Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
DIRPRWYO Cofnodion: Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu i’r Cynghorydd Carver (a oedd wedi cael yr hyfforddiant angenrheidiol) ddirprwyo ar ran y Cynghorydd Holgate.
PENDERFYNWYD:
Caniatáu i’r Cynghorydd Clive Carver ddirprwyo yn y cyfarfod. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: O ran eitem 8 ar y Rhaglen yngl?n â Rheoli Risg, datganodd y Cynghorydd Woolley gysylltiad personol ac yntau’n Gadeirydd Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint, gan y cyfeiriwyd at risgiau ynghylch Diwygio'r Gyfundrefn Les a’r Credyd Cynhwysol. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 5 Mehefin 2019. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2019.
Cofnod 9: Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol – er ei fod yn fodlon ar y cofnodion, dywedodd y Cynghorydd Heesom y byddai’n siarad â swyddogion wedi’r cyfarfod i drafod ei bryderon yngl?n â’r materion dan sylw.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Datganiad Cyfrifon Drafft 2018/19 PDF 116 KB Cyflwyno Datganiad Cyfrifon drafft 2018/19 er gwybodaeth yr Aelodau yn unig ar hyn o bryd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Ddatganiad Cyfrifon drafft 2018/19 (yn amodol ar eu harchwilio), a hynny dim ond er gwybodaeth am y tro. Roedd y datganiad yn cynnwys y cyfrifon Gr?p, gan gynnwys is-gwmnïau ym mherchnogaeth lwyr y Cyngor, a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol. Derbynnid y cyfrifon terfynol wedi’u harchwilio ar 11 Medi i’w cymeradwyo a’u hargymell i'r Cyngor Sir ar yr un diwrnod, er mwyn eu cyhoeddi erbyn 15 Medi, a oedd cyn y dyddiad cau statudol ar gyfer cyhoeddi, sy’n gynharach eleni.
Rhoes y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Cyllid - Cyfrifyddiaeth Dechnegol gyflwyniad ar y cyd yngl?n â'r materion canlynol:
· Pwrpas y Cyfrifon a’r Cefndir · Cynnwys a Throsolwg · Cyfrifoldeb am y Cyfrifon · Gr?p Llywodraethu Cyfrifon · Cysylltiadau â Monitro’r Gyllideb · Penawdau – Cronfa'r Cyngor, Cronfeydd Refeniw Wrth Gefn, Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai · Newidiadau yng Nghyfrifon 2018/19 · Cyfrifon Gr?p · Amserlen a Chamau Nesaf · Effaith y Terfynau Amser Cynharach · Cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd.
Roedd Mr. Mike Whiteley o Swyddfa Archwilio Cymru’n falch o weld bod swyddogion yn dal i gydweithredu wrth baratoi ar gyfer yr archwiliad, a dywedodd nad oedd unrhyw broblemau o bwys wedi dod i’r amlwg hyd hynny. Cynhelid archwiliad ‘ysgafn’ o’r tri is-gwmni gan nad oedd Swyddfa Archwilio Cymru o’r farn eu bod yn ‘arwyddocaol’ yn ôl y rheoliadau archwilio. Pe byddai meysydd penodol yn peri pryder wrth i’r archwiliad fynd yn ei flaen, gwneid gwaith ychwanegol ar hynny.
O ran nodyn 28 (partïon cysylltiedig), mynegodd Sally Ellis bryderon yngl?n â dyled gynyddol y Bwrdd Iechyd Lleol i’r Cyngor. Gan gydnabod y cysylltiadau rhwng y ddau gorff cyhoeddus dan sylw, awgrymodd y gellid cyfeirio’r mater at Bwyllgor Trosolwg a Chraffu. Wrth roi cefndir ar y mater, rhoes y Prif Weithredwr sicrwydd fod y mater wedi’i godi gyda’r Bwrdd Iechyd a’i drafod ar lefel uchel. Er y bu gostyngiad yn y swm a oedd yn ddyledus, awgrymodd y gallai’r Pwyllgor ofyn iddo ysgrifennu llythyr ffurfiol i godi’r mater, o safbwynt llif arian a risg. Siaradodd Sally Ellis o blaid hynny.
