Mater - cyfarfodydd
Council Fund Budget 2025/26
Cyfarfod: 14/02/2025 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 52)
Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2025/26
Pwrpas: Adolygu a rhoi sylwadau ar y pwysau cost, y gostyngiadau arfaethedig mewn costau, a'r risgiau cysylltiedig.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (52/2)
- Gweddarllediad ar gyfer Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2025/26
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i ystyried y pwysau o ran costau, gostyngiadau cost arfaethedig a risgiau cysylltiedig ar gyfer y portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol cyn pennu cyllideb derfynol ar gyfer 2025/26. Gofynnwyd i’r Pwyllgor adolygu a gwneud sylwadau ar y dewisiadau ar gyfer gostyngiadau cost a nodwyd yn yr adroddiad.
Byddai’r argymhellion a’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd i’r Cabinet.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylid nodi opsiynau lleihau cyllideb portffolio’r Gwasanaethau Cymdeithasol; a
(b) Y dylid nodi addasiadau pellach i gyllideb y portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol.