Mater - cyfarfodydd

Notice of Motion

Cyfarfod: 24/01/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 76)

76 Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 29 KB

Pwrpas:        Mae’r item hon i dderbynunrhyw Rhybuddion o Gynnig: mae un wedi cael ei dderbyn ac wedi ei atodi i’r rhaglen.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Rhybudd o Gynnig canlynol ei gyflwyno gan y Cynghorydd Richard Lloyd a’i eilio gan y Cynghorydd Jason Shallcross.

 

“Diben y cynnig hwn yw gofyn i Gyngor Sir y Fflint fabwysiadu’r Siarter Clefyd Niwronau Motor, sy’n nodi’r gofal a’r cymorth y mae pobl sy’n byw â Chlefyd Niwronau Motor a’u gofalwyr yn ei haeddu ac y dylen nhw ei ddisgwyl.

 

Mae’r Siarter Clefyd Niwronau Motor yn cynnwys 5 pwynt:

 

1.         Yr hawl i wybodaeth a diagnosis cynnar.

2.         Yr hawl i gael gofal a thriniaethau o safon.

3.         Yr hawl i gael eich trin fel unigolion a hynny â pharch ac urddas.

4.         Yr hawl i sicrhau bod eu hansawdd bywyd y gorau y gallai fod.

5.         Mae gan ofalwyr pobl â Chlefyd Niwronau Motor yr hawl i gael eu gwerthfawrogi, eu parchu, i gael rhywun yn gwrando arnyn nhw a chefnogaeth dda.

 

Drwy fabwysiadu'r Siarter Clefyd Niwronau Motor, mae'r Cyngor hwn yn cytuno i hyrwyddo'r Siarter a sicrhau ei bod ar gael i bob Cynghorydd, staff y Cyngor, sefydliadau sy’n bartneriaid a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol sy'n darparu gwasanaethau i'r Cyngor.

 

Byddwn ni’n codi ymwybyddiaeth o Glefyd Niwronau Motor a sut beth yw gofal da ar gyfer y bobl sy’n byw â’r clefyd dinistriol hwn, fel y nodir yn y Siarter, ac yn gwneud popeth y gallwn ni fel Cyngor i ddylanwadu’n gadarnhaol ar ansawdd bywyd pobl leol â Chlefyd Niwronau Motor a’u gofalwyr sy’n byw yn ein cymuned”.

 

Wrth siarad ar y Rhybudd o Gynnig, esboniodd y Cynghorydd Richard Lloyd y rhesymau pam y cafodd ei gyflwyno i’r Cyngor a siaradodd am effaith ofnadwy’r clefyd ar ddioddefwyr a’u teuluoedd.  Gofynnodd i'r Aelodau gefnogi'r Rhybudd o Gynnig a gofynnodd i'r Cyngor fabwysiadu’r Siarter Clefyd Niwronau Motor a chodi ymwybyddiaeth i helpu pobl yn y dyfodol. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Lloyd yr argymhelliad canlynol a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Jason Shallcross.  Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhelliad ei dderbyn yn unfrydol.

 

PENDERFYNWYD: 

 

Bod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei dderbyn a’i gefnogi.