydd yn ymwneud â marchnadoedd i’r dyfodol. Roedd y daflen a rannwyd â’r Cyngor ym mis Hydref wedi amlinellu’r risgiau posibl i’r Cyngor ac roedd swyddogion yn cyfrannu at waith cenedlaethol ar rannu risg ac ymarfer.
PENDERFYNWYD:
Bod Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys drafft 2018/19 yn cael ei argymell i’r Cabinet ar 18 Rhagfyr 2018. |
|
Defnyddio Ymgynghorwyr PDF 83 KB Ystyried cydymffurfio â phrosesau a gweithdrefnau o ran gwariant ymgynghoriaeth, a chywirdeb codio gwariant ymgynghorwyr ar y cyfriflyfr cyffredinol. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar yr adolygiad blynyddol o wariant ar ymgynghorwyr i sicrhau cywirdeb y ffigyrau ar y cyfeirlyfr cyffredinol ynghyd â chydymffurfio â’r prosesau cytunedig.
Holodd Sally Ellis am yr adolygiadau ôl-aseiniad ar gyfer achosion busnes ymgynghoriaethau yn 2017/18 a rhoddwyd gwybod y byddai’r rhain yn cael eu gwneud ar ôl cwblhau’r prosiectau hynny. Roedd adolygiadau ar gyfer ymgynghorwyr a gyflogwyd yn 2016/17 wedi cael eu cwblhau.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cael ei sicrhau bod gwariant ar ymgynghorwyr yn cael ei reoli a bod y Cyngor yn cyflawni gwerth am arian. |
|
Trefn Lywodraethol Cronfa Bensiwn Clwyd PDF 470 KB Darparu sicrwydd ar drefniadau llywodraethol Cronfa Bensiwn Clwyd a gwerth am arian ffioedd rheolwr y gronfa. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Cronfa Bensiynau Clwyd adroddiad i roi sicrwydd ynghylch trefniadau llywodraethol Cronfa Bensiwn Clwyd (CBC) a gwerth am arian o ran ffioedd rheolwr y gronfa, fel y gofynnwyd yn y cyfarfod blaenorol.
Roedd y diagram yn yr adroddiad yn dangos y strwythur llywodraethu presennol a oedd wedi’i ehangu dros amser er mwyn cyflawni’r gofynion. Eglurwyd bod ffioedd a bennwyd gan yr ymgynghorydd buddsoddi ar y Panel Ymgynghorol yna’n destun cytundeb gan Bwyllgor CBC, o dan oruchwyliaeth y Bwrdd Pensiynau Statudol. Tra bo pob awdurdod yn pennu ei strategaeth ei hun, byddai’n cael ei weithredu drwy Bartneriaeth Pensiynau Cymru a oedd yn darparu’r platfform ar gyfer cronni buddsoddiadau ar draws yr 8 cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) yng Nghymru.
Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd y byddai ef a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn cefnogi trefniadau llywodraethu a bod gwerthusiad allanol o lywodraethu a pherfformiad. Oherwydd cymhlethdodau’r testun, rhoddwyd lefel uchel o hyfforddiant a chymorth i Bwyllgor CBC ymgymryd â’i rôl o ran y rhan fwyaf o’r penderfyniadau ynghylch rheoli’r Gronfa. Adroddodd y Prif Weithredwr bod ochr fuddsoddi rheoli trysorlys CBC yn perfformio’n dda a bod gwelliant cyson ar yr ochr weinyddol.
O ran yr ymagwedd tuag at reoli ffioedd, siaradodd Rheolwr CBC am lefel y sgiliau a fynnir gan ymgynghorwyr buddsoddi ynghyd â phenderfyniadau allweddol ar amryw ffactorau er mwyn cyflawni’r cydbwysedd iawn o ran risg ac er mwyn diwallu anghenion i’r dyfodol. Roedd adolygiad yr Actiwari yn pennu’r gost yr oedd angen i gyflogwyr ei thalu ar gyfer buddion aelodau i’r dyfodol ac unrhyw daliadau diffyg ar gyfer gwasanaeth yn y gorffennol, yr oedd yr ymgynghorydd buddsoddi yn ystyried wedyn sut i’w gyflawni orau. Dywedodd y Prif Weithredwr bod CBC wedi mabwysiadu awydd i gymryd risg uchel gyda llwyddiant oedd wedi’i brofi, ac roedd yn gobeithio y byddai pwysau o ran cost ar gyfraniadau cyflogwr yn cael ei reoli.
Wrth ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad, gofynnodd Sally Elis sut y gallai’r Pwyllgor Archwilio ychwanegu gwerth a ph’un a fyddai hyfforddiant o gymorth. Dywedodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog mai rôl y Pwyllgor oedd bodloni ei hun â lefel y wybodaeth a’r gefnogaeth a roddir i Bwyllgor CBC a’r herio gan y Bwrdd Pensiynau.
Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Johnson ynghylch y rhestr o ymgynghorwyr buddsoddi, cytunodd y swyddogion i gylchredeg copi o’r adroddiad blynyddol a oedd yn cynnwys y wybodaeth hon. Rhoddwyd eglurhad hefyd ynghylch y trefniadau ar gyfer contractau.
O ran y rhestr o ffioedd rheoli cronfeydd, cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at y gyfradd ddychwelyd ar gyfer asedau credyd a oedd yn is na’r targed. Eglurodd y swyddogion y nod i arallgyfeirio ar draws gwahanol ddosbarthiadau asedau ynghyd â rôl y tri is-gr?p arbenigol o ran cefnogi’r Panel Ymgynghorol.
Yn dilyn trafodaeth gynharach, dywedodd Sally Ellis, er mwyn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor, y byddai angen gwybodaeth am lefel yr hyder/gwybodaeth ar Bwyllgor CBC a ph’un a oedd yr oruchwyliaeth gan y Bwrdd Pensiynau’n gweithio’n dda.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Pensiynau bod yr adroddiadau manwl ... view the full Cofnodion text for item 35. |
|
Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol PDF 88 KB Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol ddiweddariad ar gynnydd yr adran Archwilio Mewnol gan gynnwys newidiadau i’r cynllun archwilio, olrhain camau gweithredu ac ymchwiliadau. Fel y gofynnwyd yn y gweithdy hwyluso diweddar, roedd trosolwg o’r sicrwydd archwilio wedi’i gynnwys bellach o fewn yr adroddiad hwn.
Ers Mehefin 2018, roedd tair barn sicrwydd ‘Oren Coch’ neu ‘Rai’ barnau sicrwydd wedi’u cyflwyno ar gyfer Gweinyddu Pensiynau, yr Uned Caffael Corfforaethol ar y Cyd a’r Gyflogres. Oherwydd pryderon gan y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd ynghylch camau gweithredu a oedd heb eu cyflawni o ran yr ail ohonynt, roedd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Trefniadol a’r Rheolwr Gwasanaethau Cyflogaeth yn bresennol i ddarparu diweddariad pellach.
Rhoddodd yr Uwch Reolwr sicrwydd y gwnaed cynnydd da o ran y camau gweithredu ers llunio’r adroddiad. Eglurodd bod nifer o’r camau’n cynnwys sawl elfen yr oedd y mwyafrif wedi’u cwblhau a bod y tîm Cyflogres wedi caniatáu ar gyfer cyfnod o brofi i fodloni eu hunain bod y camau’n gadarn ac yn effeithiol, cyn eu cadarnhau’n ffurfiol. Aeth ymlaen i adrodd ar welliannau pellach a gyflawnwyd drwy gyfuno cronfeydd data yn un.
Eglurodd Sally Ellis bod y pryderon wedi codi o rai materion a oedd heb eu datrys o archwiliad 2016/17, yn enwedig y rheiny gyda goblygiadau ariannol, ac y byddai o fudd i’r Pwyllgor gael gwybod am ddyddiadau cwblhau. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyflogaeth bod y ddau fater a oedd ar ôl yn ymwneud â gweithdrefnau a oedd wedi’u dogfennu a dangosyddion perfformiad. Gwnaed cynnydd da ar y ddau ac roedd y dyddiad cau wedi’i ymestyn hyd at ddiwedd Mawrth 2019 i sicrhau bod y canlyniadau’n dderbyniol ar gyfer yr archwiliad nesaf.
Siaradodd y Prif Weithredwr am y goblygiadau sylweddol o ran y llwyth gwaith o fewn y Gyflogres o ran delio â newidiadau mewn blynyddoedd diweddar. Dywedodd y byddai swyddogion yn cytuno ar ddyddiadau cwblhau realistig ac yn cynghori’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn unol â hynny.