Gofynnodd y Cadeirydd am sicrwydd fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymwybodol o’r mater. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Pwyllgor yn ymwybodol o’r ffactorau oedd wedi cyfrannu at hyn, ond y byddai hefyd yn cyfleu’r pryderon iddo er mwyn sicrhau fod gwaith monitro’n parhau.
Dywedodd y Prif Swyddog mai’r swm yn y cyfrifon oedd yr hyn a oedd yn ddyledus pan y’u paratowyd, ac mai dyled y Bwrdd Iechyd mewn gwirionedd oedd £680,000. Dywedodd y câi’r mater ei amlygu drwy gr?p cyswllt y Pwyllgor Archwilio â Chadeiryddion Trosolwg a Chraffu.
O ran y cyfrifon Gr?p, awgrymodd Sally Ellis y byddai’n fuddiol i gynnwys crynodeb o unrhyw risgiau penodol yng nghyfrifon y tri is-gwmni, ac yn enwedig felly unrhyw faterion a allai effeithio ar y cyfrifon craidd.
Rhoes y Prif Weithredwr sicrwydd yngl?n â Chynyrchiadau Theatr Clwyd Cyf, a sefydlwyd fel cwmni masnachu er mwyn cael gostyngiadau ... view the full Cofnodion text for item 16. |
|
Item 4 - Statement of Accounts presentation PDF 190 KB That the report be noted. |
|
Gwybodaeth Ariannol Atodol i Ddatganiad Cyfrifon Drafft 2018/19 PDF 159 KB Darparu gwybodaeth ariannol atodol i’r Aelodau i gyd-fynd â’r datganiad cyfrifon drafft, yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a gymeradwywyd yn flaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr wybodaeth ariannol atodol i Ddatganiad Cyfrifon drafft 2018/19, yn unol â’r cais a wnaethpwyd yn y Rhybudd o Gynnig a gymeradwywyd gan y Cyngor yn 2013.
Roedd y wybodaeth yngl?n â swyddi a oedd yn benodiadau dros dro’n dangos y symiau a dalwyd i sefydliadau am drefniadau o’r fath ac nid oedd o reidrwydd yn adlewyrchu cyflogau’r rhai dan sylw. Roedd y costau am ymgynghorwyr a swyddi nad oeddent yn rhai parhaol ar draws y Cyngor yn cynnwys costau blynyddol damcaniaethol pe cyflogid y bobl dan sylw am y flwyddyn gyfan, yn ogystal â’r costau gwirioneddol a ysgwyddid.
Cynigodd y Cynghorydd Woolley gymeradwyo’r argymhellion, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Dunbobbin.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad. |
|
Cyfrifon Drafft Cronfa Bensiwn Clwyd 2018/19 PDF 153 KB I'r Aelodau ystyried y cyfrifon er gwybodaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad ynghylch Datganiad Cyfrifon drafft Cronfa Bensiynau Clwyd 2018/19, a gyflwynid bellach ar wahân i Ddatganiad Cyfrifon y Cyngor yn sgil newid yn y rheoliadau. Gan fod yr awdurdod i gymeradwyo cyfrifon y Gronfa Bensiynau wedi’i ddirprwyo i Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, derbyniwyd yr adroddiad hwn er gwybodaeth yn unig.
Yn ei gyfarfod ar 12 Mehefin roedd Pwyllgor y Gronfa wedi derbyn cyflwyniad manwl yngl?n â’r cyfrifon, ac ni chododd unrhyw faterion o bwys. Cyflwynwyd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft hefyd, a gâi ei gyflwyno gyda’r cyfrifon archwiliedig er cymeradwyaeth fis Medi.
Gan gydnabod y trefniadau llywodraethu, dywedodd Sally Ellis y byddai’n fuddiol pe byddai adroddiadau yn y dyfodol yn cynnwys crynodeb o unrhyw bwyntiau’r oedd Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd wedi’u codi. Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â chynnydd mewn costau ‘gorolwg a llywodraethu’, dywedodd y Cyfrifydd fod y rhain yn deillio o waith Actiwaraidd ar ddechrau’r drefn brisio deirblynyddol, a gwaith prosiect ychwanegol ar y llwybr hedfan.
Ceisiodd Sally Ellis sicrwydd fod y camau i liniaru ar y risgiau coch yn llwyddo. Dywedodd Dirprwy Bennaeth y Gronfa Bensiynau mai’r rhain oedd y risgiau mwyaf a nodwyd wrth lunio cofrestr risg gynhwysfawr i fynd gerbron Pwyllgor y Gronfa bob tri mis.
Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai rhai risgiau’n aros yn goch oherwydd ansicrwydd yn y farchnad, a’r effaith yn sgil cyflwyno rheoliadau newydd. Soniodd am waith Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd i gyflwyno hyblygrwydd yn y strategaeth fuddsoddi ar sail cyngor proffesiynol mewnol ac allanol.
O ran amrywioldeb rheolwyr cronfeydd, cadarnhaodd y Dirprwy Bennaeth na fedrai’r un rheolwr unigol reoli mwy na 30% o asedau’r Gronfa. Y gyfran fwyaf oedd ym meddiant unrhyw reolwr cronfa unigol oedd 22.8%, a hynny ar gyfer rheoli’r mandad Buddsoddiadau a Ysgogir gan Rwymedigaethau, a oedd â’r nod o gadw’n gyson â phroffil aelodau’r Gronfa a’u rhwymedigaethau wrth i’r Gronfa chwyddo. Roedd penderfyniadau strategol fel hyn yn destun adolygiad rheolaidd gan y Pwyllgor.
Gan gydnabod swyddogaeth Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, holodd Sally sut allai’r Pwyllgor Archwilio gyfrannu at y broses. Cyfeiriodd y Cadeirydd at y sicrwydd a roes y Dirprwy Bennaeth a’r Cyfrifydd.
Mewn ymateb, soniodd y Prif Weithredwr am y trefniadau llywodraethu trylwyr ar gyfer y Gronfa, ac awgrymodd y dylid cyfeirio’r materion a godwyd i Bwyllgor y Gronfa er mwyn cael esboniad.
Tynnodd y Cynghorydd Woolley sylw’r aelodau at wall teipio yn yr adroddiad.
Cynigodd y Cynghorydd Johnson gymeradwyo’r argymhellion, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Dunbobbin.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad. |
|
Darparu adroddiad blynyddol Rheoli Trysorlys 2017/18 a'r diweddariad chwarterol cyntaf ar gyfer 2018/19 i’r Aelodau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid - Cyfrifeg Dechnegol yr Adroddiad Blynyddol drafft ar Reoli’r Trysorlys yn 2018/19 i’w adolygu a’i argymell i’r Cabinet. Darparwyd hefyd, er gwybodaeth, y wybodaeth ddiweddaraf yn Chwarter 1 yngl?n â materion a oedd a wnelont â Pholisi Rheoli’r Trysorlys, Strategaethau ac Arferion, ynghyd â’r cylch adrodd.
Wrth baratoi ar gyfer cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2020/21, gwahoddid pob Aelod i’r sesiwn hyfforddiant blynyddol y byddai’r Ymgynghorwyr Rheoli Trysorlys yn ei gynnal fis Rhagfyr. Dosberthid manylion y sesiwn hyfforddiant ar ôl eu cadarnhau.
Wrth fwrw golwg dros weithgarwch Rheoli’r Trysorlys yn nhri mis cyntaf 2019/20, nodwyd fod y Cyngor wedi codi benthyciadau ychwanegol tua diwedd mis Mawrth 2019/20, yn unol â’r strategaeth fenthyca.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Carver, rhoes y Rheolwr Cyllid fraslun o’r strategaeth fenthyca gan esbonio sut codwyd benthyciadau unigol gan ystyried proffil aeddfedu’r dyledion ar y pryd. Câi’r angen ei fenthyca ei gydbwyso â’r gofynion ariannu cyfalaf, a oedd yn dueddol o gynyddu yn sgil gwariant cyfalaf wedi’i ariannu drwy fenthyca, ac yn lleihau yn sgil Darparu Isafswm Refeniw. Roedd y rheoliadau Darparu Isafswm Refeniw’n gofyn i gynghorau neilltuo cyllid refeniw ar gyfer ad-dalu dyledion a oedd yn effeithio ar y sefyllfa gyffredinol o ran benthyciadau drwy leihau’r cyllid cyfalaf gofynnol. Cytunodd y Rheolwr Cyllid i gynnwys mwy o fanylion am hyn yn y sesiwn hyfforddiant oedd i ddod.
