Mater - cyfarfodydd

Council Fund Budget 2025/26 – Final Closing Stage

Cyfarfod: 24/02/2025 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 85)

85 Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2025/26 – Y Cam Clo Terfynol pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cynigion cyllideb terfynol ar gyfer 2025/26.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Gwasanaeth (Refeniw a Chaffael) yr adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen)a oedd yn nodi sut gallai’r Cyngor gyflawni cyllideb gyfreithlon a chytbwys ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26.  Darparwyd cyflwyniad manwl ar sail yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet yn gynharach yn y dydd, yr argymhellion a wnaed gan y Cabinet a’r hysbysiad setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru (LlC). 

 

Cymeradwywyd yr argymhellion yn yr adroddiad fel y'u cynigiwyd gan y Cynghorydd Paul Johnson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Richard Jones.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst ddiwygiad i gynigion y gyllideb, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd David Coggins-Cogan, fel a ganlyn:-

 

Bod y cyllid ychwanegol o £1.205 miliwn o gyflwyno’r cyllid gwaelodol gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer cyllid awdurdod lleol yn cael ei ddefnyddio fel a ganlyn:-

 

  1. £0.059 miliwn i ddiogelu darpariaeth hanfodol cyfleusterau cyhoeddus ar draws Sir y Fflint;
  2. £0.594 miliwn i leddfu’r pwysau ar gyllidebau ysgolion.  Mae’r cyllid fesul disgybl yn Sir y Fflint ymhlith yr isaf yng Nghymru oherwydd y setliadau cyllid gwael cyson a roddir i Sir y Fflint; a 
  3. £0.552 miliwn i leihau baich Treth y Cyngor ar breswylwyr Sir y Fflint.

 

Gofynnwyd am bleidlais wedi ei chofnodi ar y diwygiad a gynigiwyd, a chefnogodd nifer ofynnol o Aelodau hyn.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid y diwygiad:-

Y Cynghorwyr: Marion Bateman, Gillian Brockley, David Coggins-Cogan, Adele Davies-Cooke, Carol Ellis, Chrissy Gee, Andy Hughes, Alasdair Ibbotson, Fran Lister, Dave Mackie, Hilary McGuill, Ryan McKeown, Debbie Owen, Andrew Parkhurst, Carolyn Preece, David Richardson, Dan Rose, Dale Selvester, Sam Swash, Linda Thew ac Ant Turton

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn y diwygiad:-

Y Cynghorwyr: Mike Allport, Glyn Banks, Pam Banks, Sean Bibby, Chris Bithell, Helen Brown, Mel Buckley, Teresa Carberry, Tina Claydon, Goeff Collett, Steve Copple, Bill Crease, Paul Cunningham, Rob Davies, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Mared Eastwood, David Evans, David Healey, Gladys Healey, Ian Hodge, Dave Hughes, Ray Hughes, Dennis Hutchinson, Paul Johnson, Christine Jones, Richard Jones, Simon Jones, Richard Lloyd, Gina Maddison, Roz Mansell, Allan Marshall, Billy Mullin, Ted Palmer, Mike Peers, Vicky Perfect, Kevin Rush, Jason Shallcross, Linda Thomas, Roy Wakelam, Arnold Woolley ac Antony Wren

 

O'i roi i bleidlais, collwyd y diwygiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gillian Brockley ddiwygiad, sef bod nifer swyddi Aelodau Cabinet yn cael ei ostwng o ddau, a bod yr arbediad £40,000 yn cael ei ddefnyddio i leihau’r cynnig Treth y Cyngor.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson.

 

Gofynnwyd am bleidlais wedi ei chofnodi ar y diwygiad a gynigiwyd, a chefnogodd nifer ofynnol o Aelodau hyn.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid y diwygiad:-

Y Cynghorwyr: Marion Bateman, Gillian Brockley, David Coggins-Cogan, Adele Davies-Cooke, Carol Ellis, Chrissy Gee, Andy Hughes, Alasdair Ibbotson, Dave Mackie, Roz Mansell, Andrew Parkhurst, Carolyn Preece, David Richardson, Dan Rose, Dale Selvester, Sam Swash, Linda Thew ac Ant Turton

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn y diwygiad:-

Y Cynghorwyr: Mike Allport, Glyn Banks, Pam Banks, Sean Bibby, Chris Bithell, Helen Brown, Mel Buckley, Teresa Carberry,  ...  view the full Cofnodion text for item 85