Yn ystod y cyfnod, cyflwynwyd un farn sicrwydd ‘Coch’ neu ‘Gyfyngedig’ ar gyfer y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Ymgymerwyd â’r archwiliad ym Mawrth 2018 i baratoi ar gyfer gweithredu’r rheoliadau newydd ym mis Mai. Rhoddodd yr Uwch Archwilydd grynodeb o nod y rheoliadau newydd lle aethpwyd i’r afael â chydymffurfiaeth drwy bum ffrwd waith. Rhoddodd sicrwydd bod ei weithrediad ar draws y Cyngor wedi’i flaenoriaethu gan Brif Swyddogion ac Uwch Reolwyr, gyda chynnydd ar waith o ran cynlluniau gweithredu ar gyfer bob portffolio. Cymerwyd ystod o gamau cadarnhaol, gan gynnwys penodi Swyddog Cydymffurfiaeth dynodedig ynghyd â rôl allweddol y tîm Gwybodaeth Llywodraethu, ynghyd â hyfforddiant helaeth a chyfathrebu â’r gweithlu. Roedd barn gyffredinol ar yr archwiliad yn adlewyrchu’r ansicrwydd o ran dibynnu ar gyflenwyr trydydd parti i roi sicrwydd bod eu systemau’n cydymffurfio a’r GDPR.
Darparodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ddiweddariad ar y camau i fynd i’r afael â phob un o ganfyddiadau’r archwiliad, fel y nodwyd yn yr adroddiad ar wahân ar yr agenda. O ran gallu systemau meddalwedd a ddarperir yn allanol sy’n dal data personol ... view the full Cofnodion text for item 36. |
|
Hunanasesiad y Pwyllgor Archwilio PDF 106 KB Rhoi gwybod i’r Aelodau am ganlyniadau hunanasesiad y Pwyllgor Archwilio, a fydd yn cyfrannu at Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2017/18. Bydd hefyd yn ffurfio'r sail ar gyfer darparu unrhyw hyfforddiant pellach sydd ei angen ar y pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol yr adroddiadau ar ganlyniadau’r hunanasesiad yr ymgymerwyd ag ef gan y Pwyllgor ym Medi 2018 yn ystod gweithdy hwyluso. Roedd canlyniadau cyffredinol yr hunanasesiad yn gadarnhaol a byddent yn cyfrannu at baratoi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2018/19. Adroddwyd y gwnaed cynnydd da ar y cynllun gweithredu.
Mynegodd y Cynghorydd Johnson ei werthfawrogiad i swyddogion am y gweithdy cadarnhaol.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r canlyniadau a’r cynnydd ar y camau gweithredu. |
|
Cylch Gorchwyl a Siarter y Pwyllgor Archwilio PDF 83 KB Gofyn i'r Aelodau gytuno i'r newidiadau i Gylch Gorchwyl a Siarter y Pwyllgor Archwilio, Erthygl Saith o Gyfansoddiad y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol yr adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb ar y newidiadau a wnaed i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio i adlewyrchu’r arferion gweithio presennol a maes cyfrifoldeb newydd. Ceisiwyd barnau hefyd ar y drafft o Siarter y Pwyllgor Archwilio a ddatblygwyd i ddogfennu rôl y Pwyllgor o fewn fframwaith Llywodraethu’r Cyngor, ynghyd â’r cydlynu rhwng y Pwyllgor a Throsolwg a Chraffu. Byddai’r ddwy ddogfen yn cael eu hystyried gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r newidiadau i’r Cylch Gorchwyl; a
(b) Chymeradwyo Siarter y Pwyllgor Archwilio. |
|
Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y camau gweithredu sy’n codi o’r pwyntiau a godwyd mewn cyfarfodydd Pwyllgor Archwilio blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol adroddiad diweddaru ar y cynnydd ar y camau gweithredu sy’n codi o gyfarfodydd blaenorol. Fel diweddariad pellach, eglurodd bod y Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth wedi’i threfnu ar gyfer cyfarfod mis Ionawr.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 80 KB Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol ar gyfer ei hystyried, gan nodi cytundeb cynharach y byddai’r eitem ar Warediadau Asedau a Derbyniadau Cyfalaf yn cael ei dileu o gyfarfod mis Ionawr.
Pan holodd y Cynghorydd Johnson ynghylch eitem ar risgiau strategol, eglurodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y byddai hyn yn ffurfio rhan o’r Diweddariad ar Reoli Risg a gyflwynir ym mis Ionawr. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at drafodaeth yn y Pwyllgor Cyswllt Archwilio a Chraffu yn ddiweddar a oedd yn cysylltu â gwaith ar risg a’r gofrestr risg.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; ac
(b) Awdurdodi’r Rheolwr Archwilio Mewnol, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, fel y bo angen. |
|
PRESENOLDEB GAN AELODAU O'R WASG A'R CYHOEDD Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol. |