O ran y portffolio buddsoddiadau, holodd y Cynghorydd Johnson yngl?n â buddsoddiadau’r Cyngor gydag awdurdodau eraill, ac fe’i hysbyswyd fod y dull gweithredu presennol yn cynnwys defnyddio mwy o gyllid o Farchnadoedd Arian, lle’r oedd modd cael mynediad at gyllid yn syth er mwyn rheoli risgiau hylifedd.
Cynigodd y Cynghorydd Dunbobbin gefnogi’r argymhellion, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Woolley.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi Adroddiad Blynyddol drafft 2018/19 ar Reoli’r Trysorlys, heb ddod ag unrhyw faterion at sylw'r Cabinet ar 24 Medi 2019; a
(b) Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â Rheoli’r Trysorlys yn Chwarter 1 2019/20. |
|
Diweddariad rheoli risg PDF 285 KB Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu i leihau’r risgiau strategol o fewn Cynllun y Cyngor 2018/19. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr y datganiad o’r sefyllfa ddiwedd y flwyddyn o ran y risgiau strategol a nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19. Roedd y pump o brif risgiau strategol (coch) ar ddiwedd y flwyddyn yn ymwneud yn bennaf â ffactorau allanol, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Ychwanegid derbyn adroddiad manwl ar systemau rheoli risg at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, er mwyn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor, gan gynnwys risgiau newydd a swyddogaeth y gwasanaeth Archwilio Mewnol.
Dywedodd y Cynghorydd Heesom na liniarwyd ar y risg o leihad yn y cyflenwad o dir, a’i fod yn pryderu am hyfywedd y cynllun lliniaru ar lifogydd gan ystyried tai’n effeithio ar Borth y Gogledd. Mynegodd bryderon hefyd yngl?n â risgiau ar y thema Cyngor Uchelgeisiol, yn enwedig felly o ran seilwaith y coridor trafnidiaeth, a oedd yn hanfodol ar gyfer datblygu’r economi yn y dyfodol.
Dywedodd y Prif Weithredwr y gallai’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu herio proffiliau risg pe dymunent. O ran darparu tai fforddiadwy, diffiniwyd y risgiau ar sail mynediad at dai, er enghraifft, yr effaith ar ddigartrefedd a’r pwysau ar y tîm Dewisiadau Tai, yn hytrach na datblygiadau adeiladu. Byddai darparu tai fforddiadwy drwy’r Cynllun Datblygu Lleol yn un o’r materion dan sylw yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Sir.
Gofynnodd y Cynghorydd Woolley am y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r terfyn benthyca ar gyfer adeiladu tai cyngor. Fe’i hysbyswyd fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ymestyn hwn, ac unwaith y ceid ymateb fe’i rhennid â’r Pwyllgor.
Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Johnson, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r risgiau coch yngl?n â dyledion yn aros fel yr oeddent. Darperid adroddiadau i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu yngl?n â ffigyrau incwm rhent a chyfraddau casglu Treth y Cyngor, a byddai adroddiad yn mynd gerbron y Cabinet cyn hir yn cynnig camau lliniarol i gefnogi’r rhai hynny’r oedd Diwygio'r Gyfundrefn Les yn effeithio arnynt.
Wedi i’r Pwyllgor gytuno ar argymhelliad ychwanegol ar sail y drafodaeth, cynigodd y Cynghorydd Dunbobbin gefnogi’r argymhellion, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Woolley.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod gan y Pwyllgor sicrwydd y rheolwyd risgiau gydol y flwyddyn, a’i fod yn nodi statws diwedd blwyddyn y risgiau strategol i flaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer 2018/19; a
(b) Derbyn adroddiad canol blwyddyn yngl?n â’r system rheoli risg yn ei chyfanrwydd. |
|
PRESENOLDEB AELODAU O'R WASG A'R CYHOEDD Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |